Chwilio Deddfwriaeth

Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2020

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau AgorExpand opening options

Close

Print Options

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

Gorchymyn a wnaed gan Weinidogion Cymru, a osodwyd gerbron Senedd Cymru o dan baragraff 5(15) o Atodlen 7 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, i’w gymeradwyo drwy benderfyniad gan Senedd Cymru cyn i’r Senedd gymeradwyo’r adroddiad cyllid llywodraeth leol ar gyfer y flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2021, neu cyn 1 Mawrth 2021 (pa un bynnag sydd gynharaf).

Offerynnau Statudol Cymru

2020 Rhif 1254 (Cy. 285)

Ardrethu A Phrisio, Cymru

Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2020

Gwnaed

11 Tachwedd 2020

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

12 Tachwedd 2020

Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2)

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddir i’r Trysorlys gan baragraff 5(3) o Atodlen 7 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988(1) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2).

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2020.

(2Daw’r Gorchymyn hwn i rym drannoeth y diwrnod y’i cymeradwyir drwy benderfyniad gan Senedd Cymru, ar yr amod y cymeradwyir y Gorchymyn cyn i Senedd Cymru gymeradwyo’r adroddiad cyllid llywodraeth leol ar gyfer y flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2021, neu cyn 1 Mawrth 2021 (pa un bynnag sydd gynharaf)(3).

(3Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Y lluosydd ardrethu annomestig

2.  At ddiben paragraff 3B o Atodlen 7 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, ar gyfer y flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2021, pennir mai 292.6 yw B.

Rebecca Evans

Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru

11 Tachwedd 2020

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

O ran Cymru, cyfrifir y lluosydd ardrethu annomestig yn unol â pharagraff 3B o Atodlen 7 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 (“y Ddeddf”) ar gyfer pob blwyddyn ariannol pan nad oes rhestrau ardrethu newydd yn cael eu llunio. Nid oes rhestrau ardrethu newydd yn cael eu llunio ar gyfer y flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2021.

Mae’r fformiwla ym mharagraff 3B o Atodlen 7 i’r Ddeddf yn cynnwys eitem B, sef y mynegai prisiau manwerthu ar gyfer mis Medi yn y flwyddyn ariannol cyn y flwyddyn o dan sylw, oni bai bod Gweinidogion Cymru yn arfer eu pŵer o dan baragraff 5(3) o Atodlen 7 i’r Ddeddf i bennu, drwy Orchymyn, swm gwahanol ar gyfer eitem B. Os yw Gweinidogion Cymru yn arfer y pŵer hwnnw mewn perthynas â blwyddyn ariannol, rhaid i’r swm gwahanol a bennir felly fod yn llai na’r mynegai prisiau manwerthu ar gyfer mis Medi yn y flwyddyn ariannol flaenorol. Y mynegai prisiau manwerthu ar gyfer mis Medi yn y flwyddyn ariannol flaenorol yw 294.3.

Mae’r Gorchymyn hwn yn pennu mai swm eitem B ar gyfer y flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2021 yw 292.6.

Yn unol â pharagraff 5(15) o Atodlen 7 i’r Ddeddf, ni fydd y Gorchymyn hwn ond yn dod i rym os yw’n cael ei gymeradwyo drwy benderfyniad gan Senedd Cymru cyn i Senedd Cymru gymeradwyo’r adroddiad cyllid llywodraeth leol ar gyfer y flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2021, neu cyn 1 Mawrth 2021 (pa un bynnag sydd gynharaf).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth yr Is-adran Cyllid Strategol Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(2)

Yn rhinwedd erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), ac Atodlen 1 iddo, trosglwyddwyd y pŵer o dan baragraff 5(3) o Atodlen 7 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, i’r graddau yr oedd yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), a pharagraffau 30 a 32 o Atodlen 11 iddi, mae’r pŵer bellach wedi ei freinio yng Ngweinidogion Cymru.

(3)

Mae cyfeiriadau yn Neddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 at Gynulliad Cenedlaethol Cymru bellach yn cael effaith fel cyfeiriadau at Senedd Cymru, yn rhinwedd adran 150A(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

Yn ôl i’r brig

Options/Cymorth