RHAN 3Busnesau a gwasanaethau y caniateir i’w mangreoedd fod ar agor
33. Manwerthwyr bwyd, gan gynnwys marchnadoedd bwyd, archfarchnadoedd, siopau cyfleustra, siopau cornel a sefydliadau sy’n gwerthu bwyd neu ddiod i’w fwyta neu i’w hyfed oddi ar y fangre (gan gynnwys mangreoedd sydd wedi eu hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol i’w yfed oddi ar y fangre).
34. Caffis a ffreuturau mewn ysbyty, cartref gofal, ysgol neu mewn llety a ddarperir ar gyfer myfyrwyr.
35. Ffreuturau mewn carchar neu sefydliad y bwriedir iddo gael ei ddefnyddio at ddibenion y llynges, y fyddin neu’r llu awyr neu at ddibenion Adran yr Ysgrifennydd Gwladol sy’n gyfrifol am amddiffyn.
36. Llyfrgelloedd ysbytai a llyfrgelloedd mewn sefydliadau addysgol.
37. Siopau papurau newydd.
38. Siopau cyflenwadau adeiladu ac offer.
39. Fferyllfeydd (yn cynnwys fferyllfeydd nad ydynt yn darparu cyffuriau ar bresgripsiwn) a siopau cemist.
40. Siopau beiciau.
41. Gorsafoedd petrol.
42. Gwasanaethau trwsio ceir ac MOT.
43. Busnesau tacsi neu logi cerbydau.
44. Banciau, cymdeithasau adeiladu, undebau credyd, darparwyr benthyciadau tymor byr, clybiau cynilo, peiriannau arian parod ac ymgymeriadau sydd, o ran eu busnes, yn gweithredu swyddfeydd cyfnewid arian cyfred, yn trawsyrru arian (neu unrhyw gynrychiolaeth o arian) drwy unrhyw ddull neu sieciau arian parod sydd wedi eu gwneud yn daladwy i gwsmeriaid.
45. Swyddfeydd post.
46. Golchdai a siopau glanhau dillad.
47. Gwasanaethau deintyddol, optegwyr, gwasanaethau awdioleg, trin traed, ceiropractyddion, osteopathiaid a gwasanaethau meddygol neu iechyd eraill, gan gynnwys gwasanaethau sy’n ymwneud ag iechyd meddwl.
48. Milfeddygon a siopau anifeiliaid anwes.
49. Siopau cyflenwadau amaethyddol neu ddyframaethu.
50. Marchnadoedd neu arwerthiannau da byw.
51. Trefnwyr angladdau.