Bwrdd Iechyd Lleol cartref cyrff corfforedig
21. Pan fo contractwr cyfarpar GIG yn gorff corfforedig â swyddfa gofrestredig yng Nghymru a Lloegr, caniateir i’r wybodaeth sydd iʼw darparu o dan baragraffau 20 a 24(3) i (6) gael ei darparu yn hytrach i Fwrdd Iechyd Lleol cartref (fel yʼi diffinnir yn rheoliad 60). Pan ywʼr contractwr cyfarpar GIG yn darparuʼr wybodaeth iʼw Fwrdd Iechyd Lleol cartref, rhaid iddo hefyd ddarparu iʼr Bwrdd Iechyd Lleol cartref fanylion yr holl Fyrddau Iechyd Lleol eraill y maeʼr contractwr cyfarpar GIG wedi ei gynnwys yn eu rhestrau fferyllol.