Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Tenantiaethau Preswyl: Gwarchodaeth Rhag Troi Allan) (Cymru) 2020

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Atodlen 29 i Ddeddf y Coronafeirws 2020, ac yn atal gweithrediad darpariaethau penodol yn yr Atodlen honno dros dro. Mae’r Rheoliadau hefyd yn diwygio Rheoliadau Hysbysiadau Ymadael etc. (Gwybodaeth a Ragnodir) 1988.

Mae Atodlen 29 i Ddeddf y Coronafeirws 2020 (“Atodlen 29”) yn addasu darpariaethau statudol amrywiol sy’n ymwneud â hysbysiadau y mae angen eu rhoi er mwyn ceisio adennill meddiant o anheddau.

Cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym, effaith yr addasiadau a wnaed gan Atodlen 29 oedd, yng Nghymru, ei bod yn ofynnol i landlordiaid roi o leiaf 3 mis o hysbysiad cyn gwneud cais am orchymyn adennill meddiant pan fo anheddau wedi eu gosod o dan denantiaethau gwarchodedig neu denantiaethau statudol Deddf Rhenti 1977, tenantiaethau diogel, tenantiaethau rhagarweiniol neu denantiaethau isradd. Ar gyfer tenantiaethau byrddaliadol sicr, roedd o leiaf 6 mis o hysbysiad yn ofynnol ar gyfer hysbysiadau o dan adran 21 o Ddeddf Tai 1988, ac ar gyfer tenantiaethau sicr, roedd o leiaf 6 mis o hysbysiad yn ofynnol oni bai bod yr hysbysiad yn pennu Sail 7A neu 14 (os felly, roedd o leiaf 3 mis o hysbysiad yn ofynnol).

Mae’r Rheoliadau yn diwygio’r addasiadau a wnaed gan Atodlen 29 mewn perthynas â hysbysiadau a roddir ar ôl i’r Rheoliadau hyn ddod i rym.

Yn y rhan fwyaf o achosion, mae’r cyfnod hysbysu sy’n ofynnol er mwyn adennill meddiant o annedd a osodir ar denantiaethau gwarchodedig neu denantiaethau statudol y Ddeddf Rhenti, tenantiaethau diogel, tenantiaethau sicr, tenantiaethau rhagarweiniol neu denantiaethau isradd wedi ei gynyddu i 6 mis. Gwneir eithriadau ar gyfer hysbysiadau sy’n pennu seiliau sy’n ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol neu drais domestig (ac, yn yr achosion hynny, mae’r cyfnod hysbysu yn dychwelyd i’r sefyllfa a oedd yn gymwys cyn i Atodlen 29 ddod i rym).

Mae rheoliad 4 yn diwygio Atodlen 29 i’r graddau y mae’n addasu’r cyfnod hysbysu sy’n ymwneud â thenantiaethau gwarchodedig Deddf Rhenti 1977. Mae’n estyn y cyfnod hysbysu sy’n ofynnol o dan hysbysiad ymadael a roddir o dan adran 5(1) o Ddeddf Gwarchodaeth Rhag Troi Allan 1977 i 6 mis, oni bai bod yr hysbysiad ymadael yn pennu bod y landlord yn credu bod Achos 2 yn Atodlen 15 i Ddeddf Rhenti 1977 yn gymwys (ymddygiad sy’n peri niwsans neu aflonyddwch, neu annedd yn cael ei ddefnyddio at ddibenion anfoesol neu anghyfreithlon). O dan yr amgylchiadau hynny, rhaid rhoi o leiaf 4 wythnos o hysbysiad.

Mae rheoliad 16 yn diwygio Rheoliadau Hysbysiadau Ymadael etc. (Gwybodaeth a Ragnodir) 1988. Pan fo hysbysiad ymadael yn cael ei roi lai na 6 mis cyn y dyddiad y mae i gael effaith, rhaid i’r hysbysiad ymadael bennu bod y landlord yn credu bod yr amgylchiad yn Achos 2 yn gymwys. Mae’r gofyniad yn gymwys o’r dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym hyd at 31 Mawrth 2021.

Mae rheoliad 5 yn diwygio Atodlen 29 i’r graddau y mae’n addasu’r cyfnod hysbysu sy’n ymwneud â thenantiaethau statudol Deddf Rhenti 1977. Mae’n estyn y cyfnod hysbysu y mae’n ofynnol i’w roi o dan adran 3 o Ddeddf Rhenti 1977 i 6 mis, oni bai bod hysbysiad o fwriad i gychwyn achos adennill meddiant yn pennu Achos 2 yn Atodlen 15 i Ddeddf Rhenti 1977. O dan yr amgylchiadau hynny, rhaid rhoi o leiaf 4 wythnos o hysbysiad.

Mae’r gofyniad i roi hysbysiad o fwriad i gychwyn achos mewn perthynas â thenantiaethau statudol wedi ei bennu yn yr addasiad i Ddeddf Rhenti 1977 a wneir gan baragraff 2(3) o Atodlen 29.

Mae rheoliad 6 yn diwygio Atodlen 29 i’r graddau y mae’n addasu’r cyfnodau hysbysu sy’n ymwneud â thenantiaethau sicr. Mae’n estyn y cyfnod hysbysu sy’n ofynnol o dan adran 83 o Ddeddf Tai 1985 i 6 mis, ac eithrio pan fo Sail 2A (trais domestig) wedi ei bennu, heb seiliau eraill. Os pennir Sail 2A, mae’r cyfnod hysbysu yn dychwelyd i’r sefyllfa a oedd yn gymwys cyn y daeth Atodlen 29 i rym.

Mae rheoliad 7 yn atal gweithrediad paragraff 3 o Atodlen 29 dros dro pan fo hysbysiad o dan adran 83 o Ddeddf Tai 1985 yn pennu Sail 2 yn Atodlen 2 i’r Ddeddf honno (ymddygiad sy’n peri niwsans neu aflonyddwch, neu annedd yn cael ei defnyddio at ddibenion anfoesol neu anghyfreithlon). Effaith y rheoliad yw, pan fo Sail 2 wedi ei phennu (pa un ai gyda seiliau eraill neu hebddynt), fod y cyfnod hysbysu yn dychwelyd i’r sefyllfa a oedd yn gymwys cyn y daeth Atodlen 29 i rym.

Mae rheoliad 8 yn atal gweithrediad paragraff 4 o Atodlen 29 dros dro. Effaith y rheoliad yw, pan fo hysbysiad o dan adran 83ZA o Ddeddf Tai 1985 yn pennu y gofynnir i’r Llys wneud gorchymyn adennill meddiant o dan adran 84A o Ddeddf Tai 1985 (seiliau absoliwt ar gyfer ymddygiad gwrthgymdeithasol), mae’r cyfnod hysbysu yn dychwelyd i’r sefyllfa a oedd yn gymwys o dan yr amgylchiadau hynny cyn y daeth Atodlen 29 i rym.

Mae rheoliad 9 yn diwygio Atodlen 29 i’r graddau y mae’n addasu’r cyfnodau hysbysu sy’n ymwneud â thenantiaethau sicr. Pan fo hysbysiad o dan adran 8 o Ddeddf Tai 1988 yn pennu Sail 14A yn Atodlen 2 i’r Ddeddf honno (trais domestig), heb seiliau eraill, mae’r cyfnod hysbysu yn gostwng o 3 mis i 2 wythnos, sef y cyfnod hysbysu a oedd yn gymwys o dan yr amgylchiadau hynny cyn y daeth Atodlen 29 i rym.

Mae rheoliad 10 yn atal gweithrediad paragraff 6(a) a (b) o Atodlen 29 dros dro. Effaith y rheoliad yw, pan fo hysbysiad o dan adran 8 o Ddeddf Tai 1988 yn pennu Sail 7A neu 14 yn Atodlen 2 i’r Ddeddf honno (ymddygiad gwrthgymdeithasol, troseddau, etc.), mae’r cyfnod hysbysu yn dychwelyd i’r sefyllfa a oedd yn gymwys cyn y daeth Atodlen 29 i rym.

Mae rheoliad 11 yn diwygio Atodlen 29 i’r graddau y mae’n addasu’r cyfnod hysbysu sy’n ymwneud â thenantiaethau rhagarweiniol. Mae’n estyn y cyfnod hysbysu sy’n ofynnol o dan adran 128 o Ddeddf Tai 1996 i 6 mis, ac eithrio pan fo’r landlord wedi pennu ymddygiad gwrthgymdeithasol fel rheswm yn yr hysbysiad achos. O dan yr amgylchiadau hynny, mae’r cyfnod hysbysu yn dychwelyd i’r sefyllfa a oedd yn gymwys cyn y daeth Atodlen 29 i rym.

Mae rheoliad 12 yn diwygio Atodlen 29 i’r graddau y mae’n addasu’r cyfnodau hysbysu sy’n ymwneud â thenantiaethau isradd. Mae’n estyn y cyfnod hysbysu sy’n ofynnol o dan adran 143E o Ddeddf Tai 1996 i 6 mis, ac eithrio pan fo’r landlord wedi pennu ymddygiad gwrthgymdeithasol fel rheswm yn yr hysbysiad achos. O dan yr amgylchiadau hynny, mae’r cyfnod hysbysu yn dychwelyd i’r sefyllfa a oedd yn gymwys cyn y daeth Atodlen 29 i rym.

Mae rheoliadau 13 a 15 yn diwygio’r addasiadau a wnaed gan baragraffau 10 ac 11 o Atodlen 29, ac mae rheoliad 14 yn atal gweithrediad paragraff 10(1)(a)(i) a (b) o’r Atodlen honno dros dro. Effaith y rheoliadau hyn yw bod y ffurflenni a ragnodir sy’n ymwneud â thenantiaethau diogel a thenantiaethau sicr a meddianaethau amaethyddol sicr wedi eu haddasu i adlewyrchu’r newidiadau i ofynion hysbysu a wneir gan y Rheoliadau hyn.

Roedd y ddarpariaeth a wnaed gan Atodlen 29 i ddod i ben ar 30 Medi 2020, ond mae rheoliad 3 yn diwygio paragraff 3 o Atodlen 29 fel ei bod yn cael effaith, o ran Cymru, hyd at 31 Mawrth 2021.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill