- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
24.—(1) Rhaid i gontractwr cyfarpar GIG roi hysbysiad ysgrifenedig o’r canlynol iʼr Bwrdd Iechyd Lleol y maeʼr contractwr cyfarpar GIG wedi ei gynnwys ar ei restr fferyllol, o fewn 28 o ddiwrnodau (neu os nad yw hyn yn ymarferol, cyn gynted ag y boʼn ymarferol ar ôl hynny)—
(a)unrhyw ddigwyddiad syʼn ei gwneud yn ofynnol newid yr wybodaeth a gofnodwyd am y contractwr cyfarpar GIG yn y rhestr fferyllol, nad ywʼr contractwr cyfarpar GIG wedi hysbysuʼr Bwrdd Iechyd Lleol amdano fel arall yn unol âʼr Rheoliadau hyn,
(b)yn achos contractwr cyfarpar GIG syʼn unigolyn, unrhyw newid yn ei gyfeiriad preifat, ac
(c)yn achos contractwr cyfarpar GIG syʼn gorff corfforedig, unrhyw newid yng nghyfeiriad ei swyddfa gofrestredig.
(2) Rhaid i gontractwr cyfarpar GIG, os gofynnir iddo gan y Bwrdd Iechyd Lleol, roi iʼr Bwrdd Iechyd Lleol enw unrhyw fferyllydd cofrestredig a gyflogir gan y contractwr cyfarpar GIG ac syʼn gyfrifol am weinyddu presgripsiwn penodol.
(3) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (6), rhaid i gontractwr cyfarpar GIG syʼn gorff corfforedig roi hysbysiad ysgrifenedig iʼr Bwrdd Iechyd Lleol o fewn 28 o ddiwrnodau (neu os nad yw hyn yn ymarferol, cyn gynted ag y boʼn ymarferol ar ôl hynny) o unrhyw newidiadau yn enwau a chyfeiriadau ei gyfarwyddwyr.
(4) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (6), os yw contractwr cyfarpar GIG syʼn gorff corfforedig yn penodi cyfarwyddwr neu uwcharolygydd nas rhestrwyd yng nghais y contractwr cyfarpar GIG i’w gynnwys mewn rhestr fferyllol, rhaid iʼr contractwr cyfarpar GIG roi hysbysiad ysgrifenedig iʼr Bwrdd Iechyd Lleol o fewn 28 o ddiwrnodau (neu os nad yw hyn yn ymarferol, cyn gynted ag y boʼn ymarferol ar ôl hynny) oʼr wybodaeth am addasrwydd y person hwnnw i ymarfer.
(5) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (6), rhaid i gontractwr cyfarpar GIG, neu gyfarwyddwr neu uwcharolygydd contractwr cyfarpar GIG syʼn gorff corfforedig, roi gwybod i’r Bwrdd Iechyd Lleol—
(a)os yw ef, neu gorff corfforedig y maeʼn gyfarwyddwr neuʼn uwcharolygydd iddo, yn gwneud cais i gael ei gynnwys yn unrhyw un neu ragor o restrau cyflawnwyr neu ddarparwyr GIG Bwrdd Iechyd Lleol arall, ac am ganlyniad unrhyw gais oʼr fath, a
(b)os daw’n gyfarwyddwr neuʼn uwcharolygydd i gorff corfforedig sydd ar unrhyw un neu ragor o restrau cyflawnwyr neu ddarparwyr GIG Bwrdd Iechyd Lleol arall, neu syʼn gwneud cais i gael ei gynnwys mewn rhestr oʼr fath, ac am ganlyniad unrhyw gais oʼr fath.
(6) Pan fo contractwr cyfarpar GIG yn gorff corfforedig â swyddfa gofrestredig yng Nghymru, dim ond iʼr Bwrdd Iechyd Lleol y mae’r swyddfa gofrestredig honno yn ei ardal y caniateir i’r wybodaeth sydd i’w darparu o dan is-baragraffau (3) i (5) gael ei darparu, os ywʼr contractwr cyfarpar GIG hefyd yn darparu iʼr Bwrdd Iechyd Lleol hwnnw fanylion yr holl Fyrddau Iechyd Lleol eraill y mae wedi ei gynnwys yn eu rhestrau fferyllol, ac o dan yr amgylchiadau hyn, rhaid iʼr Bwrdd Iechyd Lleol hwnnw drosglwyddoʼr wybodaeth i unrhyw Fwrdd Iechyd Lleol arall—
(a)y maeʼr contractwr cyfarpar GIG wedi ei gynnwys yn ei restr fferyllol, neu
(b)y mae’r contractwr cyfarpar GIG yn gwneud cais iddo i gael ei gynnwys yn ei restr fferyllol, ac sy’n gofyn amdani.
(7) Yn y paragraff hwn, ystyr “rhestr cyflawnwyr neu ddarparwyr GIG” yw—
(a)rhestr fferyllol, neu
(b)rhestr a gynhelir o gyflawnwyr neu ddarparwyr cymeradwy gwasanaethau meddygol sylfaenol, gwasanaethau deintyddol neu wasanaethau offthalmig.
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.
Would you like to continue?
Yr Offeryn Cyfan you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys