RHAN 1LL+CRhagarweiniol
Enwi, cychwyn a chymhwysoLL+C
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2020.
(2) Daw’r darpariaethau a ganlyn i rym ar 1 Hydref 2020—
(a)y Rhan hon;
(b)Rhannau 2 i 4;
(c)Rhannau 9 i 11.
(3) Daw Rhannau 5 i 8 i rym ar 1 Hydref 2021.
(4) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 1 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(a)
DehongliLL+C
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “addasu cyfarpar stoma” (“stoma appliance customisation”) yw addasu swp o fwy nag un cyfarpar stoma, pan—
bo’r cyfarpar stoma i’w addasu wedi ei restru yn Rhan IXC o’r Tariff Cyffuriau,
bo’r addasiad yn cynnwys newidiadau, yn unol â’r un fanyleb, i ddarnau unfath lluosog sydd i’w defnyddio gyda phob cyfarpar unigol, ac
bo’r addasiad hwnnw yn seiliedig ar fesuriadau’r claf, neu gofnod o’r mesuriadau hynny ac, os yw’n gymwys, dempled;
ystyr “AEE” (“EEA”) yw’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a grëwyd gan gytundeb yr AEE;
ystyr “anghymhwysiad cenedlaethol” (“national disqualification”) yw—
anghymhwysiad cenedlaethol yn yr ystyr a roddir i “national disqualification” fel y’i crybwyllir yn adran 115(2) a (3) o Ddeddf 2006 (anghymhwysiad cenedlaethol),
anghymhwysiad cenedlaethol yn yr ystyr a roddir i “national disqualification” fel y’i crybwyllir yn adran 159(2) a (3) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006(1) (anghymhwysiad cenedlaethol),
unrhyw benderfyniad yn yr Alban neu Ogledd Iwerddon sy’n cyfateb i anghymhwysiad cenedlaethol yn yr ystyr a roddir i “national disqualification” o dan adran 115(2) a (3) o Ddeddf 2006, a
unrhyw benderfyniad arall a oedd yn anghymhwysiad cenedlaethol at ddibenion Rheoliadau 2005;
ystyr “ardal reoledig” (“controlled locality”) yw ardal y mae Bwrdd Iechyd Lleol wedi penderfynu ei bod yn wledig yn unol â rheoliad 13 (ardaloedd sy’n ardaloedd rheoledig), ac y mae Gweinidogion Cymru wedi penderfynu yn dilyn apêl, yn unol â Rhannau 1 a 2 o Atodlen 4, ei bod yn wledig, neu sy’n ardal reoledig yn rhinwedd gweithredu rheoliad 13(1);
ystyr “asesiad perthnasol o anghenion fferyllol” (“relevant pharmaceutical needs assessment”) yw’r asesiad o anghenion fferyllol gan y Bwrdd Iechyd Lleol perthnasol sy’n gyfredol ar yr adeg y mae’r Bwrdd Iechyd Lleol yn penderfynu caniatáu neu wrthod cais, oni bai, ym marn y Bwrdd Iechyd Lleol (neu, yn dilyn apêl, Gweinidogion Cymru), mai’r unig ffordd o benderfynu’r cais yn gyfiawn yw gan ystyried asesiad cynharach o anghenion fferyllol, ac yn yr achos hwnnw, yr asesiad cynharach hwnnw yw’r asesiad perthnasol o anghenion fferyllol;
ystyr “Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG” (“NHS Business Services Authority”) yw Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG (NHS Business Services Authority) a sefydlwyd gan Orchymyn Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG (NHS Business Services Authority) (Sefydlu a Chyfansoddiad) 2005(2);
ystyr “Bwrdd Iechyd Lleol” (“Local Health Board”) yw Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlwyd o dan adran 11 o Ddeddf 2006 (byrddau iechyd lleol);
mae i “Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol” (“Regional Partnership Board”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 1(4) o Reoliadau Trefniadau Partneriaeth (Cymru) 2015(3);
mae i “cais am fferyllfa yn yr arfaeth” (“outstanding pharmacy application”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 31(11) (cydsyniad amlinellol a chymeradwyaeth mangre yn cymryd effaith);
ystyr “Cofrestr y Cyngor Fferyllol Cyffredinol” (“General Pharmaceutical Council Register”) yw’r gofrestr a gynhelir o dan erthygl 19 o Orchymyn Fferylliaeth 2010(4) (sefydlu a chynnal y Gofrestr a mynediad iddi);
ystyr “cofrestr y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal” (“the Health and Care Professions Council register”) yw’r gofrestr a sefydlwyd ac a gynhelir gan y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal o dan erthygl 5 o Orchymyn Proffesiynau Iechyd a Gwaith Cymdeithasol 2002(5);
ystyr “Cofrestr Nyrsio a Bydwreigiaeth” (“Nursing and Midwifery Register”) yw’r gofrestr a gynhelir gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth o dan erthygl 5 o Orchymyn Nyrsio a Bydwreigiaeth 2001(6) (sefydlu a chynnal cofrestr);
ystyr “contract GMC” (“GMS contract”) yw contract gwasanaethau meddygol cyffredinol o dan adran 42 o Ddeddf 2006 (contractau gwasanaethau meddygol cyffredinol: rhagarweiniol);
ystyr “contract GMDdA” (“APMS contract”) yw trefniant i ddarparu gwasanaethau meddygol sylfaenol a wneir â Bwrdd Iechyd Lleol o dan adran 41(2)(b) o Ddeddf 2006 (gwasanaethau meddygol sylfaenol);
ystyr “contractwr cyfarpar GIG” (“NHS appliance contractor”) yw person sydd wedi ei gynnwys mewn rhestr fferyllol o dan reoliad 10 (llunio a chynnal rhestrau fferyllol) ar gyfer darparu gwasanaethau fferyllol drwy ddarparu cyfarpar yn unig;
ystyr “contractwr GMC” (“GMS contractor”) yw parti mewn contract GMC, ac eithrio’r Bwrdd Iechyd Lleol;
ystyr “contractwr GMC perthnasol” (“relevant GMS contractor”), mewn perthynas ag unrhyw feddyg, yw—
y contractwr GMC, pan fo’r meddyg yn gontractwr GMC, neu
pan na fo’r meddyg yn gontractwr GMC, y contractwr GMC y mae’r meddyg wedi ei gyflogi ganddo neu wedi ei gymryd ymlaen ganddo;
ystyr “contractwr GMDdA” (“APMS contractor”) yw parti mewn contract GMDdA, ac eithrio Bwrdd Iechyd Lleol;
ystyr “contractwr GMDdA perthnasol” (“relevant APMS contractor”), mewn perthynas ag unrhyw feddyg, yw—
y contractwr GMDdA, pan fo’r meddyg yn gontractwr GMDdA, neu
pan nad y contractwr GMDdA yw’r meddyg, y contractwr GMDdA y mae’r meddyg wedi ei gyflogi ganddo neu wedi ei gymryd ymlaen ganddo;
ystyr “corff cyfatebol” (“equivalent body”) yw Bwrdd Comisiynu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn Lloegr, Bwrdd Iechyd yn yr Alban, Bwrdd Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yng Ngogledd Iwerddon neu unrhyw gorff olynol yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon ac, mewn perthynas ag unrhyw adeg cyn 1 Ebrill 2003, Awdurdod Iechyd yng Nghymru, neu mewn perthynas ag unrhyw adeg cyn 1 Ebrill 2013 ac ar ôl 30 Medi 2002, Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol yn Lloegr, neu mewn perthynas ag unrhyw adeg cyn 1 Hydref 2002, Awdurdod Iechyd yn Lloegr;
[F1ystyr “Corff Llais y Dinesydd” (“Citizen Voice Body”) yw Corff Llais y Dinesydd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Cymru, a sefydlwyd o dan adran 12(1) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020;]
ystyr “corff trwyddedu neu reoleiddio” (“licensing or regulatory body”) yw unrhyw gorff sy’n trwyddedu neu’n rheoleiddio unrhyw broffesiwn y mae’r person yn aelod ohono neu y mae’r person wedi bod yn aelod ohono, ac mae’n cynnwys unrhyw gorff sy’n trwyddedu neu’n rheoleiddio unrhyw broffesiwn o’r fath mewn gwlad ac eithrio’r Deyrnas Unedig;
[F2mae i “coronafeirws” yr ystyr a roddir i “coronavirus” yn adran 1(1) o Ddeddf y Coronafeirws 2020(2) (ystyr “coronafeirws” a therminoleg gysylltiedig);]
mae i “cyd-bwyllgor disgyblu” yr un ystyr â “joint discipline committee” yn rheoliad 2 o Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Pwyllgorau Gwasanaethau a’r Tribiwnlys) 1992(7) (dehongli);
mae i “cydsyniad amlinellol” (“outline consent”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 30(1)(a) (cydsyniad amlinellol a chymeradwyaeth mangre);
mae i “cydsyniad rhagarweiniol” (“preliminary consent”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 18 (ceisiadau am gydsyniad rhagarweiniol ac effaith cydsyniad rhagarweiniol);
ystyr “cyfarpar” (“appliance”) yw cyfarpar sydd wedi ei gynnwys mewn rhestr a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru at ddibenion adran 80 o Ddeddf 2006 (trefniadau ar gyfer gwasanaethau fferyllol);
ystyr “cyfarpar argaeledd cyfyngedig” (“restricted availability appliance”) yw cyfarpar a gymeradwywyd ar gyfer categorïau penodol o bersonau neu at ddibenion penodol yn unig;
ystyr “cyfarpar penodedig” (“specified appliance”) yw—
unrhyw un neu ragor o’r cyfarpar a ganlyn a restrir yn Rhan IXA o’r Tariff Cyffuriau—
cyfarpar cathetr (gan gynnwys ategolyn cathetr a hydoddiant cynnal),
cyfarpar laryngectomi neu gyfarpar traceostomi,
system dyfrhau rhefrol,
pwmp gwactod neu fodrwy ddarwasgu ar gyfer camweithredu ymgodol, neu
bag draenio ar gyfer clwyf,
cyfarpar anymataliaeth a restrir yn Rhan IXB o’r Tariff Cyffuriau, neu
cyfarpar stoma a restrir yn Rhan IXC o’r Tariff Cyffuriau;
ystyr “cyfarwyddwr” (“director”) yw—
cyfarwyddwr i gorff corfforedig, neu
aelod o’r corff o bersonau sy’n rheoli corff corfforedig (pa un a yw’n bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig ai peidio);
mae i “cyfathrebiad electronig” yr ystyr a roddir i “electronic communication” yn adran 15(1) o Ddeddf Cyfathrebiadau Electronig 2000(8) (dehongli cyffredinol);
mae “cyflogaeth” (“employment”) yn cynnwys cyflogaeth ddi-dâl a chyflogaeth o dan gontract am wasanaethau;
ystyr “cyffur Atodlen” (“Scheduled drug”) yw cyffur neu sylwedd arall a bennir yn Atodlen 1 neu 2 i’r Rheoliadau Rhagnodi Cyffuriau (sy’n ymwneud â chyffuriau, meddyginiaethau a sylweddau eraill nad ydynt i’w harchebu o dan gontract gwasanaethau meddygol cyffredinol neu y caniateir eu harchebu o dan amgylchiadau penodol yn unig);
mae “cyffuriau” (“drugs”) yn cynnwys meddyginiaethau;
F3...
mae i “cymeradwyaeth mangre” (“premises approval”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 30(1)(b) (cydsyniad amlinellol a chymeradwyaeth mangre) ac mae’n cynnwys cymeradwyaeth mangre dros dro a roddir o dan reoliad 34(13) (cymeradwyaeth mangre: mangreoedd ychwanegol a mangreoedd newydd ar ôl i’r cydsyniad amlinellol gymryd effaith) neu gymeradwyaeth mangre weddilliol a roddir o dan reoliad 35(9) (cymeradwyaeth mangre: cyfuno practisau);
mae i “cynllun peilot” yr un ystyr ag a roddir i “pilot scheme” yn adran 92(2) o Ddeddf 2006 (cynlluniau peilot);
ystyr “cynnwys yn amodol” (“conditional inclusion”) yw cynnwys person mewn rhestr fferyllol, neu roi cydsyniad rhagarweiniol i berson gael ei gynnwys mewn rhestr fferyllol, yn ddarostyngedig i amodau a osodir o dan Ran 7 o’r Rheoliadau hyn;
ystyr “darparwr gwasanaethau meddygol sylfaenol” (“provider of primary medical services”) yw contractwr GMC, contractwr GMDdA neu bractis GMBILl;
ystyr “data creu llofnod electronig” (“electronic signature creation data”) yw data unigryw a ddefnyddir gan y llofnodwr i greu llofnod electronig;
ystyr “Deddf 2006” (“the 2006 Act”) yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;
ystyr “deintydd” (“dentist”) yw ymarferydd deintyddol;
ystyr “digwyddiadau cychwynnol” (“originating events”) yw’r digwyddiadau a arweiniodd at yr euogfarn, yr ymchwiliad, yr achos cyfreithiol, yr atal dros dro, y gwrthod derbyn, y cynnwys yn amodol, y dileu neu’r dileu yn ddigwyddiadol a ddigwyddodd;
ystyr “dileu yn ddigwyddiadol” (“contingent removal”) yw dileu enw person o restr fferyllol yn ddigwyddiadol, o fewn yr ystyr a roddir i “contingent removal” yn adran 108 o Ddeddf 2006 (dileu yn ddigwyddiadol);
ystyr “enw amherchnogol” (“non-proprietary name”) yw enw sy’n un o’r canlynol, neu’n amrywiad a ganiateir o un o’r canlynol—
Enw Amherchnogol Rhyngwladol (INN),
Enw Amherchnogol Rhyngwladol Addasedig (INNM),
Enw Cymeradwy Prydeinig (BAN),
Enw Cymeradwy Prydeinig Addasedig (BANM), neu
enw cymeradwy,
ac at y diben hwn, mae i’r enwau hyn (a’u hamrywiadau a ganiateir) yr un ystyron ag sydd iddynt mewn rhestr o enwau y mae Comisiwn Cyffurlyfr Prydain wedi ei llunio ac wedi peri iddi gael ei chyhoeddi, ac nad yw wedi ei disodli(9);
ystyr “enw amherchnogol priodol” (“appropriate non-proprietary name”) yw enw amherchnogol nas crybwyllir yn Atodlen 1 i’r Rheoliadau Rhagnodi Cyffuriau nac, ac eithrio pan fo’r amodau ym mharagraff [F456(2)] o Atodlen [F53] i’r Rheoliadau GMC wedi eu bodloni, yn Atodlen 2 i’r Rheoliadau Rhagnodi Cyffuriau;
ystyr “fferyllfa” (“pharmacy”) yw—
mangre restredig o dan reoliad 10 (llunio a chynnal rhestrau fferyllol) y darperir gwasanaethau fferyllol ynddi gan fferyllydd GIG yn unol â threfniadau a wneir o dan adran 80 o Ddeddf 2006, neu
mangre y mae’r ystod o wasanaethau fferyllol a ddarperir ynddi o dan gynllun peilot fferylliaeth o dan adran 92 o Ddeddf 2006 (cynlluniau peilot), a’r oriau y darperir y gwasanaethau hynny ar eu cyfer, yn gymaradwy â fferyllfa sy’n dod o fewn paragraff (a);
ystyr “fferyllydd cofrestredig” (“registered pharmacist”) yw person sydd wedi ei gofrestru yn Rhan 1 o Gofrestr y Cyngor Fferyllol Cyffredinol neu yn y gofrestr a gynhelir o dan Erthyglau 6 a 9 o Orchymyn Fferylliaeth (Gogledd Iwerddon) 1976;
ystyr “fferyllydd GIG” (“NHS pharmacist”) yw—
fferyllydd cofrestredig, neu
person sy’n cynnal busnes fferyllfa fanwerthu yn gyfreithlon yn unol ag adran 69 o Ddeddf Meddyginiaethau 1968(10),
y mae ei enw wedi ei gynnwys mewn rhestr fferyllol o dan reoliad 10 (llunio a chynnal rhestrau fferyllol) ar gyfer darparu gwasanaethau fferyllol yn benodol drwy ddarparu cyffuriau;
ystyr “fferyllydd-ragnodydd annibynnol” (“pharmacist independent prescriber”) yw fferyllydd cofrestredig sydd â nodyn gyferbyn â’i enw yn Rhan 1 o Gofrestr y Cyngor Fferyllol Cyffredinol neu yn y gofrestr a gynhelir o dan Erthyglau 6 a 9 o Orchymyn Fferylliaeth (Gogledd Iwerddon) 1976(11) (sy’n ymwneud â chofrestrau a’r cofrestrydd), sy’n dynodi ei fod yn gymwys i archebu cyffuriau, meddyginiaethau a chyfarpar fel fferyllydd-ragnodydd annibynnol;
ystyr “ffisiotherapydd-ragnodydd annibynnol” (“physiotherapist independent prescriber”) yw person—
sy’n ffisiotherapydd, a
sydd â nodyn gyferbyn â’i enw yn Rhan 9 o’r gofrestr a gynhelir o dan erthygl 5 o Orchymyn Proffesiynau Iechyd a Gwaith Cymdeithasol 2002(12) sy’n dynodi ei fod yn gymwys i archebu cyffuriau, meddyginiaethau a chyfarpar fel ffisiotherapydd-ragnodydd annibynnol;
ystyr “ffurflen bresgripsiwn” (“prescription form”) yw—
ffurflen a ddarperir gan Fwrdd Iechyd Lleol, Ymddiriedolaeth GIG, Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG neu gorff cyfatebol ac a ddyroddir gan ragnodydd, neu
ffurflen bresgripsiwn electronig,
sy’n galluogi person i gael gwasanaethau fferyllol ac nid yw’n cynnwys presgripsiwn amlroddadwy;
ystyr “ffurflen bresgripsiwn anelectronig” (“non-electronic prescription form”) yw ffurflen bresgripsiwn sy’n dod o fewn paragraff (a) o’r diffiniad o “ffurflen bresgripsiwn”;
ystyr “ffurflen bresgripsiwn electronig” (“electronic prescription form”) yw data a grëir mewn ffurflen electronig at ddiben archebu cyffur neu gyfarpar—
sydd wedi ei llofnodi â llofnod electronig uwch rhagnodydd,
a drawsyrrir fel cyfathrebiad electronig gan y gwasanaeth TPE at fferyllydd GIG, contractwr cyfarpar GIG neu feddyg fferyllol a enwebir, ac
nad yw’n dangos y caniateir darparu’r cyffur neu’r cyfarpar a archebir fwy nag unwaith;
ystyr “GMBILl” (“LHBMS”) yw gwasanaethau meddygol sylfaenol a ddarperir gan Fwrdd Iechyd Lleol o dan adran 41(2)(a) o Ddeddf 2006 (gwasanaethau meddygol sylfaenol);
ystyr “GMDdA” (“APMS”) yw gwasanaethau meddygol sylfaenol a ddarperir yn unol â chontract GMDdA;
ystyr “gwasanaeth adolygu defnyddio cyfarpar” (“appliance use review service”) yw trefniadau a wneir yn unol â chyfarwyddydau o dan adran 81 o Ddeddf 2006 (trefniadau ar gyfer gwasanaethau fferyllol ychwanegol) i fferyllydd GIG neu gontractwr cyfarpar GIG adolygu’r modd y mae person yn defnyddio unrhyw gyfarpar penodedig;
ystyr “gwasanaeth TPE” (“ETP service”) yw’r gwasanaeth presgripsiynau cod bar 2-ddimensiwn sy’n rhan o’r systemau technoleg gwybodaeth mewn systemau rhagnodi a gweinyddu yng Nghymru, ac a ddefnyddir gan y gwasanaeth iechyd yng Nghymru i drosglwyddo a chadw gwybodaeth am bresgripsiynau sy’n ymwneud â chleifion;
ystyr “gwasanaethau amlweinyddu” (“repeat dispensing services”) yw gwasanaethau fferyllol sy’n cynnwys darparu cyffuriau neu gyfarpar gan fferyllydd GIG neu gontractwr cyfarpar GIG yn unol â phresgripsiwn amlroddadwy;
ystyr “gwasanaethau cyfeiriedig” (“directed services”) yw gwasanaethau fferyllol ychwanegol a ddarperir yn unol â chyfarwyddydau o dan adran 81 o Ddeddf 2006 (trefniadau ar gyfer gwasanaethau fferyllol ychwanegol);
ystyr “gwasanaethau fferyllol” (“pharmaceutical services”) yw gwasanaethau fferyllol sy’n dod o fewn adrannau 80 ac 81 o Ddeddf 2006 ac mae’n cynnwys gwasanaethau cyfeiriedig;
ystyr “gwasanaethau fferyllol lleol” (“local pharmaceutical services”) yw gwasanaethau o fath y caniateir iddynt gael eu darparu o dan adran 80, neu yn rhinwedd adran 81, o Ddeddf 2006, ac eithrio gwasanaethau gweinyddu gan ymarferwyr, ac a ddarperir o dan gynllun peilot;
ystyr “gwasanaethau GIG” (“NHS services”) yw gwasanaethau a ddarperir fel rhan o’r gwasanaeth iechyd yng Nghymru;
ystyr “gwasanaethau hanfodol” (“essential services”) ar gyfer fferyllwyr GIG yw’r gwasanaethau a bennir ym mharagraff 3 o Atodlen 5, ac ar gyfer contractwyr cyfarpar GIG yr ystyr yw’r gwasanaethau a bennir ym mharagraffau 3 i 12 o Atodlen 6;
ystyr “Gwladwriaeth Ewropeaidd berthnasol” (“relevant European State”) yw Gwladwriaeth AEE neu’r Swistir;
ystyr “gŵyl banc” (“bank holiday”) yw unrhyw ddiwrnod a bennir neu a gyhoeddir yn ŵyl banc yng Nghymru yn unol ag adran 1 o Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971(13);
ystyr “hybysiad” (“notice”) yw hysbysiad ysgrifenedig;
mae i “lleoliad neilltuedig” (“reserved location”) yr ystyr a roddir iddo gan reoliad 17(4) (lleoliadau mewn ardaloedd rheoledig sy’n lleoliadau neilltuedig);
ystyr “llofnod electronig” (“electronic signature”) yw data ar ffurf electronig sydd wedi eu hatodi i ddata eraill ar ffurf electronig neu wedi eu cysylltu’n rhesymegol â hwy ac sy’n cael eu defnyddio gan y llofnodwr i lofnodi;
ystyr “llofnod electronig uwch” (“advanced electronic signature”) yw llofnod electronig sy’n bodloni’r gofynion a ganlyn—
mae ganddo gysylltiad unigryw â’r llofnodwr,
gellir adnabod y llofnodwr oddi wrtho,
fe’i crëir drwy ddefnyddio data creu llofnod electronig y gall y llofnodwr, â lefel uchel o sicrwydd, ei ddefnyddio o dan ei reolaeth ei hunan yn unig, a
mae wedi ei gysylltu â’r data a lofnodwyd mewn modd sy’n gwneud unrhyw newid diweddarach yn y data yn ganfyddadwy;
ystyr “llofnodwr” (“signatory”) yw person naturiol sy’n creu llofnod electronig;
ystyr “mangre practis” (“practice premises”), mewn perthynas â darparwr gwasanaethau meddygol sylfaenol, yw’r cyfeiriad neu’r cyfeiriadau a bennir yn y contract (yn achos contractwr GMC neu GMDdA) neu’r datganiad practis (yn achos practis GMBILl) y mae gwasanaethau fferyllol i’w darparu ynddo neu ynddynt o dan y contract neu’r datganiad practis;
ystyr “mangre restredig” (“listed premises”) yw’r fangre sydd wedi ei chynnwys mewn—
rhestr fferyllol, neu
rhestr meddygon fferyllol yn unol â rheoliad 11 (llunio a chynnal rhestrau meddygon fferyllol);
ystyr “meddyg” (“doctor”) yw ymarferydd meddygol cofrestredig;
ystyr “meddyg fferyllol” (“dispensing doctor”) yw meddyg sy’n darparu gwasanaethau fferyllol o dan drefniadau â Bwrdd Iechyd Lleol a wneir o dan reoliad 26 (trefniadau ar gyfer darparu gwasanaethau fferyllol gan feddygon);
ystyr “nyrs sy’n rhagnodi’n annibynnol” (“independent nurse prescriber”) yw person—
sydd wedi ei gofrestru yn y Gofrestr Nyrsio a Bydwreigiaeth, a
sydd â nodyn gyferbyn â’i enw yn y gofrestr honno sy’n dynodi ei fod yn gymwys i archebu cyffuriau a chyfarpar fel nyrs sy’n rhagnodi fel ymarferydd cymunedol, nyrs-ragnodydd annibynnol neu nyrs-ragnodydd annibynnol/atodol;
ystyr “nyrs-ragnodydd annibynnol” (“nurse independent prescriber”) yw person—
y mae ei enw wedi ei gofrestru yn y Gofrestr Nyrsio a Bydwreigiaeth,
sydd â nodyn neu gofnod gyferbyn â’i enw yn y gofrestr honno sy’n dynodi ei fod yn gymwys i archebu cyffuriau, meddyginiaethau a chyfarpar fel—
nyrs-ragnodydd annibynnol, neu
nyrs-ragnodydd annibynnol/atodol, ac
sydd, mewn cysylltiad â pherson sy’n ymarfer yng Nghymru ar neu ar ôl 19 Gorffennaf 2010, wedi llwyddo mewn cwrs a achredwyd i ymarfer fel nyrs-ragnodydd annibynnol;
ystyr “optometrydd-ragnodydd annibynnol” (“optometrist independent prescriber”) yw person—
sy’n optometrydd sydd wedi ei gofrestru yn y gofrestr o optometryddion a gynhelir o dan adran 7 o Ddeddf Optegwyr 1989(14) (sy’n ymwneud â’r gofrestr o optometryddion a’r gofrestr o optegwyr fferyllol) neu’r gofrestr o optometryddion sydd ar ymweliad o Wladwriaethau Ewropeaidd perthnasol a gynhelir o dan adran 8B(1)(a) o’r Ddeddf honno, a
sydd â nodyn gyferbyn â’i enw sy’n dynodi bod yr optometrydd yn gymwys i archebu cyffuriau, meddyginiaethau a chyfarpar fel optometrydd-ragnodydd annibynnol;
mae “oriau agor atodol” (“supplementary opening hours”) i’w ddehongli, fel y mae’r cyd-destun yn mynnu, yn unol â pharagraff 23(2) o Atodlen 5 neu baragraff 13(3)(a) o Atodlen 6, neu’r ddau;
mae “oriau agor ychwanegol” (“additional opening hours”) i’w ddehongli, fel y mae’r cyd-destun yn mynnu, yn unol â pharagraff 23(11) o Atodlen 5 neu baragraff 13(10) o Atodlen 6, neu’r ddau;
ystyr “oriau craidd” (“core hours”) yw’r oriau y mae rhaid i fangreoedd fferyllfa, neu gontractwr cyfarpar, fod ar agor yn rhinwedd paragraff 23(1) o Atodlen 5, neu baragraff 13(1) o Atodlen 6;
ystyr “parafeddyg-ragnodydd annibynnol” (“paramedic independent prescriber”) yw person—
sydd wedi ei gofrestru’n barafeddyg yn Rhan 8 o gofrestr y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal, a
sydd â nodyn gyferbyn â’i enw yn Rhan 8 o’r gofrestr honno sy’n dynodi bod y person yn gymwys i archebu cyffuriau, meddyginiaethau a chyfarpar fel parafeddyg-ragnodydd annibynnol;
ystyr “plentyn” (“child”) yw person nad yw wedi cyrraedd 16 mlwydd oed;
ystyr “podiatrydd-ragnodydd neu giropodydd-ragnodydd annibynnol” (“podiatrist or chiropodist independent prescriber”) yw person—
sy’n bodiatrydd neu’n giropodydd, a
sydd â nodyn gyferbyn â’i enw yn Rhan 2 o’r gofrestr a gynhelir o dan erthygl 5 o Orchymyn Proffesiynau Iechyd a Gwaith Cymdeithasol 2002 sy’n dynodi ei fod yn gymwys i archebu cyffuriau, meddyginiaethau a chyfarpar fel podiatrydd-ragnodydd neu giropodydd-ragnodydd annibynnol;
ystyr “PPD” (“SSP”) yw protocol prinder difrifol;
ystyr “practis GMBILl” (“LHBMS practice”) yw practis sy’n darparu GMBILl;
ystyr “presgripsiwn amlroddadwy” (“repeatable prescription”) yw presgripsiwn sydd wedi ei gynnwys mewn ffurflen a ddarparwyd gan Fwrdd Iechyd Lleol—
sydd naill ai—
wedi ei gynhyrchu gan gyfrifiadur ond wedi ei lofnodi gan ragnodydd amlroddadwy, neu
yn ffurflen a grëwyd mewn fformat electronig, a adwaenir drwy ddefnyddio cod rhagnodydd amlroddadwy, a drawsyrrir fel cyfathrebiad electronig gan y gwasanaeth TPE at fferyllydd GIG, contractwr cyfarpar GIG neu feddyg fferyllol a enwebir ac sydd wedi ei llofnodi â llofnod electronig uwch rhagnodydd amlroddadwy,
sydd wedi ei ddyroddi neu wedi ei greu i alluogi person i gael gwasanaethau fferyllol, ac
sy’n dangos y caniateir darparu’r cyffuriau neu’r cyfarpar a archebir ar y ffurflen honno fwy nag unwaith, ac sy’n pennu nifer y troeon y caniateir iddynt gael eu darparu;
ystyr “presgripsiwn amlroddadwy anelectronig” (“non-electronic repeatable prescription”) yw presgripsiwn sy’n dod o fewn paragraff (a)(i) o’r diffiniad o “presgripsiwn amlroddadwy”;
ystyr “presgripsiwn amlroddadwy electronig” (“electronic repeatable prescription”) yw presgripsiwn sy’n dod o fewn paragraff (a)(ii) o’r diffiniad o “presgripsiwn amlroddadwy”;
ystyr “presgripsiwn electronig” (“electronic prescription”) yw ffurflen bresgripsiwn electronig neu bresgripsiwn amlroddadwy electronig;
ystyr “proffesiynolyn gofal iechyd” (“health care professional”) yw person, ac eithrio gweithiwr cymdeithasol, sy’n aelod o broffesiwn a reoleiddir gan gorff a grybwyllir yn adran 25(3) o Ddeddf Diwygio’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002(15);
ystyr “protocol prinder difrifol” (“serious shortage protocol”) yw—
yn achos meddyginiaeth a roddir ar bresgripsiwn yn unig, brotocol prinder difrifol at ddibenion rheoliad 226A o Reoliadau Meddyginiaethau Dynol 2012(16) (gwerthiant etc. gan fferyllydd yn unol â phrotocol prinder difrifol), neu
yn achos unrhyw gyffur arall neu unrhyw gyfarpar arall, brotocol ysgrifenedig—
sydd wedi ei ddyroddi gan Weinidogion Cymru o dan amgylchiadau pan fo Cymru neu unrhyw ran o Gymru, ym marn Gweinidogion Cymru, yn profi prinder difrifol, neu pan all brofi prinder difrifol, o—
cyffur neu gyfarpar penodedig, neu
cyffuriau neu gyfarpar o ddisgrifiad penodedig,
sy’n darparu ar gyfer cyflenwi, gan fferyllydd GIG neu gontractwr cyfarpar GIG sy’n darparu gwasanaethau fferyllol neu wasanaethau fferyllol lleol, pan fo archeb ar ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy am—
y cyffur neu’r cyfarpar penodedig, neu
cyffur neu gyfarpar o’r disgrifiad penodedig,
gynnyrch gwahanol neu swm gwahanol o gynnyrch i’r cynnyrch neu swm y cynnyrch a archebwyd, yn ddarostyngedig i unrhyw amodau a bennir yn y protocol, a
sy’n pennu’r cyfnod y mae’r protocol i gael effaith ar ei gyfer, a’r rhannau o Gymru (a all fod yn Gymru gyfan) y mae’r protocol i gael effaith ynddynt;
mae i “pwyllgor disgyblu fferyllol” yr un ystyr ag a roddir i “pharmaceutical discipline committee” yn rheoliad 2 o Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Pwyllgorau Gwasanaethau a’r Tribiwnlys) 1992(17);
ystyr “Pwyllgor Fferyllol Lleol” (“Local Pharmaceutical Committee”) yw pwyllgor a gydnabyddir o dan adran 90 o Ddeddf 2006 (pwyllgorau fferyllol lleol);
ystyr “Pwyllgor Meddygol Lleol” (“Local Medical Committee”) yw pwyllgor a gydnabyddir o dan adran 54 o Ddeddf 2006 (pwyllgorau meddygol lleol);
ystyr “radiograffydd cofrestredig” (“registered radiographer”) yw person sydd wedi ei gofrestru yn Rhan 11 o gofrestr y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal;
ystyr “radiograffydd therapiwtig-ragnodydd annibynnol” (“therapeutic radiographer independent prescriber”) yw person—
sy’n radiograffydd cofrestredig, a
y cofnodir gyferbyn â’i enw yn Rhan 11 o gofrestr y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal—
hawlogaeth i ddefnyddio’r teitl “radiograffydd therapiwtig” neu “therapeutic radiographer”, a
nodyn sy’n dynodi ei fod yn gymwys i archebu cyffuriau, meddyginiaethau a chyfarpar fel radiograffydd therapiwtig-ragnodydd annibynnol;
ystyr “rhagnodydd” (“prescriber”) yw meddyg, deintydd, fferyllydd-ragnodydd annibynnol, nyrs sy’n rhagnodi’n annibynnol, nyrs-ragnodydd annibynnol, optometrydd-ragnodydd annibynnol, fferyllydd-ragnodydd annibynnol, ffisiotherapydd-ragnodydd annibynnol, podiatrydd-ragnodydd neu giropodydd-ragnodydd annibynnol, radiograffydd therapiwtig-ragnodydd annibynnol, parafeddyg-ragnodydd annibynnol neu ragnodydd atodol;
ystyr “rhagnodydd amlroddadwy” (“repeatable prescriber”) yw person—
sy’n gontractwr GMC sy’n darparu gwasanaethau amlragnodi o dan y telerau yn ei gontract sy’n rhoi effaith i baragraff [F653] (gwasanaethau amlragnodi) o Atodlen [F73] i’r Rheoliadau GMC,
sy’n gontractwr GMDdA sy’n darparu gwasanaethau amlragnodi o dan y telerau yn ei gytundeb sy’n rhoi effaith i ddarpariaeth mewn cyfarwyddydau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 12(3) o Ddeddf 2006 mewn perthynas â chontractau GMDdA, sy’n ddarpariaeth gyfatebol i baragraff [F653] o Atodlen [F73] i’r Rheoliadau GMC, neu
sydd wedi ei gyflogi neu wedi ei gymryd ymlaen gan—
contractwr GMC sy’n darparu gwasanaethau amlragnodi o dan y telerau mewn contract sy’n rhoi effaith i baragraff [F653] o Atodlen [F73] i’r Rheoliadau GMC,
contractwr GMDdA sy’n darparu gwasanaethau amlragnodi o dan y telerau mewn cytundeb sy’n rhoi effaith i ddarpariaeth mewn cyfarwyddydau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 12(3) o Ddeddf 2006 mewn perthynas â chontractau GMDdA, sy’n ddarpariaeth gyfatebol i baragraff [F653] o Atodlen [F73] i’r Rheoliadau GMC, neu
Bwrdd Iechyd Lleol at ddibenion darparu gwasanaethau meddygol sylfaenol mewn practis GMBILl sy’n darparu gwasanaethau amlragnodi yn unol â darpariaeth mewn cyfarwyddydau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 12(3) o Ddeddf 2006 mewn perthynas â GMBILl, sy’n ddarpariaeth gyfatebol i baragraff [F653] o Atodlen [F73] i’r Rheoliadau GMC;
ystyr “rhagnodydd atodol” (“supplementary prescriber”) yw—
fferyllydd cofrestredig sydd â nodyn gyferbyn â’i enw yn Rhan 1 o Gofrestr y Cyngor Fferyllol Cyffredinol neu yn y gofrestr a gynhelir o dan Erthyglau 6 a 9 o Orchymyn Fferylliaeth (Gogledd Iwerddon) 1976 sy’n dynodi ei fod yn gymwys i archebu cyffuriau, meddyginiaethau a chyfarpar fel rhagnodydd atodol;
person y mae ei enw wedi ei gofrestru yn y Gofrestr Nyrsio a Bydwreigiaeth, ac sydd â nodyn gyferbyn â’i enw yn y Gofrestr honno sy’n dynodi ei fod yn gymwys i archebu cyffuriau, meddyginiaethau a chyfarpar fel nyrs-ragnodydd annibynnol/atodol;
person—
sydd wedi ei gofrestru mewn rhan o’r gofrestr a gynhelir o dan erthygl 5 o Orchymyn Proffesiynau Iechyd a Gwaith Cymdeithasol 2001(18) (sefydlu a chynnal cofrestr) sy’n ymwneud â chiropodyddion a phodiatryddion, deietegyddion, parafeddygon, ffisiotherapyddion neu radiograffwyr, a
sydd â nodyn gyferbyn â’i enw yn y gofrestr honno sy’n dynodi ei fod yn gymwys i archebu cyffuriau, meddyginiaethau a chyfarpar fel rhagnodydd atodol, neu
optometrydd sydd â nodyn gyferbyn â’i enw yn y gofrestr o optometryddion a gynhelir o dan adran 7 neu 8B(1)(a) o Ddeddf Optegwyr 1989 sy’n dynodi bod yr optometrydd yn gymwys i archebu cyffuriau, meddyginiaethau a chyfarpar fel rhagnodydd atodol;
ystyr “Rheoliadau 1992” (“the 1992 Regulations”) yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) 1992(19) fel yr oeddent mewn grym yn union cyn 10 Mai 2013;
ystyr “Rheoliadau 2005” (“the 2005 Regulations”) yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) 2005(20) fel yr oeddent mewn grym yn union cyn 1 Medi 2012;
ystyr “Rheoliadau 2013” (“the 2013 Regulations”) yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2013(21) fel yr oeddent mewn grym yn union cyn 1 Hydref 2020;
ystyr “Rheoliadau Ffioedd” (“Charges Regulations”) yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Presgripsiynau am Ddim a Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) 2007(22);
ystyr “Rheoliadau GMC” (“GMS Regulations”) yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Cymru) [F82023] (23);
ystyr “Rheoliadau Peidio â Chodi Tâl” (“Remission of Charges Regulations”) yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Cymru) 2007(24);
ystyr “Rheoliadau Rhagnodi Cyffuriau” (“Prescription of Drugs Regulations”) yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Rhagnodi Cyffuriau etc.) (Cymru) 2004(25);
ystyr “rhestr” (“list”), oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall, yw rhestr fferyllol neu restr meddygon fferyllol;
ystyr “rhestr berthnasol” (“relevant list”) yw—
rhestr fferyllol neu restr gyfatebol, neu
rhestr a gynhelir gan Fwrdd Iechyd Lleol neu gorff cyfatebol, o gyflawnwyr neu ddarparwyr cymeradwy gwasanaethau meddygol sylfaenol, gwasanaethau deintyddol neu wasanaethau offthalmig;
ystyr “rhestr cleifion” (“patient list”) yw rhestr o gleifion a gedwir yn unol â pharagraff [F922] (rhestr o gleifion) o Atodlen [F103] i’r Rheoliadau GMC neu mewn cysylltiad â chontractwr GMDdA neu bractis GMBILl, yn unol â chyfarwyddydau a roddir gan Weinidogion Cymru o dan adran 12(3) o Ddeddf 2006;
ystyr “rhestr cleifion berthnasol” (“relevant patient list”) yw—
mewn perthynas â meddyg sy’n gontractwr GMC neu’n gontractwr GMDdA (neu sy’n gyfranddaliwr cyfreithiol a llesiannol mewn cwmni sy’n gontractwr o’r fath), y rhestr cleifion ar gyfer y contractwr hwnnw, neu
pan na fo’r meddyg yn gontractwr, y rhestr cleifion ar gyfer y contractwr GMC neu’r contractwr GMDdA y mae’r meddyg wedi ei gyflogi ganddo neu wedi ei gymryd ymlaen ganddo neu ar gyfer y practis GMBILl y mae’r meddyg yn darparu gwasanaethau meddygol sylfaenol ynddo;
ystyr “rhestr cyflawnwyr meddygol” (“medical performers list”) yw rhestr o feddygon, a lunnir ac a gyhoeddir yn unol â rheoliad 3(1) o Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Rhestri Cyflawnwyr) (Cymru) 2004(26);
ystyr “rhestr fferyllol” (“pharmaceutical list”) yw rhestr y mae’n ofynnol i Fwrdd Iechyd Lleol ei llunio a’i chynnal o dan reoliad 10 (llunio a chynnal rhestrau fferyllol);
ystyr “rhestr gyfatebol” (“equivalent list”) yw rhestr a gedwir gan gorff cyfatebol;
ystyr “rhestr meddygon fferyllol” (“dispensing doctor list”) yw rhestr y mae’n ofynnol i Fwrdd Iechyd Lleol ei llunio a’i chynnal o dan reoliad 11 (llunio a chynnal rhestrau meddygon fferyllol);
ystyr “swp-ddyroddiad” (“batch issue”) yw ffurflen, a ddarperir gan Fwrdd Iechyd Lleol ac a ddyroddir gan ragnodydd amlroddadwy ar yr un pryd â phresgripsiwn amlroddadwy anelectronig i alluogi fferyllydd GIG neu gontractwr cyfarpar GIG i gael taliad am ddarparu gwasanaethau amlweinyddu, ac sydd yn y fformat gofynnol, ac—
a gynhyrchir gan gyfrifiadur ac nas llofnodir gan ragnodydd amlroddadwy,
sy’n ymwneud â phresgripsiwn amlroddadwy anelectronig penodol ac sy’n cynnwys yr un dyddiad â’r presgripsiwn hwnnw,
a ddyroddir fel un o ddilyniant o ffurflenni, sydd â’u nifer yn hafal i nifer y troeon y caniateir darparu’r cyffuriau neu’r cyfarpar a archebir ar y presgripsiwn amlroddadwy anelectronig, a
sy’n pennu rhif i ddynodi ei safle yn y dilyniant y cyfeirir ato ym mharagraff (c);
ystyr “swp-ddyroddiad priodol” (“appropriate batch issue”), mewn perthynas â phresgripsiwn amlroddadwy anelectronig, yw un o’r swp-ddyroddiadau sy’n ymwneud â’r presgripsiwn hwnnw ac sy’n cynnwys yr un dyddiad â’r presgripsiwn hwnnw;
mae i “Tariff Cyffuriau” (“Drug Tariff”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 55 (y Tariff Cyffuriau a thâl ar gyfer fferyllwyr GIG a chontractwyr cyfarpar GIG);
ystyr “Tribiwnlys” (“Tribunal”) yw’r Tribiwnlys Haen Gyntaf a sefydlwyd o dan Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodi 2007(27);
mae i “uwcharolygydd” yr un ystyr ag a roddir i “superintendent” yn adran 71 o Ddeddf Meddyginiaethau 1968(28) (cyrff corfforedig).
(2) Pan fo cyfeiriad yn cael ei wneud yn y Rheoliadau hyn at benderfyniad gan Fwrdd Iechyd Lleol a bod y penderfyniad hwnnw yn cael ei newid yn dilyn apêl, oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall, mae’r cyfeiriad at y penderfyniad hwnnw i’w ddehongli fel pe bai’n gyfeiriad at y penderfyniad fel y’i newidiwyd yn dilyn apêl.
(3) Yn y Rheoliadau hyn—
(a)ystyr y term “gwasanaethau fferyllol”, yng nghyd-destun trefniadau ar gyfer darparu gwasanaethau fferyllol gan feddyg, yw gweinyddu cyffuriau a chyfarpar ond nid gwasanaethau fferyllol fel y’u crybwyllir yn adran 86(7)(a) neu (b) o Ddeddf 2006 (personau sydd wedi eu hawdurdodi i ddarparu gwasanaethau fferyllol), a
(b)ystyr y term “gwasanaethau gweinyddu”, mewn perthynas â meddyg neu gontractwr GMC, yw unrhyw wasanaeth cyfatebol a ddarperir, nid fel gwasanaethau fferyllol, ond o dan y telerau mewn contract GMC sy’n rhoi effaith i baragraffau [F1160 a 61] o Atodlen [F123] i’r Rheoliadau GMC.
(4) Ac eithrio pan ddarperir yn benodol i’r gwrthwyneb, caniateir rhoi neu anfon unrhyw ddogfen y mae’n ofynnol, neu yr awdurdodir, ei rhoi i berson neu gorff neu ei hanfon at berson neu i gorff o dan y Rheoliadau hyn drwy ddanfon y ddogfen at y person neu, yn achos corff, at ysgrifennydd neu reolwr cyffredinol y corff hwnnw, neu drwy anfon y ddogfen mewn llythyr rhagdaledig wedi ei gyfeirio at y person hwnnw neu, yn achos corff, at ysgrifennydd neu reolwr cyffredinol y corff hwnnw, yn ei gyfeiriad arferol neu ei gyfeiriad olaf sy’n hysbys, ac mae danfon y ddogfen yn cynnwys ei hanfon yn electronig i gyfeiriad electronig a roddwyd gan y person hwnnw at y diben hwnnw.
(5) Pan fo’r term “community practitioner nurse prescriber” yn ymddangos yn Rheoliadau Meddyginiaethau Dynol 2012(29) neu yn y Gofrestr Nyrsio a Bydwreigiaeth, mae i’w ddehongli at ddibenion y Rheoliadau hyn fel pe bai’n gyfeiriad at “nyrs sy’n rhagnodi’n annibynnol”.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn rhl. 2(1) wedi eu mewnosod (1.4.2023) gan Rheoliadau Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020 (Diwygiadau a Dirymiadau Canlyniadol, Atodol a Deilliadol) (Is-ddeddfwriaeth) 2023 (O.S. 2023/299), rhlau. 1(2), 9(2)(b)
F2Geiriau yn rhl. 2(1) wedi eu mewnosod (6.1.2023) gan Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) (Diwygio) 2022 (O.S. 2022/1314), rhlau. 1, 3
F3Geiriau yn rhl. 2(1) wedi eu hepgor (1.4.2023) yn rhinwedd Rheoliadau Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020 (Diwygiadau a Dirymiadau Canlyniadol, Atodol a Deilliadol) (Is-ddeddfwriaeth) 2023 (O.S. 2023/299), rhlau. 1(2), 9(2)(a)
F4Gair yn rhl. 2(1) wedi ei amnewid (1.10.2023) gan Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Cymru) 2023 (O.S. 2023/953), rhl. 1(2), Atod. 5 para. 2(2)(a)(i)(aa) (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2023/1421, rhlau. 1, 20(c))
F5Gair yn rhl. 2(1) wedi ei amnewid (1.10.2023) gan Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Cymru) 2023 (O.S. 2023/953), rhl. 1(2), Atod. 5 para. 2(2)(a)(i)(bb)
F6Gair yn rhl. 2(1) wedi ei amnewid (1.10.2023) gan Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Cymru) 2023 (O.S. 2023/953), rhl. 1(2), Atod. 5 para. 2(2)(a)(iv)(aa)
F7Gair yn rhl. 2(1) wedi ei amnewid (1.10.2023) gan Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Cymru) 2023 (O.S. 2023/953), rhl. 1(2), Atod. 5 para. 2(2)(a)(iv)(bb)
F8Geiriau yn rhl. 2(1) wedi eu hamnewid (1.10.2023) gan Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Cymru) 2023 (O.S. 2023/953), rhl. 1(2), Atod. 5 para. 2(2)(a)(ii)
F9Gair yn rhl. 2(1) wedi ei amnewid (1.10.2023) gan Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Cymru) 2023 (O.S. 2023/953), rhl. 1(2), Atod. 5 para. 2(2)(a)(iii)(aa)
F10Gair yn rhl. 2(1) wedi ei amnewid (1.10.2023) gan Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Cymru) 2023 (O.S. 2023/953), rhl. 1(2), Atod. 5 para. 2(2)(a)(iii)(bb)
F11Geiriau yn rhl. 2(3)(b) wedi eu hamnewid (1.10.2023) gan Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Cymru) 2023 (O.S. 2023/953), rhl. 1(2), Atod. 5 para. 2(2)(b)(i)
F12Gair yn rhl. 2(3)(b) wedi ei amnewid (1.10.2023) gan Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Cymru) 2023 (O.S. 2023/953), rhl. 1(2), Atod. 5 para. 2(2)(b)(ii)
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 2 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(a)
RHAN 2LL+CAsesiadau o anghenion fferyllol
Asesiadau o anghenion fferyllolLL+C
3.—(1) Cyfeirir at y datganiad o’r anghenion am wasanaethau fferyllol y mae’n ofynnol i bob Bwrdd Iechyd Lleol ei gyhoeddi yn rhinwedd adran 82A o Ddeddf 2006(30), pa un a yw’n ddatganiad o’i asesiad cyntaf neu o unrhyw asesiad diwygiedig, yn y Rheoliadau hyn fel “asesiad o anghenion fferyllol”.
(2) Y gwasanaethau fferyllol y mae rhaid i bob asesiad o anghenion fferyllol ymwneud â hwy yw’r holl wasanaethau fferyllol y caniateir iddynt gael eu darparu o dan drefniadau a wneir gan Fwrdd Iechyd Lleol ar gyfer—
(a)darparu gwasanaethau fferyllol gan berson ar restr fferyllol,
(b)darparu gwasanaethau fferyllol lleol o dan gynllun peilot, neu
(c)gweinyddu cyffuriau a chyfarpar gyda pherson sydd ar rhestr meddygon fferyllol (ond nid gwasanaethau GIG eraill y caniateir iddynt gael eu darparu o dan drefniadau a wneir gan Fwrdd Iechyd Lleol â meddyg fferyllol).
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 3 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)
Yr wybodaeth sydd i’w chynnwys mewn asesiadau o anghenion fferyllolLL+C
4.—(1) Rhaid i bob asesiad o anghenion fferyllol gynnwys yr wybodaeth a nodir yn Atodlen 1.
(2) Rhaid i bob Bwrdd Iechyd Lleol, cyhyd ag y bo’n ymarferol, gadw’n gyfredol y map y mae’n ei gynnwys yn ei asesiad o anghenion fferyllol yn unol â pharagraff 5 o Atodlen 1 (ac nid oes angen iddo ailgyhoeddi’r asesiad cyfan na chyhoeddi datganiad atodol).
Gwybodaeth Cychwyn
I4Rhl. 4 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)
Y dyddiad erbyn pryd y mae’r asesiad cyntaf o anghenion fferyllol i’w gyhoeddiLL+C
5. Rhaid i bob Bwrdd Iechyd Lleol gyhoeddi ei asesiad cyntaf o anghenion fferyllol o fewn 12 mis i’r dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Rhl. 5 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)
Asesiadau dilynolLL+C
6.—(1) Ar ôl iddo gyhoeddi ei asesiad cyntaf o anghenion fferyllol, rhaid i bob Bwrdd Iechyd Lleol gyhoeddi datganiad o’i asesiad diwygiedig—
(a)heb fod yn hwyrach na 5 mlynedd ar ôl iddo gyhoeddi’r asesiad blaenorol o anghenion fferyllol, neu
(b)ar unrhyw adeg o fewn 5 mlynedd iddo gyhoeddi’r asesiad blaenorol o anghenion fferyllol, gan roi sylw i unrhyw asesiadau eraill o anghenion y mae’r Bwrdd Iechyd Lleol o dan ddyletswydd statudol i’w cyhoeddi.
(2) Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol wneud asesiad diwygiedig cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl nodi newidiadau, sy’n newidiadau sylweddol, ers cyhoeddi ei asesiad o anghenion fferyllol, sy’n berthnasol i ganiatáu ceisiadau y cyfeirir atynt yn adran 83 o Ddeddf 2006, oni bai ei fod wedi ei fodloni y byddai gwneud asesiad diwygiedig yn ymateb anghymesur i’r newidiadau hynny.
(3) Hyd nes y caiff datganiad o asesiad diwygiedig ei gyhoeddi, caniateir i Fwrdd Iechyd Lleol gyhoeddi datganiad atodol sy’n esbonio’r newidiadau i argaeledd gwasanaethau fferyllol ers cyhoeddi ei asesiad o anghenion fferyllol (sy’n dod yn rhan o’r asesiad), pan—
(a)bo’r newidiadau yn berthnasol i ganiatáu ceisiadau y cyfeirir atynt yn adran 83 o Ddeddf 2006, a
(b)bo’r Bwrdd Iechyd Lleol—
(i)wedi ei fodloni y byddai gwneud asesiad diwygiedig yn ymateb anghymesur i’r newidiadau hynny, neu
(ii)wrthi’n gwneud asesiad diwygiedig ac wedi ei fodloni ei bod yn hanfodol addasu ei asesiad o anghenion fferyllol ar unwaith er mwyn atal niwed i ddarpariaeth gwasanaethau fferyllol yn ei ardal.
(4) Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol yn cyhoeddi datganiad atodol yn unol â pharagraff (3), rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol hysbysu’r cyrff hynny a restrir yn rheoliad 7(1) am ei gyhoeddi cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.
Gwybodaeth Cychwyn
I6Rhl. 6 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)
Ymgynghori ar asesiadau o anghenion fferyllolLL+C
7.—(1) Wrth wneud asesiad at ddibenion cyhoeddi asesiad o anghenion fferyllol, rhaid i bob Bwrdd Iechyd Lleol ymgynghori ar gynnwys yr asesiad â’r canlynol—
(a)Pwyllgor Fferyllol Lleol Cymru,
(b)y Pwyllgor Meddygol Lleol ar gyfer ei ardal (gan gynnwys un ar gyfer ei ardal a’r Pwyllgor ar gyfer un neu ragor o Fyrddau Iechyd Lleol eraill sy’n berthnasol i’r asesiad),
(c)y personau sydd ar ei restrau fferyllol,
(d)unrhyw fferyllfa cynllun peilot y mae’r Bwrdd Iechyd Lleol wedi gwneud trefniadau â hi ar gyfer darparu unrhyw wasanaethau fferyllol lleol,
(e)y personau sydd ar ei restr meddygon fferyllol (os oes ganddo un),
(f)unrhyw berson y mae’r Bwrdd Iechyd Lleol wedi gwneud trefniadau ag ef ar gyfer darparu gwasanaethau gweinyddu,
(g)unrhyw ddarparwr gwasanaethau meddygol sylfaenol yn ei ardal,
(h)[F13Corff Llais y Dinesydd] ac unrhyw grŵp arall sy’n cynrychioli cleifion, defnyddwyr neu gymuned yn ei ardal sydd, ym marn y Bwrdd Iechyd Lleol, â buddiant yn narpariaeth gwasanaethau fferyllol yn ei ardal,
(i)unrhyw Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol ar gyfer ei ardal,
(j)unrhyw awdurdod lleol ar gyfer ei ardal,
(k)unrhyw Ymddiriedolaeth GIG yn ei ardal, ac
(l)unrhyw Fwrdd Iechyd Lleol cyfagos.
(2) Rhaid cyhoeddi drafft o’r asesiad arfaethedig o anghenion fferyllol ar wefan y Bwrdd Iechyd Lleol am o leiaf 60 niwrnod.
(3) Rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol, heb fod yn hwyrach na 24 awr ar ôl i’r asesiad drafft o anghenion fferyllol gael ei gyhoeddi yn unol â pharagraff (2), hysbysu’r personau a restrir ym mharagraff (1)—
(a)bod drafft o’r asesiad arfaethedig o anghenion fferyllol wedi cael ei gyhoeddi ar wefan y Bwrdd Iechyd Lleol, a
(b)am y dyddiad erbyn pryd y mae rhaid darparu unrhyw ymateb i’r ymgynghoriad i’r Bwrdd Iechyd Lleol.
(4) Os yw person a restrir ym mharagraff (1) yn gofyn am gopi o’r asesiad drafft o anghenion fferyllol ar ffurf copi caled, rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol, cyn gynted ag y bo’n ymarferol, ac o fewn 14 o ddiwrnodau beth bynnag, roi copi caled o’r drafft i’r person hwnnw (yn rhad ac am ddim).
(5) Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol yn cael ei hysbysu yn unol â pharagraff (3) a bod Pwyllgor Meddygol Lleol ar gyfer ei ardal sy’n wahanol i’r Pwyllgor Meddygol Lleol yr ymgynghorwyd ag ef o dan baragraff (1)(b), rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol a hysbysir—
(a)ymgynghori â’r Pwyllgor hwnnw cyn ymateb i’r ymgynghoriad, a
(b)rhoi sylw i unrhyw sylwadau sydd wedi dod i law oddi wrth y Pwyllgor wrth ymateb i’r ymgynghoriad.
Diwygiadau Testunol
F13Geiriau yn rhl. 7(1)(h) wedi eu hamnewid (1.4.2023) gan Rheoliadau Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020 (Diwygiadau a Dirymiadau Canlyniadol, Atodol a Deilliadol) (Is-ddeddfwriaeth) 2023 (O.S. 2023/299), rhlau. 1(2), 9(3)
Gwybodaeth Cychwyn
I7Rhl. 7 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)
Materion i’w hystyried wrth wneud asesiadauLL+C
8.—(1) Wrth wneud asesiad at ddibenion cyhoeddi asesiad o anghenion fferyllol, rhaid i bob Bwrdd Iechyd Lleol roi sylw, cyhyd ag y bo’n ymarferol gwneud hynny, i’r materion a ganlyn—
(a)unrhyw asesiad neu asesiad pellach o anghenion perthnasol a lunnir o dan adran 82A o Ddeddf 2006—
(i)pan fo’n ymwneud ag ardal y Bwrdd Iechyd Lleol, a
(ii)nad yw wedi ei ddisodli gan asesiad pellach o dan yr adran honno,
(b)demograffeg ei ardal,
(c)unrhyw anghenion gwahanol sydd gan ardaloedd lleol gwahanol o fewn ei ardal,
(d)y gwasanaethau fferyllol a ddarperir o dan drefniadau ag unrhyw Fwrdd Iechyd Lleol cyfagos sy’n effeithio ar yr angen am wasanaethau fferyllol yn ei ardal, ac
(e)unrhyw wasanaethau gweinyddu neu wasanaethau GIG eraill a ddarperir yn ei ardal neu y tu allan iddi (nad ydynt wedi eu cwmpasu gan is-baragraff (d)) sy’n effeithio ar yr angen am wasanaethau fferyllol yn ei ardal.
(2) Wrth wneud asesiad at ddibenion cyhoeddi asesiad o anghenion fferyllol, rhaid i bob Bwrdd Iechyd Lleol roi sylw i’r anghenion tebygol yn y dyfodol—
(a)i’r graddau sy’n angenrheidiol er mwyn gwneud asesiad priodol o’r materion a grybwyllir ym mharagraff 3 o Atodlen 1, a
(b)gan roi sylw i newidiadau yn nifer y bobl yn ei ardal y bydd angen gwasanaethau fferyllol arnynt.
Gwybodaeth Cychwyn
I8Rhl. 8 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)
Cyhoeddi asesiadau o anghenion fferyllolLL+C
9.—(1) Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol gyhoeddi ar ei wefan—
(a)yr asesiad o anghenion fferyllol ar gyfer ei ardal,
(b)unrhyw asesiad dilynol a wneir yn unol â rheoliad 6(1), ac
(c)unrhyw datganiad atodol a wneir yn unol â rheoliad 6(3).
(2) Os yw Bwrdd Iechyd Lleol yn cael cais am gopi o unrhyw un neu ragor o’r dogfennau ym mharagraff (1) ar ffurf copi caled, rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ac o fewn 14 o ddiwrnodau beth bynnag, roi copi caled (yn rhad ac am ddim).
Gwybodaeth Cychwyn
I9Rhl. 9 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)
RHAN 3LL+CRhestrau fferyllol a rhestrau meddygon fferyllol
Llunio a chynnal rhestrau fferyllolLL+C
10.—(1) Rhaid i bob Bwrdd Iechyd Lleol lunio a chynnal rhestrau fferyllol o’r fferyllwyr GIG a’r contractwyr cyfarpar GIG sydd wedi gwneud cais yn unol â Rhan 5 o’r Rheoliadau hyn ac Atodlen 2 iddynt, i ddarparu gwasanaethau fferyllol o fangreoedd yn ardal y Bwrdd Iechyd Lleol ac y cymeradwywyd eu ceisiadau gan y Bwrdd Iechyd Lleol yn unol ag Atodlen 3 neu, yn dilyn apêl, gan Weinidogion Cymru yn unol ag Atodlen 4, ac sydd wedi eu hawdurdodi—
(a)i ddarparu gwasanaethau fferyllol yn benodol drwy ddarparu cyffuriau, neu
(b)i ddarparu gwasanaethau fferyllol drwy ddarparu cyfarpar yn unig.
(2) Rhaid i bob rhestr fferyllol gynnwys—
(a)cyfeiriad y fangre y mae’r person rhestredig wedi ymgymryd â darparu gwasanaethau fferyllol ynddi,
(b)y diwrnodau a’r amseroedd pan fydd y person rhestredig yn darparu gwasanaethau fferyllol yn y fangre honno, ac
(c)disgrifiad o’r gwasanaethau fferyllol y mae’r person rhestredig wedi ymgymryd â’u darparu.
(3) Mae Rhan 7 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer dileu enwau personau o’r rhestrau fferyllol.
(4) Bydd rhestr fferyllol Bwrdd Iechyd Lleol, sy’n rhestr gyfredol yn union cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym, yn rhestr fferyllol gyfredol hefyd pan ddaw’r Rheoliadau hyn i rym, oni fydd yn ofynnol i’r Bwrdd Iechyd Lleol roi effaith i benderfyniad a wnaed cyn y dyddiad dod i rym, i newid, dileu neu gynnwys cofnod yn y rhestr, neu o’r rhestr, o ddechrau’r dyddiad dod i rym, neu oni fydd hawlogaeth gan y Bwrdd Iechyd Lleol i wneud hynny, ac mewn achos o’r fath, y rhestr gyfredol ar ddechrau’r dyddiad dod i rym yw’r rhestr fel y’i haddaswyd i roi effaith i’r penderfyniad hwnnw.
Gwybodaeth Cychwyn
I10Rhl. 10 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)
Llunio a chynnal rhestrau meddygon fferyllolLL+C
11.—(1) Rhaid i bob Bwrdd Iechyd Lleol lunio a chynnal rhestr meddygon fferyllol o’r meddygon y mae’r Bwrdd Iechyd Lleol wedi gwneud trefniant â hwy yn unol â rheoliad 26 (trefniadau ar gyfer darparu gwasanaethau fferyllol gan feddygon) i ddarparu gwasanaethau fferyllol i’w cleifion yn ardal y Bwrdd Iechyd Lleol.
(2) Rhaid i bob rhestr meddygon fferyllol gynnwys—
(a)enw’r meddyg—
(i)y mae ei gais o dan Ran 6 i gael cydsyniad amlinellol a chymeradwyaeth mangre wedi ei gymeradwyo gan y Bwrdd Iechyd Lleol yn unol ag Atodlen 3 neu, yn dilyn apêl, gan Weinidogion Cymru yn unol ag Atodlen 4, a
(ii)sydd wedi gwneud trefniadau â’r Bwrdd Iechyd Lleol o dan reoliad 26 i ddarparu gwasanaethau fferyllol,
(b)yr ardal y rhoddwyd cydsyniad amlinellol mewn perthynas â hi a’r dyddiad y cymeroedd y cydsyniad amlinellol effaith,
(c)cyfeiriad y fangre practis y rhoddwyd cymeradwyaeth mangre iddi, sy’n pennu—
(i)y dyddiad y cymerodd y gymeradwyaeth mangre effaith neu, os nad yw eto wedi cymryd effaith, y dyddiad y’i rhoddwyd, a
(ii)os yw cymeradwyaeth y fangre yn gymeradwyaeth dybiedig, cymeradwyaeth dros dro neu gymeradwyaeth weddilliol, y ffaith honno,
(d)cyfeiriad unrhyw fangreoedd practis y gwnaeth y meddyg geisiadau am gymeradwyaeth mangre mewn perthynas â hwy, sy’n dal yn yr arfaeth, ac
(e)pan fo meddyg y mae ei enw wedi ei gynnwys yn y rhestr meddygon fferyllol yn darparu gwasanaethau meddygol sylfaenol gyda phractis GMBILl, enw a chyfeiriad y Bwrdd Iechyd Lleol.
(3) Caiff meddyg sydd wedi ei gynnwys mewn rhestr meddygon fferyllol a gynhelir gan Fwrdd Iechyd Lleol, ac sy’n ddarparwr gwasanaethau meddygol sylfaenol, neu sydd wedi ei gyflogi neu wedi ei gymryd ymlaen gan ddarparwr gwasanaethau meddygol sylfaenol, wneud cais i’r Bwrdd Iechyd Lleol hwnnw i feddyg arall sy’n ddarparwr gwasanaethau meddygol sylfaenol, neu sydd wedi ei gyflogi neu wedi ei gymryd ymlaen gan ddarparwr gwasanaethau meddygol sylfaenol, gael ei gynnwys yn y rhestr meddygon fferyllol yn ei le.
(4) Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol sy’n cael cais a ddisgrifir ym mharagraff (3) gytuno i’r cais hwnnw ac—
(a)rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol roi’r meddyg arall (“y meddyg newydd”) yn lle’r meddyg a wnaeth y cais (“y meddyg gwreiddiol”) yn y rhestr meddygon fferyllol a gynhelir gan y Bwrdd Iechyd Lleol,
(b)bydd y trefniadau a oedd gan y Bwrdd Iechyd Lleol â’r meddyg gwreiddiol yn dod yn drefniadau â’r meddyg newydd, ac
(c)bydd cydsyniadau amlinellol a chymeradwyaethau mangre’r meddyg gwreiddiol yn dod yn gydsyniadau amlinellol a chymeradwyaethau mangre’r meddyg newydd.
(5) Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol ddileu enw meddyg rhestredig o restr meddygon fferyllol—
(a)os yw’r meddyg wedi marw,
(b)os nad yw’r meddyg yn cyflawni gwasanaethau meddygol sylfaenol mwyach o fewn ardal y Bwrdd Iechyd Lleol,
(c)os yw’r cydsyniad amlinellol a’r gymeradwyaeth mangre wedi darfod o dan reoliad 32 (cydsyniad amlinellol a chymeradwyaeth mangre yn darfod),
(d)os yw enw’r meddyg wedi ei ddileu o’r rhestr cyflawnwyr meddygol, neu
(e)os yw mwy na 12 mis wedi mynd heibio er pan ddarparwyd cyffuriau, meddyginiaethau neu gyfarpar ddiwethaf gan y meddyg o dan drefniant a wnaed yn unol â rheoliad 26.
(6) Bydd rhestr meddygon fferyllol Bwrdd Iechyd Lleol, sy’n rhestr gyfredol yn union cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym, yn rhestr meddygon fferyllol gyfredol hefyd pan ddaw’r Rheoliadau hyn i rym, oni fydd yn ofynnol i’r Bwrdd Iechyd Lleol roi effaith i benderfyniad a wnaed cyn y dyddiad dod i rym i newid, dileu neu gynnwys cofnod yn y rhestr o ddechrau’r dyddiad dod i rym, neu oni fydd hawlogaeth gan y Bwrdd Iechyd Lleol i wneud hynny, ac mewn achos o’r fath, y rhestr gyfredol ar ddechrau’r dyddiad dod i rym yw’r rhestr fel y’i haddaswyd i roi effaith i’r penderfyniad hwnnw.
Gwybodaeth Cychwyn
I11Rhl. 11 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)
Telerau gwasanaethLL+C
12.—(1) Y telerau y mae person wedi ei gynnwys mewn rhestr fferyllol ar eu sail (ac felly, telerau gwasanaeth y person) yw’r telerau hynny sydd wedi eu cynnwys—
(a)yn y telerau gwasanaeth—
(i)ar gyfer fferyllwyr GIG sy’n darparu gwasanaethau fferyllol yn benodol drwy ddarparu cyffuriau, fel y’u nodir yn Atodlen 5, neu
(ii)ar gyfer contractwr cyfarpar GIG sy’n darparu gwasanaethau fferyllol drwy ddarparu cyfarpar yn unig, fel y’u nodir yn Atodlen 6,
ac fel y caniateir iddynt gael eu hamrywio gan amodau a osodir gan Fwrdd Iechyd Lleol yn rhinwedd rheoliad 38 (cynnwys person yn amodol ar sail addasrwydd),
(b)yn y Tariff Cyffuriau, i’r graddau y mae’r hawliau a’r atebolrwyddau yn y Tariff Cyffuriau yn ymwneud â fferyllwyr GIG neu gontractwyr cyfarpar GIG ac yn gymwys yn achos y fferyllydd GIG neu’r contractwr cyfarpar GIG, ac
(c)mewn trefniant a wnaed gan Fwrdd Iechyd Lleol â’r fferyllydd GIG neu’r contractwr cyfarpar GIG ar gyfer darparu unrhyw wasanaethau fferyllol.
