xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 5LL+CCeisiadau gan fferyllwyr GIG a chontractwyr cyfarpar GIG i gael eu cynnwys mewn rhestrau fferyllol neu i restrau fferyllol gael eu diwygio

Ceisiadau i gynnwys person mewn rhestr fferyllol neu i ddiwygio rhestr fferyllolLL+C

15.—(1Caiff person gyflwyno cais i Fwrdd Iechyd Lleol pan fo’r person hwnnw—

(a)yn dymuno cael ei gynnwys mewn rhestr fferyllol a gynhelir gan y Bwrdd Iechyd Lleol,

(b)eisoes wedi ei gynnwys mewn rhestr fferyllol a gynhelir gan y Bwrdd Iechyd Lleol ond yn dymuno, o fewn ardal y Bwrdd Iechyd Lleol—

(i)agor mangre ychwanegol er mwyn darparu’r un gwasanaethau fferyllol neu wasanaethau fferyllol gwahanol ohoni,

(ii)adleoli i fangre wahanol ac, yn y fangre honno, ddarparu’r un gwasanaethau fferyllol neu wasanaethau fferyllol gwahanol, neu

(iii)darparu, o’r fangre restredig, wasanaethau fferyllol o ddisgrifiad gwahanol i’r gwasanaethau fferyllol hynny a restrwyd eisoes mewn perthynas â’r person hwnnw, neu

(c)eisoes wedi ei gynnwys mewn rhestr fferyllol a gynhelir gan Fwrdd Iechyd Lleol cyfagos, ond yn dymuno adleoli i fangre wahanol yn ardal y Bwrdd Iechyd Lleol y gwneir y cais iddo ac, yn y fangre honno, ddarparu’r un gwasanaethau fferyllol neu wasanaethau fferyllol gwahanol.

(2Rhaid i gais a wneir i Fwrdd Iechyd Lleol o dan y rheoliad hwn gael ei wneud yn ysgrifenedig, a rhaid iddo ddarparu’r wybodaeth a nodir yn Rhan 1 o Atodlen 2.

(3Yn ddarostyngedig i reoliad 60 (Bwrdd Iechyd Lleol cartref), rhaid i berson sy’n gwneud cais o dan baragraff (1)(a) ddarparu’r wybodaeth a’r ymgymeriadau a bennir yn Rhan 2 o Atodlen 2.

(4Os yw Bwrdd Iechyd Lleol yn ystyried nad yw cais yn cynnwys yr holl wybodaeth sy’n ofynnol o dan baragraffau (2) a (3)—

(a)caiff ofyn i’r ceisydd am yr wybodaeth neu’r ddogfennaeth berthnasol sydd ar goll, a

(b)rhaid i’r ymgeisydd, o fewn y cyfnod a bennir yn rhesymol gan y Bwrdd Iechyd Lleol yn y cais o dan is-baragraff (a)—

(i)darparu unrhyw wybodaeth neu ddogfennaeth y gofynnir amdani’n rhesymol,

(ii)hysbysu’r Bwrdd Iechyd Lleol y bydd oedi o ran darparu’r wybodaeth neu’r ddogfennaeth y gofynnwyd amdani, am resymau penodedig, a phennu dyddiad erbyn pryd y mae’r ceisydd yn ymgymryd â darparu’r wybodaeth neu’r ddogfennaeth, neu

(iii)os yw’r ceisydd yn ystyried i’r Bwrdd Iechyd Lleol ofyn am unrhyw wybodaeth neu ddogfennaeth yn afresymol, hysbysu’r Bwrdd Iechyd Lleol am hynny a cheisio adolygiad gan y Bwrdd Iechyd Lleol o resymoldeb y cais.

(5Os yw ceisydd yn gwrthod cydymffurfio â chais o dan baragraff (4)(a)—

(a)o fewn y cyfnod—

(i)a bennir yn rhesymol gan y Bwrdd Iechyd Lleol o dan baragraff (4)(b), neu

(ii)sy’n gorffen ar y dyddiad a bennir gan y ceisydd yn unol â pharagraff (4)(b)(ii), os yw’r Bwrdd Iechyd Lleol wedi ei fodloni bod oedi y tu hwnt i’r cyfnod a bennodd, a hyd yr oedi, am reswm da,

oni bai bod is-baragraff (b) yn gymwys, mae’r cais i’w drin fel pe bai wedi ei dynnu’n ôl;

(b)o dan amgylchiadau pan fo’r ceisydd, yn unol â pharagraff (4)(b)(iii), wedi ceisio adolygiad gan y Bwrdd Iechyd Lleol o resymoldeb y cais, os yw’r adolygiad yn penderfynu, o ran unrhyw wybodaeth neu ddogfennaeth y gofynnir amdani, neu o ran yr holl wybodaeth neu ddogfennaeth y gofynnir amdani—

(i)bod rhaid iddi gael ei darparu wedi’r cyfan, mae’r cais i’w drin fel pe bai wedi ei dynnu’n ôl oni bai bod yr wybodaeth neu’r ddogfennaeth y mae rhaid iddi gael ei darparu o hyd yn cael ei darparu o fewn cyfnod newydd a bennir yn rhesymol gan y Bwrdd Iechyd Lleol ar gyfer darparu’r wybodaeth honno neu’r ddogfennaeth honno, neu

(ii)nad oes rhaid iddi gael ei darparu gan y ceisydd, mae’r cais gan y Bwrdd Iechyd Lleol i’w drin fel pe bai wedi ei dynnu’n ôl i’r graddau y mae’n ymwneud â gwybodaeth neu ddogfennaeth nad oes angen ei darparu.

(6Caiff y Bwrdd Iechyd Lleol ofyn am wybodaeth neu ddogfennaeth o dan y paragraff hwn ar unrhyw adeg ar ôl iddo gael cais a chyn iddo benderfynu’r cais hwnnw.

(7Rhaid gwrthod cais gan berson, nad yw eisoes wedi ei gynnwys mewn rhestr fferyllol, i gael ei gynnwys yn y rhestr honno, os yw’r ceisydd yn unigolyn a gymhwysodd yn fferyllydd yn y Swistir neu mewn Gwladwriaeth AEE ac eithrio’r Deyrnas Unedig, oni fydd y person hwnnw yn bodloni’r Bwrdd Iechyd Lleol fod ganddo’r lefel o wybodaeth o Saesneg sydd, er budd yr unigolyn hwnnw a’r personau sy’n defnyddio’r gwasanaethau fferyllol y mae’r cais yn ymwneud â hwy, yn angenrheidiol ar gyfer darparu’r gwasanaethau fferyllol hynny yn ardal y Bwrdd Iechyd Lleol.

(8Bydd yr holl geisiadau a wneir o dan reoliad 15(1) yn cael eu penderfynu yn unol â rheoliad 16 (penderfynu ceisiadau i gynnwys person mewn rhestr fferyllol neu i ddiwygio rhestr fferyllol), ac eithrio ar gyfer ceisiadau y mae—

(a)rheoliad 19 (ceisiadau sy’n ymwneud ag adleoli o fewn ardal Bwrdd Iechyd Lleol),

(b)rheoliad 20 (ceisiadau sy’n ymwneud ag adleoli rhwng ardaloedd Byrddau Iechyd Lleol cyfagos),

(c)rheoliad 21 (ceisiadau sy’n ymwneud ag adleoli dros dro), neu

(d)rheoliad 22 (ceisiadau sy’n ymwneud â newid perchnogaeth),

yn gymwys iddynt ac a benderfynir yn unol â’r rheoliadau hynny.

(9Mae Rhannau 1 a 3 o Atodlen 3 yn pennu’r gweithdrefnau sydd i’w dilyn gan Fwrdd Iechyd Lleol wrth benderfynu ceisiadau a wneir o dan y Rhan hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 15 mewn grym ar 1.10.2021, gweler rhl. 1(3)

Penderfynu ceisiadau i gynnwys person mewn rhestr fferyllol neu i ddiwygio rhestr fferyllolLL+C

16.—(1Pan na fo’r fangre a bennir mewn cais mewn ardal reoledig, ni chaiff y Bwrdd Iechyd Lleol ganiatáu’r cais ond os yw wedi ei fodloni y byddai’n diwallu angen am wasanaethau fferyllol, neu am wasanaethau fferyllol o fath penodedig, yn ardal y Bwrdd Iechyd Lleol perthnasol ac sydd wedi eu cynnwys yn asesiad y Bwrdd Iechyd Lleol hwnnw o anghenion fferyllol yn unol ag Atodlen 1.

(2Pan fo’r fangre a bennir mewn cais mewn ardal reoledig ond nid mewn lleoliad neilltuedig (fel y’i diffinnir yn rheoliad 17(4) a (5)), caiff y Bwrdd Iechyd Lleol—

(a)gwrthod y cais pan fo o’r farn y byddai ei ganiatáu yn niweidio darpariaeth briodol gwasanaethau meddygol sylfaenol, gwasanaethau gweinyddu neu wasanaethau fferyllol yn yr ardal reoledig y mae’r fangre a bennir yn y cais ynddi (y “prawf niweidio”), a

(b)pan na fo’r cais wedi ei wrthod o dan y prawf niweidio, ganiatáu’r cais ond dim ond os yw wedi ei fodloni ei fod yn diwallu angen a nodir yn asesiad y Bwrdd Iechyd Lleol perthnasol o anghenion fferyllol.

(3Nid yw’r prawf niweidio yn gymwys os yw Bwrdd Iechyd Lleol yn penderfynu cais pan fo’r fangre a bennir yn y cais mewn lleoliad neilltuedig.

(4Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol wrthod cais nad yw’r ceisydd yn diwallu angen ynddo sydd wedi ei nodi yn asesiad y Bwrdd Iechyd Lleol perthnasol o anghenion fferyllol.

(5Wrth benderfynu cais o dan y rheoliad hwn, sydd wedi ei wneud yn unol â rheoliad 15(1), (ac eithrio pan fo’r cais wedi ei wneud gan berson y rhoddwyd cydsyniad rhagarweiniol iddo yn unol â rheoliad 18 a bod y cydsyniad rhagarweiniol hwnnw yn ddilys yn unol â rheoliad 18(5)), neu yn unol â rheoliad 18 pan na fo’r ceisydd eisoes wedi ei gynnwys yn rhestr fferyllol y Bwrdd Iechyd Lleol hwnnw, caiff Bwrdd Iechyd Lleol—

(a)gohirio ystyried y cais ar sail addasrwydd yn unol â rheoliad 36 (gohirio ceisiadau ar sail addasrwydd),

(b)gwrthod y cais ar sail addasrwydd yn unol â rheoliad 37 (gwrthod ceisiadau ar sail addasrwydd), neu

(c)gosod amodau ar ganiatáu’r cais yn unol â rheoliad 38 (cynnwys person yn amodol ar sail addasrwydd).

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 16 mewn grym ar 1.10.2021, gweler rhl. 1(3)

Lleoliadau mewn ardaloedd rheoledig sy’n lleoliadau neilltuedigLL+C

17.—(1Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol benderfynu, o ran mangre a bennir mewn cais a gyflwynir iddo o dan reoliad 15 (ceisiadau i gynnwys person mewn rhestr fferyllol neu i ddiwygio rhestr fferyllol), neu’r fangre neu’r lleoliad perthnasol y mae’r ceisydd yn dymuno darparu gwasanaethau fferyllol ohoni neu ohono, a bennir mewn cais a gyflwynir i’r Bwrdd Iechyd Lleol o dan reoliad 18 (ceisiadau am gydsyniad rhagarweiniol ac effaith cydsyniad rhagarweiniol) sydd mewn ardal reoledig, pa un a yw hefyd mewn lleoliad neilltuedig.

(2Pan fo penderfyniad wedi ei wneud gan y Bwrdd Iechyd Lleol, neu yn dilyn apêl, gan Weinidogion Cymru (o dan baragraff (1) ac Atodlen 4 yn eu trefn) neu yn unol â rheoliad 11 o Reoliadau 2013 neu Ran 2 o Atodlen 3 iddynt, mewn perthynas â mangre neu leoliad perthnasol y mae gwasanaethau fferyllol i’w darparu ohoni neu ohono neu y darperir gwasanaethau fferyllol ohoni neu ohono, fod y fangre honno neu’r lleoliad perthnasol hwnnw mewn lleoliad neilltuedig, caiff y person sydd wedi ei gynnwys yn y rhestr fferyllol mewn perthynas â’r fangre honno neu’r lleoliad perthnasol hwnnw, wneud cais yn ysgrifenedig i’r Bwrdd Iechyd Lleol, i’r Bwrdd Iechyd Lleol wneud penderfyniad pellach ynghylch pa un a yw’r fangre honno neu’r lleoliad perthnasol hwnnw, ar ddyddiad y cais, mewn lleoliad neilltuedig.

(3At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr y “lleoliad perthnasol”, pan fo lleoliad y fangre y mae gwasanaethau fferyllol i’w darparu ohoni wedi ei bennu yn ysgrifenedig gan y ceisydd cyn i’r Bwrdd Iechyd Lleol wneud ei benderfyniad, yw’r lleoliad hwnnw, a phan na fo’r lleoliad hwnnw wedi ei bennu felly, yr amcangyfrif gorau y gall y Bwrdd Iechyd Lleol ei wneud o’r man lle y mae’r fangre honno.

(4Yn ddarostyngedig i baragraff (5), mae lleoliad neilltuedig yn lleoliad mewn ardal reoledig y mae nifer yr unigolion ar y rhestrau cleifion ar gyfer yr ardal o fewn 1.6 cilometr i’r fangre neu i leoliad y fangre yn llai na 2,750 o bersonau mewn cysylltiad ag ef.

(5Nid yw lleoliad yn lleoliad neilltuedig o dan baragraff (4) os yw’r Bwrdd Iechyd Lleol yn ystyried, pe bai fferyllfa yn gweithredu o’r lleoliad, y defnyddid hi i raddau tebyg neu i raddau mwy nag y gellid ei disgwyl pe bai nifer yr unigolion ar y rhestrau cleifion ar gyfer yr ardal sydd o fewn 1.6 cilometr i’r fangre neu i’r lleoliad yn hafal i 2,750 o bersonau neu’n fwy na hynny.

(6Pan fo’r Bwrdd Iechyd Lleol, wrth wneud penderfyniad pellach y gwnaed cais amdano yn unol â pharagraff (2), yn penderfynu nad yw’r fangre honno neu’r lleoliad perthnasol hwnnw mewn lleoliad neilltuedig, neu os oes apêl yn erbyn penderfyniad gan y Bwrdd Iechyd Lleol a phenderfynir yn dilyn apêl nad yw’r fangre, neu nad yw’r lleoliad perthnasol, mewn lleoliad neilltuedig—

(a)caiff y Bwrdd Iechyd Lleol benderfynu bod y fangre i’w thrin, neu’r lleoliad perthnasol i’w drin, at ddibenion y Rheoliadau hyn fel pe bai mewn lleoliad neilltuedig, pan fo o’r farn y byddai peidio â gwneud hynny yn niweidio darpariaeth briodol gwasanaethau meddygol sylfaenol (ac eithrio’r rheini a ddarperir gan y Bwrdd Iechyd Lleol ei hunan), gwasanaethau gweinyddu neu wasanaethau fferyllol mewn unrhyw ardal reoledig, neu

(b)os oedd y Bwrdd Iechyd Lleol yn ystyried ei bod yn debygol yr effeithir yn anffafriol ar ddarpariaeth gwasanaethau meddygol sylfaenol gan ddarparwr gwasanaethau meddygol sylfaenol (ac eithrio un a gyflogir gan y Bwrdd Iechyd Lleol), gwasanaethau fferyllol gan fferyllydd GIG neu gontractwr cyfarpar GIG, gwasanaethau fferyllol lleol a ddarperir o dan gynllun peilot neu wasanaethau fferyllol a ddarperir gan feddyg, oherwydd penderfyniad nad yw’r fangre mewn lleoliad neilltuedig, caiff y Bwrdd Iechyd Lleol wneud penderfyniad o’r fath ond caiff osod amodau i ohirio, am y cyfnod hwnnw y mae’n meddwl ei fod yn addas, wneud neu derfynu trefniadau o dan reoliad 26 (neu’r hyn sy’n cyfateb iddo o dan y Rheoliadau GMC) ar gyfer darparu gwasanaethau fferyllol neu wasanaethau gweinyddu i gleifion gan feddyg neu gontractwr GMC.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 17 mewn grym ar 1.10.2021, gweler rhl. 1(3)

Ceisiadau am gydsyniad rhagarweiniol ac effaith cydsyniad rhagarweiniolLL+C

18.—(1Caiff person, sy’n dymuno cael yr hawl i gael ei gynnwys mewn rhestr fferyllol a gynhelir gan y Bwrdd Iechyd Lleol pan gyflwynir cais dilynol gan y person hwnnw o dan reoliad 15(1)(a) neu 15(1)(b)(i) (ceisiadau i gynnwys person mewn rhestr fferyllol neu i ddiwygio rhestr fferyllol), gyflwyno cais i Fwrdd Iechyd Lleol am gydsyniad rhagarweiniol o dan y rheoliad hwn.

(2Rhaid i gais a wneir o dan y rheoliad hwn gael ei wneud yn ysgrifenedig, a rhaid iddo ddarparu’r wybodaeth a’r ymgymeriadau a nodir yn—

(a)Rhan 1 o Atodlen 2, a

(b)yn ddarostyngedig i reoliad 60 (Bwrdd Iechyd Lleol cartref), Ran 2 o Atodlen 2.

(3Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol benderfynu cais am gydsyniad rhagarweiniol fel pe bai’n gais a wnaed yn unol â reoliad 15(1)(a) neu 15(1)(b)(i).

(4Bydd cydsyniad rhagarweiniol yn ddilys am gyfnod o 6 mis o’r dyddiad y’i rhoddir, sef y diweddaraf o naill ai—

(a)30 o ddiwrnodau ar ôl i’r Bwrdd Iechyd Lleol anfon hysbysiad o benderfyniad y Bwrdd Iechyd Lleol ar y cais, yn unol â pharagraff 14 o Atodlen 3, neu

(b)pan fo apêl wedi ei gwneud yn erbyn penderfyniad y Bwrdd Iechyd Lleol, y dyddiad y mae Gweinidogion Cymru yn rhoi hysbysiad o’u penderfyniad ar yr apêl o dan baragraff 8 o Atodlen 4.

(5Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol ganiatáu cais dilynol a wneir o dan reoliad 15(1)(a) neu 15(1)(b)(i) gan berson y rhoddwyd cydsyniad rhagarweiniol iddo—

(a)os yw’r dyddiad y daeth y cais i law’r Bwrdd Iechyd Lleol o fewn y cyfnod a bennir ym mharagraff (4),

(b)os yw’r gwasanaethau fferyllol a bennir yn y cais yr un rhai â’r rhai a bennwyd yn y cais am gydsyniad rhagarweiniol, ac

(c)os yw’r fangre a bennir yn y cais yn yr un man â’r fangre neu leoliad sy’n berthnasol i angen a nodir yn asesiad y Bwrdd Iechyd Lleol o anghenion fferyllol.

(6Pan fo is-baragraffau (a) a (b) mewn cysylltiad â pharagraff (5) wedi eu bodloni, ond bod lleoliad y fangre a bennir yn y cais yn wahanol i’r lleoliad y rhoddwyd cydsyniad rhagarweiniol mewn cysylltiad ag ef, rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol drin y cais fel pe bai’n gais a wnaed yn unol â rheoliad 15(1)(b)(ii).

(7Rhaid i’r penderfyniad i ganiatáu cais o dan baragraff (5) fod yn ddarostyngedig i unrhyw amodau a osodwyd gan y Bwrdd Iechyd Lleol, neu gan Weinidogion Cymru yn dilyn apêl, mewn perthynas â’r penderfyniad terfynol i roi’r cydsyniad rhagarweiniol cyfatebol.

(8Wrth benderfynu cais o dan y rheoliad hwn, gan berson nad yw eisoes wedi ei gynnwys yn rhestr fferyllol y Bwrdd Iechyd Lleol (ac eithrio cais gan berson sydd â chydsyniad rhagarweiniol dilys yn unol â pharagraff (4)), caiff Bwrdd Iechyd Lleol—

(a)gohirio ystyried y cais ar sail addasrwydd o dan reoliad 36 (gohirio ceisiadau ar sail addasrwydd),

(b)gwrthod y cais ar sail addasrwydd o dan reoliad 37 (gwrthod ceisiadau ar sail addasrwydd), neu

(c)gosod amodau ar ganiatáu’r cais o dan reoliad 38 (cynnwys person yn amodol ar sail addasrwydd).

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 18 mewn grym ar 1.10.2021, gweler rhl. 1(3)

Ceisiadau sy’n ymwneud ag adleoli o fewn ardal Bwrdd Iechyd LleolLL+C

19.—(1Caiff person sydd wedi gwneud cais o dan reoliad 15(1)(a) (ceisiadau i gynnwys person mewn rhestr fferyllol neu i ddiwygio rhestr fferyllol), ar unrhyw adeg ar ôl gwneud y cais, ond cyn diwedd y cyfnod perthnasol (fel y’i diffinnir yn rheoliad 23 (y weithdrefn ar ôl caniatáu cais)), hysbysu’r Bwrdd Iechyd Lleol ei fod yn dymuno newid y fangre y mae’n bwriadu darparu’r gwasanaethau fferyllol a bennir yn y cais ohoni, a chaiff y Bwrdd Iechyd Lleol ddiwygio’r fangre a bennir yn y cais gwreiddiol os yw’r Bwrdd Iechyd Lleol wedi ei fodloni—

(a)mai adleoliad yw’r newid,

(b)y bydd y gwasanaethau fferyllol a bennir yn y cais, ac a fyddai wedi cael eu darparu yn y fangre a bennwyd yn y cais gwreiddiol, yn cael eu darparu yn y fangre newydd, ac

(c)bod yr adleoliad yn parhau i ddiwallu’r angen am wasanaethau fferyllol, neu am wasanaethau fferyllol o fath penodedig, a nodir yn yr asesiad perthnasol o anghenion fferyllol.

(2Caiff Bwrdd Iechyd Lleol ganiatáu cais a wneir gan berson o dan reoliad 15(1)(b)(ii) i adleoli o fangre restredig i fangre newydd y mae’r person hwnnw yn bwriadu darparu gwasanaethau fferyllol ynddi, os yw’r Bwrdd Iechyd Lleol wedi ei fodloni—

(a)bod yr adleoliad er mwyn diwallu angen am wasanaethau fferyllol, neu am wasanaethau fferyllol o fath penodedig, a nodir yn yr asesiad perthnasol o anghenion fferyllol ac—

(i)na fydd unrhyw doriad yn narpariaeth gwasanaethau fferyllol (ac eithrio am y cyfnod hwnnw a ganiateir am reswm da gan y Bwrdd Iechyd Lleol),

(ii)nad yw’r fangre a bennir yn y cais fel y fangre y mae’r person yn dymuno adleoli ohoni yn fangre y mae’r person wedi adleoli iddi dros dro o dan reoliad 21 (ceisiadau sy’n ymwneud ag adleoli dros dro), a

(iii)na fyddai, pe bai’n cael ei ganiatáu, yn achosi newid sylweddol i’r trefniadau sydd yn eu lle ar gyfer darparu gwasanaethau fferyllol (ac eithrio’r rheini a ddarperir gan berson ar restr meddygon fferyllol) mewn unrhyw ran o ardal y Bwrdd Iechyd Lleol, neu mewn ardal reoledig yn ardal Bwrdd Iechyd Lleol cyfagos pan fo’r ardal reoledig honno o fewn 1.6 cilometr i’r fangre newydd, neu

(b)nad yw’r adleoliad er mwyn diwallu angen am wasanaethau fferyllol, neu am wasanaethau fferyllol o fath penodedig, a nodir yn yr asesiad perthnasol o anghenion fferyllol ond—

(i)ar gyfer y cleifion sy’n gyfarwydd â chael mynediad i wasanaethau fferyllol yn y fangre bresennol, nad yw lleoliad y fangre newydd yn llai hygyrch i raddau sylweddol,

(ii)y darperir yr un gwasanaethau fferyllol yn y fangre newydd ag a ddarperir yn y fangre restredig,

(iii)na fydd unrhyw doriad yn narpariaeth gwasanaethau fferyllol (ac eithrio am y cyfnod hwnnw a ganiateir am reswm da gan y Bwrdd Iechyd Lleol),

(iv)nad yw’r fangre a bennir yn y cais fel y fangre y mae’r person yn dymuno adleoli ohoni yn fangre y mae’r person wedi adleoli iddi dros dro o dan reoliad 21 (ceisiadau sy’n ymwneud ag adleoli dros dro), a

(v)na fyddai, pe bai’n cael ei ganiatáu, yn achosi newid sylweddol i’r trefniadau sydd yn eu lle ar gyfer darparu gwasanaethau fferyllol (ac eithrio’r rheini a ddarperir gan berson ar restr meddygon fferyllol) mewn unrhyw ran o ardal y Bwrdd Iechyd Lleol, neu mewn ardal reoledig yn ardal Bwrdd Iechyd Lleol cyfagos pan fo’r ardal reoledig honno o fewn 1.6 cilometr i’r fangre newydd.

(3Ni chaiff person, y mae caniatâd wedi ei roi i gais a wnaed ganddo o dan y rheoliad hwn, gyflwyno cais arall am benderfyniad yn unol â’r rheoliad hwn, nac yn unol â rheoliad 20, o fewn 12 mis i ddyddiad caniatáu’r cais (fel y’i diffinnir yn rheoliad 23(3)(a)).

Gwybodaeth Cychwyn

I5Rhl. 19 mewn grym ar 1.10.2021, gweler rhl. 1(3)

Ceisiadau sy’n ymwneud ag adleoli rhwng ardaloedd Byrddau Iechyd Lleol cyfagosLL+C

20.—(1Caiff Bwrdd Iechyd Lleol ganiatáu cais a wneir gan berson o dan reoliad 15(1)(c) (ceisiadau i gynnwys person mewn rhestr fferyllol neu i ddiwygio rhestr fferyllol), i adleoli o fangre restredig yn ardal Bwrdd Iechyd Lleol cyfagos i fangre newydd yn ardal y Bwrdd Iechyd Lleol y gwneir y cais iddo, ac yn y fangre honno mae’r person yn bwriadu darparu gwasanaethau fferyllol—

(a)os yw’r Bwrdd Iechyd Lleol y gwneir y cais iddo wedi ei fodloni—

(i)bod y newid yn adleoliad er mwyn diwallu angen a nodir yn asesiad perthnasol y Bwrdd Iechyd Lleol o anghenion fferyllol,

(ii)ar gyfer y cleifion sy’n gyfarwydd â chael mynediad i wasanaethau fferyllol yn y fangre bresennol, nad yw lleoliad y fangre newydd yn llai hygyrch i raddau sylweddol,

(iii)na fydd unrhyw doriad yn narpariaeth gwasanaethau fferyllol (ac eithrio am y cyfnod hwnnw a ganiateir am reswm da gan y Bwrdd Iechyd Lleol),

(iv)nad yw’r fangre a bennir yn y cais fel y fangre y mae’r person yn dymuno adleoli ohoni yn fangre y mae’r person wedi adleoli iddi dros dro o dan reoliad 21 (ceisiadau sy’n ymwneud ag adleoli dros dro),

(v)na fyddai’r cais, pe bai’n cael ei ganiatáu, yn achosi newid sylweddol i’r trefniadau sydd yn eu lle ar gyfer darparu gwasanaethau fferyllol (ac eithrio’r rheini a ddarperir gan berson ar restr meddygon fferyllol) mewn unrhyw ran o ardal y Bwrdd Iechyd Lleol, neu mewn ardal reoledig yn ardal Bwrdd Iechyd Lleol cyfagos pan fo’r ardal reoledig honno o fewn 1.6 cilometr i’r fangre newydd, a

(b)os yw’r person yn cydsynio i enw’r fangre gael ei ddileu o’r rhestr fferyllol a gynhelir gan y Bwrdd Iechyd Lleol y mae’r fangre restredig bresennol yn ei ardal, gydag effaith o’r dyddiad y bydd darparu gwasanaethau fferyllol o’r fangre newydd yn cychwyn arno.

(2Ni chaiff person, y mae caniatâd wedi ei roi i gais a wnaed ganddo yn unol â’r rheoliad hwn, gyflwyno cais arall am benderfyniad o dan y rheoliad hwn, nac o dan reoliad 19, o fewn 12 mis i ddyddiad caniatáu’r cais (fel y’i diffinnir yn rheoliad 23(3)(a)).

Gwybodaeth Cychwyn

I6Rhl. 20 mewn grym ar 1.10.2021, gweler rhl. 1(3)

Ceisiadau sy’n ymwneud ag adleoli dros droLL+C

21.—(1Caiff Bwrdd Iechyd Lleol ddiwygio dros dro gofnod mewn rhestr fferyllol drwy ganiatáu cais a wneir gan berson o dan reoliad 15(1)(b)(ii) (ceisiadau i gynnwys person mewn rhestr fferyllol neu i ddiwygio rhestr fferyllol) i adleoli i fangre wahanol ar sail dros dro, os yw’r Bwrdd Iechyd Lleol wedi ei fodloni—

(a)bod yr amgylchiadau pan wneir y cais yn ei gwneud yn ofynnol darparu gwasanaethau fferyllol yn hyblyg,

(b)ar gyfer y cleifion sy’n gyfarwydd â chael mynediad i wasanaethau fferyllol yn y fangre bresennol, nad yw lleoliad y fangre dros dro yn llai hygyrch i raddau sylweddol,

(c)y darperir yr un gwasanaethau fferyllol yn y fangre dros dro ag a ddarperir yn y fangre restredig, a

(d)na fydd unrhyw doriad yn narpariaeth gwasanaethau fferyllol (ac eithrio am unrhyw gyfnod a ganiateir am reswm da gan y Bwrdd Iechyd Lleol).

(2Bydd diwygiad dros dro i gofnod yn y rhestr fferyllol yn cael effaith o’r dyddiad y cymeradwyodd y Bwrdd Iechyd Lleol y cais a wnaed iddo, a bydd yn ddilys am unrhyw gyfnod o hyd at 6 mis ac am unrhyw gyfnodau pellach o hyd at 3 mis y mae’r Bwrdd Iechyd Lleol yn ystyried eu bod yn angenrheidiol.

(3Caiff person ddychwelyd i’r cofnod a ddisodlwyd yn y rhestr fferyllol a gynhelir gan y Bwrdd Iechyd Lleol cyn diwedd y cyfnod a benderfynir gan y Bwrdd Iechyd Lleol o dan baragraff (2) drwy roi o leiaf 7 niwrnod o rybudd yn ysgrifenedig i’r Bwrdd Iechyd Lleol.

(4Pan fo cofnod mewn rhestr fferyllol yn cael ei ddisodli gan ddiwygiad dros dro yn unol â’r rheoliad hwn, ni fydd y disodliad hwnnw yn effeithio ar unrhyw achos o ran y trefniadau a ddisodlwyd (er ei bod yn bosibl y bydd angen eu hatal am resymau eraill), ac os bydd angen diwygio’r trefniadau a ddisodlwyd cyn diwedd y diwygiad dros dro o ganlyniad i’r achos hwnnw, bydd rhaid dychwelyd i’r trefniadau gwreiddiol a ddisodlwyd fel y’u diwygiwyd o ganlyniad i’r achos hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Rhl. 21 mewn grym ar 1.10.2021, gweler rhl. 1(3)

Ceisiadau sy’n ymwneud â newid perchnogaethLL+C

22.—(1Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol ganiatáu cais a wneir gan berson o dan reoliad 15(1)(a), (b)(i) neu (ii) (ceisiadau i gynnwys person mewn rhestr fferyllol neu i ddiwygio rhestr fferyllol) sy’n bwriadu darparu gwasanaethau fferyllol mewn mangre y darperir y gwasanaethau hynny ohoni, ar yr adeg y gwneir y cais, gan berson arall sydd wedi ei gynnwys mewn rhestr fferyllol a gynhelir gan y Bwrdd Iechyd Lleol o dan reoliad 10 (llunio a chynnal rhestrau fferyllol) os yw’r Bwrdd Iechyd Lleol wedi ei fodloni—

(a)bod y fangre wedi ei chynnwys eisoes mewn rhestr fferyllol a gynhelir gan y Bwrdd Iechyd Lleol,

(b)y bydd yr un gwasanaethau fferyllol yn parhau i gael eu darparu o’r fangre, ac

(c)na fydd toriad yn narpariaeth gwasanaethau fferyllol (ac eithrio am unrhyw gyfnod a ganiateir am reswm da gan y Bwrdd Iechyd Lleol).

(2Wrth benderfynu cais o dan y rheoliad hwn, sydd wedi ei wneud o dan reoliad 15(1)(a) (ac eithrio pan fo’r cais wedi ei wneud gan berson y rhoddwyd cydsyniad rhagarweiniol iddo o dan reoliad 18 a bod y cydsyniad rhagarweiniol hwnnw yn ddilys yn unol â rheoliad 18(5)), neu o dan reoliad 18 pan na fo’r ceisydd eisoes wedi ei gynnwys yn rhestr fferyllol y Bwrdd Iechyd Lleol hwnnw, caiff Bwrdd Iechyd Lleol—

(a)gohirio ystyried y cais ar sail addasrwydd o dan reoliad 36 (gohirio ceisiadau ar sail addasrwydd),

(b)gwrthod y cais ar sail addasrwydd o dan reoliad 37 (gwrthod ceisiadau ar sail addasrwydd), neu

(c)gosod amodau ar ganiatáu’r cais o dan reoliad 38 (cynnwys person yn amodol ar sail addasrwydd).

Gwybodaeth Cychwyn

I8Rhl. 22 mewn grym ar 1.10.2021, gweler rhl. 1(3)

Y weithdrefn ar ôl caniatáu caisLL+C

23.—(1Yn dilyn y dyddiad y caniateir cais a wneir o dan reoliad 15 (ceisiadau i gynnwys person mewn rhestr fferyllol neu i ddiwygio rhestr fferyllol), ni chaiff Bwrdd Iechyd Lleol gynnwys person mewn rhestr fferyllol na diwygio rhestr fferyllol oni fydd—

(a)yr amod ym mharagraff (2) wedi ei fodloni, a

(b)gofynion rheoliad 38 (cynnwys person yn amodol ar sail addasrwydd), os oes rhai, wedi eu bodloni o ran gosod amodau ar unrhyw berson.

(2Bydd person yn cael ei gynnwys yn y rhestr fferyllol berthnasol, neu diwygir y rhestr fferyllol berthnasol fel y bo’n briodol, os bydd y person hwnnw, heb fod yn llai na 14 o ddiwrnodau cyn diwedd y cyfnod perthnasol, yn hysbysu’r Bwrdd Iechyd Lleol yn ysgrifenedig, gan ddarparu’r wybodaeth a bennir yn Rhan 3 o Atodlen 2, y bydd y person hwnnw, o fewn y 14 o ddiwrnodau nesaf, yn cychwyn darparu yn y fangre y gwasanaethau fferyllol a bennwyd yn y cais.

(3At ddibenion y rheoliad hwn a, phan fo’n berthnasol, reoliad 24—

(a)“y dyddiad y caniateir cais” yw’r dyddiad diweddaraf o naill ai—

(i)30 o ddiwrnodau ar ôl i’r Bwrdd Iechyd Lleol anfon hysbysiad o benderfyniad y Bwrdd Iechyd Lleol ar y cais, yn unol â pharagraff 14 o Atodlen 3, neu

(ii)y dyddiad y penderfynir unrhyw apêl a ddygir yn erbyn penderfyniad y Bwrdd Iechyd Lleol, a

(b)“y cyfnod perthnasol” yw—

(i)y cyfnod o 6 mis o’r dyddiad y caniateir cais, neu

(ii)unrhyw gyfnod pellach yn ychwanegol at yr hyn a bennir ym mharagraff (i) nad yw’n hwy na 3 mis y caiff y Bwrdd Iechyd Lleol ei ganiatáu am reswm da.

Gwybodaeth Cychwyn

I9Rhl. 23 mewn grym ar 1.10.2021, gweler rhl. 1(3)

Cais i estyn y cyfnod perthnasolLL+C

24.—(1Caiff person wneud cais i’r Bwrdd Iechyd Lleol i estyn y cyfnod perthnasol heb fod yn hwyrach na 5 mis ar ôl y dyddiad y caniateir cais.

(2Yn unol â rheoliad 23(3)(b)(ii) caiff person wneud cais am estyniad o hyd at 3 mis.

(3Rhaid i gais a wneir i’r Bwrdd Iechyd Lleol o dan y rheoliad hwn fod yn ysgrifenedig, a rhaid iddo ddarparu rhesymau pam y ceisir estyniad o’r cyfnod perthnasol.

(4Mae Rhannau 1 a 3 o Atodlen 3 yn pennu’r gweithdrefnau sydd i’w dilyn gan Fwrdd Iechyd Lleol wrth benderfynu ceisiadau a wneir o dan y rheoliad hwn.

(5At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr “person” yw’r person y byddai hawlogaeth ganddo i ddarparu hysbysiad i Fwrdd Iechyd Lleol yn unol â rheoliad 23(2) o gychwyn darparu gwasanaethau fferyllol.

Gwybodaeth Cychwyn

I10Rhl. 24 mewn grym ar 1.10.2021, gweler rhl. 1(3)

ApelauLL+C

25.—(1Mae Atodlen 4 yn gwneud darpariaeth ar gyfer apelau i Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â phenderfyniadau a wneir gan Fyrddau Iechyd Lleol o dan y Rhan hon, ac eithrio’r rheoliadau hynny a restrir ym mharagraff (2).

(2Nid oes hawl i apelio mewn cysylltiad â phenderfyniad gan Fwrdd Iechyd Lleol—

(a)i ddiwygio dros dro neu beidio â diwygio dros dro, neu i estyn diwygiad dros dro, mewn rhestr fferyllol o dan reoliad 21 (ceisiadau sy’n ymwneud ag adleoli dros dro), neu

(b)i estyn y cyfnod perthnasol neu beidio ag estyn y cyfnod perthnasol o dan reoliad 24 (cais i estyn y cyfnod perthnasol).

Gwybodaeth Cychwyn

I11Rhl. 25 mewn grym ar 1.10.2021, gweler rhl. 1(3)