Mangreoedd di-fwg sy’n weithleoedd neu sydd ar agor i’r cyhoedd: arwyddion
13.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i fangreoedd sy’n ddi-fwg yn rhinwedd adran 7 neu adran 8 o’r Ddeddf.
(2) Rhaid arddangos o leiaf un arwydd at ddibenion adran 17(1) o’r Ddeddf a rhaid iddo gynnwys darlun graffig eglur o sigarét yn llosgi o fewn cylch gyda bar ar draws y cylch sy’n croesi symbol y sigarét.
(3) Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys i fangreoedd a ddefnyddir i unrhyw raddau fel annedd.