(2) Y telerau y cynhwysir person ar eu sail mewn rhestr meddygon fferyllol (ac felly, telerau gwasanaeth y person) yw’r telerau hynny—
(a)a gynhwysir yn y telerau gwasanaeth ar gyfer meddygon sy’n darparu gwasanaethau fferyllol a nodir yn Atodlen 7,
(b)sydd yn unol ag unrhyw amodau a osodir ynghylch gohirio neu derfynu darparu gwasanaethau fferyllol i gleifion cymwys a wneir o dan baragraff 6 o Atodlen 3, paragraff 13 o Atodlen 3 neu reoliad 17(6), ac
(c)sydd yn unol ag unrhyw amodau a osodir mewn perthynas â gallu’r meddyg fferyllol i ddarparu gwasanaethau fferyllol yn rhinwedd rheoliad 9(7) o Reoliadau 1992 neu reoliad 6(4) o Reoliadau 2013 a pharagraff 6 o Atodlen 2 iddynt.
Gwybodaeth Cychwyn
I12Rhl. 12 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)
RHAN 4LL+CPenderfynu ardaloedd rheoledig
Ardaloedd sy’n ardaloedd rheoledigLL+C
13.—(1) Mae unrhyw ardal a oedd yn ardal reoledig, neu’n rhan o ardal reoledig, at ddibenion Rheoliadau 2013—
(a)yn union cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym, neu
(b)yn dilyn penderfyniad a wnaed yn unol â rheoliad 63(2),
yn parhau i fod yn ardal reoledig, neu’n rhan o ardal reoledig, at ddibenion y Rheoliadau hyn (oni phenderfynir, neu hyd nes y penderfynir, nad yw’r ardal yn ardal reoledig mwyach, neu nad yw’n rhan o ardal reoledig mwyach).
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol, mewn ymateb i gais a gyflwynir yn ysgrifenedig gan Bwyllgor Meddygol Lleol neu Bwyllgor Fferyllol Lleol, ystyried y cwestiwn pa un a yw unrhyw ardal benodol o fewn yr ardal y sefydlwyd y Bwrdd Iechyd Lleol ar ei chyfer, oherwydd ei chymeriad gwledig, yn ardal reoledig neu’n rhan o ardal reoledig ai peidio; neu caiff y Bwrdd Iechyd Lleol ystyried hynny ar unrhyw adeg arall a benderfynir ganddo.
(3) Pan fo’r cwestiwn ynghylch pa un a yw unrhyw ardal benodol yn ardal reoledig neu’n rhan o ardal reoledig ai peidio wedi ei benderfynu gan Fwrdd Iechyd Lleol neu gan Weinidogion Cymru yn dilyn apêl (pa un a yw hynny o dan y Rheoliadau hyn neu o dan Reoliadau 2013), ni chaniateir ystyried y cwestiwn hwnnw eto mewn perthynas â’r ardal benodol—
(a)am 5 mlynedd, gan ddechrau ar ddyddiad y penderfyniad gan y Bwrdd Iechyd Lleol neu, os apeliwyd yn erbyn y penderfyniad hwnnw, ddyddiad y penderfyniad ar yr apêl, oni bai
(b)bod y Bwrdd Iechyd Lleol wedi ei fodloni (o fewn y cyfnod hwnnw o 5 mlynedd) fod newid sylweddol wedi bod yn yr amgylchiadau sy’n effeithio ar yr ardal er pan benderfynwyd y cwestiwn ddiwethaf.
(4) Mae Rhannau 1 a 2 o Atodlen 4 yn pennu’r gweithdrefnau sydd i’w dilyn gan Fwrdd Iechyd Lleol wrth benderfynu pa un a yw ardal yn ardal reoledig o dan y rheoliad hwn ai peidio.
Gwybodaeth Cychwyn
I13Rhl. 13 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)
Apelau yn erbyn penderfyniadau o dan Ran 4LL+C
14. Mae Rhannau 1 a 2 o Atodlen 4 yn gwneud darpariaeth ar gyfer apelau i Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â phenderfyniadau a wneir o dan y Rhan hon.
Gwybodaeth Cychwyn
I14Rhl. 14 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)
RHAN 5LL+CCeisiadau gan fferyllwyr GIG a chontractwyr cyfarpar GIG i gael eu cynnwys mewn rhestrau fferyllol neu i restrau fferyllol gael eu diwygio
Ceisiadau i gynnwys person mewn rhestr fferyllol neu i ddiwygio rhestr fferyllolLL+C
15.—(1) Caiff person gyflwyno cais i Fwrdd Iechyd Lleol pan fo’r person hwnnw—
(a)yn dymuno cael ei gynnwys mewn rhestr fferyllol a gynhelir gan y Bwrdd Iechyd Lleol,
(b)eisoes wedi ei gynnwys mewn rhestr fferyllol a gynhelir gan y Bwrdd Iechyd Lleol ond yn dymuno, o fewn ardal y Bwrdd Iechyd Lleol—
(i)agor mangre ychwanegol er mwyn darparu’r un gwasanaethau fferyllol neu wasanaethau fferyllol gwahanol ohoni,
(ii)adleoli i fangre wahanol ac, yn y fangre honno, ddarparu’r un gwasanaethau fferyllol neu wasanaethau fferyllol gwahanol, neu
(iii)darparu, o’r fangre restredig, wasanaethau fferyllol o ddisgrifiad gwahanol i’r gwasanaethau fferyllol hynny a restrwyd eisoes mewn perthynas â’r person hwnnw, neu
(c)eisoes wedi ei gynnwys mewn rhestr fferyllol a gynhelir gan Fwrdd Iechyd Lleol cyfagos, ond yn dymuno adleoli i fangre wahanol yn ardal y Bwrdd Iechyd Lleol y gwneir y cais iddo ac, yn y fangre honno, ddarparu’r un gwasanaethau fferyllol neu wasanaethau fferyllol gwahanol.
(2) Rhaid i gais a wneir i Fwrdd Iechyd Lleol o dan y rheoliad hwn gael ei wneud yn ysgrifenedig, a rhaid iddo ddarparu’r wybodaeth a nodir yn Rhan 1 o Atodlen 2.
(3) Yn ddarostyngedig i reoliad 60 (Bwrdd Iechyd Lleol cartref), rhaid i berson sy’n gwneud cais o dan baragraff (1)(a) ddarparu’r wybodaeth a’r ymgymeriadau a bennir yn Rhan 2 o Atodlen 2.
(4) Os yw Bwrdd Iechyd Lleol yn ystyried nad yw cais yn cynnwys yr holl wybodaeth sy’n ofynnol o dan baragraffau (2) a (3)—
(a)caiff ofyn i’r ceisydd am yr wybodaeth neu’r ddogfennaeth berthnasol sydd ar goll, a
(b)rhaid i’r ymgeisydd, o fewn y cyfnod a bennir yn rhesymol gan y Bwrdd Iechyd Lleol yn y cais o dan is-baragraff (a)—
(i)darparu unrhyw wybodaeth neu ddogfennaeth y gofynnir amdani’n rhesymol,
(ii)hysbysu’r Bwrdd Iechyd Lleol y bydd oedi o ran darparu’r wybodaeth neu’r ddogfennaeth y gofynnwyd amdani, am resymau penodedig, a phennu dyddiad erbyn pryd y mae’r ceisydd yn ymgymryd â darparu’r wybodaeth neu’r ddogfennaeth, neu
(iii)os yw’r ceisydd yn ystyried i’r Bwrdd Iechyd Lleol ofyn am unrhyw wybodaeth neu ddogfennaeth yn afresymol, hysbysu’r Bwrdd Iechyd Lleol am hynny a cheisio adolygiad gan y Bwrdd Iechyd Lleol o resymoldeb y cais.
(5) Os yw ceisydd yn gwrthod cydymffurfio â chais o dan baragraff (4)(a)—
(a)o fewn y cyfnod—
(i)a bennir yn rhesymol gan y Bwrdd Iechyd Lleol o dan baragraff (4)(b), neu
(ii)sy’n gorffen ar y dyddiad a bennir gan y ceisydd yn unol â pharagraff (4)(b)(ii), os yw’r Bwrdd Iechyd Lleol wedi ei fodloni bod oedi y tu hwnt i’r cyfnod a bennodd, a hyd yr oedi, am reswm da,
oni bai bod is-baragraff (b) yn gymwys, mae’r cais i’w drin fel pe bai wedi ei dynnu’n ôl;
(b)o dan amgylchiadau pan fo’r ceisydd, yn unol â pharagraff (4)(b)(iii), wedi ceisio adolygiad gan y Bwrdd Iechyd Lleol o resymoldeb y cais, os yw’r adolygiad yn penderfynu, o ran unrhyw wybodaeth neu ddogfennaeth y gofynnir amdani, neu o ran yr holl wybodaeth neu ddogfennaeth y gofynnir amdani—
(i)bod rhaid iddi gael ei darparu wedi’r cyfan, mae’r cais i’w drin fel pe bai wedi ei dynnu’n ôl oni bai bod yr wybodaeth neu’r ddogfennaeth y mae rhaid iddi gael ei darparu o hyd yn cael ei darparu o fewn cyfnod newydd a bennir yn rhesymol gan y Bwrdd Iechyd Lleol ar gyfer darparu’r wybodaeth honno neu’r ddogfennaeth honno, neu
(ii)nad oes rhaid iddi gael ei darparu gan y ceisydd, mae’r cais gan y Bwrdd Iechyd Lleol i’w drin fel pe bai wedi ei dynnu’n ôl i’r graddau y mae’n ymwneud â gwybodaeth neu ddogfennaeth nad oes angen ei darparu.
(6) Caiff y Bwrdd Iechyd Lleol ofyn am wybodaeth neu ddogfennaeth o dan y paragraff hwn ar unrhyw adeg ar ôl iddo gael cais a chyn iddo benderfynu’r cais hwnnw.
(7) Rhaid gwrthod cais gan berson, nad yw eisoes wedi ei gynnwys mewn rhestr fferyllol, i gael ei gynnwys yn y rhestr honno, os yw’r ceisydd yn unigolyn a gymhwysodd yn fferyllydd yn y Swistir neu mewn Gwladwriaeth AEE ac eithrio’r Deyrnas Unedig, oni fydd y person hwnnw yn bodloni’r Bwrdd Iechyd Lleol fod ganddo’r lefel o wybodaeth o Saesneg sydd, er budd yr unigolyn hwnnw a’r personau sy’n defnyddio’r gwasanaethau fferyllol y mae’r cais yn ymwneud â hwy, yn angenrheidiol ar gyfer darparu’r gwasanaethau fferyllol hynny yn ardal y Bwrdd Iechyd Lleol.
(8) Bydd yr holl geisiadau a wneir o dan reoliad 15(1) yn cael eu penderfynu yn unol â rheoliad 16 (penderfynu ceisiadau i gynnwys person mewn rhestr fferyllol neu i ddiwygio rhestr fferyllol), ac eithrio ar gyfer ceisiadau y mae—
(a)rheoliad 19 (ceisiadau sy’n ymwneud ag adleoli o fewn ardal Bwrdd Iechyd Lleol),
(b)rheoliad 20 (ceisiadau sy’n ymwneud ag adleoli rhwng ardaloedd Byrddau Iechyd Lleol cyfagos),
(c)rheoliad 21 (ceisiadau sy’n ymwneud ag adleoli dros dro), neu
(d)rheoliad 22 (ceisiadau sy’n ymwneud â newid perchnogaeth),
yn gymwys iddynt ac a benderfynir yn unol â’r rheoliadau hynny.
(9) Mae Rhannau 1 a 3 o Atodlen 3 yn pennu’r gweithdrefnau sydd i’w dilyn gan Fwrdd Iechyd Lleol wrth benderfynu ceisiadau a wneir o dan y Rhan hon.
Gwybodaeth Cychwyn
I15Rhl. 15 mewn grym ar 1.10.2021, gweler rhl. 1(3)
Penderfynu ceisiadau i gynnwys person mewn rhestr fferyllol neu i ddiwygio rhestr fferyllolLL+C
16.—(1) Pan na fo’r fangre a bennir mewn cais mewn ardal reoledig, ni chaiff y Bwrdd Iechyd Lleol ganiatáu’r cais ond os yw wedi ei fodloni y byddai’n diwallu angen am wasanaethau fferyllol, neu am wasanaethau fferyllol o fath penodedig, yn ardal y Bwrdd Iechyd Lleol perthnasol ac sydd wedi eu cynnwys yn asesiad y Bwrdd Iechyd Lleol hwnnw o anghenion fferyllol yn unol ag Atodlen 1.
(2) Pan fo’r fangre a bennir mewn cais mewn ardal reoledig ond nid mewn lleoliad neilltuedig (fel y’i diffinnir yn rheoliad 17(4) a (5)), caiff y Bwrdd Iechyd Lleol—
(a)gwrthod y cais pan fo o’r farn y byddai ei ganiatáu yn niweidio darpariaeth briodol gwasanaethau meddygol sylfaenol, gwasanaethau gweinyddu neu wasanaethau fferyllol yn yr ardal reoledig y mae’r fangre a bennir yn y cais ynddi (y “prawf niweidio”), a
(b)pan na fo’r cais wedi ei wrthod o dan y prawf niweidio, ganiatáu’r cais ond dim ond os yw wedi ei fodloni ei fod yn diwallu angen a nodir yn asesiad y Bwrdd Iechyd Lleol perthnasol o anghenion fferyllol.
(3) Nid yw’r prawf niweidio yn gymwys os yw Bwrdd Iechyd Lleol yn penderfynu cais pan fo’r fangre a bennir yn y cais mewn lleoliad neilltuedig.
(4) Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol wrthod cais nad yw’r ceisydd yn diwallu angen ynddo sydd wedi ei nodi yn asesiad y Bwrdd Iechyd Lleol perthnasol o anghenion fferyllol.
(5) Wrth benderfynu cais o dan y rheoliad hwn, sydd wedi ei wneud yn unol â rheoliad 15(1), (ac eithrio pan fo’r cais wedi ei wneud gan berson y rhoddwyd cydsyniad rhagarweiniol iddo yn unol â rheoliad 18 a bod y cydsyniad rhagarweiniol hwnnw yn ddilys yn unol â rheoliad 18(5)), neu yn unol â rheoliad 18 pan na fo’r ceisydd eisoes wedi ei gynnwys yn rhestr fferyllol y Bwrdd Iechyd Lleol hwnnw, caiff Bwrdd Iechyd Lleol—
(a)gohirio ystyried y cais ar sail addasrwydd yn unol â rheoliad 36 (gohirio ceisiadau ar sail addasrwydd),
(b)gwrthod y cais ar sail addasrwydd yn unol â rheoliad 37 (gwrthod ceisiadau ar sail addasrwydd), neu
(c)gosod amodau ar ganiatáu’r cais yn unol â rheoliad 38 (cynnwys person yn amodol ar sail addasrwydd).
Gwybodaeth Cychwyn
I16Rhl. 16 mewn grym ar 1.10.2021, gweler rhl. 1(3)
Lleoliadau mewn ardaloedd rheoledig sy’n lleoliadau neilltuedigLL+C
17.—(1) Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol benderfynu, o ran mangre a bennir mewn cais a gyflwynir iddo o dan reoliad 15 (ceisiadau i gynnwys person mewn rhestr fferyllol neu i ddiwygio rhestr fferyllol), neu’r fangre neu’r lleoliad perthnasol y mae’r ceisydd yn dymuno darparu gwasanaethau fferyllol ohoni neu ohono, a bennir mewn cais a gyflwynir i’r Bwrdd Iechyd Lleol o dan reoliad 18 (ceisiadau am gydsyniad rhagarweiniol ac effaith cydsyniad rhagarweiniol) sydd mewn ardal reoledig, pa un a yw hefyd mewn lleoliad neilltuedig.
(2) Pan fo penderfyniad wedi ei wneud gan y Bwrdd Iechyd Lleol, neu yn dilyn apêl, gan Weinidogion Cymru (o dan baragraff (1) ac Atodlen 4 yn eu trefn) neu yn unol â rheoliad 11 o Reoliadau 2013 neu Ran 2 o Atodlen 3 iddynt, mewn perthynas â mangre neu leoliad perthnasol y mae gwasanaethau fferyllol i’w darparu ohoni neu ohono neu y darperir gwasanaethau fferyllol ohoni neu ohono, fod y fangre honno neu’r lleoliad perthnasol hwnnw mewn lleoliad neilltuedig, caiff y person sydd wedi ei gynnwys yn y rhestr fferyllol mewn perthynas â’r fangre honno neu’r lleoliad perthnasol hwnnw, wneud cais yn ysgrifenedig i’r Bwrdd Iechyd Lleol, i’r Bwrdd Iechyd Lleol wneud penderfyniad pellach ynghylch pa un a yw’r fangre honno neu’r lleoliad perthnasol hwnnw, ar ddyddiad y cais, mewn lleoliad neilltuedig.
(3) At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr y “lleoliad perthnasol”, pan fo lleoliad y fangre y mae gwasanaethau fferyllol i’w darparu ohoni wedi ei bennu yn ysgrifenedig gan y ceisydd cyn i’r Bwrdd Iechyd Lleol wneud ei benderfyniad, yw’r lleoliad hwnnw, a phan na fo’r lleoliad hwnnw wedi ei bennu felly, yr amcangyfrif gorau y gall y Bwrdd Iechyd Lleol ei wneud o’r man lle y mae’r fangre honno.
(4) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), mae lleoliad neilltuedig yn lleoliad mewn ardal reoledig y mae nifer yr unigolion ar y rhestrau cleifion ar gyfer yr ardal o fewn 1.6 cilometr i’r fangre neu i leoliad y fangre yn llai na 2,750 o bersonau mewn cysylltiad ag ef.
(5) Nid yw lleoliad yn lleoliad neilltuedig o dan baragraff (4) os yw’r Bwrdd Iechyd Lleol yn ystyried, pe bai fferyllfa yn gweithredu o’r lleoliad, y defnyddid hi i raddau tebyg neu i raddau mwy nag y gellid ei disgwyl pe bai nifer yr unigolion ar y rhestrau cleifion ar gyfer yr ardal sydd o fewn 1.6 cilometr i’r fangre neu i’r lleoliad yn hafal i 2,750 o bersonau neu’n fwy na hynny.
(6) Pan fo’r Bwrdd Iechyd Lleol, wrth wneud penderfyniad pellach y gwnaed cais amdano yn unol â pharagraff (2), yn penderfynu nad yw’r fangre honno neu’r lleoliad perthnasol hwnnw mewn lleoliad neilltuedig, neu os oes apêl yn erbyn penderfyniad gan y Bwrdd Iechyd Lleol a phenderfynir yn dilyn apêl nad yw’r fangre, neu nad yw’r lleoliad perthnasol, mewn lleoliad neilltuedig—
(a)caiff y Bwrdd Iechyd Lleol benderfynu bod y fangre i’w thrin, neu’r lleoliad perthnasol i’w drin, at ddibenion y Rheoliadau hyn fel pe bai mewn lleoliad neilltuedig, pan fo o’r farn y byddai peidio â gwneud hynny yn niweidio darpariaeth briodol gwasanaethau meddygol sylfaenol (ac eithrio’r rheini a ddarperir gan y Bwrdd Iechyd Lleol ei hunan), gwasanaethau gweinyddu neu wasanaethau fferyllol mewn unrhyw ardal reoledig, neu
(b)os oedd y Bwrdd Iechyd Lleol yn ystyried ei bod yn debygol yr effeithir yn anffafriol ar ddarpariaeth gwasanaethau meddygol sylfaenol gan ddarparwr gwasanaethau meddygol sylfaenol (ac eithrio un a gyflogir gan y Bwrdd Iechyd Lleol), gwasanaethau fferyllol gan fferyllydd GIG neu gontractwr cyfarpar GIG, gwasanaethau fferyllol lleol a ddarperir o dan gynllun peilot neu wasanaethau fferyllol a ddarperir gan feddyg, oherwydd penderfyniad nad yw’r fangre mewn lleoliad neilltuedig, caiff y Bwrdd Iechyd Lleol wneud penderfyniad o’r fath ond caiff osod amodau i ohirio, am y cyfnod hwnnw y mae’n meddwl ei fod yn addas, wneud neu derfynu trefniadau o dan reoliad 26 (neu’r hyn sy’n cyfateb iddo o dan y Rheoliadau GMC) ar gyfer darparu gwasanaethau fferyllol neu wasanaethau gweinyddu i gleifion gan feddyg neu gontractwr GMC.
Gwybodaeth Cychwyn
I17Rhl. 17 mewn grym ar 1.10.2021, gweler rhl. 1(3)
Ceisiadau am gydsyniad rhagarweiniol ac effaith cydsyniad rhagarweiniolLL+C
18.—(1) Caiff person, sy’n dymuno cael yr hawl i gael ei gynnwys mewn rhestr fferyllol a gynhelir gan y Bwrdd Iechyd Lleol pan gyflwynir cais dilynol gan y person hwnnw o dan reoliad 15(1)(a) neu 15(1)(b)(i) (ceisiadau i gynnwys person mewn rhestr fferyllol neu i ddiwygio rhestr fferyllol), gyflwyno cais i Fwrdd Iechyd Lleol am gydsyniad rhagarweiniol o dan y rheoliad hwn.
(2) Rhaid i gais a wneir o dan y rheoliad hwn gael ei wneud yn ysgrifenedig, a rhaid iddo ddarparu’r wybodaeth a’r ymgymeriadau a nodir yn—
(a)Rhan 1 o Atodlen 2, a
(b)yn ddarostyngedig i reoliad 60 (Bwrdd Iechyd Lleol cartref), Ran 2 o Atodlen 2.
(3) Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol benderfynu cais am gydsyniad rhagarweiniol fel pe bai’n gais a wnaed yn unol â reoliad 15(1)(a) neu 15(1)(b)(i).
(4) Bydd cydsyniad rhagarweiniol yn ddilys am gyfnod o 6 mis o’r dyddiad y’i rhoddir, sef y diweddaraf o naill ai—
(a)30 o ddiwrnodau ar ôl i’r Bwrdd Iechyd Lleol anfon hysbysiad o benderfyniad y Bwrdd Iechyd Lleol ar y cais, yn unol â pharagraff 14 o Atodlen 3, neu
(b)pan fo apêl wedi ei gwneud yn erbyn penderfyniad y Bwrdd Iechyd Lleol, y dyddiad y mae Gweinidogion Cymru yn rhoi hysbysiad o’u penderfyniad ar yr apêl o dan baragraff 8 o Atodlen 4.
(5) Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol ganiatáu cais dilynol a wneir o dan reoliad 15(1)(a) neu 15(1)(b)(i) gan berson y rhoddwyd cydsyniad rhagarweiniol iddo—
(a)os yw’r dyddiad y daeth y cais i law’r Bwrdd Iechyd Lleol o fewn y cyfnod a bennir ym mharagraff (4),
(b)os yw’r gwasanaethau fferyllol a bennir yn y cais yr un rhai â’r rhai a bennwyd yn y cais am gydsyniad rhagarweiniol, ac
(c)os yw’r fangre a bennir yn y cais yn yr un man â’r fangre neu leoliad sy’n berthnasol i angen a nodir yn asesiad y Bwrdd Iechyd Lleol o anghenion fferyllol.
(6) Pan fo is-baragraffau (a) a (b) mewn cysylltiad â pharagraff (5) wedi eu bodloni, ond bod lleoliad y fangre a bennir yn y cais yn wahanol i’r lleoliad y rhoddwyd cydsyniad rhagarweiniol mewn cysylltiad ag ef, rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol drin y cais fel pe bai’n gais a wnaed yn unol â rheoliad 15(1)(b)(ii).
(7) Rhaid i’r penderfyniad i ganiatáu cais o dan baragraff (5) fod yn ddarostyngedig i unrhyw amodau a osodwyd gan y Bwrdd Iechyd Lleol, neu gan Weinidogion Cymru yn dilyn apêl, mewn perthynas â’r penderfyniad terfynol i roi’r cydsyniad rhagarweiniol cyfatebol.
(8) Wrth benderfynu cais o dan y rheoliad hwn, gan berson nad yw eisoes wedi ei gynnwys yn rhestr fferyllol y Bwrdd Iechyd Lleol (ac eithrio cais gan berson sydd â chydsyniad rhagarweiniol dilys yn unol â pharagraff (4)), caiff Bwrdd Iechyd Lleol—
(a)gohirio ystyried y cais ar sail addasrwydd o dan reoliad 36 (gohirio ceisiadau ar sail addasrwydd),
(b)gwrthod y cais ar sail addasrwydd o dan reoliad 37 (gwrthod ceisiadau ar sail addasrwydd), neu
(c)gosod amodau ar ganiatáu’r cais o dan reoliad 38 (cynnwys person yn amodol ar sail addasrwydd).
Gwybodaeth Cychwyn
I18Rhl. 18 mewn grym ar 1.10.2021, gweler rhl. 1(3)
Ceisiadau sy’n ymwneud ag adleoli o fewn ardal Bwrdd Iechyd LleolLL+C
19.—(1) Caiff person sydd wedi gwneud cais o dan reoliad 15(1)(a) (ceisiadau i gynnwys person mewn rhestr fferyllol neu i ddiwygio rhestr fferyllol), ar unrhyw adeg ar ôl gwneud y cais, ond cyn diwedd y cyfnod perthnasol (fel y’i diffinnir yn rheoliad 23 (y weithdrefn ar ôl caniatáu cais)), hysbysu’r Bwrdd Iechyd Lleol ei fod yn dymuno newid y fangre y mae’n bwriadu darparu’r gwasanaethau fferyllol a bennir yn y cais ohoni, a chaiff y Bwrdd Iechyd Lleol ddiwygio’r fangre a bennir yn y cais gwreiddiol os yw’r Bwrdd Iechyd Lleol wedi ei fodloni—
(a)mai adleoliad yw’r newid,
(b)y bydd y gwasanaethau fferyllol a bennir yn y cais, ac a fyddai wedi cael eu darparu yn y fangre a bennwyd yn y cais gwreiddiol, yn cael eu darparu yn y fangre newydd, ac
(c)bod yr adleoliad yn parhau i ddiwallu’r angen am wasanaethau fferyllol, neu am wasanaethau fferyllol o fath penodedig, a nodir yn yr asesiad perthnasol o anghenion fferyllol.
(2) Caiff Bwrdd Iechyd Lleol ganiatáu cais a wneir gan berson o dan reoliad 15(1)(b)(ii) i adleoli o fangre restredig i fangre newydd y mae’r person hwnnw yn bwriadu darparu gwasanaethau fferyllol ynddi, os yw’r Bwrdd Iechyd Lleol wedi ei fodloni—
(a)bod yr adleoliad er mwyn diwallu angen am wasanaethau fferyllol, neu am wasanaethau fferyllol o fath penodedig, a nodir yn yr asesiad perthnasol o anghenion fferyllol ac—
(i)na fydd unrhyw doriad yn narpariaeth gwasanaethau fferyllol (ac eithrio am y cyfnod hwnnw a ganiateir am reswm da gan y Bwrdd Iechyd Lleol),
(ii)nad yw’r fangre a bennir yn y cais fel y fangre y mae’r person yn dymuno adleoli ohoni yn fangre y mae’r person wedi adleoli iddi dros dro o dan reoliad 21 (ceisiadau sy’n ymwneud ag adleoli dros dro), a
(iii)na fyddai, pe bai’n cael ei ganiatáu, yn achosi newid sylweddol i’r trefniadau sydd yn eu lle ar gyfer darparu gwasanaethau fferyllol (ac eithrio’r rheini a ddarperir gan berson ar restr meddygon fferyllol) mewn unrhyw ran o ardal y Bwrdd Iechyd Lleol, neu mewn ardal reoledig yn ardal Bwrdd Iechyd Lleol cyfagos pan fo’r ardal reoledig honno o fewn 1.6 cilometr i’r fangre newydd, neu
(b)nad yw’r adleoliad er mwyn diwallu angen am wasanaethau fferyllol, neu am wasanaethau fferyllol o fath penodedig, a nodir yn yr asesiad perthnasol o anghenion fferyllol ond—
(i)ar gyfer y cleifion sy’n gyfarwydd â chael mynediad i wasanaethau fferyllol yn y fangre bresennol, nad yw lleoliad y fangre newydd yn llai hygyrch i raddau sylweddol,
(ii)y darperir yr un gwasanaethau fferyllol yn y fangre newydd ag a ddarperir yn y fangre restredig,
(iii)na fydd unrhyw doriad yn narpariaeth gwasanaethau fferyllol (ac eithrio am y cyfnod hwnnw a ganiateir am reswm da gan y Bwrdd Iechyd Lleol),
(iv)nad yw’r fangre a bennir yn y cais fel y fangre y mae’r person yn dymuno adleoli ohoni yn fangre y mae’r person wedi adleoli iddi dros dro o dan reoliad 21 (ceisiadau sy’n ymwneud ag adleoli dros dro), a
(v)na fyddai, pe bai’n cael ei ganiatáu, yn achosi newid sylweddol i’r trefniadau sydd yn eu lle ar gyfer darparu gwasanaethau fferyllol (ac eithrio’r rheini a ddarperir gan berson ar restr meddygon fferyllol) mewn unrhyw ran o ardal y Bwrdd Iechyd Lleol, neu mewn ardal reoledig yn ardal Bwrdd Iechyd Lleol cyfagos pan fo’r ardal reoledig honno o fewn 1.6 cilometr i’r fangre newydd.
(3) Ni chaiff person, y mae caniatâd wedi ei roi i gais a wnaed ganddo o dan y rheoliad hwn, gyflwyno cais arall am benderfyniad yn unol â’r rheoliad hwn, nac yn unol â rheoliad 20, o fewn 12 mis i ddyddiad caniatáu’r cais (fel y’i diffinnir yn rheoliad 23(3)(a)).
Gwybodaeth Cychwyn
I19Rhl. 19 mewn grym ar 1.10.2021, gweler rhl. 1(3)
Ceisiadau sy’n ymwneud ag adleoli rhwng ardaloedd Byrddau Iechyd Lleol cyfagosLL+C
20.—(1) Caiff Bwrdd Iechyd Lleol ganiatáu cais a wneir gan berson o dan reoliad 15(1)(c) (ceisiadau i gynnwys person mewn rhestr fferyllol neu i ddiwygio rhestr fferyllol), i adleoli o fangre restredig yn ardal Bwrdd Iechyd Lleol cyfagos i fangre newydd yn ardal y Bwrdd Iechyd Lleol y gwneir y cais iddo, ac yn y fangre honno mae’r person yn bwriadu darparu gwasanaethau fferyllol—
(a)os yw’r Bwrdd Iechyd Lleol y gwneir y cais iddo wedi ei fodloni—
(i)bod y newid yn adleoliad er mwyn diwallu angen a nodir yn asesiad perthnasol y Bwrdd Iechyd Lleol o anghenion fferyllol,
(ii)ar gyfer y cleifion sy’n gyfarwydd â chael mynediad i wasanaethau fferyllol yn y fangre bresennol, nad yw lleoliad y fangre newydd yn llai hygyrch i raddau sylweddol,
(iii)na fydd unrhyw doriad yn narpariaeth gwasanaethau fferyllol (ac eithrio am y cyfnod hwnnw a ganiateir am reswm da gan y Bwrdd Iechyd Lleol),
(iv)nad yw’r fangre a bennir yn y cais fel y fangre y mae’r person yn dymuno adleoli ohoni yn fangre y mae’r person wedi adleoli iddi dros dro o dan reoliad 21 (ceisiadau sy’n ymwneud ag adleoli dros dro),
(v)na fyddai’r cais, pe bai’n cael ei ganiatáu, yn achosi newid sylweddol i’r trefniadau sydd yn eu lle ar gyfer darparu gwasanaethau fferyllol (ac eithrio’r rheini a ddarperir gan berson ar restr meddygon fferyllol) mewn unrhyw ran o ardal y Bwrdd Iechyd Lleol, neu mewn ardal reoledig yn ardal Bwrdd Iechyd Lleol cyfagos pan fo’r ardal reoledig honno o fewn 1.6 cilometr i’r fangre newydd, a
(b)os yw’r person yn cydsynio i enw’r fangre gael ei ddileu o’r rhestr fferyllol a gynhelir gan y Bwrdd Iechyd Lleol y mae’r fangre restredig bresennol yn ei ardal, gydag effaith o’r dyddiad y bydd darparu gwasanaethau fferyllol o’r fangre newydd yn cychwyn arno.
(2) Ni chaiff person, y mae caniatâd wedi ei roi i gais a wnaed ganddo yn unol â’r rheoliad hwn, gyflwyno cais arall am benderfyniad o dan y rheoliad hwn, nac o dan reoliad 19, o fewn 12 mis i ddyddiad caniatáu’r cais (fel y’i diffinnir yn rheoliad 23(3)(a)).
Gwybodaeth Cychwyn
I20Rhl. 20 mewn grym ar 1.10.2021, gweler rhl. 1(3)
Ceisiadau sy’n ymwneud ag adleoli dros droLL+C
21.—(1) Caiff Bwrdd Iechyd Lleol ddiwygio dros dro gofnod mewn rhestr fferyllol drwy ganiatáu cais a wneir gan berson o dan reoliad 15(1)(b)(ii) (ceisiadau i gynnwys person mewn rhestr fferyllol neu i ddiwygio rhestr fferyllol) i adleoli i fangre wahanol ar sail dros dro, os yw’r Bwrdd Iechyd Lleol wedi ei fodloni—
(a)bod yr amgylchiadau pan wneir y cais yn ei gwneud yn ofynnol darparu gwasanaethau fferyllol yn hyblyg,
(b)ar gyfer y cleifion sy’n gyfarwydd â chael mynediad i wasanaethau fferyllol yn y fangre bresennol, nad yw lleoliad y fangre dros dro yn llai hygyrch i raddau sylweddol,
(c)y darperir yr un gwasanaethau fferyllol yn y fangre dros dro ag a ddarperir yn y fangre restredig, a
(d)na fydd unrhyw doriad yn narpariaeth gwasanaethau fferyllol (ac eithrio am unrhyw gyfnod a ganiateir am reswm da gan y Bwrdd Iechyd Lleol).
(2) Bydd diwygiad dros dro i gofnod yn y rhestr fferyllol yn cael effaith o’r dyddiad y cymeradwyodd y Bwrdd Iechyd Lleol y cais a wnaed iddo, a bydd yn ddilys am unrhyw gyfnod o hyd at 6 mis ac am unrhyw gyfnodau pellach o hyd at 3 mis y mae’r Bwrdd Iechyd Lleol yn ystyried eu bod yn angenrheidiol.
(3) Caiff person ddychwelyd i’r cofnod a ddisodlwyd yn y rhestr fferyllol a gynhelir gan y Bwrdd Iechyd Lleol cyn diwedd y cyfnod a benderfynir gan y Bwrdd Iechyd Lleol o dan baragraff (2) drwy roi o leiaf 7 niwrnod o rybudd yn ysgrifenedig i’r Bwrdd Iechyd Lleol.
(4) Pan fo cofnod mewn rhestr fferyllol yn cael ei ddisodli gan ddiwygiad dros dro yn unol â’r rheoliad hwn, ni fydd y disodliad hwnnw yn effeithio ar unrhyw achos o ran y trefniadau a ddisodlwyd (er ei bod yn bosibl y bydd angen eu hatal am resymau eraill), ac os bydd angen diwygio’r trefniadau a ddisodlwyd cyn diwedd y diwygiad dros dro o ganlyniad i’r achos hwnnw, bydd rhaid dychwelyd i’r trefniadau gwreiddiol a ddisodlwyd fel y’u diwygiwyd o ganlyniad i’r achos hwnnw.
Gwybodaeth Cychwyn
I21Rhl. 21 mewn grym ar 1.10.2021, gweler rhl. 1(3)
Ceisiadau sy’n ymwneud â newid perchnogaethLL+C
22.—(1) Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol ganiatáu cais a wneir gan berson o dan reoliad 15(1)(a), (b)(i) neu (ii) (ceisiadau i gynnwys person mewn rhestr fferyllol neu i ddiwygio rhestr fferyllol) sy’n bwriadu darparu gwasanaethau fferyllol mewn mangre y darperir y gwasanaethau hynny ohoni, ar yr adeg y gwneir y cais, gan berson arall sydd wedi ei gynnwys mewn rhestr fferyllol a gynhelir gan y Bwrdd Iechyd Lleol o dan reoliad 10 (llunio a chynnal rhestrau fferyllol) os yw’r Bwrdd Iechyd Lleol wedi ei fodloni—
(a)bod y fangre wedi ei chynnwys eisoes mewn rhestr fferyllol a gynhelir gan y Bwrdd Iechyd Lleol,
(b)y bydd yr un gwasanaethau fferyllol yn parhau i gael eu darparu o’r fangre, ac
(c)na fydd toriad yn narpariaeth gwasanaethau fferyllol (ac eithrio am unrhyw gyfnod a ganiateir am reswm da gan y Bwrdd Iechyd Lleol).
(2) Wrth benderfynu cais o dan y rheoliad hwn, sydd wedi ei wneud o dan reoliad 15(1)(a) (ac eithrio pan fo’r cais wedi ei wneud gan berson y rhoddwyd cydsyniad rhagarweiniol iddo o dan reoliad 18 a bod y cydsyniad rhagarweiniol hwnnw yn ddilys yn unol â rheoliad 18(5)), neu o dan reoliad 18 pan na fo’r ceisydd eisoes wedi ei gynnwys yn rhestr fferyllol y Bwrdd Iechyd Lleol hwnnw, caiff Bwrdd Iechyd Lleol—
(a)gohirio ystyried y cais ar sail addasrwydd o dan reoliad 36 (gohirio ceisiadau ar sail addasrwydd),
(b)gwrthod y cais ar sail addasrwydd o dan reoliad 37 (gwrthod ceisiadau ar sail addasrwydd), neu
(c)gosod amodau ar ganiatáu’r cais o dan reoliad 38 (cynnwys person yn amodol ar sail addasrwydd).
Gwybodaeth Cychwyn
I22Rhl. 22 mewn grym ar 1.10.2021, gweler rhl. 1(3)
Y weithdrefn ar ôl caniatáu caisLL+C
23.—(1) Yn dilyn y dyddiad y caniateir cais a wneir o dan reoliad 15 (ceisiadau i gynnwys person mewn rhestr fferyllol neu i ddiwygio rhestr fferyllol), ni chaiff Bwrdd Iechyd Lleol gynnwys person mewn rhestr fferyllol na diwygio rhestr fferyllol oni fydd—
(a)yr amod ym mharagraff (2) wedi ei fodloni, a
(b)gofynion rheoliad 38 (cynnwys person yn amodol ar sail addasrwydd), os oes rhai, wedi eu bodloni o ran gosod amodau ar unrhyw berson.
(2) Bydd person yn cael ei gynnwys yn y rhestr fferyllol berthnasol, neu diwygir y rhestr fferyllol berthnasol fel y bo’n briodol, os bydd y person hwnnw, heb fod yn llai na 14 o ddiwrnodau cyn diwedd y cyfnod perthnasol, yn hysbysu’r Bwrdd Iechyd Lleol yn ysgrifenedig, gan ddarparu’r wybodaeth a bennir yn Rhan 3 o Atodlen 2, y bydd y person hwnnw, o fewn y 14 o ddiwrnodau nesaf, yn cychwyn darparu yn y fangre y gwasanaethau fferyllol a bennwyd yn y cais.
(3) At ddibenion y rheoliad hwn a, phan fo’n berthnasol, reoliad 24—
(a)“y dyddiad y caniateir cais” yw’r dyddiad diweddaraf o naill ai—
(i)30 o ddiwrnodau ar ôl i’r Bwrdd Iechyd Lleol anfon hysbysiad o benderfyniad y Bwrdd Iechyd Lleol ar y cais, yn unol â pharagraff 14 o Atodlen 3, neu
(ii)y dyddiad y penderfynir unrhyw apêl a ddygir yn erbyn penderfyniad y Bwrdd Iechyd Lleol, a
(b)“y cyfnod perthnasol” yw—
(i)y cyfnod o 6 mis o’r dyddiad y caniateir cais, neu
(ii)unrhyw gyfnod pellach yn ychwanegol at yr hyn a bennir ym mharagraff (i) nad yw’n hwy na 3 mis y caiff y Bwrdd Iechyd Lleol ei ganiatáu am reswm da.
Gwybodaeth Cychwyn
I23Rhl. 23 mewn grym ar 1.10.2021, gweler rhl. 1(3)
Cais i estyn y cyfnod perthnasolLL+C
24.—(1) Caiff person wneud cais i’r Bwrdd Iechyd Lleol i estyn y cyfnod perthnasol heb fod yn hwyrach na 5 mis ar ôl y dyddiad y caniateir cais.
(2) Yn unol â rheoliad 23(3)(b)(ii) caiff person wneud cais am estyniad o hyd at 3 mis.
(3) Rhaid i gais a wneir i’r Bwrdd Iechyd Lleol o dan y rheoliad hwn fod yn ysgrifenedig, a rhaid iddo ddarparu rhesymau pam y ceisir estyniad o’r cyfnod perthnasol.
(4) Mae Rhannau 1 a 3 o Atodlen 3 yn pennu’r gweithdrefnau sydd i’w dilyn gan Fwrdd Iechyd Lleol wrth benderfynu ceisiadau a wneir o dan y rheoliad hwn.
(5) At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr “person” yw’r person y byddai hawlogaeth ganddo i ddarparu hysbysiad i Fwrdd Iechyd Lleol yn unol â rheoliad 23(2) o gychwyn darparu gwasanaethau fferyllol.
Gwybodaeth Cychwyn
I24Rhl. 24 mewn grym ar 1.10.2021, gweler rhl. 1(3)
ApelauLL+C
25.—(1) Mae Atodlen 4 yn gwneud darpariaeth ar gyfer apelau i Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â phenderfyniadau a wneir gan Fyrddau Iechyd Lleol o dan y Rhan hon, ac eithrio’r rheoliadau hynny a restrir ym mharagraff (2).
(2) Nid oes hawl i apelio mewn cysylltiad â phenderfyniad gan Fwrdd Iechyd Lleol—
(a)i ddiwygio dros dro neu beidio â diwygio dros dro, neu i estyn diwygiad dros dro, mewn rhestr fferyllol o dan reoliad 21 (ceisiadau sy’n ymwneud ag adleoli dros dro), neu
(b)i estyn y cyfnod perthnasol neu beidio ag estyn y cyfnod perthnasol o dan reoliad 24 (cais i estyn y cyfnod perthnasol).
Gwybodaeth Cychwyn
I25Rhl. 25 mewn grym ar 1.10.2021, gweler rhl. 1(3)
RHAN 6LL+CCeisiadau gan feddygon i gael eu cynnwys mewn rhestrau meddygon fferyllol neu i restrau meddygon fferyllol gael eu diwygio
Trefniadau ar gyfer darparu gwasanaethau fferyllol gan feddygonLL+C
26.—(1) Caiff Bwrdd Iechyd Lleol wneud trefniant â meddyg sy’n dod o fewn paragraff (8) i’r meddyg ddarparu gwasanaethau fferyllol i glaf sydd wedi ei gynnwys ar restr cleifion y meddyg neu restr cleifion darparwr gwasanaethau meddygol sylfaenol y mae’r meddyg wedi ei gyflogi ganddo neu wedi ei gymryd ymlaen ganddo, os bydd yr amodau a ganlyn wedi eu bodloni—
(a)byddai’r claf yn cael anhawster difrifol i gael unrhyw gyffuriau neu gyfarpar angenrheidiol o fferyllfa oherwydd pellter neu ddulliau cyfathrebu annigonol, ac mae’r amodau ym mharagraff (2) wedi eu bodloni,
(b)mae’r claf yn preswylio mewn ardal reoledig, a hynny yn bellter o fwy nag 1.6 cilometr o unrhyw fferyllfa, ac mae’r amodau a bennir ym mharagraff (4) wedi eu bodloni, neu
(c)mae’r claf yn preswylio mewn ardal reoledig, a phenderfynwyd bod unrhyw fferyllfa sydd o fewn pellter o 1.6 cilometr i’r man lle y mae’r claf yn byw mewn lleoliad neilltuedig, ac na newidiwyd y penderfyniad hwnnw yn dilyn apêl na thrwy benderfyniad pellach, ac mae’r amodau a bennir ym mharagraff (4) wedi eu bodloni.
(2) Yr amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(a) yw—
(a)bod y claf wedi gwneud cais ysgrifenedig i’r Bwrdd Iechyd Lleol i’r meddyg ddarparu gwasanaethau fferyllol iddo, am y rhesymau a bennir ym mharagraff (1)(a), a
(b)bod y Bwrdd Iechyd Lleol wedi ei fodloni y byddai’r claf yn cael anhawster difrifol i gael unrhyw gyffuriau neu gyfarpar angenrheidiol am y rhesymau hynny.
(3) Wrth i’r Bwrdd Iechyd Lleol wneud trefniant â meddyg i’r meddyg ddarparu gwasanaethau fferyllol i glaf o dan baragraff (1)(a) o fangre practis, rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol roi i’r meddyg yn ysgrifenedig, gyfnod rhesymol o rybudd ynghylch pryd y mae’r trefniant i gymryd effaith, oni fydd y meddyg wedi bodloni’r Bwrdd Iechyd Lleol—
(a)nad yw’r meddyg fel arfer yn darparu gwasanaethau fferyllol i gleifion, neu
(b)na fyddai’r claf yn cael anhawster difrifol i gael cyffuriau a chyfarpar o fferyllfa oherwydd pellter neu ddulliau cyfathrebu annigonol.
(4) Yr amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(b) ac (c) yw—
(a)bod cydsyniad amlinellol wedi ei roi i’r meddyg neu i’r darparwr gwasanaethau meddygol sylfaenol y mae’r meddyg wedi ei gyflogi ganddo neu wedi ei gymryd ymlaen ganddo,
(b)bod cymeradwyaeth mangre wedi ei rhoi mewn perthynas â’r fangre y bydd y meddyg yn darparu gwasanaethau fferyllol ohoni i’r claf hwnnw,
(c)bod y cydsyniad amlinellol a’r gymeradwyaeth mangre wedi cymryd effaith o dan reoliad 31 (cydsyniad amlinellol a chymeradwyaeth mangre yn cymryd effaith), a
(d)bod unrhyw amodau a osodir o dan y Rheoliadau hyn mewn cysylltiad â rhoi cydsyniad amlinellol neu gymeradwyaeth mangre yn rhai sy’n caniatáu i drefniadau gael eu gwneud o dan y rheoliad hwn ar gyfer darparu gwasanaethau fferyllol gan y meddyg hwnnw i gleifion o dan baragraff (1)(b) neu (c).
(5) Mae cyfeiriadau ym mharagraff (4) at gydsyniad amlinellol, cymeradwyaeth mangre ac amodau a osodir yn cynnwys cyfeiriadau at y rheini a oedd yn cael effaith o dan Reoliadau 2013.
(6) Caiff meddyg, y gwnaed trefniant ag ef i ddarparu gwasanaethau fferyllol i glaf o dan y rheoliad hwn, gyda chydsyniad y claf, yn hytrach na darparu’r cyffuriau neu’r cyfarpar, archebu’r cyffuriau neu’r cyfarpar drwy ddyroddi presgripsiwn i’r claf.
(7) Pan oedd trefniant i feddyg ddarparu gwasanaethau fferyllol i glaf yn cael effaith yn union cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym, bydd y trefniant hwnnw yn cael effaith fel pe bai wedi ei wneud o dan y rheoliad hwn er nad yw’r amodau ym mharagraff (4) wedi eu bodloni.
(8) Mae meddyg yn dod o fewn y paragraff hwn os yw—
(a)yn gontractwr GMC neu’n gontractwr GMDdA,
(b)wedi ei gymryd ymlaen neu wedi ei gyflogi gan gontractwr GMC neu gontractwr GMDdA, neu
(c)wedi ei gymryd ymlaen gan Fwrdd Iechyd Lleol at ddibenion darparu gwasanaethau meddygol sylfaenol i bractis GMBILl.
(9) Caiff meddyg apelio i Weinidogion Cymru yn erbyn penderfyniad gan Fwrdd Iechyd Lleol o dan baragraff (3). Rhaid gwneud yr apêl yn ysgrifenedig o fewn 30 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r dyddiad yr anfonwyd hysbysiad o’r penderfyniad at y meddyg, a rhaid i’r apêl gynnwys datganiad cryno o’r sail dros yr apêl.
(10) Rhaid i Weinidogion Cymru, ar ôl cael unrhyw hysbysiad o apêl o dan baragraff (9), anfon copi o’r hysbysiad hwnnw i’r Bwrdd Iechyd Lleol a’r contractwr GMC neu’r contractwr GMDdA perthnasol, a chaiff y Bwrdd Iechyd Lleol a’r contractwr GMC neu’r contractwr GMDdA perthnasol, o fewn 30 o ddiwrnodau i’r dyddiad yr anfonodd Gweinidogion Cymru gopi o’r hysbysiad o apêl, gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i Weinidogion Cymru.
(11) Caiff Gweinidogion Cymru benderfynu apêl yn unol â pharagraff (9) yn y modd y gwelant yn addas, gan ystyried y materion rhagarweiniol yn Rhan 1 o Atodlen 4.
(12) Rhaid i Weinidogion Cymru, ar ôl iddynt benderfynu unrhyw apêl o dan baragraff (9), roi hysbysiad o’u penderfyniad yn ysgrifenedig, ynghyd â’r rhesymau dros y penderfyniad, i’r apelydd, i’r Bwrdd Iechyd Lleol, ac i’r contractwr GMC neu’r contractwr GMDdA perthnasol.
Gwybodaeth Cychwyn
I26Rhl. 26 mewn grym ar 1.10.2021, gweler rhl. 1(3)
Gwasanaethau angenrheidiol ar gyfer cleifion dros droLL+C
27. Caiff meddyg, sy’n darparu gwasanaethau fferyllol i gleifion ar restr cleifion drwy drefniant a wneir â Bwrdd Iechyd Lleol o dan reoliad 26 (trefniadau ar gyfer darparu gwasanaethau fferyllol gan feddygon), ddarparu gwasanaethau fferyllol angenrheidiol i berson sydd wedi ei dderbyn gan y meddyg fel claf dros dro.
Gwybodaeth Cychwyn
I27Rhl. 27 mewn grym ar 1.10.2021, gweler rhl. 1(3)
Darparu gwasanaethau fferyllol ar gyfer rhoi triniaeth ar unwaith neu ar gyfer eu rhoi neu eu defnyddio ar y claf gan y meddyg ei hunanLL+C
28.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), caiff meddyg y mae ei enw wedi ei gynnwys mewn rhestr cyflawnwyr meddygol—
(a)darparu i glaf unrhyw gyfarpar neu gyffur, nad yw’n gyffur Atodlen, pan fo angen darpariaeth o’r fath ar gyfer trin y claf hwnnw ar unwaith, cyn y gellir cael darpariaeth rywfodd arall, a
(b)darparu i glaf unrhyw gyfarpar neu gyffur, nad yw’n gyffur Atodlen, a roddir i’r claf hwnnw, neu a osodir ar y claf hwnnw, gan y meddyg ei hunan.
(2) Ni chaiff meddyg ddarparu cyfarpar argaeledd cyfyngedig ond ar gyfer person neu at ddiben a bennir yn y Tariff Cyffuriau.
Gwybodaeth Cychwyn
I28Rhl. 28 mewn grym ar 1.10.2021, gweler rhl. 1(3)
Terfynu trefniadau ar gyfer darparu gwasanaethau fferyllol gan feddygonLL+C
29.—(1) Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol roi cyfnod rhesymol o rybudd yn ysgrifenedig i feddyg, i’r perwyl bod rhaid i’r meddyg beidio â pharhau â darparu gwasanaethau fferyllol i glaf o dan drefniant yn unol â rheoliad 26 pan na fo’r claf yn dod o fewn rheoliad 26(1)(a), (b) neu (c) mwyach.
(2) O ran hysbysiad a roddir o dan baragraff (1)—
(a)mae’n ddarostyngedig i unrhyw ohirio neu derfynu’r trefniadau ar gyfer darparu gwasanaethau fferyllol i’r person hwnnw gan y meddyg hwnnw a wnaed o dan baragraff 6 o Atodlen 3, paragraff 13 o Atodlen 3 neu reoliad 17(6), a
(b)ni chaniateir ei roi—
(i)os oes unrhyw apêl yn yr arfaeth yn erbyn penderfyniad gan y Bwrdd Iechyd Lleol i ohirio gwneud neu derfynu’r trefniant, neu
(ii)pan fo paragraff 5 o Atodlen 3 yn gymwys.
Gwybodaeth Cychwyn
I29Rhl. 29 mewn grym ar 1.10.2021, gweler rhl. 1(3)
Cydsyniad amlinellol a chymeradwyaeth mangreLL+C
30.—(1) Rhaid i feddyg, sy’n ddarparwr gwasanaethau meddygol sylfaenol neu sydd wedi ei gymryd ymlaen neu wedi ei gyflogi gan ddarparwr gwasanaethau meddygol sylfaenol ac sy’n dymuno gwneud trefniant â Bwrdd Iechyd Lleol i ddarparu gwasanaethau fferyllol i gleifion o dan reoliad 26(1)(b) neu (c) (trefniadau ar gyfer darparu gwasanaethau fferyllol gan feddygon), gyflwyno cais yn ysgrifenedig i’r Bwrdd Iechyd Lleol am—
(a)cydsyniad, gan bennu’r ardal y mae’r meddyg yn dymuno darparu gwasanaethau fferyllol ynddi (“cydsyniad amlinellol”), a
(b)cymeradwyaeth i unrhyw fangre practis y mae’r meddyg yn dymuno gweinyddu ohoni (“cymeradwyaeth mangre”).
(2) Ni chaiff meddyg a chanddo gydsyniad amlinellol sydd wedi cymryd effaith o dan reoliad 31 (cydsyniad amlinellol a chymeradwyaeth mangre yn cymryd effaith), gyflwyno cais am gymeradwyaeth mangre ond mewn perthynas ag—
(a)mangre practis ychwanegol y bwriedir darparu gwasanaethau fferyllol ohoni, neu
(b)mangre practis y mae’r meddyg yn dymuno adleoli iddi o fangre restredig.
(3) Rhaid i gais a wneir i Fwrdd Iechyd Lleol o dan y rheoliad hwn gael ei wneud yn ysgrifenedig, a rhaid iddo ddarparu’r wybodaeth a nodir yn Rhan 4 o Atodlen 2.
(4) Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol ddychwelyd cais os nad yw’n cynnwys yr holl wybodaeth sy’n ofynnol o dan baragraff (3).
(5) O ran y Bwrdd Iechyd Lleol—
(a)rhaid iddo wrthod cydsyniad amlinellol mewn perthynas ag unrhyw ran o’r ardal a bennir yn y cais nad yw mewn ardal reoledig neu sydd o fewn 1.6 cilometr i unrhyw fferyllfa;
(b)rhaid iddo wrthod cymeradwyaeth mangre mewn perthynas ag unrhyw fangre a bennir yn y cais sydd o fewn 1.6 cilometr i unrhyw fferyllfa;
(c)rhaid iddo wrthod cais pan fo o’r farn y byddai ei ganiatáu yn niweidio darpariaeth briodol gwasanaethau meddygol sylfaenol, gwasanaethau gweinyddu neu wasanaethau fferyllol yn yr ardal reoledig y mae’r fangre a bennir yn y cais ynddi (“y prawf niweidio”);
(d)pan na fo cais wedi ei wrthod o dan y prawf niweidio, rhaid iddo wrthod y cais oni bai ei fod wedi ei fodloni y byddai’n diwallu angen am wasanaethau fferyllol, neu wasanaethau fferyllol o fath penodol, o fewn yr ardal berthnasol ac sydd wedi ei gynnwys yn yr asesiad perthnasol o anghenion fferyllol ac y mae’r meddyg wedi gwneud cais am gydsyniad amlinellol yn ei gylch;
(e)pan fo’r Bwrdd Iechyd Lleol wedi ystyried dau neu ragor o geisiadau ar y cyd ac mewn perthynas â’i gilydd, caiff wrthod un neu ragor ohonynt (er y byddai, pe bai’n penderfynu’r ceisiadau fel ceisiadau unigol, yn eu caniatáu) pan fo nifer y ceisiadau yn peri y byddai caniatáu pob un ohonynt neu fwy nag un ohonynt yn niweidio darpariaeth briodol gwasanaethau meddygol sylfaenol, gwasanaethau gweinyddu neu wasanaethau fferyllol mewn unrhyw ardal reoledig.
(6) Caiff unrhyw wrthodiad o gais, fel y’i hamlinellir ym mharagraff (5)(a) i (e), ymwneud â’r ardal gyfan neu unrhyw ran o’r ardal sydd o fewn yr ardal reoledig neu, yn ôl y digwydd, yr holl fangreoedd neu rai o’r mangreoedd y ceisir cymeradwyaeth ar eu cyfer.
(7) Yn ddarostyngedig i unrhyw ofynion penodol a gynhwysir yn y Rhan hon, mae Rhannau 1 a 3 o Atodlen 3 yn pennu’r gweithdrefnau sydd i’w dilyn gan Fwrdd Iechyd Lleol wrth benderfynu ceisiadau o dan y Rhan hon.
(8) Mae cais o dan y rheoliad hwn yn cael ei ganiatáu ar ba ddyddiad bynnag yw’r diweddaraf o—
(a)30 o ddiwrnodau ar ôl i’r Bwrdd Iechyd Lleol anfon hysbysiad o’i benderfyniad ar y cais, yn unol â pharagraff 15 o Atodlen 3, neu
(b)pan fo apêl wedi ei gwneud yn erbyn penderfyniad y Bwrdd Iechyd Lleol, y dyddiad y rhoddwyd hysbysiad gan Weinidogion Cymru o’u penderfyniad yn dilyn yr apêl o dan baragraff 8 o Atodlen 4.
Gwybodaeth Cychwyn
I30Rhl. 30 mewn grym ar 1.10.2021, gweler rhl. 1(3)
Cydsyniad amlinellol a chymeradwyaeth mangre yn cymryd effaithLL+C
31.—(1) Wrth ganiatáu cais a wneir o dan reoliad 30 (cydsyniad amlinellol a chymeradwyaeth mangre), rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol benderfynu ar ba ddyddiad y mae’r cydsyniad amlinellol a’r gymeradwyaeth mangre i gymryd effaith.
(2) Pan na fo ceisiadau am fferyllfa yn yr arfaeth (fel y’u diffinnir ym mharagraff (11)), mae’r cydsyniad amlinellol a’r gymeradwyaeth mangre yn cymryd effaith ar y dyddiad y caniateir y cais.
(3) Pan fo ceisiadau am fferyllfa yn yr arfaeth ar y diwrnod cyn y caniateir y cais o dan reoliad 30, mae’r dyddiad y mae’r cydsyniad amlinellol a’r gymeradwyaeth mangre yn cymryd effaith i’w benderfynu yn unol â pharagraffau (4) i (9).
(4) Rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol, mewn cysylltiad â chais y mae paragraff (3) yn gymwys iddo, hysbysu’r meddyg a wnaeth y cais o dan reoliad 30, a Gweinidogion Cymru os yw’r cais yn destun apêl, am—
(a)unrhyw geisiadau am fferyllfa sydd yn yr arfaeth,
(b)tynnu’n ôl unrhyw geisiadau am fferyllfa sydd yn yr arfaeth,
(c)y dyddiad dros dro (fel y’i diffinnir ym mharagraff (11)) pan gaiff y meddyg ofyn i’r Bwrdd Iechyd Lleol benderfynu y dylai’r cydsyniad amlinellol a’r gymeradwyaeth mangre gymryd effaith, a
(d)cais y meddyg am gydsyniad amlinellol a chymeradwyaeth mangre sy’n darfod os cychwynnir darparu gwasanaethau fferyllol, cyn y dyddiad dros dro, o’r fangre a oedd yn destun cais am fferyllfa yn yr arfaeth sydd wedi ei ganiatáu.
(5) Ar y dyddiad dros dro, neu cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl y dyddiad dros dro, rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol hysbysu’r meddyg a wnaeth y cais o dan reoliad 30—
(a)y caiff y meddyg, o fewn 3 mis i hysbysiad y Bwrdd Iechyd Lleol, gyflwyno cais yn ysgrifenedig i’r Bwrdd Iechyd Lleol sy’n gofyn iddo benderfynu a ddylai’r cydsyniad amlinellol a’r gymeradwyaeth mangre gymryd effaith, a
(b)bod rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol benderfynu’r cais cyn gynted ag y bo’n ymarferol ac yn unol â pharagraffau (6) a (7).
(6) Pan fo’r fangre y ceisir cymeradwyaeth mangre mewn cysylltiad â hi, yn fangre practis ar ddyddiad y penderfyniad o dan baragraff (5), rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol benderfynu y bydd y cydsyniad amlinellol a’r gymeradwyaeth mangre mewn cysylltiad â’r fangre honno yn cael effaith ar y dyddiad hwnnw.
(7) Pan na fo’r fangre y ceisir cymeradwyaeth mangre mewn cysylltiad â hi, yn fangre practis ar ddyddiad y penderfyniad o dan baragraff (5), bydd y cydsyniad amlinellol a’r gymeradwyaeth mangre yn darfod.
(8) Rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol roi hysbysiad o’i benderfyniad o dan baragraff (5) i’r ceisydd ac i’r personau hynny yr oedd yn ofynnol rhoi hysbysiad iddynt o’r cais o dan reoliad 30, o dan baragraff 8 o Atodlen 3.
(9) Pan fo’r Bwrdd Iechyd Lleol wedi penderfynu y bydd y cydsyniad amlinellol a’r gymeradwyaeth mangre yn darfod yn rhinwedd paragraff (7) neu fod y dyddiad dros dro i’w estyn o dan baragraff (11), caiff y meddyg a wnaeth y cais o dan reoliad 30 apelio i Weinidogion Cymru.
(10) O dan yr amgylchiadau a amlinellir ym mharagraff (9), os cyflwynir hysbysiad o apêl i Weinidogion Cymru, bydd Rhan 1 o Atodlen 4 a’r paragraffau a ganlyn o Atodlen 4 yn gymwys—
(a)6(3)(b) ac (c),
(b)7(1) a (3), ac
(c)8,
fel pe bai’r hysbysiad o apêl wedi ei gyflwyno o dan baragraff 6(1) o Atodlen 4.
(11) Yn y rheoliad hwn—
ystyr “cais am fferyllfa yn yr arfaeth” (“outstanding pharmacy application”) yw cais a wneir o dan reoliad 15 (ceisiadau i gynnwys person mewn rhestr fferyllol neu i ddiwygio rhestr fferyllol) neu reoliad 18 (ceisiadau am gydsyniad rhagarweiniol ac effaith cydsyniad rhagarweiniol)—
pan fo’r fangre a bennir yn y cais hwnnw o fewn 1.6 cilometr i’r fangre y ceisiwyd cymeradwyaeth mangre ar ei chyfer, a
sydd naill ai—
wedi ei wneud ond heb ei benderfynu eto, gan gynnwys yn dilyn apêl, neu
wedi ei ganiatáu fel y’i diffinnir yn rheoliad 23 (y weithdrefn ar ôl caniatáu cais) ond nid yw darparu gwasanaethau fferyllol o’r fangre honno wedi cychwyn eto;
ystyr “dyddiad dros dro” (“provisional date”) yw’r diwrnod ar ôl diwedd cyfnod o 1 flwyddyn, neu unrhyw gyfnod pellach nad yw’n hwy na 3 mis a benderfynir gan y Bwrdd Iechyd Lleol (a rhaid iddo hysbysu’r meddyg a wnaeth y cais o dan reoliad 30 am unrhyw estyniad) gan ddechrau â’r dyddiad y caniateir y cais yn unol â rheoliad 30(9).
Gwybodaeth Cychwyn
I31Rhl. 31 mewn grym ar 1.10.2021, gweler rhl. 1(3)
Cydsyniad amlinellol a chymeradwyaeth mangre yn darfodLL+C
32.—(1) Bydd y cydsyniad amlinell yn peidio â chael effaith—
(a)pan na fo darparu gwasanaethau gweinyddu wedi cychwyn o fewn 12 mis i gydsyniad amlinellol neu gymeradwyaeth mangre gymryd effaith o dan reoliad 31 (cydsyniad amlinellol a chymeradwyaeth mangre yn cymryd effaith),
(b)pan fo mwy na 12 mis wedi mynd heibio er pan ddarparwyd gwasanaethau gweinyddu ddiwethaf,
(c)pan fo practisau yn cyfuno ac ar ôl cyfuno nid oes mangre practis sydd â chymeradwyaeth mangre, neu
(d)pan fo cydsyniad amlinellol wedi darfod o dan reoliad 31.
(2) Bydd cymeradwyaeth mangre yn peidio â chael effaith mewn perthynas ag—
(a)mangre restredig sydd wedi peidio â bod yn fangre practis yn barhaol,
(b)mangre restredig nas defnyddiwyd ar gyfer gweinyddu gan unrhyw feddyg sydd wedi ei awdurdodi i weinyddu o’r fangre honno am 6 mis neu unrhyw gyfnod hwy a ganiateir am reswm da gan y Bwrdd Iechyd Lleol,
(c)mangre restredig pan fo’r meddyg y mae’r fangre honno wedi ei rhestru o dan ei enw yn y rhestr meddygon fferyllol wedi hysbysu’r Bwrdd Iechyd Lleol fod yr holl feddygon a chanddynt awdurdod i weinyddu o’r fangre honno wedi peidio â gwneud hynny,
(d)mangre restredig pan na fo meddyg a chanddo gymeradwyaeth mangre mewn cysylltiad â’r fangre honno sy’n parhau i fod ar y rhestr meddygon fferyllol, neu
(e)mangre restredig y caniatawyd cymeradwyaeth mangre iddi o dan reoliad 35(3), pan na fo cyfuno practisau yn digwydd o fewn y cyfnod a bennir yn rheoliad 35(7).
(3) Bydd cymeradwyaeth mangre yn peidio â chael effaith pan fo’r cydsyniad amlinellol cysylltiedig yn peidio â chael effaith.
Gwybodaeth Cychwyn
I32Rhl. 32 mewn grym ar 1.10.2021, gweler rhl. 1(3)
Cymeradwyaeth mangre: newid mangre cyn i’r cydsyniad amlinellol gymryd effaithLL+C
33.—(1) Pan—
(a)bo cydsyniad amlinellol wedi ei roi ond nad yw eto wedi cymryd effaith o dan reoliad 31 (cydsyniad amlinellol a chymeradwyaeth mangre yn cymryd effaith), a
(b)cyn y dyddiad dros dro a ddiffinnir yn rheoliad 31(11), fo’r meddyg yn bwriadu newid y fangre practis y mae’n dymuno darparu gwasanaethau fferyllol ohoni,
caiff y meddyg wneud cais yn ysgrifenedig i’r Bwrdd Iechyd Lleol, gan ddarparu’r wybodaeth a nodir yn Rhan 4 o Atodlen 2, i’r Bwrdd Iechyd Lleol benderfynu a ddylid rhoi cymeradwyaeth mangre mewn perthynas â’r fangre newydd, a rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol wneud y penderfyniad yn unol â pharagraff (2).
(2) Os yw’r Bwrdd Iechyd Lleol wedi ei fodloni mai mân adleoliad yw’r newid mangre, caiff ganiatáu’r gymeradwyaeth mangre ar gyfer y fangre newydd honno, ond os nad yw wedi ei fodloni felly, rhaid gwrthod cymeradwyaeth mangre ar gyfer y fangre newydd.
(3) Rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol hysbysu’r personau hynny yr oedd yn ofynnol rhoi hysbysiad iddynt o’r cais a wnaed o dan reoliad 30 (cydsyniad amlinellol a chymeradwyaeth mangre) am ei benderfyniad o dan baragraff (2).
(4) Caiff y ceisydd apelio i Weinidogion Cymru yn erbyn penderfyniad y Bwrdd Iechyd Lleol o dan baragraff (2).
(5) O dan yr amgylchiadau a amlinellir ym mharagraff (4), os cyflwynir hysbysiad o apêl i Weinidogion Cymru, bydd Rhan 1 o Atodlen 4 a’r paragraffau a ganlyn o Atodlen 4 yn gymwys—
(a)6(3)(b) ac (c),
(b)7(1) a (3), ac
(c)8,
fel pe bai’r hysbysiad o apêl wedi ei gyflwyno o dan baragraff 6(1) o Atodlen 4.
(6) Yn y rheoliad hwn—
ystyr “mân adleoliad” yw adleoli mangre practis pan—
bydd y gwasanaethau fferyllol a bennir yn y cais a fyddai wedi cael eu darparu yn y fangre practis a bennir yn y cais gwreiddiol yn cael eu darparu yn y fangre practis newydd, a
na fyddai lleoliad y fangre practis newydd yn llai hygyrch i raddau sylweddol ar gyfer y cleifion sy’n cael mynediad i’r fangre practis a bennir yn y cais gwreiddiol.
Gwybodaeth Cychwyn
I33Rhl. 33 mewn grym ar 1.10.2021, gweler rhl. 1(3)
Cymeradwyaeth mangre: mangreoedd ychwanegol a mangreoedd newydd ar ôl i’r cydsyniad amlinellol gymryd effaithLL+C
34.—(1) Caiff meddyg a chanddo gydsyniad amlinellol sydd wedi cymryd effaith ac sy’n dymuno cael cymeradwyaeth mangre ar gyfer mangre yn ychwanegol at y fangre honno y rhoddwyd cymeradwyaeth mangre mewn cysylltiad â hi (“mangre ychwanegol”) wneud cais ysgrifenedig, gan ddarparu’r wybodaeth a nodir yn Rhan 4 o Atodlen 2, i bob un o’r Byrddau Iechyd Lleol priodol, a bydd y cais yn cael ei benderfynu gan y Bwrdd Iechyd Lleol perthnasol yn unol â pharagraff (2).
(2) Rhaid i gais am fangre ychwanegol gael ei benderfynu gan y Bwrdd Iechyd Lleol perthnasol yn unol â rheoliad 30 (cydsyniad amlinellol a chymeradwyaeth mangre) a rheoliad 31 (cydsyniad amlinellol a chymeradwyaeth mangre yn cael effaith).
(3) At ddibenion y rheoliad hwn—
(a)y “Byrddau Iechyd Lleol priodol” yw’r Byrddau Iechyd Lleol hynny sy’n cadw’r rhestrau meddygol fferyllol y mae’r meddyg sy’n gwneud y cais wedi ei gynnwys ynddynt, a
(b)y “Bwrdd Iechyd Lleol perthnasol” yw’r Bwrdd Iechyd Lleol y mae’r fangre ychwanegol yn ei ardal.
(4) Caiff meddyg sy’n dymuno cael cymeradwyaeth mangre mewn perthynas â mangre (“mangre newydd”) lle y mae’r meddyg yn dymuno gweinyddu, yn lle mangre restredig, wneud cais, gan ddarparu’r wybodaeth a nodir yn Rhan 4 o Atodlen 2, i bob un o’r Byrddau Iechyd Lleol priodol, a bydd y cais yn cael ei benderfynu gan y Bwrdd Iechyd Lleol perthnasol yn unol â pharagraffau (5) a (6).
(5) Yn achos cais am fangre newydd, rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol perthnasol roi hysbysiad o’r cais yn unol â pharagraff 9 o Atodlen 3 a rhaid i gynnwys yr hysbysiad gydymffurfio â pharagraff 10 o’r Atodlen honno.
(6) Yn achos cais am fangre newydd, rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol perthnasol—
(a)caniatáu’r cais, pan fo wedi ei fodloni—
(i)ar gyfer y cleifion sy’n gyfarwydd â chael mynediad i wasanaethau fferyllol yn y fangre bresennol, nad yw lleoliad y fangre newydd yn llai hygyrch i raddau sylweddol, a
(ii)na fyddai caniatáu’r cais yn achosi newid sylweddol yn y trefniadau ar gyfer darparu gwasanaethau fferyllol neu wasanaethau gweinyddu i unrhyw ran o’r ardal reoledig y mae’r fangre newydd ynddi, neu
(b)mewn unrhyw achos, benderfynu’r cais fel pe bai’n gais am gymeradwyaeth mangre a wneir o dan reoliad 30(1)(b).
(7) Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol, oni fydd ganddo reswm da dros beidio â gwneud hynny, wrthod cais o dan baragraff (1) neu (4) os yw cais a wnaed gan y meddyg wedi ei ganiatáu o dan baragraff (6)(a) yn ystod y 12 mis cyn cyflwyno’r cais o dan baragraff (1) neu (4).
(8) Rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol roi hysbysiad o’i benderfyniad o dan baragraff (2) neu baragraff (6)(b) i’r personau y mae’n ofynnol rhoi hysbysiad o’r cais iddynt yn unol â rheoliad 30 a pharagraff 8 o Atodlen 3.
(9) Rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol roi hysbysiad o’i benderfyniad o dan baragraff (6)(a) i’r personau hynny y mae’n ofynnol rhoi hysbysiad iddynt yn unol â pharagraff 15 o Atodlen 3.
(10) Caiff y personau a restrir ym mharagraff 6(1) o Atodlen 4 apelio i Weinidogion Cymru yn erbyn penderfyniad gan y Bwrdd Iechyd Lleol o dan baragraff (2), (6)(a) neu (6)(b).
(11) Yn ddarostyngedig i baragraff (12), bydd y gymeradwyaeth mangre ar gyfer y fangre ychwanegol neu’r fangre newydd yn cymryd effaith o ddyddiad yr hysbysiad o ganiatáu’r gymeradwyaeth mangre, sef—
(a)pan na fo apêl wedi ei gwneud yn erbyn penderfyniad y Bwrdd Iechyd Lleol, y dyddiad ar ôl diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r dyddiad y rhoddir hysbysiad o’r penderfyniad hwnnw o dan baragraff (8) neu baragraff (9), neu
(b)pan fo apêl o’r fath wedi ei gwneud, y dyddiad y mae Gweinidogion Cymru yn rhoi hysbysiad o’u penderfyniad ar yr apêl honno.
(12) Pan—
(a)bo’r gymeradwyaeth mangre wedi ei rhoi mewn perthynas â mangre ychwanegol, a
(b)mewn perthynas â’r fangre y mae’r gymeradwyaeth wedi ei rhoi ar ei chyfer, ar y dyddiad pan roddir y gymeradwyaeth, fo ceisiadau am fferyllfa yn yr arfaeth (fel y’u diffinnir yn rheoliad 31(11)),
bydd y gymeradwyaeth mangre yn cymryd effaith ar y dyddiad sy’n ddiwrnod ar ôl diwedd cyfnod o 1 flwyddyn, neu unrhyw gyfnod pellach (nad yw’n hwy na 3 mis) y caiff y Bwrdd Iechyd Lleol ei ganiatáu am reswm da, ar ôl penderfynu’n derfynol unrhyw gais am fferyllfa yn yr arfaeth.
(13) Caiff y Bwrdd Iechyd Lleol roi cymeradwyaeth mangre dros dro i feddyg a chanddo gydsyniad amlinellol a chymeradwyaeth mangre mewn perthynas â mangre ychwanegol neu fangre newydd pan fo’r Bwrdd Iechyd Lleol yn ystyried y byddai’n diwallu angen am wasanaethau fferyllol, neu am wasanaethau fferyllol o fath penodedig, o fewn yr ardal berthnasol ac sydd wedi ei gynnwys yn yr asesiad perthnasol o anghenion fferyllol ac y mae’r meddyg wedi gwneud cais am gydsyniad amlinellol mewn cysylltiad â hi, ac adnewyddu unrhyw gymeradwyaeth dros dro o’r fath a roddir, a phan fo’n gwneud hynny, rhaid iddo—
(a)hysbysu’r personau hynny yr oedd yn ofynnol, o dan baragraff 8 o Atodlen 3, roi hysbysiad o’r cais iddynt o dan reoliad 30 (cydsyniad amlinellol a chymeradwyaeth mangre) a’r ceiswyr mewn perthynas â’r ceisiadau am fferyllfa yn yr arfaeth,
(b)datgan am ba gyfnod y mae’r gymeradwyaeth mangre dros dro i fod yn gymwys, ac
(c)cynnwys y fangre honno yn y rhestr meddygon fferyllol mewn perthynas â’r meddyg hwnnw.
(14) Caniateir rhoi cymeradwyaeth mangre dros dro am gyfnod nad yw’n hwy na 12 mis, a chaniateir ei hadnewyddu am gyfnod pellach nad yw’n hwy na 3 mis.
(15) Caiff y ceisydd apelio i Weinidogion Cymru yn erbyn penderfyniad gan y Bwrdd Iechyd Lleol o dan baragraff (13).
(16) O dan yr amgylchiadau a amlinellir ym mharagraff (15), os cyflwynir hysbysiad o apêl i Weinidogion Cymru, bydd Rhan 1 o Atodlen 4 a’r paragraffau a ganlyn o Atodlen 4 yn gymwys—
(a)6(3)(b) ac (c),
(b)7(1) a (3), ac
(c)8,
fel pe bai’r hysbysiad o apêl wedi ei gyflwyno o dan baragraff 6(1) o Atodlen 4.
Gwybodaeth Cychwyn
I34Rhl. 34 mewn grym ar 1.10.2021, gweler rhl. 1(3)
Cymeradwyaeth mangre: cyfuno practisauLL+C
35.—(1) Mae cyfuno practisau yn digwydd pan fo dau neu ragor o ddarparwyr gwasanaethau meddygol sylfaenol yn cyfuno fel darparwr gwasanaethau meddygol sylfaenol sengl, ac o ganlyniad, mae dwy neu ragor o restrau cleifion yn cael eu cyfuno.
(2) Yn dilyn cyfuno practisau, os yw pob un o fangreoedd practis y darparwr gwasanaethau meddygol sylfaenol sengl yn fangreoedd a oedd, yn union cyn cyfuno’r practisau, yn fangreoedd rhestredig, bydd y cymeradwyaethau mangre ar gyfer y mangreoedd hynny a’r cydsyniadau amlinellol cysylltiedig yn parhau i gael effaith.
(3) Yn dilyn cyfuno practisau, os nad yw paragraff (2) yn gymwys ond yr oedd gan un neu ragor o’r meddygon a ymunodd â’i gilydd fel y darparwr gwasanaethau meddygol sylfaenol sengl, yn union cyn cyfuno, gymeradwyaeth mangre ar gyfer mangreoedd—
(a)os daw unrhyw un neu ragor o’r mangreoedd hynny yn fangreoedd practis y darparwr gwasanaethau meddygol sylfaenol sengl—
(i)bydd y cymeradwyaethau mangre ar gyfer y mangreoedd a’r cydsyniadau amlinellol cysylltiedig yn parhau i gael effaith, a
(ii)rhaid trin unrhyw geisiadau am gymeradwyaethau mangre ar gyfer mangreoedd practis eraill fel pe baent yn geisiadau am fangreoedd ychwanegol o dan reoliad 34 (cymeradwyaeth mangre: mangreoedd ychwanegol a mangreoedd newydd ar ôl i’r cydsyniad amlinellol gymryd effaith);
(b)os na ddaw yr un o’r mangreoedd hynny yn fangre practis y darparwr gwasanaethau meddygol sylfaenol sengl—
(i)caiff meddyg gyflwyno cais am gymeradwyaeth mangre ar gyfer mangre o dan reoliad 30 (cydsyniad amlinellol a chymeradwyaeth mangre) a chael trin y cais hwnnw fel adleoliad o fangre restredig meddyg a oedd yn rhan o’r cyfuno practisau, a
(ii)mae unrhyw geisiadau am gymeradwyaeth mangre mewn cysylltiad â mangreoedd practis eraill y darparwr gwasanaethau meddygol sylfaenol sengl i’w trin fel pe baent yn geisiadau am fangreoedd ychwanegol o dan reoliad 34.
(4) Caniateir gwneud cais a grybwyllir ym mharagraff (3) cyn neu ar ôl cyfuno’r practisau, a phan fo cyfuno’r practisau yn cymryd effaith cyn i’r cais gael ei benderfynu’n derfynol—
(a)bydd unrhyw gymeradwyaeth mangre sydd mewn effaith ar ddyddiad cyfuno’r practisau yn cael effaith o ddyddiad y cyfuno ymlaen fel pe bai’n gymeradwyaeth mangre dros dro o dan reoliad 34(13) am gyfnod a ddatgenir gan y Bwrdd Iechyd Lleol nad yw’n hwy nag 1 flwyddyn, a
(b)bydd y practis newydd yn cael cymeradwyaeth mangre dros dro o ddyddiad cyfuno’r practisau ymlaen i weinyddu o unrhyw fangre a grybwyllir yn y cais am gyfnod a ddatgenir gan y Bwrdd Iechyd Lleol nad yw’n hwy nag 1 flwyddyn.
(5) Pan fo’r cyfuno practisau yn cymryd effaith, rhaid i’r meddygon hysbysu’r holl Fyrddau Iechyd Lleol y mae’r practis cyfunedig yn eu hardaloedd fod y cyfuno practisau wedi digwydd.
(6) Yn ddarostyngedig i baragraff (7), pan fo cais a wnaed o dan baragraff (3) wedi ei ganiatáu cyn i’r cyfuno practisau ddigwydd, bydd y gymeradwyaeth mangre yn cymryd effaith o ddyddiad cyfuno’r practisau ymlaen.
(7) Pan fo cais wedi ei wneud o dan baragraff (3) cyn i’r cyfuno practisau ddigwydd, ac nad yw’r cyfuno practisau wedi digwydd cyn diwedd cyfnod o 1 flwyddyn gan ddechrau â’r dyddiad y rhoddwyd cymeradwyaeth mangre o dan y paragraff hwnnw, bydd y gymeradwyaeth mangre honno yn darfod.
(8) Pan fo cais o dan baragraff (3) am gymeradwyaeth mangre wedi ei wrthod, naill ai ar gyfer pob mangre neu unrhyw un neu ragor o’r mangreoedd a bennir yn y cais, pa un ai cyn neu ar ôl i’r cyfuno practisau ddigwydd, bydd gan y meddygon yr oedd ganddynt gymeradwyaeth mangre cyn gwneud y cais, ac unrhyw feddyg arall yn y practis newydd ar ôl y dyddiad hwnnw, gymeradwyaeth mangre weddilliol.
(9) At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr “cymeradwyaeth mangre weddilliol” yw cymeradwyaeth mangre i ddarparu gwasanaethau fferyllol—
(a)o fangre yr oedd gan y meddyg, neu feddyg arall yn y practis, gymeradwyaeth mangre mewn cysylltiad â hi ar yr adeg y gwnaed y cais mewn perthynas â chyfuno practisau, a
(b)i glaf sy’n dod o fewn rheoliad 26(1) y mae’r meddyg sy’n gwneud y cais yn darparu gwasanaethau fferyllol iddo, ond gan eithrio unrhyw glaf o’r fath sy’n peidio â bod yn glaf a grybwyllir yn rheoliad 26(1)(b) neu (c).
(10) At ddibenion paragraff (9), mae rheoliad 26(1)(b) neu (c) i’w ddarllen fel pe bai’r geiriau “, ac mae’r amodau a bennir ym mharagraff (4) wedi eu bodloni” wedi eu hepgor.
(11) Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol wedi penderfynu cais am gymeradwyaeth mangre o dan baragraff (3), penderfynir ar y personau a gaiff wneud apêl i Weinidogion Cymru yn unol ag—
(a)rheoliad 34 mewn cysylltiad â chais o dan baragraff (3)(a)(ii) neu (b)(ii), neu
(b)rheoliad 30 mewn cysylltiad â chais o dan baragraff (3)(b)(i).
(12) Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol wedi penderfynu cais o dan baragraff (4), caiff y ceisydd wneud apêl i Weinidogion Cymru.
(13) O dan yr amgylchiadau a amlinellir ym mharagraff (12), os cyflwynir hysbysiad o apêl i Weinidogion Cymru, bydd Rhan 1 o Atodlen 4 a’r paragraffau a ganlyn o Atodlen 4 yn gymwys—
(a)6(3)(b),
(b)7(1) a (3), ac
(c)8,
fel pe bai’r hysbysiad o apêl wedi ei gyflwyno o dan baragraff 6(1) o Atodlen 4.
Gwybodaeth Cychwyn
I35Rhl. 35 mewn grym ar 1.10.2021, gweler rhl. 1(3)
RHAN 7LL+CSeiliau addasrwydd, cynnwys enw person mewn rhestrau fferyllol a dileu enw person o restrau fferyllol
Gohirio ceisiadau ar sail addasrwyddLL+C
36.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i geisiadau a wneir o dan—
(a)rheoliad 15(1)(a) (ceisiadau i gynnwys person mewn rhestr fferyllol neu i ddiwygio rhestr fferyllol), ac eithrio pan wneir y cais gan berson a chanddo gydsyniad rhagarweiniol dilys yn unol â rheoliad 18(5), a
(b)rheoliad 18 (ceisiadau am gydsyniad rhagarweiniol) pan na fo’r ceisydd eisoes wedi ei gynnwys yn rhestr fferyllol y Bwrdd Iechyd Lleol hwnnw.
(2) Caiff Bwrdd Iechyd Lleol ohirio ystyried neu benderfynu cais pan—
(a)bo achos troseddol yn y Deyrnas Unedig neu achos yn rhywle arall yn y byd sy’n ymwneud ag ymddygiad a fyddai, yn y Deyrnas Unedig, yn drosedd, mewn cysylltiad ag—
(i)y ceisydd (a phan fo’r ceisydd yn gorff corfforedig, mewn cysylltiad â’r ceisydd neu gyfarwyddwr neu uwcharolygydd y ceisydd), neu
(ii)corff corfforedig y mae’r ceisydd yn gyfarwyddwr neu’n uwcharolygydd ohono, neu wedi bod yn gyfarwyddwr neu’n uwcharolygydd ohono yn y 6 mis blaenorol, neu a oedd ar adeg y digwyddiadau cychwynnol yn gyfarwyddwr neu’n uwcharolygydd ohono, a fyddai, pe bai’n arwain at euogfarn, neu’r hyn sy’n cyfateb i euogfarn, yn debygol o arwain at ddileu enw’r ceisydd o restr fferyllol y Bwrdd Iechyd Lleol, pe bai’r ceisydd wedi ei gynnwys ynddi;
(b)bo ymchwiliad mewn unrhyw le yn y byd gan gorff sy’n trwyddedu neu’n rheoleiddio’r ceisydd (neu pan fo’r ceisydd yn gorff corfforedig, unrhyw gyfarwyddwr neu uwcharolygydd i’r ceisydd), neu unrhyw ymchwiliad arall (gan gynnwys ymchwiliad gan Fwrdd Iechyd Lleol arall neu gorff cyfatebol) sy’n ymwneud â gallu proffesiynol y ceisydd, a fyddai, pe bai’r canlyniad yn anffafriol, yn debygol o arwain at ddileu enw’r ceisydd o restr fferyllol y Bwrdd Iechyd Lleol, pe bai’r ceisydd wedi ei gynnwys ynddi;
(c)bo’r ceisydd (a phan fo’r ceisydd yn gorff corfforedig, unrhyw gyfarwyddwr neu uwcharolygydd i’r ceisydd) wedi ei atal dros dro o restr berthnasol;
(d)bo corff corfforedig yr oedd y ceisydd (a phan fo’r ceisydd yn gorff corfforedig, unrhyw gyfarwyddwr neu uwcharolygydd i’r ceisydd), ar adeg y digwyddiadau cychwynnol, yn gyfarwyddwr neu’n uwcharolygydd ohono, wedi ei atal dros dro o restr berthnasol;
(e)bo’r Tribiwnlys yn ystyried apêl gan y ceisydd (neu pan fo’r ceisydd yn gorff corfforedig, unrhyw gyfarwyddwr neu uwcharolygydd i’r ceisydd) yn erbyn penderfyniad gan Fwrdd Iechyd Lleol neu gorff cyfatebol—
(i)i wrthod cais gan y ceisydd i’w gynnwys mewn rhestr berthnasol,
(ii)i gynnwys y ceisydd yn amodol mewn rhestr berthnasol, neu i ddileu enw’r ceisydd neu ddileu enw’r ceisydd yn ddigwyddiadol o restr berthnasol, neu
(iii)i wrthod cais gan y ceisydd am gydsyniad rhagarweiniol i’w gynnwys mewn rhestr fferyllol a gedwir gan Fwrdd Iechyd Lleol neu gorff cyfatebol,
a phe bai’r apêl honno yn aflwyddiannus, byddai’r Bwrdd Iechyd Lleol yn debygol o ddileu enw’r ceisydd o’r rhestr fferyllol pe bai’r ceisydd wedi ei gynnwys ynddi;
(f)bo’r Tribiwnlys yn ystyried apêl gan gorff corfforedig yr oedd y ceisydd (a phan fo’r ceisydd yn gorff corfforedig, unrhyw gyfarwyddwr neu uwcharolygydd i’r ceisydd), ar adeg y digwyddiadau cychwynnol, neu yn ystod y 6 mis blaenorol, yn gyfarwyddwr neu’n uwcharolygydd ohono, yn erbyn penderfyniad gan Fwrdd Iechyd Lleol neu gorff cyfatebol—
(i)i wrthod cais gan y corff corfforedig hwnnw i’w gynnwys mewn rhestr berthnasol,
(ii)i wrthod cais gan y corff corfforedig hwnnw am gydsyniad rhagarweiniol i’w gynnwys mewn rhestr fferyllol a gedwir gan Fwrdd Iechyd Lleol neu gorff cyfatebol, neu
(iii)i’w gynnwys yn amodol mewn unrhyw restr berthnasol, neu i ddileu enw’r ceisydd neu ddileu enw’r ceisydd yn ddigwyddiadol o unrhyw restr berthnasol,
a phe bai’r apêl honno yn aflwyddiannus, byddai’r Bwrdd Iechyd Lleol yn debygol o ddileu enw’r ceisydd o’r rhestr fferyllol pe bai’r ceisydd wedi ei gynnwys ynddi;
(g)bo’r ceisydd (a phan fo’r ceisydd yn gorff corfforedig, unrhyw gyfarwyddwr neu uwcharolygydd i’r ceisydd) yn destun ymchwiliad mewn perthynas ag unrhyw dwyll, ac y byddai’r canlyniad, pe bai’n anffafriol, yn debygol o arwain at ddileu enw’r ceisydd o’r rhestr fferyllol pe bai’r ceisydd wedi ei gynnwys ynddi;
(h)bo corff corfforedig yr oedd y ceisydd (a phan fo’r ceisydd yn gorff corfforedig, unrhyw gyfarwyddwr neu uwcharolygydd i’r ceisydd), ar adeg y digwyddiadau cychwynnol, yn gyfarwyddwr neu’n uwcharolygydd ohono, yn destun ymchwiliad mewn perthynas â thwyll, ac y byddai’r canlyniad, pe bai’n anffafriol, yn debygol o arwain at ddileu enw’r ceisydd o’r rhestr fferyllol pe bai’r corff corfforedig wedi ei gynnwys ynddi;
(i)bo’r Tribiwnlys yn ystyried cais gan Fwrdd Iechyd Lleol neu gorff cyfatebol am anghymhwysiad cenedlaethol o’r ceisydd (a phan fo’r ceisydd yn gorff corfforedig, unrhyw gyfarwyddwr neu uwcharolygydd i’r ceisydd) neu o gorff corfforedig yr oedd y ceisydd (a phan fo’r ceisydd yn gorff corfforedig, unrhyw gyfarwyddwr neu uwcharolygydd i’r ceisydd) ar adeg y digwyddiadau cychwynnol, yn gyfarwyddwr neu’n uwcharolygydd ohono;
(j)bo Bwrdd Iechyd Lleol neu gorff cyfatebol, am reswm sy’n ymwneud â thwyll, anaddasrwydd neu effeithlonrwydd darpariaeth gwasanaethau—
(i)yn ystyried dileu enw’r ceisydd (ac eithrio ei ddileu yn wirfoddol) neu ddileu enw’r ceisydd yn ddigwyddiadol o restr berthnasol, neu
(ii)wedi gwneud penderfyniad i ddileu enw’r ceisydd (ac eithrio ei ddileu yn wirfoddol) neu ddileu enw’r ceisydd yn ddigwyddiadol o restr berthnasol ond nad yw’r penderfyniad hwnnw eto wedi cymryd effaith.
(3) Ni chaiff Bwrdd Iechyd Lleol ohirio penderfyniad o dan baragraff (2) ond hyd nes bod yr achos, yr ymchwiliadau neu’r ceisiadau a grybwyllir yn y paragraff hwnnw wedi eu cwblhau neu hyd nes nad yw’r rheswm dros ohirio yn bodoli mwyach.
(4) Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol, cyn gynted ag y bo’n ymarferol, hysbysu’r ceisydd yn ysgrifenedig am benderfyniad i ohirio ystyried neu benderfynu’r cais, ac am y rhesymau dros hyn.
(5) Unwaith y bydd yr achos, yr ymchwiliadau neu’r ceisiadau a grybwyllir ym mharagraff (2) wedi eu cwblhau, rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol hysbysu’r ceisydd—
(a)bod rhaid i’r ceisydd, o fewn 30 o ddiwrnodau i ddyddiad yr hysbysiad (neu unrhyw gyfnod hwy a gytunir gan y Bwrdd Iechyd Lleol), gadarnhau yn ysgrifenedig ei fod yn dymuno bwrw ymlaen â’r cais, a
(b)y caiff y ceisydd ddiweddaru’r cais, os yw’n dymuno gwneud hynny, o fewn 30 o ddiwrnodau i ddyddiad yr hysbysiad (neu unrhyw gyfnod hwy a gytunir gan y Bwrdd Iechyd Lleol).
(6) Os nad yw’r ceisydd yn cadarnhau ei fod yn dymuno bwrw ymlaen â’r cais yn unol â pharagraff (5), rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol farnu bod y cais wedi ei dynnu’n ôl gan y ceisydd.
Gwybodaeth Cychwyn
I36Rhl. 36 mewn grym ar 1.10.2021, gweler rhl. 1(3)
Gwrthod ceisiadau ar sail addasrwyddLL+C
37.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i geisiadau a wneir o dan—
(a)rheoliad 15(1)(a) (ceisiadau i gynnwys person mewn rhestr fferyllol neu i ddiwygio rhestr fferyllol), ac eithrio pan fo’r cais wedi ei wneud gan berson a chanddo gydsyniad rhagarweiniol dilys yn unol â rheoliad 18(5), a
(b)rheoliad 18 (ceisiadau am gydsyniad rhagarweiniol ac effaith cydsyniad rhagarweiniol) pan na fo’r ceisydd eisoes wedi ei gynnwys yn rhestr fferyllol y Bwrdd Iechyd Lleol hwnnw.
(2) Caiff Bwrdd Iechyd Lleol wrthod caniatáu cais pan fo’r Bwrdd Iechyd Lleol—
(a)ar ôl ystyried yr wybodaeth a’r ymgymeriadau sy’n ofynnol gan Ran 2 o Atodlen 2 ac unrhyw wybodaeth arall sydd yn ei feddiant mewn perthynas â’r cais, yn ystyried bod y ceisydd yn anaddas i’w gynnwys yn ei restr fferyllol,
(b)ar ôl cysylltu â’r canolwyr a enwebwyd gan y ceisydd yn unol â Rhan 2 o Atodlen 2, heb ei fodloni gan y geirdaon a roddwyd,
(c)ar ôl gwirio gydag Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG ynghylch unrhyw ffeithiau y mae’r Bwrdd Iechyd Lleol yn ystyried eu bod yn berthnasol mewn perthynas ag ymchwiliadau i dwyll, ar hyn o bryd neu yn y gorffennol, sy’n ymwneud â’r ceisydd neu sy’n gysylltiedig ag ef (a phan fo’r ceisydd yn gorff corfforedig, unrhyw gyfarwyddwr neu uwcharolygydd i’r ceisydd), ac ar ôl ystyried y ffeithiau hyn ac unrhyw ffeithiau eraill sydd yn ei feddiant mewn perthynas â thwyll sy’n ymwneud â’r ceisydd neu sy’n gysylltiedig ag ef (a phan fo’r ceisydd yn gorff corfforedig, unrhyw gyfarwyddwr neu uwcharolygydd i’r ceisydd), yn ystyried eu bod yn cyfiawnhau gwrthodiad o’r fath,
(d)ar ôl gwirio gyda Gweinidogion Cymru ynghylch unrhyw ffeithiau y maent yn ystyried eu bod yn berthnasol mewn perthynas ag ymchwiliadau neu achosion, ar hyn o bryd neu yn y gorffennol, sy’n ymwneud â’r ceisydd neu sy’n gysylltiedig ag ef (a phan fo’r ceisydd yn gorff corfforedig, unrhyw gyfarwyddwr neu uwcharolygydd i’r ceisydd), ac ar ôl ystyried y ffeithiau hyn ac unrhyw ffeithiau eraill sydd yn ei feddiant sy’n ymwneud â’r ceisydd neu sy’n gysylltiedig ag ef (a phan fo’r ceisydd yn gorff corfforedig, unrhyw gyfarwyddwr neu uwcharolygydd i’r ceisydd), yn ystyried eu bod yn cyfiawnhau gwrthodiad o’r fath, neu
(e)yn ystyried y byddai derbyn y ceisydd i’r rhestr yn niweidio effeithlonrwydd y gwasanaeth fferyllol y byddai’r ceisydd yn ymgymryd â’i ddarparu.
(3) Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol wrthod caniatáu cais pan—
(a)bo’r ceisydd (neu pan fo’r ceisydd yn gorff corfforedig, unrhyw gyfarwyddwr neu uwcharolygydd i’r ceisydd) wedi ei euogfarnu yn y Deyrnas Unedig o lofruddiaeth,
(b)bo’r ceisydd (neu pan fo’r ceisydd yn gorff corfforedig, unrhyw gyfarwyddwr neu uwcharolygydd i’r ceisydd) wedi ei euogfarnu yn y Deyrnas Unedig o drosedd, ac eithrio llofruddiaeth, a gyflawnwyd ar ôl y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym, ac wedi ei ddedfrydu i gyfnod hwy na 6 mis o garchar,
(c)bo’r ceisydd yn destun anghymhwysiad cenedlaethol, neu
(d)bo’r Tribiwnlys, yn dilyn apêl, yn penderfynu y caniateir cynnwys y ceisydd yn y rhestr fferyllol yn ddarostyngedig i amodau ond nad yw’r ceisydd, o fewn 30 o ddiwrnodau i’r penderfyniad hwnnw, wedi hysbysu’r Bwrdd Iechyd Lleol ei fod yn cytuno i’r amodau gael eu gosod.
(4) Pan fo’r Bwrdd Iechyd Lleol yn ystyried gwrthod cais o dan baragraff (2), rhaid iddo ystyried yr holl ffeithiau y mae’n ymddangos iddo eu bod yn berthnasol, ac yn benodol, mewn perthynas â pharagraff (2)(a), (c) a (d), rhaid iddo ystyried—
(a)natur unrhyw drosedd, ymchwiliad neu ddigwyddiad,
(b)yr amser a aeth heibio ers unrhyw drosedd, digwyddiad, euogfarn neu ymchwiliad,
(c)a oes unrhyw droseddau, digwyddiadau neu ymchwiliadau eraill i’w hystyried,
(d)unrhyw gamau gweithredu a gymerwyd neu gosb a osodwyd gan unrhyw gorff trwyddedu neu reoleiddio, gan yr heddlu neu’r llysoedd o ganlyniad i unrhyw drosedd, digwyddiad neu ymchwiliad o’r fath,
(e)pa mor berthnasol yw unrhyw drosedd, ymchwiliad neu ddigwyddiad i’r ddarpariaeth gan y ceisydd o wasanaethau fferyllol ac unrhyw risg debygol i ddefnyddwyr gwasanaethau fferyllol neu i arian cyhoeddus,
(f)a oedd unrhyw drosedd yn drosedd rywiol y mae Rhan 2 o Ddeddf Troseddau Rhywiol 2003(31) yn gymwys iddi, neu a fyddai wedi bod yn gymwys pe bai’r drosedd wedi ei chyflawni yng Nghymru a Lloegr,
(g)a yw’r ceisydd (a phan fo’r ceisydd yn gorff corfforedig, unrhyw gyfarwyddwr neu uwcharolygydd i’r ceisydd) wedi ei wrthod rhag ei gynnwys mewn unrhyw restr neu restr gyfatebol, neu wedi ei gynnwys ynddi yn amodol, neu a yw enw’r ceisydd wedi ei ddileu ohoni, neu wedi ei ddileu ohoni yn ddigwyddiadol, neu a yw’r ceisydd ar hyn o bryd wedi ei atal oddi arni dros dro, ar sail addasrwydd i ymarfer, ac os felly, y ffeithiau mewn perthynas â’r mater a arweiniodd at weithredu felly, a’r rhesymau a roddwyd gan y Bwrdd Iechyd Lleol neu gorff cyfatebol dros weithredu felly, neu
(h)a fu’r ceisydd (a phan fo’r ceisydd yn gorff corfforedig, unrhyw gyfarwyddwr neu uwcharolygydd i’r ceisydd) ar adeg y digwyddiadau cychwynnol, neu yn ystod y 6 mis blaenorol, yn gyfarwyddwr neu’n uwcharolygydd corff corfforedig y gwrthodwyd ei gynnwys mewn unrhyw restr neu restr gyfatebol, neu a gynhwyswyd yn amodol mewn rhestr o’r fath, neu y dilëwyd ei enw neu y dilëwyd ei enw yn ddigwyddiadol o unrhyw restr neu restr gyfatebol, neu sydd ar hyn o bryd wedi ei atal oddi arni dros dro, ar sail addasrwydd i ymarfer, ac os felly, beth oedd y ffeithiau ym mhob achos o’r fath, a’r rhesymau a roddwyd gan y Bwrdd Iechyd Lleol neu’r corff cyfatebol ym mhob achos.
(5) Pan fo’r Bwrdd Iechyd Lleol yn ystyried y materion a nodir ym mharagraff (4), rhaid iddo ystyried effaith gyffredinol y materion sy’n cael eu hystyried.
(6) Os yw Bwrdd Iechyd Lleol yn gwrthod cais y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo, ar sail ym mharagraff (2) neu (3), rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol hysbysu’r ceisydd am y penderfyniad hwnnw, a chynnwys gyda’r hysbysiad esboniad o’r canlynol—
(a)y rhesymau dros y penderfyniad,
(b)hawl y ceisydd i apelio i’r Tribiwnlys yn erbyn y penderfyniad, ac
(c)o fewn pa derfyn amser, yn unol â Rheolau Gweithdrefn y Tribiwnlysoedd (Tribiwnlys yr Haen Gyntaf) (Y Siambr Iechyd, Addysg a Gofal Cymdeithasol) 2008(32), y mae rhaid anfon hysbysiad o’r cais i’r Tribiwnlys os bwriedir dwyn apêl.
Gwybodaeth Cychwyn
I37Rhl. 37 mewn grym ar 1.10.2021, gweler rhl. 1(3)
Cynnwys person yn amodol ar sail addasrwyddLL+C
38.—(1) Caiff Bwrdd Iechyd Lleol sy’n cael cais gan berson—
(a)o dan reoliad 15(1)(a) (ceisiadau i gynnwys person mewn rhestr fferyllol neu i ddiwygio rhestr fferyllol), ac eithrio pan fo’r cais wedi ei wneud gan berson y rhoddwyd cydsyniad rhagarweiniol iddo o dan reoliad 18 (ceisiadau am gydsyniad rhagarweiniol ac effaith cydsyniad rhagarweiniol) a bod y cydsyniad rhagarweiniol yn ddilys yn unol â rheoliad 18(5), neu
(b)o dan reoliad 18 pan na fo’r ceisydd eisoes wedi ei gynnwys yn rhestr fferyllol y Bwrdd Iechyd Lleol hwnnw,
benderfynu y bydd y person, tra ei fod wedi ei gynnwys yn y rhestr fferyllol neu tra bo ei gydsyniad rhagarweiniol yn ddilys, yn ddarostyngedig i osod amodau gan roi sylw i ofynion adran 104 (cynnwys yn amodol mewn rhestrau offthalmig a fferyllol) o Ddeddf 2006.
(2) Caiff Bwrdd Iechyd Lleol amrywio’r telerau gwasanaeth y cynhwysir person yn unol â hwy yn y rhestr fferyllol at ddiben paragraff (1).
(3) Rhaid i amod a osodir o dan baragraff (1) fod yn amod a osodir gyda’r bwriad o—
(a)rhwystro unrhyw niwed i effeithlonrwydd y gwasanaethau fferyllol, neu unrhyw un neu ragor o’r gwasanaethau, y mae’r person wedi ymgymryd â’u darparu, neu
(b)rhwystro unrhyw weithred neu anweithred o fewn adran 107(3)(a) o Ddeddf 2006 (anghymhwyso ymarferwyr).
(4) Os yw Bwrdd Iechyd Lleol yn penderfynu caniatáu cais yn ddarostyngedig i amod a osodir o dan baragraff (1), rhaid iddo hysbysu’r person am y penderfyniad hwnnw a rhaid iddo gynnwys gyda’r hysbysiad esboniad o’r canlynol—
(a)y rhesymau dros y penderfyniad,
(b)hawl y person i apelio i’r Tribiwnlys yn erbyn ei benderfyniad,
(c)o fewn pa derfyn amser, yn unol â Rheolau Gweithdrefn y Tribiwnlysoedd (Tribiwnlys yr Haen Gyntaf) (Y Siambr Iechyd, Addysg a Gofal Cymdeithasol) 2008, y mae rhaid anfon hysbysiad o’r cais i’r Tribiwnlys os bwriedir dwyn apêl, a
(d)effaith paragraff (5).
(5) Os yw’r person, yn unol â rheoliad 23(2), yn darparu hysbysiad o gychwyn cyn bo’r Tribiwnlys wedi penderfynu apêl yn erbyn amod a osodwyd o dan baragraff (1), mae’r person hwnnw i’w gynnwys yn y rhestr fferyllol yn ddarostyngedig i’r amod, ond dim ond hyd nes canlyniad yr apêl os bydd yr apêl yn llwyddiannus.
(6) Mae’r apêl i fod ar ffurf ailbenderfynu—
(a)penderfyniad y Bwrdd Iechyd Lleol i osod yr amod, a
(b)os yw’r person, ar yr adeg y penderfynir yr apêl, wedi ei gynnwys yn y rhestr fferyllol, unrhyw benderfyniad o dan baragraff (2) i amrywio telerau gwasanaeth y person hwnnw at ddiben gosod yr amod neu mewn cysylltiad â’i osod.
(7) Os nad yw’r person wedi ei gynnwys yn y rhestr fferyllol ar yr adeg y penderfynir yr apêl a bod y Tribiwnlys—
(a)yn cadarnhau penderfyniad y Bwrdd Iechyd Lleol, neu
(b)yn gosod amod gwahanol,
rhaid i’r person, o fewn 30 o ddiwrnodau i gael ei hysbysu am benderfyniad y Tribiwnlys, hysbysu’r Bwrdd Iechyd Lleol ynghylch pa un a yw’r person yn dymuno tynnu ei gais yn ôl ai peidio.
(8) Os yw’r person, o dan yr amgylchiadau a ddisgrifir ym mharagraff (7), yn methu â hysbysu’r Bwrdd Iechyd Lleol o fewn y cyfnod hwnnw o 30 o ddiwrnodau nad yw’n dymuno tynnu ei gais yn ôl, mae’r penderfyniad i ganiatáu cais y person hwnnw yn darfod.
(9) Pan fo person yn dymuno tynnu’n ôl o restr fferyllol, rhaid i’r person hwnnw hysbysu’r Bwrdd Iechyd Lleol o leiaf 30 o ddiwrnodau cyn y dyddiad hwnnw—
(a)os yw amod wedi ei osod o dan baragraff (1),
(b)os yw’r person yn apelio i’r Tribiwnlys yn erbyn yr amod hwnnw,
(c)os yw’r Tribiwnlys, yn dilyn apêl, yn cadarnhau’r penderfyniad i osod yr amod hwnnw neu’n gosod amod arall, a
(d)os yw’r person, o fewn 30 o ddiwrnodau i gael gwybod am benderfyniad y Tribiwnlys, yn hysbysu’r Bwrdd Iechyd Lleol ei fod yn dymuno tynnu’n ôl o restr fferyllol y Bwrdd Iechyd Lleol,
oni bai ei bod yn anymarferol i’r person wneud hynny, ac os felly, rhaid i’r person hysbysu’r Bwrdd Iechyd Lleol cyn gynted ag y bo’n ymarferol iddo wneud hynny.
Gwybodaeth Cychwyn
I38Rhl. 38 mewn grym ar 1.10.2021, gweler rhl. 1(3)
Dileu enw person o restr fferyllol am dorri amodau ar sail addasrwydd neu osod neu amrywio neu osod amodau newydd o dan adran 108 o Ddeddf 2006LL+C
39.—(1) Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol yn ystyried—
(a)dileu enw person o’r rhestr fferyllol o dan adran 107 (datgymhwyso ymarferwyr) o Ddeddf 2006, ac eithrio mewn achosion a bennir yn rheoliad 40 (dileu enw person o restr fferyllol am resymau eraill),
(b)dileu enw person yn ddigwyddiadol o’r rhestr fferyllol o dan adran 108 (dileu yn ddigwyddiadol) o Ddeddf 2006,
(c)dileu enw person o’r rhestr fferyllol am dorri amod a osodwyd o dan adran 108 o Ddeddf 2006,
(d)gosod unrhyw amod penodol o dan adran 108 o Ddeddf 2006, neu amrywio unrhyw amod neu osod amod gwahanol o dan yr adran honno, neu amrywio telerau gwasanaeth person o dan adran 108(4) o Ddeddf 2006, neu
(e)dileu enw person o’r rhestr fferyllol am dorri amod o dan reoliad 38 (cynnwys person yn amodol ar sail addasrwydd),
ar sail addasrwydd, rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol ddilyn y weithdrefn a nodir yn y rheoliad hwn.
(2) Cyn cymryd cam gweithredu a bennir ym mharagraff (1), rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol roi i’r person—
(a)hysbysiad o unrhyw honiad a wnaed yn ei erbyn,
(b)hysbysiad o’r camau gweithredu y mae’r Bwrdd Iechyd Lleol yn ystyried eu cymryd, ac ar ba sail,
(c)y cyfle i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig o fewn 30 o ddiwrnodau gan ddechrau ar y dyddiad y rhoddir yr hysbysiad o dan y paragraff hwn, a
(d)y cyfle i gyflwyno ei achos mewn gwrandawiad llafar gerbron y Bwrdd Iechyd Lleol, os yw’r person yn gofyn am hynny o fewn y cyfnod o 30 o ddiwrnodau a grybwyllir yn is-baragraff (c).
(3) Os yw’r Bwrdd Iechyd Lleol yn cael sylwadau neu gais am wrandawiad llafar o fewn y cyfnod a bennir ym mharagraff (2)(c), rhaid iddo ystyried y sylwadau neu gynnal y gwrandawiad, yn ôl y digwydd, cyn gwneud ei benderfyniad.
(4) Unwaith y bydd y Bwrdd Iechyd Lleol wedi gwneud penderfyniad, rhaid iddo hysbysu’r person am y penderfyniad hwnnw, a chynnwys gyda’r hysbysiad esboniad o’r canlynol—
(a)y rhesymau dros y penderfyniad,
(b)hawl y person i apelio i’r Tribiwnlys yn erbyn ei benderfyniad, ac
(c)o fewn pa derfyn amser, yn unol â Rheolau Gweithdrefn y Tribiwnlysoedd (Tribiwnlys yr Haen Gyntaf) (Y Siambr Iechyd, Addysg a Gofal Cymdeithasol) 2008, y mae rhaid anfon hysbysiad o’r cais i’r Tribiwnlys os bwriedir dwyn apêl.
(5) Pan fo’r Bwrdd Iechyd Lleol wedi penderfynu dileu enw person yn ddigwyddiadol, rhaid iddo roi gwybod i’r person am ei hawl i gael adolygiad o’r penderfyniad yn unol ag adran 113 (adolygu penderfyniadau) o Ddeddf 2006.
(6) Ni chaiff y Bwrdd Iechyd Lleol ddileu enw person o’r rhestr fferyllol, na dileu ei enw yn ddigwyddiadol, hyd nes bod yr amser ar gyfer dwyn apêl wedi dod i ben neu, pan fo apêl wedi ei gwneud, hyd nes bod yr apêl wedi ei phenderfynu gan y Tribiwnlys.
(7) Pan fo’r Tribiwnlys yn hysbysu Bwrdd Iechyd Lleol bod y Tribiwnlys wedi ystyried—
(a)apêl gan berson yn erbyn dileu enw yn ddigwyddiadol a bod y Tribiwnlys wedi penderfynu, yn hytrach, ddileu enw’r person o’r rhestr fferyllol, neu
(b)apêl gan berson sy’n ddarostyngedig i amodau o dan reoliad 38, a bod y Tribiwnlys wedi penderfynu peidio â chynnwys y person yn y rhestr fferyllol honno,
rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol ddileu enw’r person o’i restr fferyllol a hysbysu’r person ar unwaith ei fod wedi gwneud hynny.
Gwybodaeth Cychwyn
I39Rhl. 39 mewn grym ar 1.10.2021, gweler rhl. 1(3)
Dileu enw person o restr fferyllol am resymau eraillLL+C
40.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol ddileu enw person o restr fferyllol a gynhelir ganddo pan fo’n dod yn ymwybodol bod y person (a phan fo’r person yn gorff corfforedig, unrhyw gyfarwyddwr neu uwcharolygydd i’r corff hwnnw)—
(a)wedi ei euogfarnu yn y Deyrnas Unedig o lofruddiaeth,
(b)wedi ei euogfarnu yn y Deyrnas Unedig o drosedd a gyflawnwyd ar ôl y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym, ac wedi ei ddedfrydu i gyfnod o garchar sy’n hwy na 6 mis, neu
(c)yn ddarostyngedig i anghymhwysiad cenedlaethol.
(2) Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol yn ystyried dileu enw person o’i restr fferyllol ar sail a gynhwysir ym mharagraff (1), rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol, cyn gwneud ei benderfyniad—
(a)hysbysu’r person am y camau gweithredu y mae’n ystyried eu cymryd a’r sail dros ystyried cymryd y camau gweithredu hynny, a
(b)fel rhan o’r hysbysiad hwnnw—
(i)rhoi gwybod i’r person am unrhyw honiad a wnaed yn ei erbyn, a
(ii)rhoi gwybod i’r person y caiff—
(aa)cyflwyno sylwadau ysgrifenedig i’r Bwrdd Iechyd Lleol ynghylch y camau gweithredu hynny ar yr amod bod y Bwrdd Iechyd Lleol yn cael y sylwadau hynny o fewn 30 o ddiwrnodau gan ddechrau â dyddiad yr hysbysiad gan y Bwrdd Iechyd Lleol, a
(bb)cyflwyno sylwadau llafar i’r Bwrdd Iechyd Lleol o ran y camau gweithredu hynny, ar yr amod bod y person yn hysbysu’r Bwrdd Iechyd Lleol am ei ddymuniad i gyflwyno sylwadau llafar o fewn 30 o ddiwrnodau gan ddechrau â dyddiad yr hysbysiad gan y Bwrdd Iechyd Lleol, a bod y person (neu gynrychiolydd) yn bresennol yn y gwrandawiad y mae’r Bwrdd Iechyd Lleol yn ei drefnu at ddibenion clywed y sylwadau hynny, ac
(c)mewn achos y mae paragraff (1)(a) neu (b) yn gymwys iddo, os yw’r person yn gorff corfforedig, roi gwybod iddo na fydd y Bwrdd Iechyd Lleol yn dileu enw’r corff corfforedig o’i restr fferyllol o ganlyniad i baragraff (1)(a) neu (b) (heb ragfarnu unrhyw gam gweithredu arall y caiff y Bwrdd Iechyd Lleol ei gymryd), ar yr amod—
(i)bod y cyfarwyddwr neu’r uwcharolygydd o dan sylw yn peidio â bod yn gyfarwyddwr neu’n uwcharolygydd i’r corff corfforedig o fewn y cyfnod o 30 o ddiwrnodau gan ddechrau â dyddiad yr hysbysiad, a
(ii)bod y corff corfforedig yn hysbysu’r Bwrdd Iechyd Lleol, o fewn y cyfnod hwnnw, am y dyddiad y mae’r cyfarwyddwr neu’r uwcharolygydd wedi peidio â bod, neu y dyddiad y bydd yn peidio â bod, yn gyfarwyddwr neu’n uwcharolygydd i’r corff corfforedig.
(3) Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol ddileu enw person o restr fferyllol—
(a)os nad yw’r person, yn ystod y 6 mis blaenorol, wedi darparu gwasanaethau fferyllol o’r fangre y mae’r person wedi ei gynnwys yn y rhestr fferyllol mewn cysylltiad â hi (ond wrth gyfrifo’r cyfnod o 6 mis, nid yw unrhyw gyfnod pan oedd y person wedi ei atal dros dro yn cyfrif), neu
(b)os bu farw’r person, ond nid os yw cynrychiolydd y person hwnnw yn cynnal ei fusnes ar ôl ei farwolaeth o dan adran 72 o Ddeddf Meddyginiaethau 1968 (cynrychiolydd fferyllydd mewn achos o farwolaeth neu anabledd) cyn belled â bod y cynrychiolydd yn cynnal y busnes yn unol â darpariaethau’r Ddeddf honno, ac yn cytuno i gael ei rwymo gan y telerau gwasanaeth, neu
(c)os nad yw’r person yn fferyllydd cofrestredig mwyach.
(4) Cyn dileu enw person o restr fferyllol o dan baragraff (3) rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol—
(a)rhoi i’r person, neu i gynrychiolydd y person a grybwyllir o dan baragraff (3)(b), 30 o ddiwrnodau o rybudd o’i fwriad i ddileu enw’r person o’r rhestr fferyllol,
(b)rhoi’r cyfle i’r person, neu i gynrychiolydd y person a grybwyllir o dan baragraff (3)(b), gyflwyno sylwadau ysgrifenedig neu, os yw’n dymuno hynny, eu cyflwyno’n bersonol yn ystod y cyfnod hwnnw, ac
(c)ymgynghori â’r Pwyllgor Fferyllol Lleol.
(5) Unwaith y bydd y Bwrdd Iechyd Lleol wedi gwneud penderfyniad i ddileu enw’r person o’r rhestr fferyllol ar sail a gynhwysir ym mharagraff (1), rhaid iddo hysbysu’r person am y penderfyniad hwnnw, a chynnwys gyda’r hysbysiad esboniad o’r canlynol—
(a)y rhesymau dros y penderfyniad,
(b)hawl y person i apelio i’r Tribiwnlys yn erbyn ei benderfyniad, ac
(c)o fewn pa derfyn amser, yn unol â Rheolau Gweithdrefn y Tribiwnlysoedd (Tribiwnlys yr Haen Gyntaf) (Y Siambr Iechyd, Addysg a Gofal Cymdeithasol) 2008, y mae rhaid anfon hysbysiad o’r cais i’r Tribiwnlys os bwriedir dwyn apêl.
(6) Rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol hysbysu’r person ar unwaith yn ysgrifenedig am ei benderfyniad o dan baragraff (3) i ddileu enw’r person o’r rhestr fferyllol, ac am hawl y person i apelio o dan baragraff (7).
(7) Caiff person a hysbysir o dan baragraff (6), o fewn 30 o ddiwrnodau i gael yr hysbysiad, apelio yn erbyn y penderfyniad drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i Weinidogion Cymru gan nodi’r sail dros yr apêl.
(8) Ar ôl cael apêl o dan baragraff (7), rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r Bwrdd Iechyd Lleol fod apêl wedi ei chael.
(9) Caiff Gweinidogion Cymru benderfynu’r apêl, y rhoddwyd hysbysiad dilys o apêl mewn cysylltiad â hi yn unol â pharagraff (7), mewn unrhyw fodd (gan gynnwys o ran gweithdrefnau) y mae Gweinidogion Cymru yn meddwl ei fod yn addas.
(10) Wrth benderfynu apêl o dan baragraff (9), caiff Gweinidogion Cymru—
(a)cadarnhau penderfyniad y Bwrdd Iechyd Lleol, neu
(b)yn lle’r penderfyniad hwnnw, gwneud unrhyw benderfyniad y gallai’r Bwrdd Iechyd Lleol fod wedi ei wneud pan wnaeth y penderfyniad hwnnw.
(11) Ni chaiff Bwrdd Iechyd Lleol ddileu enw’r person o’r rhestr fferyllol—
(a)os na wneir apêl, hyd nes bod y cyfnod ar gyfer dwyn apêl yn erbyn y penderfyniad wedi dod i ben, neu
(b)os gwneir apêl, hyd nes bod yr apêl wedi ei phenderfynu.
(12) Pan fo apêl yn cael ei chadarnhau, ni chaiff y Bwrdd Iechyd Lleol ddileu enw’r person o’r rhestr fferyllol.
Gwybodaeth Cychwyn
I40Rhl. 40 mewn grym ar 1.10.2021, gweler rhl. 1(3)
Atal dros dro o restr fferyllolLL+C
41.—(1) Cyn gwneud penderfyniad o dan adran 110(1) (atal dros dro) neu adran 111(2) (atal dros dro wrth aros am apêl) o Ddeddf 2006, rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol roi i’r person—
(a)hysbysiad o unrhyw honiad a wnaed yn ei erbyn,
(b)hysbysiad o’r camau gweithredu y mae’r Bwrdd Iechyd Lleol yn ystyried eu cymryd, ac ar ba sail,
(c)y cyfle i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig o fewn 30 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r dyddiad y rhoddir yr hysbysiad o dan y paragraff hwn, a
(d)y cyfle i gyflwyno sylwadau mewn gwrandawiad llafar gerbron y Bwrdd Iechyd Lleol, ar yr amod bod y person yn hysbysu’r Bwrdd Iechyd Lleol ei fod yn dymuno cyflwyno sylwadau o fewn cyfnod penodedig (heb fod yn llai na 24 awr).
(2) Rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol ystyried unrhyw sylwadau a gyflwynir gan y person cyn gwneud ei benderfyniad.
(3) Rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol, unwaith y bydd wedi gwneud penderfyniad, hysbysu’r person yn ysgrifenedig am y penderfyniad hwnnw, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, gan roi’r rhesymau dros y penderfyniad (gan gynnwys unrhyw ffeithiau y dibynnwyd arnynt).
(4) Pan fo’r Bwrdd Iechyd Lleol wedi atal dros dro berson o’r rhestr fferyllol, rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol roi gwybod i’r person am y rhesymau dros y penderfyniad ac, yn achos ataliad dros dro o dan adran 110(1) o Ddeddf 2006, am hawl y person hwnnw i gael adolygiad o’r penderfyniad yn unol ag adran 113 (adolygu penderfyniadau) o Ddeddf 2006.
(5) Caiff y Bwrdd Iechyd Lleol, ar unrhyw adeg, ddirymu’r ataliad dros dro a hysbysu’r person am ei benderfyniad.
Gwybodaeth Cychwyn
I41Rhl. 41 mewn grym ar 1.10.2021, gweler rhl. 1(3)
Hysbysiad o benderfyniad i osod amodauLL+C
42.—(1) Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol yn penderfynu—
(a)gwrthod caniatáu cais gan berson o dan reoliad 37,
(b)gosod amodau o dan reoliad 38,
(c)dileu enw person o’i restr fferyllol o dan reoliad 39 neu 40,
(d)atal person dros dro o’i restr fferyllol o dan reoliad 41,
(e)gosod neu amrywio amod o dan reoliad 43, neu
(f)gosod neu amrywio amod o dan reoliad 44,
rhaid iddo hysbysu’r personau a’r cyrff a bennir ym mharagraff (2) ac yn ychwanegol, hysbysu’r rheini a bennir ym mharagraff (3), os gofynnir iddo wneud hynny gan y personau hynny neu’r cyrff hynny yn ysgrifenedig (gan gynnwys yn electronig), am y materion a nodir ym mharagraff (4).
(2) Y personau sydd i’w hysbysu yw—
(a)Gweinidogion Cymru,
(b)unrhyw Fwrdd Iechyd Lleol arall neu gorff cyfatebol sydd, hyd eithaf gwybodaeth y Bwrdd Iechyd Lleol sy’n hysbysu, wedi cynnwys y ceisydd mewn rhestr berthnasol,
(c)Gweinidogion yr Alban,
(d)yr Ysgrifennydd Gwladol,
(e)Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon,
(f)y Cyngor Fferyllol Cyffredinol, Cymdeithas Fferyllol Gogledd Iwerddon neu unrhyw gorff rheoleiddio priodol arall,
(g)y Pwyllgor Fferyllol Lleol ar gyfer ardal y Bwrdd Iechyd Lleol,
(h)Bwrdd Comisiynu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, ac
(i)yn achos twyll, Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG.
(3) Y personau neu’r cyrff y caniateir iddynt ofyn i gael eu hysbysu yn ychwanegol yn unol â pharagraff (1) yw—
(a)personau neu gyrff a all gadarnhau—
(i)eu bod, neu y buont, yn cyflogi’r person, yn defnyddio neu wedi defnyddio ei wasanaethau (neu pan fo’r person yn gorff corfforedig, wedi defnyddio gwasanaethau unrhyw gyfarwyddwr neu uwcharolygydd i’r corff corfforedig hwnnw) mewn swyddogaeth broffesiynol, neu
(ii)eu bod yn ystyried cyflogi neu ddefnyddio gwasanaethau’r person (neu pan fo’r person yn gorff corfforedig, defnyddio gwasanaethau unrhyw gyfarwyddwr neu uwcharolygydd i’r corff corfforedig hwnnw) mewn swyddogaeth broffesiynol, a
(b)partneriaeth y mae unrhyw un neu ragor o’i haelodau yn darparu neu’n cynorthwyo i ddarparu gwasanaethau fferyllol, ac sy’n gallu cadarnhau bod y person, neu y bu’r person, yn aelod o’r bartneriaeth, neu fod y bartneriaeth yn ystyried ei wahodd i fod yn aelod.
(4) Y materion y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw—
(a)pan fo’r person yn unigolyn neu’n bartneriaeth—
(i)enw, cyfeiriad a dyddiad geni’r person neu bob aelod o’r bartneriaeth,
(ii)rhif cofrestru proffesiynol y person neu bob aelod o’r bartneriaeth,
(iii)dyddiad penderfyniad y Bwrdd Iechyd Lleol a chopi o’r penderfyniad, a
(iv)enw person cyswllt yn y Bwrdd Iechyd Lleol ar gyfer ymholiadau pellach.
(b)pan fo’r person yn gorff corfforedig—
(i)enw’r corff corfforedig, ei rif cofrestru cwmni a chyfeiriad ei swyddfa gofrestredig,
(ii)rhif cofrestru proffesiynol uwcharolygydd y corff corfforedig a rhif cofrestru proffesiynol unrhyw gyfarwyddwr i’r corff corfforedig sy’n fferyllydd cofrestredig,
(iii)dyddiad penderfyniad y Bwrdd Iechyd Lleol a chopi o’r penderfyniad, a
(iv)enw person cyswllt yn y Bwrdd Iechyd Lleol ar gyfer ymholiadau pellach.
(5) Rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol anfon copi at y person o unrhyw wybodaeth a ddarperir amdano i’r personau neu’r cyrff a bennir ym mharagraffau (2) a (3), ac unrhyw ohebiaeth gyda’r personau neu’r cyrff hynny sy’n ymwneud â’r wybodaeth honno.
(6) Pan fo’r Bwrdd Iechyd Lleol wedi hysbysu unrhyw un neu ragor o’r personau neu’r cyrff a bennir ym mharagraff (2) neu (3) am y materion a nodir ym mharagraff (4), caiff y Bwrdd Iechyd Lleol, yn ychwanegol, os gofynnir iddo wneud hynny gan y person hwnnw neu’r corff hwnnw, hysbysu’r person hwnnw neu’r corff hwnnw am unrhyw dystiolaeth a ystyriwyd, gan gynnwys sylwadau a gyflwynwyd gan y person.
(7) Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol yn cael ei hysbysu gan y Tribiwnlys fod y Tribiwnlys wedi gosod anghymhwysiad cenedlaethol ar berson y mae’r Bwrdd Iechyd Lleol wedi dileu ei enw o’i restr fferyllol, rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol hysbysu’r personau neu’r cyrff a bennir ym mharagraff (2)(b), (g), (h) ac (i) a pharagraff (3).
(8) Pan fo penderfyniad yn cael ei newid o ganlyniad i adolygiad neu apêl, neu pan fo ataliad dros dro yn darfod, rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol hysbysu unrhyw berson neu gorff, a hysbyswyd am y penderfyniad gwreiddiol, ynghylch y penderfyniad diweddarach neu ynghylch y ffaith bod yr ataliad dros dro wedi darfod.
Gwybodaeth Cychwyn
I42Rhl. 42 mewn grym ar 1.10.2021, gweler rhl. 1(3)
Adolygu penderfyniad i osod ataliad dros dro o dan adran 110 o Ddeddf 2006 neu i ddileu enw person yn digwyddiadol o dan adran 108 o Ddeddf 2006LL+C
43.—(1) Pan fo rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol, yn unol ag adran 113 (adolygu penderfyniadau) o Ddeddf 2006, adolygu ei benderfyniad i ddileu enw person yn ddigwyddiadol o’r rhestr fferyllol neu i atal dros dro berson o’r rhestr fferyllol o dan adran 110 (atal dros dro) o Ddeddf 2006, neu pan fo Bwrdd Iechyd Lleol yn penderfynu adolygu penderfyniad o’r fath, rhaid iddo roi i’r person hwnnw—
(a)hysbysiad o’i fwriad i adolygu ei benderfyniad,
(b)hysbysiad o’r penderfyniad y mae’n ystyried ei wneud o ganlyniad i’r adolygiad, a’r rhesymau dros y penderfyniad,
(c)y cyfle i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i’r Bwrdd Iechyd Lleol o fewn y cyfnod o 30 o ddiwrnodau gan ddechrau â dyddiad yr hysbysiad o dan is-baragraff (a), a
(d)y cyfle i gyflwyno ei achos mewn gwrandawiad llafar gerbron y Bwrdd Iechyd Lleol, os yw’r person yn gofyn am hynny o fewn y cyfnod o 30 o ddiwrnodau a grybwyllir yn is-baragraff (c).
(2) Yn dilyn adolygiad o’r fath, caiff y Bwrdd Iechyd Lleol—
(a)cadarnhau dileu enw’r person yn ddigwyddiadol neu gadarnhau’r ataliad dros dro,
(b)yn achos ataliad dros dro, ei derfynu, neu
(c)yn achos dileu enw person yn ddigwyddiadol, amrywio’r amodau, gosod amodau gwahanol, dirymu dileu enw’r person yn ddigwyddiadol, neu ddileu enw’r person o’r rhestr.
(3) Ni chaiff person sydd wedi ei atal dros dro o restr fferyllol o dan adran 110 o Ddeddf 2006 neu y mae ei enw wedi ei ddileu yn ddigwyddiadol o restr fferyllol o dan adran 108 o Ddeddf 2006 ofyn am adolygiad cyn diwedd—
(a)cyfnod o 3 mis gan ddechrau â dyddiad penderfyniad y Bwrdd Iechyd Lleol i ddileu enw’r person yn ddigwyddiadol, neu
(b)cyfnod o 6 mis gan ddechrau â dyddiad y penderfyniad ar yr adolygiad blaenorol.
(4) Os yw’r Bwrdd Iechyd Lleol yn cael sylwadau neu gais am wrandawiad llafar o fewn y cyfnod a bennir ym mharagraff (1)(c), rhaid iddo ystyried y sylwadau neu gynnal y gwrandawiad llafar, yn ôl y digwydd, cyn gwneud ei benderfyniad.
(5) Unwaith y bydd y Bwrdd Iechyd Lleol wedi gwneud penderfyniad o dan adran 113(3) o Ddeddf 2006, rhaid iddo hysbysu’r person am ei benderfyniad, a chynnwys gyda’r hysbysiad o’i benderfyniad esboniad o’r canlynol—
(a)y rhesymau dros y penderfyniad,
(b)os oes hawl gan y person i apelio mewn perthynas â’r penderfyniad—
(i)yr hawl sydd gan y person i apelio mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw o dan adran 114 o Ddeddf 2006 (apelau)(33), a
(ii)o fewn pa derfyn amser, yn unol â Rheolau Gweithdrefn y Tribiwnlysoedd (Tribiwnlys yr Haen Gyntaf) (Y Siambr Iechyd, Addysg a Gofal Cymdeithasol) 2008, y bydd rhaid anfon hysbysiad o’r cais i’r Tribiwnlys os bwriedir dwyn apêl, ac
(c)os yw’r person wedi ei atal dros dro neu os yw enw’r person wedi ei ddileu yn ddigwyddiadol neu os yw’r sefyllfa yn parhau felly, y trefniadau ar gyfer adolygu’r ataliad dros dro neu’r amodau o dan adran 113(1) o Ddeddf 2006.
Gwybodaeth Cychwyn
I43Rhl. 43 mewn grym ar 1.10.2021, gweler rhl. 1(3)
Adolygu penderfyniad i osod amodauLL+C
44.—(1) Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol wedi gwneud penderfyniad i osod amodau yn unol â rheoliad 38, caiff adolygu penderfyniad o’r fath, naill ai o’i ddewis ei hunan neu os gofynnir iddo wneud hynny gan y person y caniatawyd ei gais yn ddarostyngedig i amodau.
(2) Ni chaiff person y caniatawyd ei gais yn ddarostyngedig i amodau ofyn am adolygiad o benderfyniad Bwrdd Iechyd Lleol cyn diwedd cyfnod o 3 mis gan ddechrau â’r dyddiad y mae’r Bwrdd Iechyd Lleol—
(a)yn cynnwys enw’r person ar ei restr fferyllol, neu
(b)yn caniatáu cydsyniad rhagarweiniol i’r person,
ac ni chaiff ofyn am adolygiad o fewn 6 mis i benderfyniad ar adolygiad blaenorol.
(3) Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol roi i’r person y caniatawyd ei gais yn ddarostyngedig i amodau—
(a)hysbysiad o’i fwriad i adolygu ei benderfyniad,
(b)hysbysiad o’r penderfyniad y mae’n ystyried ei wneud o ganlyniad i’r adolygiad, a’r rhesymau dros y penderfyniad,
(c)y cyfle i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i’r Bwrdd Iechyd Lleol o fewn y cyfnod o 30 o ddiwrnodau gan ddechrau â dyddiad yr hysbysiad o dan is-baragraff (a), a
(d)y cyfle i gyflwyno ei achos mewn gwrandawiad llafar gerbron y Bwrdd Iechyd Lleol, os yw’r person yn gofyn am hynny, o fewn y cyfnod o 30 o ddiwrnodau a grybwyllir yn is-baragraff (c).
(4) Os yw’r Bwrdd Iechyd Lleol yn cael sylwadau neu gais am wrandawiad llafar o fewn y cyfnod a bennir ym mharagraff (3)(c), rhaid iddo ystyried y sylwadau neu gynnal y gwrandawiad llafar, yn ôl y digwydd, cyn gwneud ei benderfyniad.
(5) Yn dilyn adolygiad, caiff y Bwrdd Iechyd Lleol—
(a)cadw’r amodau cyfredol,
(b)gosod amodau newydd,
(c)amrywio telerau gwasanaeth y person,
(d)amrywio’r amodau, neu
(e)pan fo’r person wedi torri amod, dileu enw’r person o’r rhestr fferyllol.
(6) Cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl gwneud penderfyniad, rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol hysbysu’r person am ei benderfyniad, a rhaid iddo gynnwys gyda’r hysbysiad o’i benderfyniad esboniad o’r canlynol—
(a)y rhesymau dros y penderfyniad,
(b)yr hawl sydd gan y person i apelio i’r Tribiwnlys, ac
(c)o fewn pa derfyn amser, yn unol â Rheolau Gweithdrefn y Tribiwnlysoedd (Tribiwnlys yr Haen Gyntaf) (Y Siambr Iechyd, Addysg a Gofal Cymdeithasol) 2008, y mae rhaid anfon hysbysiad o’r cais i’r Tribiwnlys os bwriedir dwyn apêl.
Gwybodaeth Cychwyn
I44Rhl. 44 mewn grym ar 1.10.2021, gweler rhl. 1(3)
ApelauLL+C
45.—(1) Pan fo person, ac eithrio person a hysbysir o dan reoliad 42, sydd wedi ei hysbysu am benderfyniad gan Fwrdd Iechyd Lleol ei fod —
(a)yn bwriadu—
(i)gwrthod caniatáu cais y mae rheoliad 37 (gwrthod ceisiadau ar sail addasrwydd) yn gymwys iddo ar sail a gynhwysir ym mharagraff (2) neu (3) o’r rheoliad hwnnw,
(ii)gosod amodau ar y person yn rhinwedd rheoliad 38 (cynnwys person yn amodol ar sail addasrwydd), neu amrywio telerau gwasanaeth y person yn unol â’r rheoliad hwnnw,
(iii)yn unol â rheoliad 39 (dileu enw person o restr fferyllol am dorri amodau ar sail addasrwydd neu osod neu amrywio neu osod amodau newydd o dan adran 108 o Ddeddf 2006)—
(aa)dileu enw’r person o’r rhestr fferyllol o dan adran 107 (anghymhwyso ymarferwyr) o Ddeddf 2006;
(bb)dileu enw’r person o’r rhestr fferyllol yn ddigwyddiadol o dan adran 108 (dileu enw person yn ddigwyddiadol) o Ddeddf 2006;
(cc)dileu enw’r person o’r rhestr fferyllol am dorri amod a osodwyd o dan adran 108 o Ddeddf 2006;
(dd)gosod unrhyw amod penodol o dan adran 108 o Ddeddf 2006, amrywio unrhyw amod, gosod amod gwahanol neu amrywio telerau gwasanaeth y person o dan yr adran honno;
(ee)dileu enw’r person o’r rhestr fferyllol am dorri amod a osodwyd o dan reoliad 38, neu
(iv)dileu enw’r person o’r rhestr fferyllol ar sail a gynhwysir yn rheoliad 40(1), neu
(b)wedi adolygu penderfyniad i osod amodau o dan reoliad 44 (adolygu penderfyniad i osod amodau) ac wedi penderfynu cymryd unrhyw un neu ragor o’r camau gweithredu yn rheoliad 44(5), neu
(c)wedi adolygu penderfyniad i ddileu enw’r person yn ddigwyddiadol o restr fferyllol yn rhinwedd rheoliad 43 (adolygu penderfyniad i osod ataliad dros dro o dan adran 110 o Ddeddf 2006 neu i ddileu enw person yn ddigwyddiadol o dan adran 108 o Ddeddf 2006) ac wedi—
(i)cadarnhau dileu enw’r person yn ddigwyddiadol,
(ii)amrywio’r amodau sydd ynghlwm wrth ddileu’r enw yn ddigwyddiadol neu wedi gosod amodau gwahanol, neu
(iii)wedi dileu enw’r person o’r rhestr fferyllol,
caiff y person apelio i’r Tribiwnlys yn erbyn y penderfyniad hwnnw.
(2) Rhaid gwneud apêl o dan baragraff (1) yn ysgrifenedig, gan nodi’r sail dros wneud yr apêl, a rhaid ei chyflwyno i’r Tribiwnlys o fewn y terfyn amser, yn unol â Rheolau Gweithdrefn y Tribiwnlysoedd (Tribiwnlys yr Haen Gyntaf) (Y Siambr Iechyd, Addysg a Gofal Cymdeithasol) 2008 y mae rhaid anfon hysbysiad o’r cais i’r Tribiwnlys os bwriedir dwyn apêl.
(3) Caiff y Tribiwnlys, wrth benderfynu apêl, wneud unrhyw benderfyniad y gallai’r Bwrdd Iechyd Lleol ei wneud o dan y Rhan hon.
Gwybodaeth Cychwyn
I45Rhl. 45 mewn grym ar 1.10.2021, gweler rhl. 1(3)
RHAN 8LL+CCynnwys enw person yn amodol mewn rhestrau fferyllol: amodau penodol nad ydynt yn ymwneud ag addasrwydd na pherfformiad
Amodau o ran oriau agor craiddLL+C
46.—(1) Pan, yng nghwrs gwneud cais y mae rheoliad 15, 19, 20 neu 22 yn gymwys iddo—
(a)i gynnwys enw person mewn rhestr fferyllol fel y’i crybwyllir yn rheoliad 10(1)(a), neu gan berson sydd eisoes wedi ei gynnwys mewn rhestr o’r fath i adleoli i fangre fferyllol wahanol neu i agor, o fewn ardal y Bwrdd Iechyd Lleol perthnasol, fangre fferyllol ychwanegol—
(i)bo fferyllydd GIG wedi ymgymryd â darparu gwasanaethau fferyllol yn y fangre fferyllol arfaethedig am nifer penodedig o oriau agor craidd bob wythnos sy’n fwy na 40,
(ii)bo’r fferyllydd GIG a’r Bwrdd Iechyd Lleol wedi cytuno bod gwasanaethau fferyllol i’w darparu yn y fangre fferyllol arfaethedig yn ystod yr oriau agor ychwanegol a bennir (hynny yw, yr oriau sy’n cyfateb i’r gwahaniaeth rhwng cyfanswm yr oriau a bennir a 40) ar adegau penodol ac ar ddiwrnodau penodol, a
(iii)bo’r cais wedi ei ganiatáu gan roi sylw i’r ymgymeriad hwnnw a’r cytundeb hwnnw,
pan fydd yn cynnwys y fangre mewn rhestr fferyllol, rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol gyfarwyddo bod y person a restrir mewn perthynas â’r fangre i ddarparu gwasanaethau fferyllol yn y fangre honno am y nifer penodedig o oriau agor craidd yr ymgymerwyd â gwneud hynny, ac yn ystod yr oriau agor ychwanegol ar yr adegau penodol ac ar y diwrnodau penodol y cytunwyd arnynt;
(b)i gynnwys enw person mewn rhestr fferyllol fel y’i crybwyllir yn rheoliad 10(1)(b), neu gan berson sydd eisoes wedi ei gynnwys mewn rhestr o’r fath i adleoli i fangre contractwr cyfarpar wahanol neu i agor, o fewn ardal y Bwrdd Iechyd Lleol perthnasol, fangre contractwr cyfarpar ychwanegol—
(i)bo contractwr cyfarpar GIG wedi ymgymryd â darparu gwasanaethau fferyllol yn y fangre contractwr cyfarpar arfaethedig am nifer penodedig o oriau agor craidd bob wythnos sy’n fwy na 30,
(ii)bo’r contractwr cyfarpar GIG a’r Bwrdd Iechyd Lleol wedi cytuno bod gwasanaethau fferyllol i’w darparu ym mangre’r contractwr cyfarpar yn ystod yr oriau agor ychwanegol a bennir (hynny yw, yr oriau sy’n cyfateb i’r gwahaniaeth rhwng cyfanswm yr oriau a bennir a 30) ar adegau penodol ac ar ddiwrnodau penodol, a
(iii)bo’r cais wedi ei ganiatáu gan roi sylw i’r ymgymeriad hwnnw a’r cytundeb hwnnw,
pan fydd yn cynnwys y fangre mewn rhestr fferyllol, rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol gyfarwyddo bod y person a restrir mewn perthynas â’r fangre i ddarparu gwasanaethau fferyllol yn y fangre honno am y nifer penodedig o oriau agor craidd yr ymgymerwyd â gwneud hynny, ac yn ystod yr oriau agor ychwanegol ar yr adegau penodol ac ar y diwrnodau penodol y cytunwyd arnynt.
(2) Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol—
(a)wedi gwahodd fferyllydd GIG neu gontractwr cyfarpar GIG i gynyddu cyfanswm nifer yr oriau agor craidd y mae’r fferyllydd GIG neu’r contractwr cyfarpar GIG i ddarparu gwasanaethau fferyllol mewn mangre restredig, a
(b)wedi cytuno ar ôl hynny â’r fferyllydd GIG neu’r contractwr cyfarpar GIG—
(i)nifer uwch o oriau agor craidd, a
(ii)yn achos fferyllydd GIG, bod gwasanaethau fferyllol i’w darparu yn y fangre fferyllol yn ystod unrhyw oriau agor ychwanegol (hynny yw, yr oriau sy’n cyfateb i’r gwahaniaeth rhwng cyfanswm yr oriau a bennir a 40) ar adegau penodol ac ar ddiwrnodau penodol, neu
(iii)yn achos contractwr cyfarpar GIG, bod gwasanaethau fferyllol i’w darparu ym mangre’r contractwr cyfarpar yn ystod unrhyw oriau agor ychwanegol (hynny yw, yr oriau sy’n cyfateb i’r gwahaniaeth rhwng cyfanswm yr oriau a bennir a 30) ar adegau penodol ac ar ddiwrnodau penodol,
rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol gyfarwyddo bod y person a restrir mewn perthynas â’r fangre i ddarparu gwasanaethau fferyllol yn y fangre honno am y nifer penodedig o oriau agor craidd yr ymgymerwyd â gwneud hynny, ac yn ystod unrhyw oriau agor ychwanegol ar yr adegau penodol ac ar y diwrnodau penodol y cytunwyd arnynt.
(3) Ac eithrio fel y darperir ar ei gyfer o dan baragraff (2) ac yn ddarostyngedig i baragraff (4), ni chaiff y Bwrdd Iechyd Lleol amrywio cyfarwyddyd a roddir o dan baragraff (1) neu (2) ond yn unol â pharagraff 25 neu 26 o Atodlen 5 neu baragraff 15 neu 16 o Atodlen 6.
(4) Ni caniateir i gyfarwyddyd a roddir o dan baragraff (1) neu (2) gael ei amrywio o fewn 3 blynedd iddo gael ei roi.
Gwybodaeth Cychwyn
I46Rhl. 46 mewn grym ar 1.10.2021, gweler rhl. 1(3)
Amodau sy’n ymwneud â darparu gwasanaethau cyfeiriedigLL+C
47.—(1) Pan ymgymerodd fferyllydd GIG neu gontractwr cyfarpar GIG, yng nghwrs gwneud cais o dan y Rheoliadau hyn neu o dan Reoliadau 2013—
(a)â darparu’r gwasanaethau cyfeiriedig a grybwyllir yn y cais, os comisiynodd y Bwrdd Iechyd Lleol y gwasanaethau o fewn 3 blynedd naill ai i ddyddiad caniatáu’r cais neu, os yw’n hwyrach, i ddyddiad y rhestriad mewn perthynas â’r ceisydd o’r fangre y mae’r cais yn ymwneud â hi,
(b)os comisiynwyd y gwasanaethau cyfeiriedig, â darparu’r gwasanaethau yn unol â manyleb gwasanaeth y cytunir arni, ac
(c)â pheidio ag atal cytundeb ar fanyleb gwasanaeth yn afresymol,
mae cynnwys, yn y rhestr fferyllol, enw’r person a restrir mewn perthynas â’r fangre a restrwyd o ganlyniad i’r cais hwnnw yn ddarostyngedig i’r amod a nodir ym mharagraff (2).
(2) Yr amod yw bod rhaid i’r person a restrir mewn perthynas â’r fangre—
(a)darparu’r gwasanaethau cyfeiriedig a grybwyllir yn y cais (pa un ai’r ceisydd oedd y person a restrir ai peidio), a
(b)peidio ag atal cytundeb ar fanyleb gwasanaeth i’r gwasanaethau cyfeiriedig hynny yn afresymol,
os yw’r Bwrdd Iechyd Lleol yn comisiynu’r gwasanaethau o’r person a restrir mewn perthynas â’r fangre o fewn 3 blynedd naill ai i ddyddiad caniatáu’r cais neu, os yw’n hwyrach, i ddyddiad y rhestriad mewn perthynas â’r ceisydd o’r fangre y mae’r cais yn ymwneud â hi, oni bai bod y Bwrdd Iechyd Lleol ar ôl hynny yn peidio â chomisiynu’r gwasanaethau (os yw wedi eu comisiynu).
(3) Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol yn pennu bod gofyniad i ddarparu gwasanaethau cyfeiriedig sy’n deillio o amod a osodir yn rhinwedd y rheoliad hwn i gymryd effaith erbyn dyddiad penodedig, mae’r gofyniad yn cymryd effaith—
(a)ar y dyddiad hwnnw, neu
(b)ar y dyddiad y cychwynnir darparu’r gwasanaeth cyfeiriedig.
(4) Ni chaiff y Bwrdd Iechyd Lleol amrywio neu ddileu’r amod a osodir yn rhinwedd paragraff (2).
Gwybodaeth Cychwyn
I47Rhl. 47 mewn grym ar 1.10.2021, gweler rhl. 1(3)
Amodau sy’n ymwneud â datrys yn lleol anghydfodau ynghylch y telerau gwasanaethLL+C
48.—(1) Un o’r amodau ar gyfer cynnwys pob fferyllydd GIG neu gontractwr cyfarpar GIG mewn rhestr fferyllol gan y Bwrdd Iechyd Lleol yw y gwnaiff y fferyllydd GIG neu’r contractwr cyfarpar GIG bob ymdrech resymol i gyfathrebu â’r Bwrdd Iechyd Lleol gyda golwg ar ddatrys unrhyw anghydfod rhwng naill ai’r fferyllydd GIG neu’r contractwr cyfarpar GIG a’r Bwrdd Iechyd Lleol sy’n ymwneud â chydymffurfio â’r telerau gwasanaeth y darperir gwasanaethau fferyllol odanynt.
(2) Ni chaiff y Bwrdd Iechyd Lleol amrywio neu ddileu’r amod a osodir yn rhinwedd paragraff (1).
Gwybodaeth Cychwyn
I48Rhl. 48 mewn grym ar 1.10.2021, gweler rhl. 1(3)
RHAN 9LL+CSancsiynau sy’n ymwneud â pherfformiad ac Ymadael â’r Farchnad
Datrys anghydfodau yn lleol cyn cyflwyno hysbysiadau adfer neu hysbysiadau torriLL+C
49.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), cyn dyroddi hysbysiad o dan reoliad 50 neu 51, rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol wneud pob ymdrech resymol i gyfathrebu a chydweithredu â fferyllydd GIG neu gontractwr cyfarpar GIG gyda golwg ar ddatrys unrhyw anghydfod rhwng y fferyllydd GIG neu’r contractwr cyfarpar GIG a’r Bwrdd Iechyd Lleol sy’n ymwneud â cydymffurfedd gan y fferyllydd GIG neu’r contractwr cyfarpar GIG â’r telerau gwasanaeth.
(2) Pan fo fferyllydd GIG neu gontractwr cyfarpar GIG yn gwahodd Pwyllgor Fferyllol Lleol i gymryd rhan yn yr ymdrechion i ddatrys yr anghydfod, rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol wneud pob ymdrech resymol i gyfathrebu a chydweithredu â’r Pwyllgor yn ei ymdrechion i gynorthwyo i ddatrys yr anghydfod.
(3) Nid yw paragraffau (1) a (2) yn gymwys pan fo’r Bwrdd Iechyd Lleol wedi ei fodloni—
(a)bod yr anghydfod yn ymwneud â mater sydd eisoes wedi bod yn destun datrys anghydfod rhwng y Bwrdd Iechyd Lleol a’r fferyllydd GIG neu’r contractwr cyfarpar GIG ac nad oes unrhyw faterion newydd o sylwedd sy’n cyfiawnhau oedi wrth ddyroddi hysbysiad o dan reoliad 50 neu 51, neu
(b)ei bod yn briodol mynd ati ar unwaith i ddyroddi hysbysiad o dan reoliad 50 neu 51—
(i)oherwydd nad yw’r fangre restredig ar agor, neu nad yw wedi bod ar agor, yn ystod oriau agor craidd neu oriau agor atodol heb reswm da,
(ii)er mwyn gwarchod diogelwch unrhyw bersonau y caiff fferyllydd GIG neu gontractwr cyfarpar GIG ddarparu gwasanaethau fferyllol iddynt, neu
(iii)er mwyn gwarchod y Bwrdd Iechyd Lleol rhag colled ariannol perthnasol.
Gwybodaeth Cychwyn
I49Rhl. 49 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(c)
Torri’r telerau gwasanaeth: hysbysiadau adferLL+C
50.—(1) Pan fo fferyllydd GIG neu gontractwr cyfarpar GIG yn torri un o’r telerau gwasanaeth ac y gellir unioni’r toriad, caiff y Bwrdd Iechyd Lleol, drwy hysbysiad (“hysbysiad adfer”), ei gwneud yn ofynnol i’r fferyllydd GIG neu’r contractwr cyfarpar GIG unioni’r toriad.
(2) Er mwyn bod yn ddilys, rhaid i’r hysbysiad adfer gynnwys—
(a)natur y toriad,
(b)y camau y mae rhaid i’r fferyllydd GIG neu’r contractwr cyfarpar GIG eu cymryd, er boddhad y Bwrdd Iechyd Lleol, er mwyn unioni’r toriad,
(c)y cyfnod (“y cyfnod rhybudd”) pan fo rhaid cymryd y camau, a
(d)esboniad o sut y caniateir i hawliau’r fferyllydd GIG, neu hawliau’r contractwr cyfarpar GIG, i apelio o dan reoliad 54(1)(a) gael eu harfer.
(3) Ni chaiff y cyfnod rhybudd fod yn llai na 30 o ddiwrnodau, oni bai bod y Bwrdd Iechyd Lleol wedi ei fodloni bod cyfnod byrrach yn briodol—
(a)er mwyn gwarchod diogelwch unrhyw bersonau y caiff y fferyllydd GIG neu’r contractwr cyfarpar GIG ddarparu gwasanaethau fferyllol iddynt, neu
(b)er mwyn gwarchod y Bwrdd Iechyd Lleol rhag colled ariannol perthnasol.
(4) Os yw’r toriad yn ymwneud â methiant i ddarparu, neu fethiant i ddarparu i safon resymol, wasanaeth fferyllol y mae’n ofynnol i fferyllydd GIG neu gontractwr cyfarpar GIG ei ddarparu, caiff yr hysbysiad adfer ddarparu—
(a)o ran y cyfnod pan oedd methiant i ddarparu’r gwasanaeth hwnnw, neu fethiant i’w ddarparu i safon resymol, mae’r Bwrdd Iechyd Lleol i gadw’n ôl yr holl dâl, neu ran ohono, sy’n ddyledus i’r fferyllydd GIG neu’r contractwr cyfarpar GIG mewn cysylltiad â’r cyfnod hwnnw o dan y Tariff Cyffuriau neu benderfyniad fel y’i crybwyllir yn rheoliad 56(2)(b);
(b)wrth aros i’r fferyllydd GIG neu’r contractwr cyfarpar GIG gymryd y camau y mae rhaid i’r naill neu’r llall eu cymryd, er boddhad y Bwrdd Iechyd Lleol, er mwyn unioni’r toriad, mae’r Bwrdd Iechyd Lleol i gadw’n ôl yr holl dâl, neu ran ohono, sy’n ddyledus i’r fferyllydd GIG neu’r contractwr cyfarpar GIG o dan y Tariff Cyffuriau neu benderfyniad fel y’i crybwyllir yn rheoliad 56(2)(b), ac o dan yr amgylchiadau hyn—
(i)o ran unrhyw gyfnod pa fo’r fferyllydd GIG neu’r contractwr cyfarpar GIG yn parhau i dorri’r telerau, mae unrhyw cadw’n ôl sydd i’w briodoli i’r cyfnod hwnnw i fod yn barhaol, a
(ii)unwaith bod y fferyllydd GIG neu’r contractwr cyfarpar GIG wedi cymryd y camau sy’n ofynnol, er boddhad y Bwrdd Iechyd Lleol, mae unrhyw cadw’n ôl sydd wedi digwydd, y gellir ei briodoli i gyfnod pan nad yw’r fferyllydd GIG neu’r contractwr cyfarpar GIG yn torri’r telerau mwyach, i gael ei adfer, ar yr amod bod y fferyllydd GIG neu’r contractwr cyfarpar GIG yn cyflwyno hawliad, yn unol â’r Tariff Cyffuriau neu benderfyniad fel y’i crybwyllir yn rheoliad 56(2)(b), i adfer y tâl a gadwyd yn ôl sydd i’w briodoli i’r cyfnod hwnnw.
(5) Ni chaiff yr hysbysiad adfer ond darparu ar gyfer cadw’n ôl yr holl dâl, neu ran ohono, sy’n daladwy o dan benderfyniad fel y’i crybwyllir yn rheoliad 56(2)(b) pan fo’r toriad yn ymwneud â methiant i ddarparu gwasanaeth fferyllol, neu fethiant i’w ddarparu i safon resymol.
(6) Caniateir i’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (4)(b)(i) fod yn gyfnod hwy na’r cyfnod rhybudd.
(7) Os bydd y Bwrdd Iechyd Lleol yn gwrthod adfer yr holl dâl a gadwyd yn ôl, neu ran ohono, sy’n cael ei hawlio o dan baragraff (4)(b)(ii), rhaid iddo hysbysu’r fferyllydd GIG neu’r contractwr cyfarpar GIG am y penderfyniad hwnnw cyn gynted ag y bo’n ymarferol, a rhaid i’r hysbysiad hwnnw gynnwys—
(a)datganiad o’r rhesymau dros y penderfyniad, a
(b)esboniad o sut y caniateir i hawliau’r fferyllydd GIG neu hawliau’r contractwr cyfarpar GIG i apelio o dan reoliad 54(1)(b) gael eu harfer.
(8) Caiff Bwrdd Iechyd Lleol amrywio neu ddirymu hysbysiad adfer a ddyroddir yn unol â’r rheoliad hwn ar unrhyw adeg ar ôl iddo gael ei ddyroddi.
Gwybodaeth Cychwyn
I50Rhl. 50 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(c)
Torri’r telerau gwasanaeth: hysbysiadau torriLL+C
51.—(1) Pan fo fferyllydd GIG neu gontractwr cyfarpar GIG yn torri un o’r telerau gwasanaeth ac na ellir unioni’r toriad, caiff y Bwrdd Iechyd Lleol, drwy hysbysiad (“hysbysiad torri”), ei gwneud yn ofynnol i’r fferyllydd GIG neu’r contractwr cyfarpar GIG beidio ag ailadrodd y toriad.
(2) Er mwyn bod yn ddilys, rhaid i’r hysbysiad torri gynnwys—
(a)natur y toriad, a
(b)esboniad o sut y caniateir i hawliau’r fferyllydd GIG neu hawliau’r contractwr cyfarpar GIG i apelio o dan reoliad 54(1)(c) gael eu harfer.
(3) Os yw’r toriad yn ymwneud â methiant i ddarparu gwasanaeth fferyllol y mae’n ofynnol i fferyllydd GIG neu gontractwr cyfarpar GIG ei ddarparu, neu fethiant i’w ddarparu i safon resymol, caiff yr hysbysiad torri ddarparu, o ran y cyfnod pan oedd methiant i ddarparu’r gwasanaeth hwnnw, neu fethiant i’w ddarparu i safon resymol, fod y Bwrdd Iechyd Lleol i gadw’n ôl yr holl dâl, neu ran ohono, sy’n ddyledus i’r fferyllydd GIG neu’r contractwr cyfarpar GIG o dan y Tariff Cyffuriau neu benderfyniad fel y’i crybwyllir yn rheoliad 56(2)(b) mewn cysylltiad â’r cyfnod hwnnw.
(4) Ni chaiff yr hysbysiad torri ond darparu ar gyfer cadw’n ôl yr holl dâl, neu ran ohono, sy’n daladwy o dan benderfyniad fel y’i crybwyllir yn rheoliad 56(2)(b) pan fo’r toriad yn ymwneud â methiant i ddarparu gwasanaeth fferyllol, neu fethiant i ddarparu gwasanaeth fferyllol i safon resymol.
(5) Caiff Bwrdd Iechyd Lleol amrywio neu ddirymu hysbysiad torri a ddyroddir yn unol â’r rheoliad hwn ar unrhyw adeg ar ôl iddo gael ei ddyroddi.
Gwybodaeth Cychwyn
I51Rhl. 51 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(c)
Cadw taliadau yn ôl: materion atodolLL+C
52.—(1) Ni chaiff hysbysiad adfer na hysbysiad torri ond darparu ar gyfer cadw’n ôl yr holl dâl, neu unrhyw ran ohono, i fferyllydd GIG neu gontractwr cyfarpar GIG—
(a)os yw’r Bwrdd Iechyd Lleol wedi ei fodloni nad oes rheswm da dros y toriad y mae’r cadw’n ôl yn ymwneud ag ef, neu yr oedd yn ymwneud ag ef;
(b)os oes modd cyfiawnhau’r swm a gadwyd yn ôl a’i fod yn gymesur, gan roi sylw i natur a difrifoldeb y toriad a’r rhesymau drosto;
(c)os yw’r Bwrdd Iechyd Lleol yn cynnwys yn yr hysbysiad ei resymau, sydd wedi eu cyfiawnhau’n briodol, dros y penderfyniad i gadw tâl yn ôl a’r symiau sydd wedi eu cadw’n ôl, a (phan fo’n gymwys) y symiau sydd i’w cadw’n ôl.
(2) Nid oes rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol ystyried y rhesymau dros y toriad, yn unol â pharagraff (1)(b), os yw wedi gwneud pob ymdrech resymol i gyfathrebu â’r fferyllydd GIG neu’r contractwr cyfarpar GIG i ganfod y rhesymau ond ei fod wedi methu â’u canfod.
(3) Nid yw cadw’n ôl daliadau y darperir ar eu cyfer mewn hysbysiadau adfer a hysbysiadau torri yn rhagfarnu’r trefniadau sydd yn eu lle ar gyfer adennill gordaliadau o dan reoliad 57 a’r Tariff Cyffuriau.
(4) At ddibenion rheoliadau 50(4) ac 51(3), mae tâl sydd wedi ei benderfynu gan Weinidogion Cymru, neu gan y Bwrdd Iechyd Lleol sy’n gweithredu fel yr awdurdod penderfynu yn unol â rheoliad 56(2)(b), yn dâl sy’n ddyledus i’r fferyllydd GIG neu’r contractwr cyfarpar GIG o dan y Tariff Cyffuriau.
Gwybodaeth Cychwyn
I52Rhl. 52 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(c)
Dileu enwau personau o restrau: achosion sy’n ymwneud â hysbysiadau adfer a hysbysiadau torriLL+C
53.—(1) Caiff y Bwrdd Iechyd Lleol ddileu enw fferyllydd GIG neu gontractwr cyfarpar GIG o restr fferyllol, neu ddileu’r rhestriad ar gyfer mangre restredig benodol mewn perthynas â’r fferyllydd GIG neu’r contractwr cyfarpar GIG, os yw’r fferyllydd GIG neu’r contractwr cyfarpar GIG—
(a)yn methu â chymryd y camau a nodir mewn hysbysiad adfer, er boddhad y Bwrdd Iechyd Lleol, er mwyn unioni’r toriad, ac mae’r Bwrdd Iechyd Lleol wedi ei fodloni ei bod yn angenrheidiol dileu enw’r fferyllydd GIG neu’r contractwr cyfarpar GIG o’r rhestr fferyllol, neu ddileu’r rhestriad ar gyfer mangre restredig benodol mewn perthynas â’r fferyllydd GIG neu’r contractwr cyfarpar GIG—
(i)er mwyn gwarchod diogelwch unrhyw bersonau y caiff y fferyllydd GIG neu’r contractwr cyfarpar GIG ddarparu gwasanaethau fferyllol iddynt, neu
(ii)er mwyn gwarchod y Bwrdd Iechyd Lleol rhag colled ariannol perthnasol, neu
(b)wedi torri’r telerau gwasanaeth ar gyfer fferyllwyr GIG a chontractwyr cyfarpar GIG, ac—
(i)mae hysbysiadau adfer neu hysbysiadau torri (neu’r ddau) wedi cael eu dyroddi’n fynych iddo mewn perthynas â’r teler gwasanaeth perthnasol,
(ii)mae hysbysiad adfer neu hysbysiad torri wedi cael ei ddyroddi iddo o’r blaen mewn perthynas â’r teler gwasanaeth perthnasol, ac mae’r Bwrdd Iechyd Lleol wedi ei fodloni bod y fferyllydd GIG neu’r contractwr cyfarpar GIG yn debygol o barhau i dorri’r teler gwasanaeth heb reswm da, neu
(iii)mae hysbysiadau adfer neu hysbysiadau torri (neu’r ddau) wedi cael eu dyroddi’n fynych iddo mewn perthynas â thelerau gwasanaeth gwahanol, ac mae’r Bwrdd Iechyd Lleol wedi ei fodloni bod y fferyllydd GIG neu’r contractwr cyfarpar GIG yn debygol o barhau i dorri ei delerau gwasanaeth heb reswm da.
(2) At ddiben paragraff (1), ni chaiff y Bwrdd Iechyd Lleol ond dileu—
(a)enw mangre benodol o restriad fferyllydd GIG neu restriad contractwr cyfarpar GIG mewn rhestr fferyllol os yw’r holl doriadau perthnasol yn ymwneud â’r fangre benodol honno, neu
(b)enw fferyllydd GIG neu gontractwr cyfarpar GIG o restr fferyllol benodol os yw’r holl doriadau perthnasol yn ymwneud â mangre restredig sydd yr unig fangre a restrir yn yr rhestr fferyllol honno mewn perthynas â’r fferyllydd GIG neu’r contractwr cyfarpar GIG.
(3) Ni chaiff y Bwrdd Iechyd Lleol ond dileu enw fferyllydd GIG neu gontractwr cyfarpar GIG, neu ddileu enw mangre a restrir mewn perthynas â fferyllydd GIG neu gontractwr cyfarpar GIG, o restr fferyllol o dan baragraff (1)—
(a)os oes modd cyfiawnhau dileu’r enw a’i fod yn gymesur, gan roi sylw i natur a difrifoldeb y toriadau (neu’r toriadau tebygol) a’r rhesymau drostynt, a
(b)os yw’r Bwrdd Iechyd Lleol, pan fydd yn hysbysu’r fferyllydd GIG neu’r contractwr cyfarpar GIG am y penderfyniad, yn cynnwys yn yr hysbysiad ei resymau, sydd wedi eu cyfiawnhau’n briodol, dros y penderfyniad.
(4) Nid oes rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol ystyried y rhesymau dros y toriadau (neu’r toriadau tebygol), yn unol â pharagraff (3)(a), os yw wedi gwneud pob ymdrech resymol i gyfathrebu â’r fferyllydd GIG neu’r contractwr cyfarpar GIG i ganfod y rhesymau ond ei fod wedi methu â’u canfod.
(5) Pan fo’r Bwrdd Iechyd Lleol yn ystyried dileu enw fferyllydd GIG neu gontractwr cyfarpar GIG, neu ddileu’r rhestriad ar gyfer mangre benodol a restrir mewn perthynas â fferyllydd GIG neu gontractwr cyfarpar GIG, o restr fferyllol o dan baragraff (1), rhaid iddo—
(a)rhoi hysbysiad i’r fferyllydd GIG neu’r contractwr cyfarpar GIG, o leiaf 30 o ddiwrnodau cyn gwneud y penderfyniad, fod y Bwrdd Iechyd Lleol â’i fryd ar ddileu enw’r fferyllydd GIG, y contractwr cyfarpar GIG, neu’r fangre o restr fferyllol,
(b)fel rhan o’r hysbysiad hwnnw, roi gwybod i’r fferyllydd GIG neu’r contractwr cyfarpar GIG y caiff gyflwyno—
(i)sylwadau ysgrifenedig i’r Bwrdd Iechyd Lleol o ran y cam gweithredu hwnnw, ar yr amod bod y fferyllydd GIG neu’r contractwr cyfarpar GIG yn hysbysu’r Bwrdd Iechyd Lleol gyda’r sylwadau hynny o fewn 30 o ddiwrnodau gan ddechrau â dyddiad yr hysbysiad gan y Bwrdd Iechyd Lleol, a
(ii)sylwadau llafar i’r Bwrdd Iechyd Lleol o ran y cam gweithredu hwnnw, ar yr amod—
(aa)bod y fferyllydd GIG neu’r contractwr cyfarpar GIG yn hysbysu’r Bwrdd Iechyd Lleol o ddymuniad y fferyllydd GIG neu’r contractwr cyfarpar GIG i wneud hynny o fewn 30 o ddiwrnodau gan ddechrau â dyddiad yr hysbysiad gan y Bwrdd Iechyd Lleol, a
(bb)bod y fferyllydd GIG neu’r contractwr cyfarpar GIG (neu gynrychiolydd) yn bresennol yn y gwrandawiad y mae’r Bwrdd Iechyd Lleol yn ei drefnu at ddiben clywed y sylwadau hynny, y mae rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol roi gyfnod rhesymol o rybudd ohono i’r fferyllydd GIG neu’r contractwr cyfarpar GIG, ac
(c)ymgynghori ag unrhyw Bwyllgor Fferyllol Lleol y mae ei ardal yn cynnwys y fangre rhestredig benodol neu unig fangre’r fferyllydd GIG neu’r contractwr cyfarpar GIG ar y rhestr fferyllol honno.
(6) Os yw’r Bwrdd Iechyd Lleol yn penderfynu dileu enw fferyllydd GIG neu gontractwr cyfarpar GIG, neu ddileu’r rhestriad ar gyfer mangre benodol a restrir mewn perthynas â’r fferyllydd GIG neu’r contractwr cyfarpar GIG, o restr fferyllol o dan baragraff (1), rhaid iddo, pan fo’n hysbysu’r fferyllydd GIG neu’r contractwr cyfarpar GIG am y penderfyniad hwnnw, gynnwys yn yr hysbysiad hwnnw—
(a)datganiad o’r rhesymau dros y penderfyniad, a
(b)esboniad o sut y caniateir i hawliau’r fferyllydd GIG neu hawliau’r contractwr cyfarpar GIG i apelio o dan reoliad 54(1)(d) gael eu harfer.
Gwybodaeth Cychwyn
I53Rhl. 53 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(c)
Apelau yn erbyn penderfyniadau o dan Ran 9LL+C
54.—(1) Caiff fferyllydd GIG neu gontractwr cyfarpar GIG apelio yn erbyn y penderfyniadau a ganlyn gan y Bwrdd Iechyd Lleol—
(a)dyroddi hysbysiad adfer o dan reoliad 50, gan gynnwys—
(i)y camau penodedig y mae rhaid i fferyllydd GIG neu gontractwr cyfarpar GIG eu cymryd sydd yn yr hysbysiad,
(ii)hyd y cyfnod rhybudd yn yr hysbysiad,
(iii)unrhyw benderfyniad i ddarparu ar gyfer cadw tâl yn ôl a gynhwysir yn yr hysbysiad, a
(iv)swm unrhyw gadw yn ôl;
(b)penderfyniad i beidio ag adfer tâl i’r fferyllydd GIG neu’r contractwr cyfarpar GIG, fel y darperir ar ei gyfer mewn hysbysiad adfer yn unol â rheoliad 50(4)(b)(ii), neu i adfer swm llai na’r swm y mae’r fferyllydd GIG neu’r contractwr cyfarpar GIG yn ystyried y dylid ei adfer;
(c)dyroddi hysbysiad torri o dan reoliad 51, gan gynnwys—
(i)unrhyw benderfyniad i ddarparu ar gyfer cadw tâl yn ôl a gynhwysir yn yr hysbysiad, a
(ii)swm unrhyw gadw yn ôl;
(d)penderfyniad i ddileu enw fferyllydd GIG neu gontractwr cyfarpar GIG o restr fferyllol, neu ddileu’r rhestriad ar gyfer mangre restredig benodol mewn perthynas â’r fferyllydd GIG neu’r contractwr cyfarpar GIG o dan reoliad 53(1);
ar yr amod bod fferyllydd GIG neu gontractwr cyfarpar GIG yn hysbysu Gweinidogion Cymru gyda hysbysiad o apêl dilys o fewn 30 o ddiwrnodau i’r dyddiad yr hysbyswyd y fferyllydd GIG neu’r contractwr cyfarpar GIG am y penderfyniad sy’n cael ei apelio.
(2) Nid yw hysbysiad o dan baragraff (1) ond yn ddilys os yw’n cynnwys datganiad cryno a rhesymedig o’r sail dros yr apêl.
(3) Ni chaiff y Bwrdd Iechyd Lleol ddileu enw fferyllydd GIG, enw contractwr cyfarpar GIG neu’r rhestriad ar gyfer mangre restredig benodol mewn perthynas â fferyllydd GIG neu gontractwr cyfarpar GIG (yn ôl y digwydd) o restr fferyllol o dan reoliad 53(1)—
(a)os na chaiff apêl ei dwyn yn erbyn y penderfyniad i ddileu’r enw neu’r rhestriad, hyd nes bod y cyfnod ar gyfer dwyn yr apêl wedi dod i ben, neu
(b)os caiff apêl ei dwyn yn erbyn y penderfyniad i ddileu’r enw neu’r rhestriad ond ei bod yn aflwyddiannus, cyn i’r apêl gael ei benderfynu gan Weinidogion Cymru.
(4) Mae Atodlen 4 yn cael effaith mewn perthynas ag apelau i Weinidogion Cymru yn erbyn penderfyniadau o dan y Rhan hon.
Gwybodaeth Cychwyn
I54Rhl. 54 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(c)
RHAN 10LL+CTaliadau i fferyllwyr GIG a chontractwyr cyfarpar GIG
Y Tariff Cyffuriau a thâl ar gyfer fferyllwyr GIG a chontractwyr cyfarpar GIGLL+C
55.—(1) Y Tariff Cyffuriau y cyfeirir ato yn adran 81(4) o Ddeddf 2006 (trefniadau ar gyfer gwasanaethau fferyllol ychwanegol) yw swm cyfanredol y canlynol—
(a)y penderfyniadau ar dâl a wneir gan Weinidogion Cymru, wrth iddynt weithredu fel awdurdod penderfynu, o dan adran 88 o Ddeddf 2006 (tâl ar gyfer personau sy’n darparu gwasanaethau fferyllol), a
(b)unrhyw offerynnau eraill y mae’n ofynnol i Weinidogion Cymru, yn rhinwedd y Rheoliadau hyn neu Ddeddf 2006, eu cyhoeddi, neu y maent yn eu cyhoeddi, ynghyd â’r penderfyniadau hynny,
yn y cyhoeddiad a elwir y Tariff Cyffuriau a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru yn y fformat y maent yn meddwl ei fod yn addas.
(2) O ran penderfyniadau gan Weinidogion Cymru o dan adran 88 o Ddeddf 2006—
(a)caniateir iddynt gael eu gwneud drwy gyfeirio at raddfeydd, mynegeion neu fformiwlâu o unrhyw fath, a phan fo penderfyniad yn un sydd i’w wneud drwy gyfeirio at unrhyw raddfa, mynegai neu fformiwla o’r fath, caiff y penderfyniad ddarparu bod cyfrifo’r pris perthnasol i’w wneud drwy gyfeirio at y raddfa, y mynegai neu’r fformiwla sydd—
(i)ar y ffurf sy’n gyfredol ar yr adeg y gwneir y penderfyniad, a
(ii)ar unrhyw ffurf ddilynol sy’n cymryd effaith ar ôl yr adeg honno, a
(b)cânt gymryd effaith o ran tâl mewn cysylltiad â chyfnod sy’n dechrau ar neu ar ôl y dyddiad a bennir yn y penderfyniad, a gaiff fod yn ddyddiad y penderfyniad neu’n ddyddiad cynharach neu ddiweddarach, ond ni chaiff fod yn ddyddiad cynharach ond os nad yw’r penderfyniad, o’i gymryd yn ei gyfanrwydd, yn anffafriol i’r personau y mae’r penderfyniad yn ymwneud â’u tâl.
(3) Pan na fo penderfyniad a gynhwysir yn y Tariff Cyffuriau yn pennu dyddiad fel y’i crybwyllir ym mharagraff (2)(b), bydd yn cael effaith mewn perthynas â thâl mewn cysylltiad â’r cyfnod sy’n dechrau ar y dyddiad y cyhoeddir y newid i’r Tariff Cyffuriau yn unol â pharagraff (4).
(4) Rhaid i ddiwygiadau y caniateir iddynt gael eu gwneud i’r Tariff Cyffuriau ar yr adegau y mae Gweinidogion Cymru yn meddwl eu bod yn addas, gael eu cyhoeddi gan Weinidogion Cymru mewn fersiwn wedi ei chydgrynhoi o’r Tariff Cyffuriau sy’n cynnwys y diwygiadau.
(5) Rhaid cynnal yr ymgynghoriad y mae Gweinidogion Cymru yn ymgymryd ag ef o dan adran 89(1) o Ddeddf 2006 (adran 88: atodol) cyn cynnwys neu cyn newid pris cyffur neu bris cyfarpar sydd i fod yn rhan o gyfrifiad ar gyfer tâl drwy ymgynghori ynghylch y broses ar gyfer penderfynu’r pris sydd i’w gynnwys neu ei newid, ac nid ynghylch y pris arfaethedig ei hunan (oni bai ei bod yn amhosibl cynnal ymgynghoriad effeithiol mewn unrhyw ffordd arall).
(6) Rhaid i daliadau o dan y Tariff Cyffuriau gael eu gwneud—
(a)gan y Bwrdd Iechyd Lleol sy’n gyfrifol am wneud y taliad, a
(b)yn unol â threfniadau ar gyfer hawlio a gwneud taliadau sydd i’w nodi yn y Tariff Cyffuriau ond yn ddarostyngedig, fel y bo’n briodol, i unrhyw ddidyniad o dâl ar gyfer fferyllydd GIG neu gontractwr cyfarpar GIG y caniateir iddo gael ei wneud, neu y mae rhaid iddo gael ei wneud, o dan y Rheoliadau hyn neu unrhyw reoliadau eraill o dan Ddeddf 2006.
Gwybodaeth Cychwyn
I55Rhl. 55 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(c)
[F14Ad-daliad sero neu nominal am gost y cynnyrch ar gyfer brechlynnau rhag y coronafeirws, meddyginiaethau gwrthfeirol yn erbyn y coronafeirws a brechlynnau rhag feirws y ffliwLL+C
55A.—(1) Yn achos y cyffuriau neu’r meddyginiaethau y mae paragraff (2) yn gymwys iddynt, rhaid i awdurdodau penderfynu sicrhau, o ran penderfyniadau o dan adran 88 o Ddeddf 2006 (tâl ar gyfer personau sy’n darparu gwasanaethau fferyllol) mewn cysylltiad â thâl fferyllol sy’n ymwneud â chyflenwi neu roi’r cyffuriau hynny neu’r meddyginiaethau hynny, naill ai—
(a)nad ydynt yn darparu, nac yn caniatáu, i unrhyw ad-daliad gael ei dalu am gost y cyffur neu’r feddyginiaeth (ac felly pris sylfaenol y cyffur neu’r feddyginiaeth, at ddibenion y Tariff Cyffuriau, yw sero), neu
(b)nad ydynt ond yn darparu, neu ond yn caniatáu, i ad-daliad nominal gael ei dalu am gost y cyffur neu’r feddyginiaeth.
(2) Mae’r paragraff hwn yn gymwys—
(a)i gyffur neu feddyginiaeth a ddefnyddir i frechu neu imiwneiddio pobl rhag y coronafeirws (“brechlyn rhag y coronafeirws”), os yw’r amodau a nodir ym mharagraff (3) wedi eu bodloni,
(b)i gyffur gwrthfeirol neu feddyginiaeth wrthfeirol a ddefnyddir i atal neu drin y coronafeirws (“meddyginiaeth wrthfeirol yn erbyn y coronafeirws”), os yw’r amodau a nodir ym mharagraff (4) wedi eu bodloni, neu
(c)i gyffur neu feddyginiaeth a ddefnyddir i frechu neu imiwneiddio pobl rhag feirws ffliw (“brechlyn rhag y ffliw”), os yw’r amodau a nodir ym mharagraff (5) wedi eu bodloni.
(3) Yr amodau a nodir yn y paragraff hwn yw—
(a)bod naill ai Gweinidogion Cymru neu’r Ysgrifennydd Gwladol wedi prynu brechlynnau rhag y coronafeirws i’w cyflenwi fel rhan o’r gwasanaeth iechyd,
(b)bod Gweinidogion Cymru wedi gwneud trefniadau i’r cyfan neu ran o’r stoc o frechlynnau rhag y coronafeirws, a brynwyd fel y crybwyllir yn is-baragraff (a), gael ei chyflenwi i fferyllwyr GIG, pa un ai’n uniongyrchol neu drwy gyfryngwr, heb gost i’r fferyllwyr GIG,
(c)bod Bwrdd Iechyd Lleol wedi gwneud trefniadau ar gyfer rhoi brechlynnau rhag y coronafeirws o’r stoc a grybwyllir yn is-baragraff (b) yn unol ag unrhyw gyfarwyddydau a roddir iddynt gan Weinidogion Cymru o dan adran 12 o Ddeddf 2006 (swyddogaethau Byrddau Iechyd Lleol), a
(d)bod y brechlyn rhag y coronafeirws o dan sylw yn dod o’r stoc honno a’i fod yn cael ei roi fel rhan o’r gwasanaeth iechyd.
(4) Yr amodau a nodir yn y paragraff hwn yw—
(a)bod naill ai Gweinidogion Cymru neu’r Ysgrifennydd Gwladol wedi prynu meddyginiaethau gwrthfeirol yn erbyn y coronafeirws o fath penodol i’w cyflenwi fel rhan o’r gwasanaeth iechyd,
(b)bod Gweinidogion Cymru wedi gwneud trefniadau i’r cyfan neu ran o’r stoc o’r math penodol hwnnw o feddyginiaeth wrthfeirol yn erbyn y coronafeirws, a brynwyd fel y crybwyllir yn is-baragraff (a), gael ei chyflenwi i fferyllwyr GIG, pa un ai’n uniongyrchol neu drwy gyfryngwr, heb gost i’r fferyllwyr GIG, ac
(c)o ran y feddyginiaeth wrthfeirol yn erbyn y coronafeirws o dan sylw—
(i)ei bod yn dod o’r stoc honno, neu
(ii)nad yw’n dod o’r stoc honno ond serch hynny ei bod y math penodol o feddyginiaeth wrthfeirol yn erbyn y coronafeirws sydd ar gael heb gost i fferyllwyr GIG o dan y trefniadau a grybwyllir yn is-baragraff (b).
(5) Yr amodau a nodir yn y paragraff hwn yw—
(a)bod naill ai Gweinidogion Cymru neu’r Ysgrifennydd Gwladol wedi prynu brechlynnau rhag feirws y ffliw i’w cyflenwi fel rhan o’r gwasanaeth iechyd,
(b)bod Gweinidogion Cymru wedi gwneud trefniadau i’r cyfan neu ran o’r stoc o frechlynnau rhag feirws y ffliw, a brynwyd fel y crybwyllir yn is-baragraff (a), gael ei chyflenwi i fferyllwyr GIG, pa un ai’n uniongyrchol neu drwy gyfryngwr, heb gost i’r fferyllwyr GIG,
(c)bod Bwrdd Iechyd Lleol wedi gwneud trefniadau ar gyfer rhoi brechlynnau rhag feirws y ffliw o’r stoc a grybwyllir yn is-baragraff (b) yn unol ag unrhyw gyfarwyddydau a roddir iddynt gan Weinidogion Cymru o dan adran 12 o Ddeddf 2006 (swyddogaethau Byrddau Iechyd Lleol), a
(d)bod y brechlyn rhag feirws y ffliw o dan sylw yn dod o’r stoc honno a’i fod yn cael ei roi fel rhan o’r gwasanaeth iechyd.
(6) At ddibenion paragraff (4), caiff Gweinidogion Cymru briodweddu’r math penodol o feddyginiaethau gwrthfeirol yn erbyn y coronafeirws sydd ar gael heb gost i fferyllwyr GIG drwy gyfeirio at y modd y cyflwynir y cyffur neu’r feddyginiaeth yn unig (yn ogystal â thrwy gyfeirio at gynhwysyn actif y cyffur neu’r feddyginiaeth, cryfder y cyffur neu’r feddyginiaeth, neu unrhyw briodweddau eraill sy’n hynodi’r cyffur neu’r feddyginiaeth, neu gyfuniad o unrhyw rai o’r priodweddau hynny).
(7) Er mwyn osgoi amheuaeth, caniateir serch hynny i benderfyniadau o dan adran 88 o Ddeddf 2006 nad ydynt, yn unol â’r rheoliad hwn—
(a)yn darparu, nac yn caniatáu, i unrhyw ad-daliad gael ei dalu am gost cyffur neu feddyginiaeth (ac felly pris sylfaenol y cyffur neu’r feddyginiaeth, at ddibenion y Tariff Cyffuriau, yw sero), neu
(b)ond yn darparu, neu ond yn caniatáu, i ad-daliad nominal gael ei dalu am gost cyffur neu feddyginiaeth,
ddarparu neu ganiatáu i dâl gael ei dalu am unrhyw wasanaeth a ddarperir gan fferyllydd GIG y cyflenwir neu y rhoddir y cyffur neu’r feddyginiaeth fel rhan ohono.
(8) Yn y rheoliad hwn—
(a)ystyr “ad-daliad nominal”, yn achos cyffur sydd wedi ei ddarparu neu feddyginiaeth sydd wedi ei darparu heb gost i fferyllydd GIG, yw talu swm sy’n cael ei dalu yn lle’r swm y byddai’r fferyllydd GIG fel arfer yn ei ennill o’r gwahaniaeth rhwng—
(i)y swm a dalodd am y cyffur pan wnaeth ei brynu neu am y feddyginiaeth pan wnaeth ei phrynu, a
(ii)y swm a delir iddo gan y Bwrdd Iechyd Lleol perthnasol mewn cysylltiad â chost y cyffur hwnnw neu’r feddyginiaeth honno (gan amlaf y pris sylfaenol a restrir yn y Tariff Cyffuriau), os yw’n cyflenwi neu’n rhoi’r cyffur hwnnw neu’r feddyginiaeth honno o dan drefniadau ar gyfer darparu gwasanaethau fferyllol, a
(b)mae i “gwasanaeth iechyd” yr ystyr a roddir i “health service” yn adran 206(1) o Ddeddf 2006.]
Diwygiadau Testunol
F14Rhl. 55A wedi ei fewnosod (6.1.2023) gan Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) (Diwygio) 2022 (O.S. 2022/1314), rhlau. 1, 4
Byrddau Iechyd Lleol fel awdurdodau penderfynuLL+C
56.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru ddatgan yn y Tariff Cyffuriau mai’r awdurdod penderfynu ar gyfer ffi benodol, lwfans penodol neu dâl arall fydd Bwrdd Iechyd Lleol y fferyllydd GIG neu’r contractwr cyfarpar GIG y mae’r tâl yn ymwneud ag ef.
(2) Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol wedi ei awdurdodi i fod yn awdurdod penderfynu, rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol—
(a)ymgynghori â’r Pwyllgor Fferyllol Lleol perthnasol cyn gwneud unrhyw benderfyniad,
(b)cyhoeddi’r penderfyniad yn y modd y mae’n meddwl ei fod yn briodol ar gyfer ei ddwyn i sylw’r personau sydd wedi eu cynnwys yn ei restrau fferyllol, ac
(c)rhoi’r penderfyniad ar gael ar gyfer edrych arno.
(3) Rhaid i benderfyniad a wneir gan Fwrdd Iechyd Lleol gynnwys y trefniadau ar gyfer hawlio a thalu’r tâl ac—
(a)rhaid i hawliadau gan fferyllwyr GIG a chontractwyr cyfarpar GIG gael eu gwneud yn unol â’r trefniadau, a
(b)rhaid gwneud taliadau o’r tâl yn unol â’r trefniadau yn ddarostyngedig, fel y bo’n briodol, i unrhyw ddidyniad o’r tâl y caniateir iddo gael ei wneud, neu y mae rhaid iddo gael ei wneud, o dan y Rheoliadau hyn neu unrhyw reoliadau eraill o dan Ddeddf 2006.
Gwybodaeth Cychwyn
I56Rhl. 56 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(c)
GordaliadauLL+C
57.—(1) Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol yn ystyried bod taliad wedi ei wneud i fferyllydd GIG neu gontractwr cyfarpar GIG fel y’i crybwyllir yn rheoliad 55(6) neu 56(3) o dan amgylchiadau pan nad oedd y taliad yn ddyledus, rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol dynnu sylw’r fferyllydd GIG neu’r contractwr cyfarpar GIG at y gordaliad ac—
(a)pan fo’r fferyllydd GIG neu’r contractwr cyfarpar GIG yn cydnabod bod gordaliad wedi ei wneud, neu
(b)pan na fo’r fferyllydd GIG neu’r contractwr cyfarpar GIG yn cydnabod bod gordaliad wedi ei wneud ond mae’r Bwrdd Iechyd Lleol neu, yn dilyn apêl, Weinidogion Cymru o dan reoliad 9(1)(c) o Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Pwyllgorau Gwasanaethau a’r Tribiwnlys) 1992, yn penderfynu bod gordaliad wedi ei wneud,
bydd y swm a ordalwyd yn adenilladwy, naill ai drwy ei ddidynnu o dâl y fferyllydd GIG neu’r contractwr cyfarpar GIG neu rywfodd arall.
(2) Nid yw adennill gordaliad o dan y rheoliad hwn yn rhagfarnu’r ymchwiliad i doriad honedig o’r telerau gwasanaeth.
Gwybodaeth Cychwyn
I57Rhl. 57 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(c)
Cynllun gwobrwyoLL+C
58.—(1) Bydd fferyllydd GIG y cyflwynir archeb iddo o dan baragraff 5 o Atodlen 5, neu gontractwr cyfarpar GIG y cyflwynir archeb iddo o dan baragraff 4 o Atodlen 6, yn gymwys i hawlio taliad gan y Bwrdd Iechyd Lleol, yn unol â’r Tariff Cyffuriau—
(a)os, yn unol â pharagraff 10 o Atodlen 5 neu baragraff 9 o Atodlen 6, gwrthododd y fferyllydd GIG neu’r contractwr cyfarpar GIG ddarparu’r cyffuriau neu’r meddyginiaethau neu’r cyfarpar rhestredig a archebwyd, ac os rhoddodd wybod i’r Bwrdd Iechyd Lleol am y weithred hon cyn gynted ag y bo’n ymarferol,neu
(b)os darparwyd y cyffuriau neu’r cyfarpar rhestredig gan y fferyllydd GIG neu’r contractwr cyfarpar GIG, ond bod rheswm ganddo ar y pryd neu’n ddiweddarach dros gredu nad oedd yr archeb yn archeb ddilys ar gyfer y person a enwir ar y ffurflen bresgripsiwn neu’r ffurflen bresgripsiwn amlroddadwy, a bod y fferyllydd GIG neu’r contractwr cyfarpar GIG wedi rhoi gwybod i’r Bwrdd Iechyd Lleol am y gred honno cyn gynted ag y bo’n ymarferol ac, yn y naill achos neu’r llall, bod y fferyllydd GIG neu’r contractwr cyfarpar GIG wedi anfon yr archeb y cyfeirir ati yn y paragraff hwn i’r Bwrdd Iechyd Lleol a bod y Bwrdd Iechyd Lleol wedi cadarnhau nad oedd yr archeb y cyfeirir ati yn y paragraff hwn yn archeb ddilys ar gyfer y person a enwir ar y ffurflen bresgripsiwn neu’r ffurflen bresgripsiwn amlroddadwy.
(2) Rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol, mewn cysylltiad ag unrhyw hawliad o dan baragraff (1), wneud unrhyw daliad sy’n ddyledus i’r fferyllydd GIG neu’r contractwr cyfarpar GIG a gyfrifir yn y modd a bennir yn y Tariff Cyffuriau.
(3) Yn y rheoliad hwn, mae “archeb” yn cynnwys archeb honedig.
Gwybodaeth Cychwyn
I58Rhl. 58 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(c)
Taliadau i fferyllwyr GIG a chontractwyr cyfarpar GIG sydd wedi eu hatal dros droLL+C
59.—(1) Rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol wneud taliadau i unrhyw fferyllydd GIG neu gontractwr cyfarpar GIG sydd wedi ei atal dros dro o restr fferyllol, yn unol â phenderfyniad Gweinidogion Cymru mewn perthynas â thaliadau o’r fath.
(2) Rhaid i Weinidogion Cymru wneud y penderfyniad yn unol â pharagraff (3), ar ôl ymgynghori â’r sefydliadau hynny a gydnabyddir ganddynt fel rhai sy’n cynrychioli fferyllwyr GIG a chontractwyr cyfarpar GIG y mae trefniadau eisoes yn bodoli â hwy ar gyfer darparu gwasanaethau fferyllol, a rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi’r penderfyniad yn y Tariff Cyffuriau.
(3) Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r penderfyniad o bryd i’w gilydd ar ôl ymgynghori â’r sefydliadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2), a rhaid cyhoeddi unrhyw ddiwygiadau hefyd gyda’r Tariff Cyffuriau.
(4) Caiff penderfyniad Gweinidogion Cymru gynnwys darpariaeth nad yw taliadau yn unol â’r penderfyniad i fod yn fwy na swm penodedig mewn unrhyw gyfnod penodedig.
Gwybodaeth Cychwyn
I59Rhl. 59 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(c)
RHAN 11LL+CAmrywiol
Bwrdd Iechyd Lleol cartrefLL+C
60.—(1) Caiff ceisydd sy’n gorff corfforedig y mae’n ofynnol iddo ddarparu’r wybodaeth a bennir yn Rhan 2 o Atodlen 2 wneud cais i Fwrdd Iechyd Lleol i’r Bwrdd Iechyd Lleol hwnnw weithredu fel ei Fwrdd Iechyd Lleol cartref.
(2) Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol wedi cytuno â chais a wneir o dan baragraff (1), caiff ceisydd y mae’n ofynnol iddo ddarparu, fel rhan o gais, yr wybodaeth a bennir yn Rhan 2 o Atodlen 2, ddarparu’r wybodaeth honno i’w Fwrdd Iechyd Lleol cartref yn lle hynny, a rhoi gwybod i’r Bwrdd Iechyd Lleol y gwneir y cais iddo fod yr wybodaeth honno eisoes ym meddiant y Bwrdd Iechyd Lleol cartref.
(3) Rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol cartref drosglwyddo’r wybodaeth a gafwyd gan geisydd o dan y rheoliad hwn i unrhyw Fwrdd Iechyd Lleol y mae’r ceisydd yn gwneud cais iddo yn ddiweddarach, a rhaid iddo wneud hynny o fewn 30 o ddiwrnodau i gael cais am yr wybodaeth honno gan y Bwrdd Iechyd Lleol arall.
(4) Rhaid i’r ceisydd naill ai—
(a)cadarnhau wrth y Bwrdd Iechyd Lleol y gwneir y cais iddo fod yr wybodaeth yn gyfredol, neu
(b)diweddaru’r wybodaeth drwy ei hanfon i’r Bwrdd Iechyd Lleol cartref.
Gwybodaeth Cychwyn
I60Rhl. 60 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(c)
Cyhoeddi manylionLL+C
61.—(1) Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol gyhoeddi’r canlynol, yn y modd y gwêl yn addas, a rhoi copïau o’r canlynol ar gael yn ei swyddfeydd ar gyfer edrych arnynt—
(a)ei asesiad o anghenion fferyllol,
(b)ei restr fferyllol,
(c)ei restr meddygon fferyllol,
(d)map sy’n amlinellu ffiniau unrhyw ardaloedd rheoledig a lleoliadau neilltuedig sydd wedi eu penderfynu,
(e)manylion am unrhyw benderfyniadau a wnaed gan y Bwrdd Iechyd Lleol o dan y Rheoliadau hyn yn ystod y 3 blynedd flaenorol,
(f)y telerau gwasanaeth ar gyfer fferyllwyr GIG yn Atodlen 5,
(g)y telerau gwasanaeth ar gyfer contractwyr cyfarpar GIG yn Atodlen 6,
(h)y telerau gwasanaeth ar gyfer meddygon sy’n darparu gwasanaethau fferyllol yn Atodlen 7, ac
(i)y Tariff Cyffuriau.
(2) Caiff Bwrdd Iechyd Lleol—
(a)rhoi unrhyw un neu ragor o’r dogfennau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) ar gael i edrych arnynt mewn unrhyw leoedd eraill yn yr ardal y sefydlwyd y Bwrdd Iechyd Lleol ar ei chyfer ac yr ymddengys i’r Bwrdd Iechyd Lleol eu bod yn gyfleus er mewn rhoi gwybod i bob person a chanddo fuddiant, neu
(b)cyhoeddi, mewn lleoedd o’r fath yn yr ardal y sefydlwyd y Bwrdd Iechyd Lleol ar ei chyfer, hysbysiad o’r lleoedd a’r amseroedd y gellir gweld copïau o’r dogfennau hynny.
(3) Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol anfon copi o’i asesiad o anghenion fferyllol, ei restrau fferyllol a’i restr meddygon fferyllol at Weinidogion Cymru, y Pwyllgor Meddygol Lleol a’r Pwyllgor Fferyllol Lleol, a rhaid iddo, o fewn 14 o ddiwrnodau i unrhyw newid i’r rhestrau hynny, roi gwybod iddynt yn ysgrifenedig am y newidiadau hynny.
Gwybodaeth Cychwyn
I61Rhl. 61 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(c)
Arfer yr hawl i ddewis mewn achosion penodolLL+C
62. Caniateir gwneud cais i fferyllydd GIG neu gontractwr cyfarpar GIG am wasanaethu fferyllol —
(a)ar ran unrhyw blentyn gan y naill riant neu’r llall neu, yn absenoldeb y ddau riant, gan y gwarcheidwad neu berson arall a chanddo ofal dros y plentyn,
(b)ar ran unrhyw berson o dan 18 mlwydd oed sydd—
(i)yng ngofal awdurdod y’i traddodwyd i’w ofal o dan ddarpariaethau Deddf Plant 1989(34), gan berson sydd wedi ei awdurdodi’n briodol gan yr awdurdod hwnnw, neu
(ii)yng ngofal sefydliad gwirfoddol, gan y sefydliad hwnnw neu berson sydd wedi ei awdurdodi’n briodol gan y sefydliad,
(c)ar ran unrhyw oedolyn nad oes ganddo’r gallu i wneud cais o’r fath neu i awdurdodi gwneud cais o’r fath ar ei ran, gan berthynas, neu’r prif ofalwr i’r person hwnnw, neu
(d)ar ran unrhyw berson arall, gan unrhyw berson sydd wedi ei awdurdodi’n briodol.
Gwybodaeth Cychwyn
I62Rhl. 62 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(c)
Darpariaethau trosiannolLL+C
63.—(1) Rhaid i unrhyw gais a wneir o dan Reoliadau 2013 a gafwyd gan Fwrdd Iechyd Lleol ar neu cyn 30 Medi 2021 gael ei benderfynu yn unol â darpariaethau Rheoliadau 2013, hyd nes y bydd y cais hwnnw yn cael ei benderfynu’n derfynol.
(2) Rhaid i unrhyw benderfyniad arfaethedig gan Fwrdd Iechyd Lleol o dan reoliad 6(2) o Reoliadau 2013 (ardaloedd sy’n ardaloedd rheoledig) ar neu cyn 30 Medi 2020 gael ei benderfynu yn unol â darpariaethau Rheoliadau 2013, hyd nes bod y cais hwnnw wedi cael ei benderfynu’n derfynol.
(3) Rhaid i unrhyw apêl o dan Reoliadau 2013—
(a)a ddaw i law Gweinidogion Cymru ar neu cyn 30 Medi 2020, neu
(b)a wneir ar ôl i’r Rheoliadau hyn ddod i rym, mewn cysylltiad â chais a benderfynwyd yn unol â pharagraff (1), neu benderfyniad a wnaed o dan baragraff (2),
gael ei phenderfynu yn unol â darpariaethau Rheoliadau 2013.
(4) Pan fo hawlogaeth gan berson, cyn 30 Medi 2020 neu o ganlyniad i baragraff (1) neu (3), ar sail penderfyniad (pa un a yw’n benderfyniad gan Fwrdd Iechyd Lleol neu’n dilyn apêl)—
(a)i gael ei gynnwys mewn rhestr fferyllol neu restr meddygon fferyllol, ond nad yw wedi ei gynnwys yn y rhestr honno, neu
(b)i gael rhestru mangre mewn perthynas â’i gofnod mewn rhestr fferyllol neu restr meddygon fferyllol, ac nad yw’r fangre wedi ei rhestru mewn perthynas â’r person,
mae’r trefniadau ar gyfer rhestru’r person hwnnw neu’r fangre honno, a’r amgylchiadau pan fydd y penderfyniad hwnnw yn darfod, fel y’u nodir yn Rheoliadau 2013.
(5) Mewn cysylltiad â phenderfyniad a wneir o dan baragraff (2), y weithdrefn y mae rhaid ei dilyn yw’r weithdrefn honno yn rheoliad 6(4) o Reoliadau 2013 ac yn Rhannau 1 a 2 o Atodlen 2 iddynt.
(6) Pan roddwyd cydsyniad rhagarweiniol o dan reoliad 12 o Reoliadau 2013 (ceisiadau am gydsyniad rhagarweiniol ac effaith cydsyniad rhagarweiniol) ac nad oedd cais wedi ei wneud o dan reoliad 12(6) o Reoliadau 2013 cyn 30 Medi 2020, bydd rheoliad 18 (ceisiadau am gydsyniad rhagarweiniol ac effaith cydsyniad rhagarweiniol) yn gymwys fel pe bai’r cydsyniad rhagarweiniol wedi ei roi o dan y rheoliad hwnnw.
(7) Pan fo paragraff (6) yn gymwys, mae rheoliad 12(6) o Reoliadau 2013 wedi ei roi yn lle rheoliad 18(5).
(8) Os nad yw penderfyniad o dan reoliad 6 o Reoliadau 2013 wedi cael ei benderfynu’n derfynol cyn 30 Medi 2020 (“penderfyniad sydd yn yr arfaeth”), rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol ohirio ystyried unrhyw gais a gyflwynir iddo o dan Rannau 5 a 6 o’r Rheoliadau hyn pe gallai penderfyniad sydd yn yr arfaeth effeithio ar y cais hwnnw, hyd nes bod y penderfyniad sydd yn yr arfaeth wedi ei benderfynu’n derfynol.
(9) At ddibenion y rheoliad hwn, nid yw cais neu benderfyniad i’w drin fel pe bai wedi ei benderfynu’n derfynol tan ddiwedd y cyfnod ar gyfer dwyn apêl yn erbyn y cais hwnnw neu’r penderfyniad hwnnw, neu hyd nes bod unrhyw apêl o’r fath wedi ei phenderfynu, pa un bynnag yw’r diweddaraf.
Gwybodaeth Cychwyn
I63Rhl. 63 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(c)
Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadolLL+C
64. Mae’r Rheoliadau a restrir yn Atodlen 8 wedi eu diwygio fel y’i nodir yn yr Atodlen honno.
Gwybodaeth Cychwyn
I64Rhl. 64 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(c)
DirymuLL+C
65.—(1) Mae Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2013 wedi eu dirymu yn unol â pharagraffau (2) i (5).
(2) Ar 1 Hydref 2020—
(a)Rhannau 1 i 3, a
(b)Rhannau 7 ac 8.
(3) Ar 31 Mawrth 2021—
(a)yn Rhan 4, rheoliad 8(1)(a), a
(b)yn Rhan 5, rheoliad 20.
(4) Ar 1 Hydref 2021—
(a)yn Rhan 4, rheoliad 8(1)(b) i (7), a rheoliadau 9 i 19,
(b)yn Rhan 5, rheoliadau 21 i 30, ac
(c)Rhan 6.
(5) I’r graddau nad ydynt wedi eu dirymu gan baragraffau (2) i (4), mae Rheoliadau 2013 wedi eu dirymu ar 1 Hydref 2021.
Gwybodaeth Cychwyn
I65Rhl. 65 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(c)
Vaughan Gething
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
29 Medi 2020