xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 2Taliadau Uniongyrchol: Deddfwriaeth Lorweddol

Diwygio Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) Rhif 907/2014

5.  Yn Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) Rhif 907/2014 dyddiedig 11 Mawrth 2014 sy’n ategu Rheoliad (EU) Rhif 1306/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran asiantaethau talu a chyrff eraill, rheolaeth ariannol, clirio cyfrifon, gwarannau a defnyddio’r ewro(1), hepgorer Erthygl 11, i’r graddau y mae’n ymwneud â thaliadau uniongyrchol.

(1)

EUR 2014/907, a ddiwygiwyd mewn perthynas â chynlluniau taliadau uniongyrchol gan O.S. 2020/90. Mae EUR 2014/907 hefyd wedi ei ddiwygio’n rhagolygol gydag effaith o ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu gan O.S. 2019/765. Er hynny, yn rhinwedd y diwygiadau yn Rheoliadau Amaethyddiaeth (Taliadau) (Diwygio, etc.) (Ymadael â’r UE) 2020, nid yw’r diwygiadau rhagolygol hyn yn cael effaith mewn perthynas â chynlluniau taliadau uniongyrchol.