- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
Rheoliadau 11 i 15
1. Unrhyw fusnes sy’n gwerthu nwyddau neu wasanaethau ar gyfer eu gwerthu neu eu hurio mewn siop, gan gynnwys—
(a)siopau nwyddau i’r cartref;
(b)salonau ewinedd a harddwch;
(c)sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau lliw haul, gwasanaethau tylino, tyllu’r corff, tatŵio, electrolysis neu aciwbigo;
(d)tai arwerthiant;
(e)delwriaethau ceir;
(f)marchnadoedd;
(g)siopau betio;
(h)salonau gwallt a barbwyr;
(i)canolfannau garddio a meithrinfeydd planhigion.
2. Canolfannau siopa ac arcedau siopa.
3. Sinemâu.
4. Theatrau.
5. Clybiau nos, disgos, neuaddau dawnsio neu leoliadau eraill lle y darperir cerddoriaeth fyw neu wedi ei recordio i aelodau’r cyhoedd neu aelodau’r lleoliad ddawnsio.
6. Lleoliadau adloniant rhywiol (o fewn yr ystyr a roddir i “sexual entertainment venue” gan baragraff 2A o Atodlen 3 i Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982(1)).
7. Neuaddau bingo.
8. Neuaddau cyngerdd.
9. Casinos.
10. Canolfannau sglefrio.
11. Pyllau nofio.
12. Canolfannau hamdden a chyfleusterau hamdden gan gynnwys stiwdios ffitrwydd o dan do, campfeydd a sbaon.
13. Cyrtiau chwaraeon, parciau sglefrio, lawntiau bowlio, cyrsiau golff a meysydd neu leiniau chwaraeon amgaeedig (boed yn yr awyr agored neu o dan do).
14. Alïau bowlio, arcedau diddanu a mannau chwarae o dan do.
15. Amgueddfeydd, orielau a gwasanaethau archifau.
16. Ffeiriau pleser, parciau diddanu a pharciau thema.
17. Atyniadau i ymwelwyr a busnesau gwyliau, gweithgareddau hamdden neu ddigwyddiadau.
18. Canolfannau ailgylchu.
19. Llyfrgelloedd.
20. Asiantau eiddo neu asiantau gosod eiddo, swyddfeydd gwerthiant datblygwyr a chartrefi arddangos.
21. Lleoliadau ar gyfer digwyddiadau neu gynadleddau (gan gynnwys lleoliadau ar gyfer priodasau heblaw am fannau addoli a swyddfeydd cofrestru).
22. Bwytai, gan gynnwys bwytai ac ystafelloedd bwyta mewn clybiau aelodau ac ym mangreoedd busnesau a restrir ym Mhennod 2 o’r Rhan hon.
23. Caffis, gan gynnwys ffreuturau yn y gweithle a chaffis ym mangreoedd busnesau a restrir ym Mhennod 2 o’r Rhan hon.
24. Bariau, gan gynnwys bariau mewn clybiau aelodau ac ym mangreoedd busnesau a restrir ym Mhennod 2 o’r Rhan hon.
25. Tafarndai.
26. Safleoedd gwyliau.
27. Safleoedd gwersylla.
28. Gwestai a llety gwely a brecwast.
29. Llety gwyliau arall (gan gynnwys fflatiau gwyliau, hostelau a thai byrddio).
30. Mannau addoli.
31. Canolfannau cymunedol.
32. Amlosgfeydd.
33. Manwerthwyr bwyd, gan gynnwys marchnadoedd bwyd, archfarchnadoedd, siopau cyfleustra, siopau cornel a sefydliadau sy’n gwerthu bwyd neu ddiod i’w fwyta neu i’w hyfed oddi ar y fangre (gan gynnwys mangreoedd sydd wedi eu hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol i’w yfed oddi ar y fangre).
34. Caffis a ffreuturau mewn ysbyty, cartref gofal, ysgol neu mewn llety a ddarperir ar gyfer myfyrwyr.
35. Ffreuturau mewn carchar neu sefydliad y bwriedir iddo gael ei ddefnyddio at ddibenion y llynges, y fyddin neu’r llu awyr neu at ddibenion Adran yr Ysgrifennydd Gwladol sy’n gyfrifol am amddiffyn.
36. Llyfrgelloedd ysbytai a llyfrgelloedd mewn sefydliadau addysgol.
37. Siopau papurau newydd.
38. Siopau cyflenwadau adeiladu ac offer.
39. Fferyllfeydd (yn cynnwys fferyllfeydd nad ydynt yn darparu cyffuriau ar bresgripsiwn) a siopau cemist.
40. Siopau beiciau.
41. Gorsafoedd petrol.
42. Gwasanaethau trwsio ceir ac MOT.
43. Busnesau tacsi neu logi cerbydau.
44. Banciau, cymdeithasau adeiladu, undebau credyd, darparwyr benthyciadau tymor byr, clybiau cynilo, peiriannau arian parod ac ymgymeriadau sydd, o ran eu busnes, yn gweithredu swyddfeydd cyfnewid arian cyfred, yn trawsyrru arian (neu unrhyw gynrychiolaeth o arian) drwy unrhyw ddull neu sieciau arian parod sydd wedi eu gwneud yn daladwy i gwsmeriaid.
45. Swyddfeydd post.
46. Golchdai a siopau glanhau dillad.
47. Gwasanaethau deintyddol, optegwyr, gwasanaethau awdioleg, trin traed, ceiropractyddion, osteopathiaid a gwasanaethau meddygol neu iechyd eraill, gan gynnwys gwasanaethau sy’n ymwneud ag iechyd meddwl.
48. Milfeddygon a siopau anifeiliaid anwes.
49. Siopau cyflenwadau amaethyddol neu ddyframaethu.
50. Marchnadoedd neu arwerthiannau da byw.
51. Trefnwyr angladdau.
52.—(1) At ddibenion yr Atodlen hon, ystyr “safle gwyliau” yw unrhyw dir yng Nghymru lle y gosodir cartref symudol neu garafán at ddibenion byw gan bobl (gan gynnwys unrhyw dir yng Nghymru a ddefnyddir ar y cyd â’r tir hwnnw), y mae’r caniatâd cynllunio perthnasol neu’r drwydded safle ar gyfer y tir mewn cysylltiad ag ef—
(a)wedi ei fynegi i’w roi neu wedi ei mynegi i’w rhoi at ddefnydd gwyliau yn unig, neu
(b)yn ei gwneud yn ofynnol bod adegau o’r flwyddyn pan na chaniateir gosod unrhyw gartref symudol neu garafán ar y safle i bobl fyw ynddo neu ynddi.
(2) At ddibenion penderfynu a yw safle yn safle gwyliau ai peidio, mae unrhyw ddarpariaeth yn y caniatâd cynllunio perthnasol neu yn y drwydded safle sy’n caniatáu gosod cartref symudol ar y tir i bobl fyw ynddo drwy gydol y flwyddyn i’w hanwybyddu os yw wedi ei hawdurdodi i’r canlynol feddiannu’r cartref symudol—
(a)y person sy’n berchennog ar y safle, neu
(b)person sydd wedi ei gyflogi gan y person hwnnw ond nad yw’n meddiannu’r cartref symudol o dan gytundeb y mae Rhan 4 o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013(2) yn gymwys iddo.
Mewnosodwyd paragraff 2A o Atodlen 3 gan adran 27(3) o Ddeddf Plismona a Throsedd 2009 (p. 26).
2013 dccc 6, fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (dccc 7).
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys