- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffioedd) (Cymru) 2015 (“Rheoliadau 2015”) a Rheolau Cofrestru Tir 2003 (“y Rheolau”).
Mae Rheoliadau 2015 yn nodi’r gofynion y mae rhaid i awdurdodau lleol eu bodloni wrth ddyfarnu swm y ffioedd sy’n gymwys mewn perthynas â gofal a chymorth, y maent yn eu darparu neu’n eu trefnu neu’n cynnig eu darparu neu eu trefnu wrth gyflawni eu swyddogaethau o dan Ran 4 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (“y Ddeddf”). Mae Rheoliadau 2015 hefyd yn cynnwys darpariaethau cyfochrog sy’n nodi’r gofynion sy’n gymwys pan fo awdurdod lleol yn gwneud taliadau uniongyrchol i ddiwallu angen person am ofal a chymorth.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rhan 2 o Reoliadau 2015 (codi ffioedd o dan Ran 5 o’r Ddeddf) fel a ganlyn:
cynnydd yn yr uchafswm ffi wythnosol am ofal a chymorth amhreswyl o £90 i £100.
cynnydd yn yr isafswm incwm wythnosol ar gyfer person y darperir llety iddo mewn cartref gofal o £29.50 i £32.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rhan 4 o Reoliadau 2015 (cyfraniadau ac ad-daliadau am daliadau uniongyrchol) fel a ganlyn:
cynnydd yn yr uchafswm cyfraniad neu ad-daliad wythnosol am ofal a chymorth amhreswyl o £90 i £100.
cynnydd yn yr isafswm incwm wythnosol net ar gyfer person y darperir llety iddo mewn cartref gofal ac sy’n derbyn taliadau uniongyrchol o dan y Ddeddf o £29.50 i £32.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r Rheolau i gywiro gwall a wnaed yn Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) (Is-ddeddfwriaeth) 2016, ac yn mewnosod darpariaeth gywir y Ddeddf yn Rhan 8 ac Atodlen 4 i’r Rheolau. Mae Rhan 8 ac Atodlen 4 yn ymdrin â chyfyngiadau o fewn ystyr adran 40 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol oʼr costau aʼr manteision syʼn debygol o ddeillio o gydymffurfio âʼr Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys