Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020

 Help about what version

Pa Fersiwn

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Rheoliad 2(9)

YR ATODLENMewnosod Atodlen 4A newydd

Rheoliad 48A

ATODLEN4A Sancsiynau sifil

RHAN 1Y pŵer i osod sancsiynau sifil

Hysbysiad cydymffurfio

1.(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo’r awdurdod priodol wedi ei fodloni yn ôl pwysau tebygolrwydd bod person wedi cyflawni trosedd o dan Ran 11 o’r Rheoliadau hyn.

(2) Caiff yr awdurdod priodol drwy hysbysiad (“hysbysiad cydymffurfio”) osod ar y person hwnnw ofyniad i gymryd unrhyw gamau a bennir gan yr awdurdod priodol, o fewn unrhyw gyfnod a bennir ganddo, i sicrhau na fydd y drosedd yn parhau nac yn ailddigwydd.

(3) Ni chaniateir gosod hysbysiad cydymffurfio ar fwy nag un achlysur mewn perthynas â’r un weithred neu anweithred.

Hysbysiad adfer

2.(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo’r awdurdod priodol wedi ei fodloni yn ôl pwysau tebygolrwydd bod person wedi cyflawni trosedd o dan Ran 11 o’r Rheoliadau hyn.

(2) Caiff yr awdurdod priodol drwy hysbysiad (“hysbysiad adfer”) osod ar y person hwnnw ofyniad i gymryd unrhyw gamau a bennir gan yr awdurdod priodol, o fewn unrhyw gyfnod a bennir ganddo, i sicrhau bod y sefyllfa, i’r graddau y bo’n bosibl, yn cael ei hadfer i’r hyn a fyddai wedi bod pe na bai’r drosedd wedi ei chyflawni.

(3) Ni chaniateir gosod hysbysiad adfer ar fwy nag un achlysur mewn perthynas â’r un weithred neu anweithred.

Gosod cosb ariannol benodedig

3.(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo’r awdurdod priodol wedi ei fodloni yn ôl pwysau tebygolrwydd bod person wedi cyflawni trosedd o dan Ran 11 o’r Rheoliadau hyn.

(2) Caiff yr awdurdod priodol drwy hysbysiad osod ar y person hwnnw ofyniad i dalu cosb ariannol i’r awdurdod priodol o £250 pan fo’r person yn unigolyn a £2000 pan fo’r person yn gorff corfforedig, partneriaeth neu gymdeithas anghorfforedig (“cosb ariannol benodedig”).

(3) Ni chaniateir gosod cosb ariannol benodedig ar fwy nag un achlysur mewn perthynas â’r un weithred neu anweithred.

(4) Caiff yr awdurdod priodol adennill unrhyw gosb ariannol benodedig a osodir o dan y paragraff hwn fel pe bai’n daladwy o dan orchymyn gan y llys.

(5) Rhaid i gosb ariannol benodedig a delir i’r awdurdod priodol o dan y paragraff hwn gael ei thalu i’r Gronfa Gyfunol.

Gosod cosb ariannol amrywiadwy

4.(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo’r awdurdod priodol wedi ei fodloni yn ôl pwysau tebygolrwydd bod person wedi cyflawni trosedd o dan Ran 11 o’r Rheoliadau hyn.

(2) Caiff yr awdurdod priodol drwy hysbysiad osod ar y person hwnnw ofyniad i dalu cosb ariannol i’r awdurdod priodol o unrhyw swm a benderfynir ganddo (“cosb ariannol amrywiadwy”).

(3) Ni chaniateir gosod cosb ariannol amrywiadwy ar fwy nag un achlysur mewn perthynas â’r un weithred neu anweithred.

(4) Ni chaniateir i swm cosb ariannol amrywiadwy fod yn fwy na £250,000.

(5) Cyn cyflwyno hysbysiad mewn perthynas â chosb ariannol amrywiadwy, caiff yr awdurdod priodol ei gwneud yn ofynnol i’r person y mae’r hysbysiad hwnnw i’w gyflwyno iddo ddarparu’r wybodaeth honno sy’n rhesymol i bennu swm unrhyw fudd ariannol sy’n deillio o ganlyniad i’r drosedd.

(6) Caiff yr awdurdod priodol adennill unrhyw gosb ariannol amrywiadwy a osodir o dan y paragraff hwn fel pe bai’n daladwy o dan orchymyn gan y llys.

(7) Rhaid i gosb ariannol amrywiadwy a delir i’r awdurdod priodol o dan y paragraff hwn gael ei thalu i’r Gronfa Gyfunol.

Hysbysiad o fwriad

5.(1) Os yw’r awdurdod priodol yn bwriadu cyflwyno i berson hysbysiad cydymffurfio, hysbysiad adfer neu hysbysiad yn gosod cosb ariannol benodedig neu gosb ariannol amrywiadwy o dan y Rhan hon, rhaid iddo gyflwyno i’r person hwnnw hysbysiad o’r hyn a fwriedir (“hysbysiad o fwriad”).

(2) Rhaid i’r hysbysiad o fwriad gynnwys—

(a)y seiliau dros gyflwyno’r hysbysiad arfaethedig;

(b)gofynion yr hysbysiad arfaethedig ac, yn achos cosb, y swm sydd i’w dalu a sut y gellir talu;

(c)yn achos cosb ariannol benodedig—

(i)datganiad y gellir cael rhyddhad rhag atebolrwydd am y gosb drwy dalu 50% o’r gosb o fewn 28 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r diwrnod y cyflwynir yr hysbysiad, a

(ii)gwybodaeth am effaith rhyddhau’r gosb;

(d)gwybodaeth o ran—

(i)yr hawl i wneud sylwadau a gwrthwynebiadau o fewn 28 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r diwrnod y cyflwynir yr hysbysiad o fwriad, a

(ii)o dan ba amgylchiadau na chaiff yr awdurdod priodol gyflwyno’r hysbysiad arfaethedig.

Cyfuniad o gosbau

6.(1) Ni chaiff yr awdurdod priodol gyflwyno hysbysiad o fwriad sy’n ymwneud â chosb ariannol benodedig os, mewn perthynas â’r un drosedd—

(a)cyflwynwyd hysbysiad cydymffurfio, hysbysiad adfer neu hysbysiad stop i’r person hwnnw (gweler paragraffau 1, 2 a 17),

(b)gosodwyd cosb ariannol amrywiadwy ar y person hwnnw (gweler paragraff 4), neu

(c)derbyniwyd ymgymeriad trydydd parti neu ymgymeriad gorfodi oddi wrth y person hwnnw (gweler paragraffau 9 a 23).

(2) Ni chaiff yr awdurdod priodol gyflwyno hysbysiad o fwriad sy’n ymwneud â hysbysiad cydymffurfio, hysbysiad adfer neu gosb ariannol amrywiadwy, na chyflwyno hysbysiad stop os, mewn perthynas â’r un drosedd—

(a)gosodwyd cosb ariannol benodedig ar y person hwnnw, neu

(b)rhyddhawyd y person hwnnw rhag atebolrwydd am gosb ariannol benodedig yn dilyn cyflwyno hysbysiad o fwriad i osod y gosb honno.

Rhyddhau rhag atebolrwydd – cosbau ariannol penodedig

7.  Caiff cosb ariannol benodedig ei rhyddhau os yw person y cyflwynwyd hysbysiad o fwriad iddo yn talu 50% o swm y gosb o fewn 28 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r diwrnod y cyflwynir yr hysbysiad.

Gwneud sylwadau a gwrthwynebiadau

8.  Caiff person y cyflwynwyd hysbysiad o fwriad iddo, o fewn 28 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r diwrnod y cyflwynir yr hysbysiad, wneud sylwadau a gwrthwynebiadau ysgrifenedig i’r awdurdod priodol mewn perthynas â’r bwriad o gyflwyno hysbysiad cydymffurfio, hysbysiad adfer neu hysbysiad yn gosod cosb ariannol benodedig neu gosb ariannol amrywiadwy.

Ymgymeriadau trydydd parti

9.(1) Caiff person y cyflwynwyd hysbysiad o fwriad iddo mewn perthynas â hysbysiad cydymffurfio, hysbysiad adfer neu gosb ariannol amrywiadwy gynnig ymgymeriad o ran camau sydd i’w cymryd gan y person hwnnw (gan gynnwys talu swm o arian) er budd unrhyw drydydd parti yr effeithir arno gan y drosedd (“ymgymeriad trydydd parti”).

(2) Caiff yr awdurdod priodol dderbyn neu wrthod ymgymeriad trydydd parti.

(3) Rhaid i’r awdurdod priodol ystyried unrhyw ymgymeriad trydydd parti y mae’n ei dderbyn wrth benderfynu pa un ai i gyflwyno hysbysiad terfynol ai peidio, ac, os yw’n cyflwyno hysbysiad yn gosod cosb ariannol amrywiadwy, wrth benderfynu swm y gosb.

Hysbysiad terfynol

10.(1) Ar ôl diwedd y cyfnod ar gyfer gwneud sylwadau a gwrthwynebiadau, rhaid i’r awdurdod priodol benderfynu p’un ai i osod y gofynion a ddisgrifir yn yr hysbysiad o fwriad, gyda neu heb addasiadau.

(2) Pan fo’r awdurdod priodol yn penderfynu gosod gofyniad, rhaid i’r hysbysiad sy’n ei osod (yr “hysbysiad terfynol”) gydymffurfio â pharagraff 11 (ar gyfer hysbysiadau cydymffurfio neu hysbysiadau adfer) neu 12 (ar gyfer cosbau ariannol penodedig neu amrywiadwy).

(3) Ni chaiff yr awdurdod priodol osod hysbysiad terfynol ar berson pan fo’r awdurdod priodol wedi ei fodloni na fyddai’r person hwnnw, oherwydd unrhyw amddiffyniad, hawlen neu drwydded, yn agored i gael ei euogfarnu o’r drosedd y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi.

(4) Pan fo’r awdurdod priodol yn cyflwyno hysbysiad terfynol sy’n ymwneud â chosb ariannol benodedig mewn cysylltiad ag unrhyw drosedd, ni chaiff yr awdurdod priodol mewn perthynas â’r drosedd honno gyflwyno—

(a)hysbysiad cydymffurfio,

(b)hysbysiad adfer,

(c)hysbysiad yn gosod cosb ariannol amrywiadwy, neu

(d)hysbysiad stop.

(5) Nid yw’r paragraff hwn yn gymwys i berson sydd wedi ei ryddhau rhag cosb ariannol benodedig yn unol â pharagraff 7.

Cynnwys hysbysiad terfynol: hysbysiadau cydymffurfio a hysbysiadau adfer

11.  Rhaid i hysbysiad terfynol sy’n ymwneud â hysbysiad cydymffurfio neu hysbysiad adfer gynnwys gwybodaeth o ran—

(a)y seiliau dros gyflwyno’r hysbysiad,

(b)pa gamau cydymffurfio neu adfer sy’n ofynnol ac o fewn pa gyfnod y mae rhaid eu cwblhau,

(c)hawliau i apelio, a

(d)canlyniadau methu â chydymffurfio â’r hysbysiad.

Cynnwys hysbysiad terfynol: cosbau ariannol penodedig a chosbau ariannol amrywiadwy

12.  Rhaid i hysbysiad terfynol sy’n ymwneud â chosb ariannol benodedig neu gosb ariannol amrywiadwy gynnwys gwybodaeth o ran—

(a)y seiliau dros osod y gosb,

(b)y swm sydd i’w dalu,

(c)sut y gellir talu,

(d)o fewn pa gyfnod y mae rhaid talu (y “cyfnod talu”), ni chaiff y cyfnod hwnnw fod yn llai na 56 o ddiwrnodau, gan ddechrau â’r diwrnod y cyflwynir yr hysbysiad,

(e)yn achos cosb ariannol benodedig, manylion y disgownt am dalu’n gynnar (gweler paragraff 13) a’r cosbau am dalu’n hwyr (gweler paragraff 15(2) a (3)),

(f)hawliau i apelio, ac

(g)canlyniadau methu â chydymffurfio â’r hysbysiad.

Cosb ariannol benodedig: disgownt am dalu’n gynnar

13.  Os yw person y cyflwynwyd hysbysiad o fwriad iddo mewn perthynas â chosb ariannol benodedig arfaethedig yn gwneud sylwadau neu wrthwynebiadau ynglŷn â’r hysbysiad hwnnw o fewn y terfyn amser a bennir ym mharagraff 8, caiff y person hwnnw ryddhau’r hysbysiad terfynol drwy dalu 50% o’r gosb derfynol o fewn 28 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r diwrnod y cyflwynir yr hysbysiad terfynol.

Apelau yn erbyn hysbysiad terfynol

14.(1) Caiff y person y cyflwynwyd hysbysiad terfynol iddo apelio yn ei erbyn.

(2) Y seiliau dros apelio yw—

(a)bod y penderfyniad yn seiliedig ar wall ffeithiol;

(b)bod y penderfyniad yn anghywir mewn cyfraith;

(c)yn achos cosb ariannol amrywiadwy, bod swm y gosb yn afresymol;

(d)yn achos gofyniad nad yw’n ofyniad ariannol, bod natur y gofyniad yn afresymol;

(e)bod y penderfyniad yn afresymol am unrhyw reswm arall;

(f)bod y penderfyniad yn anghywir am unrhyw reswm arall.

Cosb ariannol benodedig: peidio â thalu o fewn y cyfnod talu a nodir

15.(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i hysbysiad terfynol sy’n ymwneud â chosb ariannol benodedig.

(2) Os na thelir y gosb derfynol o fewn y cyfnod talu a nodir, cynyddir y swm sy’n daladwy gan 50%.

(3) Yn achos apêl sy’n aflwyddiannus, mae’r gosb yn daladwy o fewn 28 o ddiwrnodau o benderfynu’r apêl, ac os nad yw wedi ei dalu o fewn 28 o ddiwrnodau, cynyddir swm y gosb gan 50%.

Achosion troseddol

16.(1) Os—

(a)cyflwynir hysbysiad cydymffurfio neu hysbysiad adfer i unrhyw berson,

(b)derbynnir ymgymeriad trydydd parti gan unrhyw berson,

(c)cyflwynir hysbysiad yn gosod cosb ariannol amrywiadwy i unrhyw berson, neu

(d)cyflwynir cosb ariannol benodedig i unrhyw berson,

ni chaniateir ar unrhyw adeg euogfarnu’r person hwnnw o drosedd o dan Ran 11 o’r Rheoliadau hyn mewn cysylltiad â’r weithred neu’r anweithred sy’n arwain at yr hysbysiad cydymffurfio, yr hysbysiad adfer, yr ymgymeriad trydydd parti, y gosb ariannol amrywiadwy neu’r gosb ariannol benodedig ac eithrio mewn achos sy’n dod o fewn paragraff (a) neu (b) (ac nad yw hefyd yn dod o fewn paragraff (c)) pan fo’r person yn methu â chydymffurfio â hysbysiad cydymffurfio, hysbysiad adfer neu ymgymeriad trydydd parti (yn ôl y digwydd).

(2) Caniateir cychwyn achos troseddol am droseddau y mae hysbysiad neu ymgymeriad trydydd parti yn is-baragraff (1) yn ymwneud â hwy ar unrhyw adeg hyd at 6 mis o’r dyddiad pan fydd yr awdurdod priodol yn hysbysu’r person y mae’r achos i’w gymryd yn ei erbyn fod y person hwnnw wedi methu â chydymffurfio â’r hysbysiad neu’r ymgymeriad hwnnw.

RHAN 2Hysbysiadau stop

Hysbysiadau stop

17.(1) Caiff yr awdurdod priodol gyflwyno hysbysiad (“hysbysiad stop”) i unrhyw berson yn gwahardd y person hwnnw rhag cynnal gweithgaredd a bennir yn yr hysbysiad hyd nes y bydd y person wedi cymryd y camau a bennir yn yr hysbysiad.

(2) Ni chaniateir ond cyflwyno hysbysiad stop—

(a)pan fo’r person yn cynnal y gweithgaredd neu pan fo’r awdurdod priodol yn credu’n rhesymol bod y person yn debygol o gynnal y gweithgaredd,

(b)pan fo’r awdurdod priodol yn credu’n rhesymol fod y gweithgaredd yn achosi, neu’n debygol o achosi, niwed economaidd neu amgylcheddol, neu effeithiau andwyol ar iechyd planhigion, ac

(c)pan fo’r awdurdod priodol yn credu’n rhesymol bod y gweithgaredd sy’n cael ei gynnal, neu sy’n debygol o gael ei gynnal, gan y person hwnnw yn cynnwys neu’n debygol o gynnwys cyflawni trosedd o dan Ran 11 o’r Rheoliadau hyn.

(3) Rhaid i’r camau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1) fod yn gamau i ddileu’r risg y cyflawnir y drosedd.

Cynnwys hysbysiad stop

18.  Rhaid i hysbysiad stop gynnwys gwybodaeth o ran—

(a)y seiliau dros gyflwyno’r hysbysiad stop,

(b)y gweithgaredd a waherddir,

(c)y camau y mae rhaid i’r person eu cymryd i gydymffurfio â’r hysbysiad stop ac o fewn pa gyfnod y mae rhaid iddynt gael eu cwblhau,

(d)hawliau i apelio, ac

(e)canlyniadau methu â chydymffurfio â’r hysbysiad.

Apelau

19.(1) Caiff y person y cyflwynwyd hysbysiad stop iddo apelio yn erbyn y penderfyniad i’w gyflwyno.

(2) Y seiliau dros apelio yw—

(a)bod y penderfyniad yn seiliedig ar wall ffeithiol;

(b)bod y penderfyniad yn anghywir mewn cyfraith;

(c)bod y penderfyniad yn afresymol;

(d)bod unrhyw gam a bennir yn yr hysbysiad yn afresymol;

(e)nad yw’r person wedi cyflawni trosedd ac na fyddai wedi ei chyflawni pe na bai’r hysbysiad wedi ei gyflwyno;

(f)na fyddai’r person hwnnw, oherwydd unrhyw amddiffyniad, hawlen neu drwydded wedi bod yn agored i gael ei euogfarnu o’r drosedd pe na bai’r hysbysiad stop wedi ei gyflwyno;

(g)bod y penderfyniad yn anghywir am unrhyw reswm arall.

Tystysgrifau cwblhau

20.(1) Rhaid i’r awdurdod priodol ddyroddi tystysgrif (“tystysgrif gwblhau”) os, ar ôl cyflwyno hysbysiad stop, yw’r awdurdod priodol wedi ei fodloni bod y person y’i cyflwynwyd iddo wedi cymryd y camau a bennir yn yr hysbysiad.

(2) Mae hysbysiad stop yn peidio â chael effaith pan ddyroddir tystysgrif gwblhau.

(3) Caiff yr awdurdod priodol ei gwneud yn ofynnol i’r person y cyflwynwyd yr hysbysiad stop iddo ddarparu gwybodaeth sy’n ddigonol i benderfynu y cymerwyd y camau a bennir yn yr hysbysiad.

(4) Caiff person y cyflwynwyd hysbysiad stop iddo ar unrhyw adeg wneud cais am dystysgrif gwblhau.

(5) Rhaid i’r awdurdod priodol benderfynu pa un ai i ddyroddi tystysgrif gwblhau, a rhoi hysbysiad ysgrifenedig o’r penderfyniad i’r ceisydd (gan gynnwys gwybodaeth am yr hawl i apelio), o fewn 14 o ddiwrnodau o gael y cais.

(6) Caiff y ceisydd apelio yn erbyn penderfyniad i beidio â dyroddi tystysgrif gwblhau ar y seiliau fod y penderfyniad—

(a)yn seiliedig ar wall ffeithiol;

(b)yn anghywir mewn cyfraith;

(c)yn annheg neu’n afresymol;

(d)yn anghywir am unrhyw reswm arall.

Digollediad

21.(1) Rhaid i’r awdurdod priodol ddigolledu person am golled a ddioddefodd o ganlyniad i gyflwyno’r hysbysiad stop neu wrthod tystysgrif gwblhau os yw’r person hwnnw wedi dioddef colled o ganlyniad i’r hysbysiad neu’r gwrthodiad ac—

(a)bod yr hysbysiad stop wedi ei dynnu’n ôl neu wedi ei ddiwygio wedi hynny gan yr awdurdod priodol am fod y penderfyniad i’w gyflwyno yn afresymol neu am fod unrhyw gam a bennwyd yn yr hysbysiad yn afresymol,

(b)bod yr awdurdod priodol yn torri ei ymrwymiadau statudol,

(c)bod y person yn apelio’n llwyddiannus yn erbyn yr hysbysiad stop a bod y Tribiwnlys Haen Gyntaf yn dyfarnu bod cyflwyno’r hysbysiad yn afresymol, neu

(d)bod y person yn apelio’n llwyddiannus yn erbyn y penderfyniad i wrthod dyroddi tystysgrif gwblhau a bod y Tribiwnlys Haen Gyntaf yn dyfarnu bod y gwrthodiad hwnnw yn afresymol.

(2) Caiff person apelio yn erbyn penderfyniad i beidio â dyfarnu digollediad neu apelio yn erbyn swm y digollediad ar y seiliau—

(a)bod penderfyniad yr awdurdod priodol yn afresymol,

(b)bod y swm a gynigiwyd yn seiliedig ar ffeithiau anghywir, neu

(c)bod y penderfyniad yn anghywir am unrhyw reswm arall.

Troseddau

22.  Os nad yw person y cyflwynir hysbysiad stop iddo yn cydymffurfio â’r hysbysiad hwnnw o fewn y terfyn amser a bennir yn yr hysbysiad, mae’r person yn euog o drosedd ac yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy.

RHAN 3Ymgymeriadau gorfodi

Ymgymeriadau gorfodi

23.  Pan fo gan yr awdurdod priodol seiliau rhesymol i amau bod person wedi cyflawni trosedd o dan Ran 11 o’r Rheoliadau hyn, caiff yr awdurdod priodol dderbyn ymgymeriad ysgrifenedig (“ymgymeriad gorfodi”) a roddir gan y person hwnnw i gymryd unrhyw gamau a bennir yn yr ymgymeriad o fewn unrhyw gyfnod a bennir.

Cynnwys ymgymeriad gorfodi

24.(1) Rhaid i ymgymeriad gorfodi bennu—

(a)camau i’w cymryd gan y person i sicrhau nad yw’r drosedd yn parhau nac yn ailddigwydd,

(a)camau i sicrhau bod y sefyllfa, i’r graddau y bo’n bosibl, yn cael ei hadfer i’r hyn a fyddai wedi bod pe na bai’r drosedd wedi ei chyflawni, neu

(c)camau (gan gynnwys talu swm o arian) i’w cymryd gan y person er budd unrhyw berson yr effeithir arno gan y drosedd.

(2) Rhaid iddo bennu o fewn pa gyfnod y mae rhaid cwblhau’r camau.

(3) Rhaid iddo gynnwys—

(a)datganiad y gwneir yr ymgymeriad yn unol â’r Atodlen hon,

(b)amodau’r ymgymeriad, ac

(c)gwybodaeth o ran sut a phryd yr ystyrir bod y person wedi cyflawni’r ymgymeriad.

(4) Caniateir amrywio’r ymgymeriad gorfodi, neu estyn y cyfnod y mae rhaid cwblhau’r camau ynddo, os yw’r awdurdod priodol a’r person a roddodd yr ymgymeriad yn cytuno i hynny yn ysgrifenedig.

Derbyn ymgymeriad gorfodi

25.(1) Os yw’r awdurdod priodol wedi derbyn ymgymeriad gorfodi gan berson—

(a)ni chaniateir ar unrhyw adeg euogfarnu’r person hwnnw o’r drosedd mewn cysylltiad â’r weithred neu’r anweithred y mae’r ymgymeriad yn ymwneud â hi, a

(b)ni chaiff yr awdurdod priodol gyflwyno i’r person hwnnw hysbysiad cydymffurfio, hysbysiad adfer na hysbysiad stop, na gosod cosb ariannol benodedig na chosb ariannol amrywiadwy ar y person hwnnw, mewn cysylltiad â’r weithred neu’r anweithred honno.

(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys os yw person a roddodd yr ymgymeriad wedi methu â chydymffurfio ag ef neu ag unrhyw ran ohono.

Cyflawni ymgymeriad gorfodi

26.(1) Os yw’r awdurdod priodol wedi ei fodloni y cydymffurfiwyd ag ymgymeriad gorfodi, rhaid iddo ddyroddi tystysgrif (“tystysgrif gyflawni”) i’r perwyl hwnnw.

(2) Mae ymgymeriad gorfodi yn peidio â chael effaith pan ddyroddir tystysgrif gyflawni.

(3) Caiff yr awdurdod priodol ei gwneud yn ofynnol i’r person sydd wedi rhoi’r ymgymeriad ddarparu gwybodaeth sy’n ddigonol i benderfynu y cydymffurfiwyd â’r ymgymeriad.

(4) Caiff y person a roddodd yr ymgymeriad wneud cais ar unrhyw adeg am dystysgrif gyflawni.

(5) Rhaid i’r awdurdod priodol benderfynu pa un ai i ddyroddi tystysgrif gyflawni, a rhoi hysbysiad ysgrifenedig o’r penderfyniad i’r ceisydd (gan gynnwys gwybodaeth am yr hawl i apelio), o fewn 14 o ddiwrnodau o gael cais o’r fath.

(6) Caiff y ceisydd apelio yn erbyn penderfyniad i beidio â dyroddi tystysgrif gyflawni ar y seiliau fod y penderfyniad—

(a)yn seiliedig ar wall ffeithiol;

(b)yn anghywir mewn cyfraith;

(c)yn annheg neu’n afresymol;

(d)yn anghywir am unrhyw reswm arall.

Gwybodaeth anghywir, anghyflawn neu gamarweiniol

27.(1) Mae person sydd wedi rhoi gwybodaeth anghywir, anghyflawn neu gamarweiniol mewn perthynas ag ymgymeriad gorfodi i’w ystyried fel pe na bai wedi cydymffurfio â’r ymgymeriad hwnnw.

(2) Caiff yr awdurdod priodol drwy hysbysiad ysgrifenedig ddirymu tystysgrif gyflawni a ddyroddwyd o dan baragraff 26 os y’i dyroddwyd ar sail gwybodaeth anghywir, gamarweiniol neu anghyflawn.

Peidio â chydymffurfio ag ymgymeriad gorfodi

28.(1) Os nad yw person yn cydymffurfio ag ymgymeriad gorfodi, caiff yr awdurdod priodol, yn achos trosedd a gyflawnir o dan Ran 11 o’r Rheoliadau hyn—

(a)cyflwyno hysbysiad cydymffurfio, hysbysiad adfer, cosb ariannol amrywiadwy, hysbysiad stop neu gosb am fethu â chydymffurfio, neu

(b)dwyn achos troseddol.

(2) Os yw person wedi cydymffurfio yn rhannol ond nid yn llwyr ag ymgymeriad, rhaid ystyried y cydymffurfio rhannol hwnnw wrth osod unrhyw sancsiwn troseddol neu sancsiwn arall ar y person.

(3) Caniateir cychwyn achos troseddol am droseddau y mae ymgymeriad gorfodi yn ymwneud â hwy ar unrhyw adeg hyd at 6 mis o’r dyddiad y mae’r awdurdod priodol yn hysbysu’r person fod y person hwnnw wedi methu â chydymffurfio â’r ymgymeriad.

RHAN 4Cosbau am beidio â chydymffurfio

Cosbau am beidio â chydymffurfio

29.(1) Caiff yr awdurdod priodol gyflwyno hysbysiad i berson yn gosod cosb ariannol (“cosb am beidio â chydymffurfio”) os yw’r person hwnnw yn methu â chydymffurfio ag—

(a)hysbysiad cydymffurfio, hysbysiad adfer neu ymgymeriad trydydd parti, ni waeth a osodwyd cosb ariannol amrywiadwy hefyd ai peidio, neu

(b)ymgymeriad gorfodi.

(2) Rhaid i’r awdurdod priodol bennu swm y gosb am beidio â chydymffurfio, a rhaid i’r swm hwnnw fod yn ganran o gostau cyflawni gweddill gofynion yr hysbysiad cydymffurfio, yr hysbysiad adfer, yr ymgymeriad trydydd parti neu’r ymgymeriad gorfodi.

(3) Rhaid i’r awdurdod priodol bennu’r ganran gan roi sylw i holl amgylchiadau’r achos, a chaiff y ganran honno, os yw’n briodol, fod yn 100%.

(4) Rhaid i’r hysbysiad gynnwys gwybodaeth o ran—

(a)y seiliau dros osod y gosb am beidio â chydymffurfio,

(b)y swm sydd i’w dalu,

(c)sut y mae rhaid talu,

(d)o fewn pa gyfnod y mae rhaid talu, ni chaiff y cyfnod hwnnw fod yn llai na 28 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r diwrnod y cyflwynir yr hysbysiad,

(e)hawliau i apelio,

(f)canlyniadau methu â chydymffurfio â’r hysbysiad, ac

(g)o dan ba amgylchiadau y caiff yr awdurdod priodol leihau swm y gosb.

(5) Os cydymffurfir â gofynion yr hysbysiad cydymffurfio, yr hysbysiad adfer, yr ymgymeriad trydydd parti neu’r ymgymeriad gorfodi cyn y terfyn amser a bennir ar gyfer talu’r gosb am beidio â chydymffurfio, nid yw’r gosb yn daladwy.

(6) Ar ôl i’r cyfnod talu penodedig ddod i ben, caiff yr awdurdod priodol adennill y gosb am beidio â chydymffurfio fel pe bai’n daladwy o dan orchymyn gan y llys.

(7) Rhaid i gosb am beidio â chydymffurfio a delir i’r awdurdod priodol o dan y paragraff hwn gael ei thalu i’r Gronfa Gyfunol.

Apelau

30.(1) Caiff y person y cyflwynwyd iddo yr hysbysiad sy’n gosod y gosb am beidio â chydymffurfio apelio yn ei erbyn.

(2) Y seiliau dros apelio yw—

(a)bod y penderfyniad i gyflwyno’r hysbysiad yn seiliedig ar wall ffeithiol;

(b)bod y penderfyniad yn anghywir mewn cyfraith;

(c)bod y penderfyniad yn annheg neu’n afresymol am unrhyw reswm;

(d)bod swm y gosb yn afresymol;

(e)bod y penderfyniad yn anghywir am reswm arall.

RHAN 5Tynnu hysbysiadau yn ôl a diwygio hysbysiadau

Tynnu hysbysiad yn ôl neu ddiwygio hysbysiad

31.  Caiff yr awdurdod priodol ar unrhyw adeg yn ysgrifenedig—

(a)tynnu yn ôl hysbysiad cydymffurfio, hysbysiad adfer neu hysbysiad stop, neu ddiwygio’r camau a bennir yn yr hysbysiad hwnnw, er mwyn lleihau faint o waith sy’n angenrheidiol i gydymffurfio â’r hysbysiad,

(b)tynnu yn ôl hysbysiad sy’n gosod cosb ariannol benodedig, neu

(c)tynnu yn ôl hysbysiad sy’n gosod cosb ariannol amrywiadwy neu gosb am beidio â chydymffurfio, neu leihau swm y gosb a bennir yn yr hysbysiad.

RHAN 6Adennill cost

Adennill costau gorfodaeth

32.(1) Caiff yr awdurdod priodol gyflwyno hysbysiad adennill cost os yw unrhyw un neu ragor o’r amodau yn is-baragraff (3) wedi eu bodloni.

(2) Mae hysbysiad adennill cost yn hysbysiad sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person dalu costau’r awdurdod priodol.

(3) Yr amodau yw bod yr awdurdod priodol wedi—

(a)cyflwyno i’r person hysbysiad cydymffurfio o dan baragraff 1,

(b)cyflwyno i’r person hysbysiad adfer o dan baragraff 2,

(c)cyflwyno i’r person gosb ariannol amrywiadwy o dan baragraff 4, neu

(d)cyflwyno i’r person hysbysiad stop o dan baragraff 17.

(4) Yn is-baragraff (2), mae cyfeiriad at gostau yn gyfeiriad at unrhyw gostau sy’n ymwneud â llunio a rhoi hysbysiad cydymffurfio, hysbysiad adfer, cosb ariannol amrywiadwy neu hysbysiad stop, yn ôl y digwydd, ac mae’n cynnwys cyfeiriad at gostau unrhyw ymchwiliad cysylltiedig neu gyngor arbenigol (gan gynnwys cyngor cyfreithiol).

(5) Rhaid i’r hysbysiad adennill cost gynnwys gwybodaeth o ran—

(a)swm y costau y mae rhaid eu talu,

(b)o fewn pa gyfnod y mae rhaid talu, ni chaiff y cyfnod hwnnw fod yn llai na 28 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r diwrnod y cyflwynir yr hysbysiad,

(c)sut y mae rhaid talu,

(d)canlyniadau methu â thalu o fewn y cyfnod talu a bennir, ac

(e)hawliau i apelio.

(6) Ar ôl i’r cyfnod talu penodedig ddod i ben, caiff yr awdurdod priodol adennill y costau y cyfeirir atynt yn yr hysbysiad adennill cost fel pe baent yn daladwy o dan orchymyn gan y llys.

(7) Caiff y person y cyflwynwyd yr hysbysiad adennill cost iddo apelio yn ei erbyn.

(8) Y seiliau dros apelio yw—

(a)bod y penderfyniad i gyflwyno’r hysbysiad yn seiliedig ar wall ffeithiol;

(b)bod y penderfyniad yn anghywir mewn cyfraith;

(c)bod y penderfyniad yn annheg neu’n afresymol am unrhyw reswm;

(d)bod swm y gosb yn afresymol;

(e)bod y penderfyniad yn anghywir am unrhyw reswm arall.

RHAN 7Apelau

Apelau

33.(1) Rhaid i unrhyw apêl o dan yr Atodlen hon gael ei gwneud i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf.

(2) Mewn unrhyw apêl rhaid i’r Tribiwnlys benderfynu ar y safon profi.

(3) Mae apêl yn erbyn hysbysiad a gyflwynir o dan yr Atodlen hon (ac eithrio hysbysiad stop) yn atal dros dro effaith yr hysbysiad yr apelir yn ei erbyn hyd nes y caiff yr apêl ei phenderfynu neu ei thynnu yn ôl.

(4) Caiff y Tribiwnlys, mewn perthynas â gosod gofyniad neu gyflwyno hysbysiad—

(a)tynnu yn ôl y gofyniad neu’r hysbysiad;

(b)cadarnhau’r gofyniad neu’r hysbysiad;

(c)amrywio’r gofyniad neu’r hysbysiad;

(d)cymryd unrhyw gamau y gallai’r awdurdod priodol eu cymryd mewn perthynas â’r weithred neu’r anweithred sy’n arwain at y gofyniad neu’r hysbysiad;

(e)anfon y penderfyniad o ran pa un ai i gadarnhau’r gofyniad neu’r hysbysiad ai peidio, neu unrhyw fater sy’n ymwneud â’r penderfyniad hwnnw, at yr awdurdod priodol.

RHAN 8Canllawiau a chyhoeddusrwydd

Canllawiau o ran defnyddio sancsiynau sifil

34.(1) Rhaid i’r awdurdod priodol gyhoeddi canllawiau ynghylch ei ddefnydd o sancsiynau sifil.

(2) Rhaid i’r awdurdod priodol adolygu a diweddaru canllawiau pan fo’n briodol.

(3) Rhaid i’r awdurdod priodol roi sylw i’r canllawiau neu’r canllawiau a adolygwyd ac a ddiweddarwyd wrth arfer ei swyddogaethau.

(4) Yn achos canllawiau ynghylch hysbysiadau cydymffurfio, hysbysiadau adfer, cosbau ariannol penodedig, cosbau ariannol amrywiadwy, hysbysiadau stop a chosbau am beidio â chydymffurfio, rhaid i’r canllawiau gynnwys gwybodaeth o ran—

(a)o dan ba amgylchiadau y mae sancsiwn sifil yn debygol o gael ei osod,

(b)o dan ba amgylchiadau nad yw’n debygol o gael ei osod,

(c)pan fo’n berthnasol, hawliau i wneud sylwadau a gwrthwynebiadau,

(d)hawliau i apelio, ac

(e)yn achos canllawiau ynghylch cosbau ariannol amrywiadwy a chosbau am beidio â chydymffurfio, y materion y mae’r awdurdod priodol yn debygol o’u hystyried wrth bennu swm y gosb (gan gynnwys adrodd yn wirfoddol am beidio â chydymffurfio gan unrhyw berson amdano ei hun).

(5) Yn achos canllawiau ynghylch ymgymeriadau gorfodi, rhaid i’r canllawiau gynnwys gwybodaeth o ran—

(a)o dan ba amgylchiadau y mae’r awdurdod priodol yn debygol o dderbyn ymgymeriad gorfodi, a

(b)o dan ba amgylchiadau nad yw’r awdurdod priodol yn debygol o dderbyn ymgymeriad gorfodi.

Ymgynghori ar ganllawiau

35.  Rhaid i’r awdurdod priodol ymgynghori ag unrhyw bersonau y mae’r awdurdod priodol yn ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy cyn cyhoeddi—

(a)unrhyw ganllawiau, neu

(b)unrhyw ddiwygiadau neu ddiweddariadau sylweddol i ganllawiau sydd eisoes wedi eu cyhoeddi.

Cyhoeddi camau gorfodi

36.(1) Rhaid i’r awdurdod priodol gyhoeddi yn flynyddol—

(a)yr achosion y gosodwyd sancsiynau sifil ynddynt;

(b)pan fo sancsiwn sifil yn hysbysiad cydymffurfio, hysbysiad adfer neu gosb ariannol amrywiadwy, yr achosion y derbyniwyd ymgymeriad trydydd parti ynddynt;

(c)yr achosion y derbyniwyd ymgymeriad gorfodi ynddynt.

(2) Yn is-baragraff (1)(a), nid yw’r cyfeiriad at achosion y gosodwyd sancsiynau sifil ynddynt yn cynnwys achosion pan osodwyd sancsiwn ond a gafodd ei wrthdroi ar apêl.

(3) Nid yw’r paragraff hwn yn gymwys mewn achosion pan fo’r awdurdod priodol o’r farn y byddai cyhoeddi yn amhriodol.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill