- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Mabwysiadu a Maethu (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Coronafeirws) 2020. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.
Offerynnau Statudol Cymru
Gofal Cymdeithasol, Cymru
Plant A Phobl Ifanc, Cymru
Gwnaed
5 Hydref 2020
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
7 Hydref 2020
Yn dod i rym
1 Tachwedd 2020
1.—(1) Enwʼr Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Mabwysiadu a Maethu (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Coronafeirws) 2020.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Tachwedd 2020.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 1 mewn grym ar 1.11.2020, gweler rhl. 1(2)
2. Mae Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005(3) wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 6.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 2 mewn grym ar 1.11.2020, gweler rhl. 1(2)
3. Yn rheoliad 27 (penderfyniad cyn asesu)—
(a)ar ôl paragraff (1) mewnosoder—
“(1A) Os na chafwyd yr wybodaeth eto sy’n ofynnol o dan reoliadau 25 a 26 caiff yr asiantaeth fabwysiadu benderfynu bwrw ymlaen fel pe bai wedi gwneud penderfyniad o dan baragraff (1)(a).”;
(b)ym mharagraff (2), ar ôl “rhaid i’r asiantaeth” mewnosoder “, pan fo’n rhesymol ymarferol,”;
(c)ym mharagraff (4)—
(i)yn y geiriau agoriadol, ar ôl “i fabwysiadu plentyn,” mewnosoder “neu pan fo paragraff (1A) yn gymwys,”;
(ii)yn is-baragraff (b), ar ôl “rhaid iddo” mewnosoder “, pan fo’n rhesymol ymarferol,”.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 3 mewn grym ar 1.11.2020, gweler rhl. 1(2)
4. Yn rheoliad 28 (asesiad cam 2)—
(a)ym mharagraff (1)—
(i)yn lle “o fewn chwe mis i’r dyddiad yr hysbysodd yr asiantaeth y darpar fabwysiadydd” rhodder “yn dilyn hysbysiad”;
(ii)ar ôl “reoliad 27(4)” mewnosoder “neu pan fo rheoliad 27(1A) yn gymwys”;
(b)hepgorer paragraffau (2) a (3).
Gwybodaeth Cychwyn
I4Rhl. 4 mewn grym ar 1.11.2020, gweler rhl. 1(2)
5. Yn rheoliad 30 (adroddiad darpar fabwysiadydd)—
(a)ym mharagraff (2)(c), yn lle “26(d)” rhodder “26(d) neu (dd)”;
(b)ym mharagraff (6)(b), yn lle “26(b) i (d)” rhodder “26(b) i (dd)”.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Rhl. 5 mewn grym ar 1.11.2020, gweler rhl. 1(2)
6. Yn rheoliad 30B (penderfyniad a hysbysiad gan yr asiantaeth fabwysiadu)—
(a)ym mharagraff (1), ar ôl “asiantaeth fabwysiadu” mewnosoder “, pan fo’n rhesymol ymarferol,”;
(b)ar ôl paragraff (1) mewnosoder—
“(1A) Rhaid i’r asiantaeth fabwysiadu beidio â gwneud penderfyniad o dan baragraff (1) hyd nes ei bod wedi cael yr wybodaeth sy’n ofynnol o dan reoliadau 25 a 26.”;
(c)ym mharagraff (2), hepgorer is-baragraff (a) a’r “neu” sydd yn union ar ei ôl;
(d)ym mharagraff (5)(c)(ii), ar y dechrau mewnosoder “yn ddarostyngedig i baragraff (5A),”;
(e)ar ôl paragraff (5) mewnosoder—
“(5A) Pan fo rheoliad 27(1A) yn gymwys a bo’r asiantaeth fabwysiadu yn ystyried nad yw’r darpar fabwysiadydd yn addas i fabwysiadu plentyn oherwydd gwybodaeth a gafwyd o dan reoliad 25 neu reoliad 26, ni chaiff y darpar fabwysiadydd wneud cais i Weinidogion Cymru am adolygiad gan banel adolygu annibynnol o’r dyfarniad o gymhwyster.”
Gwybodaeth Cychwyn
I6Rhl. 6 mewn grym ar 1.11.2020, gweler rhl. 1(2)
7. Mae Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015(4) wedi eu diwygio yn unol â rheoliad 8.
Gwybodaeth Cychwyn
I7Rhl. 7 mewn grym ar 1.11.2020, gweler rhl. 1(2)
8. Yn rheoliad 26(1) (cymeradwyo dros dro berthynas, cyfaill neu berson arall sydd â chysylltiad ag C), yn lle “16 wythnos” rhodder “24 wythnos”.
Gwybodaeth Cychwyn
I8Rhl. 8 mewn grym ar 1.11.2020, gweler rhl. 1(2)
9.—(1) Yn ddarostyngedig i reoliad 10, mae’r diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn peidio â chael effaith ar 31 Mawrth 2021.
(2) Nid yw’r rheoliad hwn yn effeithio ar ddilysrwydd unrhyw beth a wneir yn unol â’r diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn cyn iddynt beidio â chael effaith.
Gwybodaeth Cychwyn
I9Rhl. 9 mewn grym ar 1.11.2020, gweler rhl. 1(2)
10. Mewn achos pan fo asiantaeth fabwysiadu, ar 31 Mawrth 2021, yn y broses o asesu addasrwydd darpar fabwysiadydd yn unol â Rhan 4 o Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005, rhaid i’r asesiad hwnnw barhau fel pe bai’r diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn parhau mewn grym.
Gwybodaeth Cychwyn
I10Rhl. 10 mewn grym ar 1.11.2020, gweler rhl. 1(2)
Julie Morgan
Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
5 Hydref 2020
(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i ddwy set o Reoliadau er mwyn llacio a diwygio gofynion a osodir odanynt. Mae’r diwygiadau yn cael eu gwneud er mwyn cynorthwyo’r sector gofal cymdeithasol i blant mewn ymateb i achosion a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru ac maent yn peidio â chael effaith ar 31 Mawrth 2021.
Mae rheoliadau 3 i 6 yn gwneud diwygiadau i Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005 (O.S. 2005/1313 (Cy. 95)), sy’n nodi’r broses ar gyfer asesu addasrwydd pobl i fabwysiadau plentyn ac addasrwydd plant i gael eu mabwysiadu. Maent yn gwneud diwygiadau i’r broses gymeradwyo ar gyfer darpar fabwysiadwyr i alluogi i wybodaeth y mae rhaid ei chasglu ar hyn o bryd yn ystod cam 1 o’r broses gymeradwyo gael ei chasglu yn ystod cam 2 ac yn llacio’r amserlen pan fo rhaid ymgymryd â gweithredoedd penodol. Mae rheoliad 5 yn cywiro gwallau teipograffyddol.
Mae rheoliad 8 yn diwygio Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015 (O.S. 2015/1818 (Cy. 261)) i estyn y cyfnod (o 16 i 24 o wythnosau) pan ganiateir i berson sy’n berthynas i blentyn neu sy’n gysylltiedig fel arall â phlentyn gael cymeradwyaeth dros dro i weithredu fel rhiant maeth awdurdod lleol ar gyfer y plentyn hwnnw.
Mae rheoliad 10 yn gwneud darpariaeth arbed i sicrhau bod rhai o’r diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn parhau i fod yn gymwys o dan amgylchiadau penodol ar ôl i’r diwygiadau ddod i ben ar 31 Mawrth 2021 yn unol â rheoliad 9.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
2002 p. 38 (“Deddf 2002”). Gweler y diffiniadau o “regulations”, “appropriate Minister” a “the Assembly” yn adran 144(1) o Ddeddf 2002. Trosglwyddwyd y pŵer a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud rheoliadau o dan Ddeddf 2002 i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.
2014 dccc 4. Gweler adran 197(1) am y diffiniad o “penodedig”, “a bennir” ac “a bennwyd” a “rheoliadau”.
O.S. 2005/1313 (Cy. 95) (“Rheoliadau 2005”), a ddiwygiwyd gan O.S. 2020/163 (Cy. 31) (“Rheoliadau 2020”). Rhoddodd Rheoliadau 2020 Ran 4 newydd yn Rheoliadau 2005. Mae diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
O.S. 2015/1818 (Cy. 261), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys