xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/574 (Cy. 132)) (y “Rheoliadau Teithio Rhyngwladol”). Diwygiwyd y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn flaenorol gan:
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020 (O.S. 2020/595 (Cy. 136));
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/714 (Cy. 160));
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/726 (Cy. 163));
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020 (O.S. 2020/804 (Cy. 177));
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2020 (O.S. 2020/817 (Cy. 179));
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2020 (O.S. 2020/840 (Cy. 185));
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2020 (O.S. 2020/868 (Cy. 190));
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 6) 2020 (O.S. 2020/886 (Cy. 196));
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 7) 2020 (O.S. 2020/917 (Cy. 205));
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 8) 2020 (O.S. 2020/944 (Cy. 210));
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 9) 2020 (O.S. 2020/962 (Cy. 216));
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 10) 2020 (O.S. 2020/981 (Cy. 220));
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 11) 2020 (O.S. 2020/1015 (Cy. 226));
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 12) 2020 (O.S. 2020/1042 (Cy. 231));
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 13) 2020 (O.S. 2020/1080 (Cy. 243));
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 14) 2020 (O.S. 2020/1098 (Cy. 249));
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 15) 2020 (O.S. 2020/1133 (Cy. 258)).
Mae’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn gosod gofynion ar bersonau sy’n dod i Gymru ar ôl bod dramor. Maent yn cynnwys gofyniad i bersonau sy’n cyrraedd Cymru ynysu am gyfnod i’w bennu yn unol â’r Rheoliadau. Mae gofynion y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn ddarostyngedig i eithriadau, ac mae categorïau penodol o bersonau wedi eu hesemptio rhag gorfod cydymffurfio. Nid yw’n ofynnol i bersonau sy’n dod i Gymru ynysu ar ôl bod mewn un neu ragor o’r gwledydd a’r tiriogaethau a restrir yn Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol. Cyfeirir at y gwledydd a’r tiriogaethau a restrir yn Atodlen 3 fel “gwledydd a thiriogaethau esempt”, ond mae rhai o’r cofnodion yn Atodlen 3 yn ddarostyngedig i eithriadau mewn cysylltiad â thiriogaethau penodol. Felly, er enghraifft, o ran Gwlad Groeg, sy’n wlad esempt at ddibenion y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol, mae ynysoedd penodol sy’n rhan o Wlad Groeg wedi eu heithrio o’r esemptiad.
Mae Rhan 2 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r rhestr o wledydd a thiriogaethau esempt.
Mae rheoliadau 2 a 3 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol er mwyn ychwanegu Denmarc, Maldives, yr Ynysoedd Dedwydd, ac ynys Mykonos yng Ngwlad Groeg at y rhestr o wledydd a thiriogaethau esempt.
Mae rheoliad 5 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol er mwyn hepgor Liechtenstein o’r rhestr o wledydd a thiriogaethau esempt.
Mae rheoliadau 4 a 6 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth drosiannol mewn cysylltiad â’r newid yn statws y gwledydd a’r tiriogaethau hyn. Mae’r ddarpariaeth drosiannol yn ymdrin â maes a all fod yn destun amheuaeth o ran effaith y diwygiadau a wneir gan reoliadau 2, 3 a 5 o’r Rheoliadau hyn ar weithredu’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.