xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 2Asesiadau o anghenion fferyllol

Asesiadau o anghenion fferyllol

3.—(1Cyfeirir at y datganiad o’r anghenion am wasanaethau fferyllol y mae’n ofynnol i bob Bwrdd Iechyd Lleol ei gyhoeddi yn rhinwedd adran 82A o Ddeddf 2006(1), pa un a yw’n ddatganiad o’i asesiad cyntaf neu o unrhyw asesiad diwygiedig, yn y Rheoliadau hyn fel “asesiad o anghenion fferyllol”.

(2Y gwasanaethau fferyllol y mae rhaid i bob asesiad o anghenion fferyllol ymwneud â hwy yw’r holl wasanaethau fferyllol y caniateir iddynt gael eu darparu o dan drefniadau a wneir gan Fwrdd Iechyd Lleol ar gyfer—

(a)darparu gwasanaethau fferyllol gan berson ar restr fferyllol,

(b)darparu gwasanaethau fferyllol lleol o dan gynllun peilot, neu

(c)gweinyddu cyffuriau a chyfarpar gyda pherson sydd ar rhestr meddygon fferyllol (ond nid gwasanaethau GIG eraill y caniateir iddynt gael eu darparu o dan drefniadau a wneir gan Fwrdd Iechyd Lleol â meddyg fferyllol).

Yr wybodaeth sydd i’w chynnwys mewn asesiadau o anghenion fferyllol

4.—(1Rhaid i bob asesiad o anghenion fferyllol gynnwys yr wybodaeth a nodir yn Atodlen 1.

(2Rhaid i bob Bwrdd Iechyd Lleol, cyhyd ag y bo’n ymarferol, gadw’n gyfredol y map y mae’n ei gynnwys yn ei asesiad o anghenion fferyllol yn unol â pharagraff 5 o Atodlen 1 (ac nid oes angen iddo ailgyhoeddi’r asesiad cyfan na chyhoeddi datganiad atodol).

Y dyddiad erbyn pryd y mae’r asesiad cyntaf o anghenion fferyllol i’w gyhoeddi

5.  Rhaid i bob Bwrdd Iechyd Lleol gyhoeddi ei asesiad cyntaf o anghenion fferyllol o fewn 12 mis i’r dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym.

Asesiadau dilynol

6.—(1Ar ôl iddo gyhoeddi ei asesiad cyntaf o anghenion fferyllol, rhaid i bob Bwrdd Iechyd Lleol gyhoeddi datganiad o’i asesiad diwygiedig—

(a)heb fod yn hwyrach na 5 mlynedd ar ôl iddo gyhoeddi’r asesiad blaenorol o anghenion fferyllol, neu

(b)ar unrhyw adeg o fewn 5 mlynedd iddo gyhoeddi’r asesiad blaenorol o anghenion fferyllol, gan roi sylw i unrhyw asesiadau eraill o anghenion y mae’r Bwrdd Iechyd Lleol o dan ddyletswydd statudol i’w cyhoeddi.

(2Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol wneud asesiad diwygiedig cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl nodi newidiadau, sy’n newidiadau sylweddol, ers cyhoeddi ei asesiad o anghenion fferyllol, sy’n berthnasol i ganiatáu ceisiadau y cyfeirir atynt yn adran 83 o Ddeddf 2006, oni bai ei fod wedi ei fodloni y byddai gwneud asesiad diwygiedig yn ymateb anghymesur i’r newidiadau hynny.

(3Hyd nes y caiff datganiad o asesiad diwygiedig ei gyhoeddi, caniateir i Fwrdd Iechyd Lleol gyhoeddi datganiad atodol sy’n esbonio’r newidiadau i argaeledd gwasanaethau fferyllol ers cyhoeddi ei asesiad o anghenion fferyllol (sy’n dod yn rhan o’r asesiad), pan—

(a)bo’r newidiadau yn berthnasol i ganiatáu ceisiadau y cyfeirir atynt yn adran 83 o Ddeddf 2006, a

(b)bo’r Bwrdd Iechyd Lleol—

(i)wedi ei fodloni y byddai gwneud asesiad diwygiedig yn ymateb anghymesur i’r newidiadau hynny, neu

(ii)wrthi’n gwneud asesiad diwygiedig ac wedi ei fodloni ei bod yn hanfodol addasu ei asesiad o anghenion fferyllol ar unwaith er mwyn atal niwed i ddarpariaeth gwasanaethau fferyllol yn ei ardal.

(4Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol yn cyhoeddi datganiad atodol yn unol â pharagraff (3), rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol hysbysu’r cyrff hynny a restrir yn rheoliad 7(1) am ei gyhoeddi cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

Ymgynghori ar asesiadau o anghenion fferyllol

7.—(1Wrth wneud asesiad at ddibenion cyhoeddi asesiad o anghenion fferyllol, rhaid i bob Bwrdd Iechyd Lleol ymgynghori ar gynnwys yr asesiad â’r canlynol—

(a)Pwyllgor Fferyllol Lleol Cymru,

(b)y Pwyllgor Meddygol Lleol ar gyfer ei ardal (gan gynnwys un ar gyfer ei ardal a’r Pwyllgor ar gyfer un neu ragor o Fyrddau Iechyd Lleol eraill sy’n berthnasol i’r asesiad),

(c)y personau sydd ar ei restrau fferyllol,

(d)unrhyw fferyllfa cynllun peilot y mae’r Bwrdd Iechyd Lleol wedi gwneud trefniadau â hi ar gyfer darparu unrhyw wasanaethau fferyllol lleol,

(e)y personau sydd ar ei restr meddygon fferyllol (os oes ganddo un),

(f)unrhyw berson y mae’r Bwrdd Iechyd Lleol wedi gwneud trefniadau ag ef ar gyfer darparu gwasanaethau gweinyddu,

(g)unrhyw ddarparwr gwasanaethau meddygol sylfaenol yn ei ardal,

(h)unrhyw Gyngor Iechyd Cymuned ar gyfer ei ardal ac unrhyw grŵp arall sy’n cynrychioli cleifion, defnyddwyr neu gymuned yn ei ardal sydd, ym marn y Bwrdd Iechyd Lleol, â buddiant yn narpariaeth gwasanaethau fferyllol yn ei ardal,

(i)unrhyw Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol ar gyfer ei ardal,

(j)unrhyw awdurdod lleol ar gyfer ei ardal,

(k)unrhyw Ymddiriedolaeth GIG yn ei ardal, ac

(l)unrhyw Fwrdd Iechyd Lleol cyfagos.

(2Rhaid cyhoeddi drafft o’r asesiad arfaethedig o anghenion fferyllol ar wefan y Bwrdd Iechyd Lleol am o leiaf 60 niwrnod.

(3Rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol, heb fod yn hwyrach na 24 awr ar ôl i’r asesiad drafft o anghenion fferyllol gael ei gyhoeddi yn unol â pharagraff (2), hysbysu’r personau a restrir ym mharagraff (1)—

(a)bod drafft o’r asesiad arfaethedig o anghenion fferyllol wedi cael ei gyhoeddi ar wefan y Bwrdd Iechyd Lleol, a

(b)am y dyddiad erbyn pryd y mae rhaid darparu unrhyw ymateb i’r ymgynghoriad i’r Bwrdd Iechyd Lleol.

(4Os yw person a restrir ym mharagraff (1) yn gofyn am gopi o’r asesiad drafft o anghenion fferyllol ar ffurf copi caled, rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol, cyn gynted ag y bo’n ymarferol, ac o fewn 14 o ddiwrnodau beth bynnag, roi copi caled o’r drafft i’r person hwnnw (yn rhad ac am ddim).

(5Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol yn cael ei hysbysu yn unol â pharagraff (3) a bod Pwyllgor Meddygol Lleol ar gyfer ei ardal sy’n wahanol i’r Pwyllgor Meddygol Lleol yr ymgynghorwyd ag ef o dan baragraff (1)(b), rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol a hysbysir—

(a)ymgynghori â’r Pwyllgor hwnnw cyn ymateb i’r ymgynghoriad, a

(b)rhoi sylw i unrhyw sylwadau sydd wedi dod i law oddi wrth y Pwyllgor wrth ymateb i’r ymgynghoriad.

Materion i’w hystyried wrth wneud asesiadau

8.—(1Wrth wneud asesiad at ddibenion cyhoeddi asesiad o anghenion fferyllol, rhaid i bob Bwrdd Iechyd Lleol roi sylw, cyhyd ag y bo’n ymarferol gwneud hynny, i’r materion a ganlyn—

(a)unrhyw asesiad neu asesiad pellach o anghenion perthnasol a lunnir o dan adran 82A o Ddeddf 2006—

(i)pan fo’n ymwneud ag ardal y Bwrdd Iechyd Lleol, a

(ii)nad yw wedi ei ddisodli gan asesiad pellach o dan yr adran honno,

(b)demograffeg ei ardal,

(c)unrhyw anghenion gwahanol sydd gan ardaloedd lleol gwahanol o fewn ei ardal,

(d)y gwasanaethau fferyllol a ddarperir o dan drefniadau ag unrhyw Fwrdd Iechyd Lleol cyfagos sy’n effeithio ar yr angen am wasanaethau fferyllol yn ei ardal, ac

(e)unrhyw wasanaethau gweinyddu neu wasanaethau GIG eraill a ddarperir yn ei ardal neu y tu allan iddi (nad ydynt wedi eu cwmpasu gan is-baragraff (d)) sy’n effeithio ar yr angen am wasanaethau fferyllol yn ei ardal.

(2Wrth wneud asesiad at ddibenion cyhoeddi asesiad o anghenion fferyllol, rhaid i bob Bwrdd Iechyd Lleol roi sylw i’r anghenion tebygol yn y dyfodol—

(a)i’r graddau sy’n angenrheidiol er mwyn gwneud asesiad priodol o’r materion a grybwyllir ym mharagraff 3 o Atodlen 1, a

(b)gan roi sylw i newidiadau yn nifer y bobl yn ei ardal y bydd angen gwasanaethau fferyllol arnynt.

Cyhoeddi asesiadau o anghenion fferyllol

9.—(1Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol gyhoeddi ar ei wefan—

(a)yr asesiad o anghenion fferyllol ar gyfer ei ardal,

(b)unrhyw asesiad dilynol a wneir yn unol â rheoliad 6(1), ac

(c)unrhyw datganiad atodol a wneir yn unol â rheoliad 6(3).

(2Os yw Bwrdd Iechyd Lleol yn cael cais am gopi o unrhyw un neu ragor o’r dogfennau ym mharagraff (1) ar ffurf copi caled, rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ac o fewn 14 o ddiwrnodau beth bynnag, roi copi caled (yn rhad ac am ddim).

(1)

Mewnosodwyd adran 82A gan adran 111 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 (dccc 2).