Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 3) (Cymru) 2020

Newidiadau dros amser i: ATODLEN 1

 Help about opening options

Alternative versions:

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 23/10/2020.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 3) (Cymru) 2020, ATODLEN 1. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.

Rheoliadau 11 i 15

ATODLEN 1LL+CBusnesau a gwasanaethau y mae eu mangreoedd yn ddarostyngedig i gyfyngiadau neu i’w cau

RHAN 1LL+CBusnesau neu wasanaethau y mae rhaid cau eu mangreoedd

1.  Unrhyw fusnes sy’n gwerthu nwyddau neu wasanaethau ar gyfer eu gwerthu neu eu hurio mewn siop, gan gynnwys—LL+C

(a)siopau nwyddau i’r cartref;

(b)salonau ewinedd a harddwch;

(c)sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau lliw haul, gwasanaethau tylino, tyllu’r corff, tatŵio, electrolysis neu aciwbigo;

(d)tai arwerthiant;

(e)delwriaethau ceir;

(f)marchnadoedd;

(g)siopau betio;

(h)salonau gwallt a barbwyr;

(i)canolfannau garddio a meithrinfeydd planhigion.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 1 para. 1 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

2.  Canolfannau siopa ac arcedau siopa.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 1 para. 2 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

3.  Sinemâu.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 1 para. 3 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

4.  Theatrau.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I4Atod. 1 para. 4 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

5.  Clybiau nos, disgos, neuaddau dawnsio neu leoliadau eraill lle y darperir cerddoriaeth fyw neu wedi ei recordio i aelodau’r cyhoedd neu aelodau’r lleoliad ddawnsio.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 1 para. 5 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

6.  Lleoliadau adloniant rhywiol (o fewn yr ystyr a roddir i “sexual entertainment venue” gan baragraff 2A o Atodlen 3 i Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982(1)).LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I6Atod. 1 para. 6 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

7.  Neuaddau bingo.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 1 para. 7 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

8.  Neuaddau cyngerdd.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I8Atod. 1 para. 8 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

9.  Casinos.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I9Atod. 1 para. 9 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

10.  Canolfannau sglefrio.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I10Atod. 1 para. 10 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

11.  Pyllau nofio.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I11Atod. 1 para. 11 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

12.  Canolfannau hamdden a chyfleusterau hamdden gan gynnwys stiwdios ffitrwydd o dan do, campfeydd a sbaon.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I12Atod. 1 para. 12 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

13.  Cyrtiau chwaraeon, parciau sglefrio, lawntiau bowlio, cyrsiau golff a meysydd neu leiniau chwaraeon amgaeedig (boed yn yr awyr agored neu o dan do).LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I13Atod. 1 para. 13 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

14.  Alïau bowlio, arcedau diddanu a mannau chwarae o dan do.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I14Atod. 1 para. 14 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

15.  Amgueddfeydd, orielau a gwasanaethau archifau.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I15Atod. 1 para. 15 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

16.  Ffeiriau pleser, parciau diddanu a pharciau thema.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I16Atod. 1 para. 16 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

17.  Atyniadau i ymwelwyr a busnesau gwyliau, gweithgareddau hamdden neu ddigwyddiadau.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I17Atod. 1 para. 17 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

18.  Canolfannau ailgylchu.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I18Atod. 1 para. 18 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

19.  Llyfrgelloedd.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I19Atod. 1 para. 19 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

20.  Asiantau eiddo neu asiantau gosod eiddo, swyddfeydd gwerthiant datblygwyr a chartrefi arddangos.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I20Atod. 1 para. 20 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

21.  Lleoliadau ar gyfer digwyddiadau neu gynadleddau (gan gynnwys lleoliadau ar gyfer priodasau heblaw am fannau addoli a swyddfeydd cofrestru).LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I21Atod. 1 para. 21 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

RHAN 2LL+CBusnesau neu wasanaethau y mae rhaid cau eu mangreoedd ond y caniateir mynediad cyfyngedig iddynt

PENNOD 1LL+CMangreoedd sy’n gwerthu bwyd a diod i’w bwyta ac i’w hyfed yn y fangre

22.  Bwytai, gan gynnwys bwytai ac ystafelloedd bwyta mewn clybiau aelodau ac ym mangreoedd busnesau a restrir ym Mhennod 2 o’r Rhan hon.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I22Atod. 1 para. 22 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

23.  Caffis, gan gynnwys ffreuturau yn y gweithle a chaffis ym mangreoedd busnesau a restrir ym Mhennod 2 o’r Rhan hon.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I23Atod. 1 para. 23 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

24.  Bariau, gan gynnwys bariau mewn clybiau aelodau ac ym mangreoedd busnesau a restrir ym Mhennod 2 o’r Rhan hon.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I24Atod. 1 para. 24 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

25.  Tafarndai.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I25Atod. 1 para. 25 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

PENNOD 2LL+CGwestai a llety gwyliau

26.  Safleoedd gwyliau.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I26Atod. 1 para. 26 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

27.  Safleoedd gwersylla.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I27Atod. 1 para. 27 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

28.  Gwestai a llety gwely a brecwast.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I28Atod. 1 para. 28 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

29.  Llety gwyliau arall (gan gynnwys fflatiau gwyliau, hostelau a thai byrddio).LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I29Atod. 1 para. 29 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

PENNOD 3LL+CEraill

30.  Mannau addoli.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I30Atod. 1 para. 30 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

31.  Canolfannau cymunedol.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I31Atod. 1 para. 31 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

32.  Amlosgfeydd.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I32Atod. 1 para. 32 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

RHAN 3LL+CBusnesau a gwasanaethau y caniateir i’w mangreoedd fod ar agor

33.  Manwerthwyr bwyd, gan gynnwys marchnadoedd bwyd, archfarchnadoedd, siopau cyfleustra, siopau cornel a sefydliadau sy’n gwerthu bwyd neu ddiod i’w fwyta neu i’w hyfed oddi ar y fangre (gan gynnwys mangreoedd sydd wedi eu hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol i’w yfed oddi ar y fangre).LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I33Atod. 1 para. 33 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

34.  Caffis a ffreuturau mewn ysbyty, cartref gofal, ysgol neu mewn llety a ddarperir ar gyfer myfyrwyr.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I34Atod. 1 para. 34 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

35.  Ffreuturau mewn carchar neu sefydliad y bwriedir iddo gael ei ddefnyddio at ddibenion y llynges, y fyddin neu’r llu awyr neu at ddibenion Adran yr Ysgrifennydd Gwladol sy’n gyfrifol am amddiffyn.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I35Atod. 1 para. 35 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

36.  Llyfrgelloedd ysbytai a llyfrgelloedd mewn sefydliadau addysgol.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I36Atod. 1 para. 36 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

37.  Siopau papurau newydd.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I37Atod. 1 para. 37 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

38.  Siopau cyflenwadau adeiladu ac offer.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I38Atod. 1 para. 38 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

39.  Fferyllfeydd (yn cynnwys fferyllfeydd nad ydynt yn darparu cyffuriau ar bresgripsiwn) a siopau cemist.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I39Atod. 1 para. 39 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

40.  Siopau beiciau.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I40Atod. 1 para. 40 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

41.  Gorsafoedd petrol.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I41Atod. 1 para. 41 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

42.  Gwasanaethau trwsio ceir ac MOT.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I42Atod. 1 para. 42 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

43.  Busnesau tacsi neu logi cerbydau.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I43Atod. 1 para. 43 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

44.  Banciau, cymdeithasau adeiladu, undebau credyd, darparwyr benthyciadau tymor byr, clybiau cynilo, peiriannau arian parod ac ymgymeriadau sydd, o ran eu busnes, yn gweithredu swyddfeydd cyfnewid arian cyfred, yn trawsyrru arian (neu unrhyw gynrychiolaeth o arian) drwy unrhyw ddull neu sieciau arian parod sydd wedi eu gwneud yn daladwy i gwsmeriaid.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I44Atod. 1 para. 44 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

45.  Swyddfeydd post.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I45Atod. 1 para. 45 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

46.  Golchdai a siopau glanhau dillad.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I46Atod. 1 para. 46 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

47.  Gwasanaethau deintyddol, optegwyr, gwasanaethau awdioleg, trin traed, ceiropractyddion, osteopathiaid a gwasanaethau meddygol neu iechyd eraill, gan gynnwys gwasanaethau sy’n ymwneud ag iechyd meddwl.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I47Atod. 1 para. 47 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

48.  Milfeddygon a siopau anifeiliaid anwes.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I48Atod. 1 para. 48 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

49.  Siopau cyflenwadau amaethyddol neu ddyframaethu.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I49Atod. 1 para. 49 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

50.  Marchnadoedd neu arwerthiannau da byw.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I50Atod. 1 para. 50 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

51.  Trefnwyr angladdau.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I51Atod. 1 para. 51 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

RHAN 4LL+CDehongli

52.—(1At ddibenion yr Atodlen hon, ystyr “safle gwyliau” yw unrhyw dir yng Nghymru lle y gosodir cartref symudol neu garafán at ddibenion byw gan bobl (gan gynnwys unrhyw dir yng Nghymru a ddefnyddir ar y cyd â’r tir hwnnw), y mae’r caniatâd cynllunio perthnasol neu’r drwydded safle ar gyfer y tir mewn cysylltiad ag ef—LL+C

(a)wedi ei fynegi i’w roi neu wedi ei mynegi i’w rhoi at ddefnydd gwyliau yn unig, neu

(b)yn ei gwneud yn ofynnol bod adegau o’r flwyddyn pan na chaniateir gosod unrhyw gartref symudol neu garafán ar y safle i bobl fyw ynddo neu ynddi.

(2At ddibenion penderfynu a yw safle yn safle gwyliau ai peidio, mae unrhyw ddarpariaeth yn y caniatâd cynllunio perthnasol neu yn y drwydded safle sy’n caniatáu gosod cartref symudol ar y tir i bobl fyw ynddo drwy gydol y flwyddyn i’w hanwybyddu os yw wedi ei hawdurdodi i’r canlynol feddiannu’r cartref symudol—

(a)y person sy’n berchennog ar y safle, neu

(b)person sydd wedi ei gyflogi gan y person hwnnw ond nad yw’n meddiannu’r cartref symudol o dan gytundeb y mae Rhan 4 o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013(2) yn gymwys iddo.

Gwybodaeth Cychwyn

I52Atod. 1 para. 52 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

(1)

Mewnosodwyd paragraff 2A o Atodlen 3 gan adran 27(3) o Ddeddf Plismona a Throsedd 2009 (p. 26).

(2)

2013 dccc 6, fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (dccc 7).

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Pwynt Penodol mewn Amser: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.

Close

Gweler y wybodaeth ychwanegol ochr yn ochr â’r cynnwys

Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Llinell Amser Newidiadau

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill