- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
Offerynnau Statudol Cymru
Addysg, Cymru
Gwnaed
11 Chwefror 2020
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
13 Chwefror 2020
Yn dod i rym
2020
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Rhif 2) 2020.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar ... 2020 ac maent yn gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2020, pa un a gaiff unrhyw beth a wneir o dan y Rheoliadau hyn ei wneud cyn, ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw.
2. Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017(3)wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 4 i 18.
3. Yn rheoliad 16 (grant newydd at ffioedd)—
(1) ym mharagraff (3)—
(a)yn is-baragraff (a), yn lle “£4,665” rhodder “£4,530”;
(b)yn is-baragraff (b), yn lle “£4,335” rhodder “£4,470”;
(2) ym mharagraff (4)—
(a)yn is-baragraff (a), yn lle “£2,410” rhodder “£2,340”;
(b)yn is-baragraff (b), yn lle “£2,090” rhodder “£2,160”.
4. Yn rheoliad 19 (benthyciad newydd at ffioedd mewn perthynas â chyrsiau sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2012)—
(a)ym mharagraff (3)(a), yn lle “£4,335” rhodder “£4,470”;
(b)ym mharagraff (4)(a), yn lle “£2,090” rhodder “£2,160”.
5. Yn rheoliad 22 (benthyciad at ffioedd mynediad graddedig carlam)—
(a)ym mharagraff (4)(a), yn lle “£5,535” rhodder “£5,785”;
(b)ym mharagraff (5)(b), yn lle “£5,535” rhodder “£5,785”.
6. Yn rheoliad 24 (grantiau at gostau byw myfyrwyr anabl), ym mharagraff (3)—
(a)yn is-baragraff (a), yn lle “£22,472” rhodder “£23,258”;
(b)yn is-baragraff (b), yn lle “£5,657” rhodder “£5,849”;
(c)yn is-baragraff (d), yn lle “£1,894” rhodder “£1,954”.
7. Yn rheoliad 26 (grantiau ar gyfer dibynyddion – grant ar gyfer dibynyddion mewn oed)—
(a)ym mharagraff (3)(a), yn lle “£2,732” rhodder “£3,094”;
(b)ym mharagraff (3)(b), yn lle “£2,732” rhodder “£3,094”.
8. Yn rheoliad 27 (grantiau ar gyfer dibynyddion – grant gofal plant)—
(1) ym mharagraff (7)—
(a)yn is-baragraff (a), yn lle “£161.50” rhodder “£174.22”;
(b)yn is-baragraff (b), yn lle “£274.55” rhodder “£298.69”;
(2) ym mharagraff (9)(a), yn lle “£115” rhodder “£134.70”.
9. Yn rheoliad 28 (grantiau ar gyfer dibynyddion – lwfans dysgu ar gyfer rhieni), ym mharagraff (2), yn lle “£1,557” rhodder “£1,766”.
10. Yn rheoliad 43 (uchafswm benthyciadau i fyfyrwyr cymwys sydd â hawlogaeth lawn ac yn fyfyrwyr carfan 2010, yn fyfyrwyr carfan 2012 neu’n fyfyrwyr mynediad graddedig carlam 2012 sy’n ymgymryd â’u blwyddyn gyntaf o astudio)—
(1) ym mharagraff (2)—
(a)yn is-baragraff (i), yn lle “£5,684” rhodder “£5,848”;
(b)yn is-baragraff (ii), yn lle “£10,288” rhodder “£10,584”;
(c)yn is-baragraff (iii), yn lle “£8,756” rhodder “£9,008”;
(d)yn is-baragraff (iv), yn lle “£8,756” rhodder “£9,008”;
(e)yn is-baragraff (v), yn lle “£7,344” rhodder “£7,555”;
(2) ym mharagraff (3)—
(a)yn is-baragraff (i), yn lle “£5,147” rhodder “£5,295”;
(b)yn is-baragraff (ii), yn lle “£9,368” rhodder “£9,638”;
(c)yn is-baragraff (iii), yn lle “£7,616” rhodder “£7,835”;
(d)yn is-baragraff (iv), yn lle “£7,616” rhodder “£7,835”;
(e)yn is-baragraff (v), yn lle “£6,803” rhodder “£6,999”.
11. Yn rheoliad 45 (myfyrwyr sydd â hawlogaeth ostyngol)—
(1) ym mharagraff (1), is-baragraff (a)—
(a)ym mharagraff (i), yn lle “£2,699” rhodder “£2,777”;
(b)ym mharagraff (ii), yn lle “£5,058” rhodder “£5,204”;
(c)ym mharagraff (iii), yn lle “£3,598” rhodder “£4,428”;
(d)ym mharagraff (iv), yn lle “£3,598” rhodder “£4,428”;
(e)ym mharagraff (v), yn lle “£3,598” rhodder “£3,702”;
(2) ym mharagraff (1), is-baragraff (b)—
(a)ym mharagraff (i), yn lle “£2,699” rhodder “£2,777”;
(b)ym mharagraff (ii), yn lle “£5,058” rhodder “£5,204”;
(c)ym mharagraff (iii), yn lle “£4,304” rhodder “£4,428”;
(d)ym mharagraff (iv), yn lle “£4,304” rhodder “£4,428”;
(e)ym mharagraff (v), yn lle “£3,598” rhodder “£3,702”;
(3) ym mharagraff (1), is-baragraff (c)—
(a)ym mharagraff (i), yn lle “£4,263” rhodder “£4,386”;
(b)ym mharagraff (ii), yn lle “£7,716” rhodder “£7,938”;
(c)ym mharagraff (iii), yn lle “£6,567” rhodder “£6,756”;
(d)ym mharagraff (iv), yn lle “£6,567” rhodder “£6,756”;
(e)ym mharagraff (v), yn lle “£5,508” rhodder “£5,666”;
(4) ym mharagraff (2), is-baragraff (a)—
(a)ym mharagraff (i), yn lle “£2,052” rhodder “£2,111”;
(b)ym mharagraff (ii), yn lle “£3,869” rhodder “£3,980”;
(c)ym mharagraff (iii), yn lle “£2,804” rhodder “£2,885”;
(d)ym mharagraff (iv), yn lle “£2,804” rhodder “£2,885”;
(e)ym mharagraff (v), yn lle “£2,804” rhodder “£2,885”;
(5) ym mharagraff (2), is-baragraff (b)—
(a)ym mharagraff (i), yn lle “£2,052” rhodder “£2,111”;
(b)ym mharagraff (ii), yn lle “£3,869” rhodder “£3,980”;
(c)ym mharagraff (iii), yn lle “£3,146” rhodder “£3,237”;
(d)ym mharagraff (iv), yn lle “£3,146” rhodder “£3,237”;
(e)ym mharagraff (v), yn lle “£2,804” rhodder “£2,885”;
(6) ym mharagraff (2), is-baragraff (c)—
(a)ym mharagraff (i), yn lle “£3,860” rhodder “£3,971”;
(b)ym mharagraff (ii), yn lle “£7,026” rhodder “£7,228”;
(c)ym mharagraff (iii), yn lle “£5,712” rhodder “£5,876”;
(d)ym mharagraff (iv), yn lle “£5,712” rhodder “£5,876”;
(e)ym mharagraff (v), yn lle “£5,102” rhodder “£5,249”.
12. Yn rheoliad 50 (codiadau yn yr uchafswm), paragraff (1)—
(a)yn is-baragraff (a), yn lle “£84” rhodder “£86”;
(b)yn is-baragraff (b), yn lle “£162” rhodder “£167”;
(c)yn is-baragraff (c), yn lle “£177” rhodder “£182”;
(d)yn is-baragraff (d), yn lle “£177” rhodder “£182”;
(e)yn is-baragraff (e), yn lle “£127” rhodder “£131”.
13. Yn rheoliad 88 (grantiau at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl), paragraff (3)—
(a)yn is-baragraff (a), yn lle “£16,853” rhodder “£17,443”;
(b)yn is-baragraff (b), yn lle “£5,657” rhodder “£5,849”;
(c)yn is-baragraff (d), yn lle “£1,420” rhodder “£1,465”.
14. Yn rheoliad 91 (grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn oed)—
(a)ym mharagraff (3)(a), yn lle “£2,732” rhodder “£3,094”;
(b)ym mharagraff (3)(b), yn lle “£2,732” rhodder “£3,094”.
15. Yn rheoliad 92 (grant rhan-amser ar gyfer gofal plant)—
(1) ym mharagraff 6—
(a)yn is-baragraff (a), yn lle “£161.50” rhodder “£174.22”;
(b)yn is-baragraff (b), yn lle “£274.55” rhodder “£298.69”;
(2) ym mharagraff (8)(a), yn lle “£115” rhodder “£134.70”.
16. Yn rheoliad 93 (lwfans dysgu rhan-amser ar gyfer rhieni), ym mharagraff (2), yn lle “£1,557” rhodder “£1,766”.
17. Yn rheoliad 117 (swm y grant), ym mharagraff (2), yn lle “£20,000” rhodder “£20,580”.
18. Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018(4) wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 20 i 30.
19. Yn rheoliad 40 (swm benthyciad at ffioedd dysgu), yn Nhabl 2, categori o fyfyriwr 4, colofn 4, yn lle—
(a)“Cymru, Lloegr a’r Alban” rhodder “Cymru a Lloegr”;
(b)“Gogledd Iwerddon” yn y lle olaf y mae’n digwydd rhodder “Yr Alban a Gogledd Iwerddon”.
20. Yn rheoliad 55 (swm y benthyciad cynhaliaeth: myfyrwyr llawnamser), Tabl 7—
(1) yng ngholofn 1, yn lle “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2018” rhodder “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2020”;
(2) yng ngholofn 4, yn lle—
(a)“£6,840” rhodder “£7,335”;
(b)“£10,530” rhodder “£11,260”;
(c)“£8,225” rhodder “£8,810”;
(d)“£3,420” rhodder “£3,665”;
(e)“£5,265” rhodder “£5,630”;
(f)“£4,110” rhodder “£4,405”.
21. Yn rheoliad 56 (swm y benthyciad cynhaliaeth: myfyrwyr llawnamser sy’n cymhwyso i gael taliad cymorth arbennig)—
(1) yn Nhabl 8—
(a)yng ngholofn 1, yn lle “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 2018” rhodder “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 2020”;
(b)yng ngholofn 3, yn lle—
(i)“£7,840” rhodder “£8,335”;
(ii)“£11,530” rhodder “£12,260”;
(iii)“£9,225” rhodder “£9,810”;
(2) yn Nhabl 8A—
(a)yng ngholofn 1, yn lle “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 2018” rhodder “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 2020”
(b)yng ngholofn 3, yn lle—
(i)“£3,420” rhodder “£3,665”;
(ii)“£5,265” rhodder “£5,630”;
(iii)“£4,110” rhodder “£4,405”.
22. Yn rheoliad 57 (benthyciad cynhaliaeth wedi ei gynyddu ar gyfer myfyrwyr llawnamser yn ystod blynyddoedd estynedig), yn Nhabl 9—
(1) yng ngholofn 1, yn lle “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2018” rhodder “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2020”;
(2) yng ngholofn 3, yn lle—
(a)“£84” rhodder “£86”;
(b)“£162” rhodder “£167”;
(c)“£127” rhodder “£131”.
23. Yn rheoliad 58 (swm y benthyciad cynhaliaeth: myfyrwyr rhan-amser), yn Nhabl 10—
(a)yng ngholofn 1, yn lle “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2018” rhodder “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2020”;
(b)ym mharagraff (2), yn lle “£5,815” rhodder “£6,245”.
24. Yn rheoliad 58A (swm y benthyciad cynhaliaeth: myfyrwyr rhan-amser sy’n cymhwyso i gael taliad cymorth arbennig), yn Nhabl 10A—
(a)yng ngholofn 1, yn lle “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 2018” rhodder “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 2020”;
(b)ym mharagraff (2), yn lle “£6,815” rhodder “£7,245”.
25. Yn rheoliad 63 (swm y grant myfyriwr anabl), paragraff (2), yn lle—
(a)“£22,472” rhodder “£23,258”;
(b)“£16,853” rhodder “£17,443”;
(c)“£5,657” rhodder “£5,849”;
(d)“£1,894” rhodder “£1,954”;
(e)“£1,420” rhodder “£1,465”.
26. Yn rheoliad 72 (uchafswm y grant oedolion dibynnol), yn Nhabl 11—
(a)yng ngholofn 1, yn lle “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2018” rhodder “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2020”;
(b)yng ngholofn 2, yn lle “£2,732” rhodder “£3,094”.
27. Yn rheoliad 74 (uchafswm y grant dysgu ar gyfer rhieni), yn Nhabl 12—
(a)yng ngholofn 1, yn lle “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2018” rhodder “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2020”;
(b)yng ngholofn 2, yn lle “£1,557” rhodder “£1,766”.
28. Yn rheoliad 76 (uchafswm y grant gofal plant)—
(1) yn Nhabl 13—
(a)yng ngholofn 1, yn lle “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2018” rhodder “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2020”;
(b)yng ngholofn 3—
(i)yn lle “£161.50” rhodder “£174.22”;
(ii)yn lle “£274.55” rhodder “£298.69”;
(2) ym mharagraff (4)(a), yn lle “£115” rhodder “£134.70”.
29. Yn Atodlen 4, ym mharagraff 20(1)(a), yn lle “£20,000” rhodder “£20,580”.
30. Mae Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Ddoethurol Ôl-raddedig) (Cymru) 2018(5) wedi eu diwygio yn unol â rheoliad 32.
31. Yn rheoliad 13 (swm benthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig)—
(a)ym mharagraff (1), yn lle “£25,700” rhodder “£26,445”;
(b)ym mharagraff (2), yn lle “25,700” rhodder “£26,445”.
32. Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2019(6) wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 34 i 35.
33. Yn rheoliad 31 (swm y benthyciad cyfrannu at gostau), yn lle “£16,000” yn y ddau le y mae’n ymddangos rhodder “£16,489”.
34. Yn rheoliad 36 (effaith dod, neu beidio â bod, yn garcharor cymwys)—
(a)ym mharagraff (8), yn lle “£16,000” rhodder “£16,489”;
(b)ym mharagraff (10), yn lle “£16,000” rhodder “£16,489”.
Kirsty Williams
Y Gweinidog Addysg, un o Weinidogion Cymru
11 Chwefror 2020
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio—
(a)Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017 (“Rheoliadau 2017”);
(b)Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018 (“Rheoliadau 2018”);
(c)Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Ddoethurol Ôl-raddedig) (Cymru) 2018 (“y Rheoliadau Benthyciadau at Radd Ddoethurol”);
(d)Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2019 (“y Rheoliadau Graddau Meistr”).
Mae Rheoliadau 2017 yn darparu ar gyfer cymorth ariannol i fyfyrwyr cymwys sy’n dilyn cyrsiau addysg uwch dynodedig sy’n dechrau cyn 1 Medi 2018. Mae Rhan 2 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 2017.
Mae Rheoliadau 2018 yn darparu ar gyfer cymorth ariannol i fyfyrwyr cymwys sy’n dilyn cyrsiau addysg uwch dynodedig sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2018. Mae Rhan 3 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 2018.
Mae’r Rheoliadau Benthyciadau at Radd Ddoethurol yn darparu ar gyfer cymorth ariannol i fyfyrwyr cymwys sy’n ymgymryd â chyrsiau gradd ddoethurol ôl-raddedig dynodedig. Mae Rhan 4 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r Rheoliadau Benthyciadau at Radd Ddoethurol.
Mae’r Rheoliadau Graddau Meistr yn darparu ar gyfer cymorth ariannol i fyfyrwyr cymwys sy’n ymgymryd â chyrsiau gradd feistr dynodedig. Mae Rhan 5 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r Rheoliadau Graddau Meistr.
Mae rheoliadau 4 i 34 yn uwchraddio’r ffigurau yn y rheoliadau sy’n cael eu diwygio:
mae rheoliadau 4 i 18 yn diwygio Rheoliadau 2017;
mae rheoliadau 19 i 30 yn diwygio Rheoliadau 2018;
mae rheoliadau 31 i 32 yn diwygio’r Rheoliadau Benthyciadau at Radd Ddoethurol; ac
mae rheoliadau 33 i 35 yn diwygio’r Rheoliadau Graddau Meistr.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Addysg Uwch, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
1998 p. 30; diwygiwyd adran 22 gan Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000 (p. 21), adran 146 ac Atodlen 11; Deddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003 (p. 1), Atodlen 6; Deddf Cyllid 2003 (p. 14), adran 147; Deddf Addysg Uwch 2004 (p. 8), adrannau 42 a 43 ac Atodlen 7; Deddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (p. 22), adran 257; Deddf Addysg 2011 (p. 21), adran 76; O.S. 2013/1181 a Deddf Addysg Uwch ac Ymchwil 2017 (p. 29), adran 88. Gweler adran 43(1) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 am y diffiniad o “prescribed” a “regulations”.
Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol yn adran 22(2)(a) i (i) a (k) o Ddeddf 1998 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i’r graddau y maent yn ymwneud â gwneud darpariaeth o ran Cymru gan adran 44 o Ddeddf Addysg Uwch 2004 (p. 8), ac mae is-adrannau (a), (c) a (k) yn arferadwy yn gydredol â’r Ysgrifennydd Gwladol. Trosglwyddwyd swyddogaeth yr Ysgrifennydd Gwladol yn adran 42, i’r graddau y mae’n arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S. 1999/672. Trosglwyddwyd holl swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru uchod i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.
O.S. 2017/47 (Cy. 21) fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2018/191 (Cy. 42), O.S. 2018/814 (Cy. 165), O.S. 2019/235 (Cy. 54) ac O.S. 2019/424 (Cy. 98) (o’r diwrnod ymadael ymlaen, fel y diffinnir “exit day” gan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, adran 20(1)–(5)).
O.S. 2018/191 (Cy. 42) fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2018/813 (Cy. 164), O.S. 2018/814 (Cy. 165), O.S. 2019/235 (Cy. 54) ac O.S. 2019/424 (Cy. 98) (o’r diwrnod ymadael ymlaen, fel y diffinnir “exit day” gan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, adran 20(1)–(5)).
O.S. 2018/656 (Cy. 124) a ddiwygiwyd gan O.S. 2017/712 (Cy. 169), O.S. 2018/277 (Cy. 53), O.S. 2018/814 (Cy. 165), O.S. 2019/424 (Cy. 98) (o’r diwrnod ymadael ymlaen, fel y diffinnir “exit day” gan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, adran 20(1)–(5)), O.S. 2019/895 (Cy. 161).
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys