xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
1. Enwʼr Bwrdd Iechyd Lleol y gwneir y cais iddo.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 2 para. 1 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)
2. Y math o gydsyniad y gwneir cais amdano (llawn neu ragarweiniol).
Gwybodaeth Cychwyn
I2Atod. 2 para. 2 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)
3. Y math o gais (er enghraifft: cynnwys oʼr newydd; adleoli o fewn ardal Bwrdd Iechyd Lleol; adleoli rhwng ardaloedd Byrddau Iechyd Lleol cyfagos; adleoli; newid perchnogaeth; cydsyniad rhagarweiniol).
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. 2 para. 3 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)
4. Enw a chyfeiriad y ceisydd.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Atod. 2 para. 4 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)
5. Os ywʼr ceisydd yn unigolyn neuʼn bartneriaeth syʼn cynnal busnes fferyllfa fanwerthu, rhif cofrestruʼr ceisydd neu rif cofrestru pob partner yng nghofrestr y Cyngor Fferyllol Cyffredinol.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Atod. 2 para. 5 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)
6. Os ywʼr ceisydd yn gorff corfforedig syʼn cynnal busnes fferyllfa fanwerthu, enw a rhif cofrestru uwcharolygydd y ceisydd yng nghofrestr y Cyngor Fferyllol Cyffredinol.
Gwybodaeth Cychwyn
I6Atod. 2 para. 6 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)
7. Cyfeiriad y fangre y maeʼr ceisydd yn gwneud cais i ddarparu gwasanaethau fferyllol ohoni; neu leoliad y fangre y maeʼr ceisydd yn bwriadu darparu gwasanaethau fferyllol ohoni os ywʼr cais yn gais am gydsyniad rhagarweiniol.
Gwybodaeth Cychwyn
I7Atod. 2 para. 7 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)
8. A ywʼr fangre ym meddiant y ceisydd ar hyn o bryd neu, er enghraifft, a ywʼr fangre yn cael ei hadeiladu neuʼn destun negodi.
Gwybodaeth Cychwyn
I8Atod. 2 para. 8 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)
9. Ar ba ddiwrnodau y bydd y fferyllfa ar agor ar gyfer darparu gwasanaethau fferyllol, aʼr oriau agor ar y diwrnodau hynny.
Gwybodaeth Cychwyn
I9Atod. 2 para. 9 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)
10. Cadarnhad y bydd yr holl wasanaethau hanfodol yn cael eu darparu ac, os yw’n gymwys, pa gyfarpar y mae’r ceisydd yn ymgymryd â’i gyflenwi.
Gwybodaeth Cychwyn
I10Atod. 2 para. 10 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)
11. Manylion y gwasanaethau cyfeiriedig y maeʼr ceisydd yn gwneud cais i’w darparu.
Gwybodaeth Cychwyn
I11Atod. 2 para. 11 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)
12. Os ywʼr cais i ddarparu gwasanaethau fferyllol o ddisgrifiad gwahanol iʼr rheini a ddarperir ar hyn o bryd yn y fangre restredig, manylion y gwasanaethau hynny.
Gwybodaeth Cychwyn
I12Atod. 2 para. 12 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)
13. Pan fo rheoliad 16 yn gymwys i benderfynu cais, rhaid iʼr ceisydd ddatgan y rhesymau pam y maeʼr ceisydd yn ystyried y bydd y cais yn diwallu angen a nodir yn yr asesiad perthnasol o anghenion fferyllol gan y Bwrdd Iechyd Lleol y maeʼr fangre a bennir yn y cais ynddo.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I13Atod. 2 para. 13 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)
14. Pan foʼr prawf niweidio yn rheoliad 16 yn gymwys i benderfynu cais, rhaid iʼr ceisydd ddatgan y rhesymau pam y maeʼn ystyried na fydd caniatáuʼr cais yn niweidio darpariaeth briodol gwasanaethau meddygol sylfaenol, gwasanaethau gweinyddu neu wasanaethau fferyllol yn yr ardal reoledig y mae’r fangre a bennir yn y cais ynddi.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I14Atod. 2 para. 14 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)
15. Pan foʼr ceisydd yn gwneud cais i adleoli (pa un ai o fewn ardal y Bwrdd Iechyd Lleol o dan reoliad 19, rhwng ardaloedd Byrddau Iechyd Lleol cyfagos o dan reoliad 20 neu dros dro o dan reoliad 21), rhaid iʼr ceisydd ddarparu manylion yr adleoliad arfaethedig, gan gynnwys cyfeiriad mangre restredig bresennol y ceisydd.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I15Atod. 2 para. 15 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)
16. Pan foʼr cais yn ymwneud ag adleoliad rhwng ardaloedd Byrddau Iechyd Lleol cyfagos o dan reoliad 20, rhaid iʼr ceisydd ddatgan—LL+C
(a)enwʼr Bwrdd Iechyd Lleol y mae’r fangre bresennol ynddo,
(b)bod y ceisydd yn cydsynio i’w enw gael ei ddileu o’r rhestr fferyllol a gynhelir gan y Bwrdd Iechyd Lleol y mae’r fangre bresennol yn ei ardal, ac mewn cysylltiad âʼr fangre restredig bresennol honno, gydag effaith oʼr dyddiad y bydd darpariaeth gwasanaethau fferyllol oʼr fangre newydd yn dechrau, ac
(c)sut y maeʼr ceisydd yn bwriadu diwallu angen a nodir yn yr asesiad o anghenion fferyllol gan y Bwrdd Iechyd Lleol cyfagos, os ywʼr cais yn ymwneud ag adleoliad i ddiwallu angen oʼr fath.
Gwybodaeth Cychwyn
I16Atod. 2 para. 16 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)
17. Rhaid iʼr ceisydd ddarparu manylion fel a ganlyn—LL+C
(a)a yw lleoliad y fangre newydd yn llai hygyrch i raddau sylweddol, ar gyfer y cleifion syʼn gyfarwydd â chael mynediad i wasanaethau fferyllol yn y fangre bresennol,
(b)a ddarperir yr un gwasanaethau fferyllol yn y fangre newydd ag a ddarperir yn y fangre restredig, ac
(c)a barheir i ddarparuʼr gwasanaethau fferyllol yn ddi-dor, ynteu a fydd toriad, aʼr rhesymau dros unrhyw doriad.
Gwybodaeth Cychwyn
I17Atod. 2 para. 17 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)
18. Os ywʼr cais yn gais am adleoliad dros dro, rhaid iʼr ceisydd ddatgan yr amgylchiadau syʼn gwneud adleoli dros dro yn ofynnol.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I18Atod. 2 para. 18 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)
19. Enwʼr person sydd wedi ei gynnwys yn y rhestr fferyllol ac sydd, ar hyn o bryd, yn darparu gwasanaethau fferyllol oʼr fangre.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I19Atod. 2 para. 19 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)
20. Rhaid iʼr ceisydd ddarparu manylion fel a ganlyn—LL+C
(a)a barheir i ddarparuʼr un gwasanaethau fferyllol oʼr fangre, a
(b)a barheir i ddarparuʼr gwasanaethau fferyllol yn ddi-dor, ynteu a fydd toriad, aʼr rhesymau dros unrhyw doriad.
Gwybodaeth Cychwyn
I20Atod. 2 para. 20 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)
21. Rhaid iʼr ceisydd roi ymgymeriad y bydd y ceisydd, os caniateir y cais, yn darparuʼr gwasanaethau fferyllol, ac yn darparu’r cyfarpar os yw’n gymwys, yn y fangre y caniateir y cais mewn cysylltiad â hi, yn unol âʼr telerau gwasanaethu sy’n gymwys.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I21Atod. 2 para. 21 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)