xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru
Hadau, Cymru
Cymeradwywyd gan Senedd Cymru
Gwnaed
15 Rhagfyr 2020
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
18 Rhagfyr 2020
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018(1).
Yn unol â pharagraff 4(a) o Atodlen 2 i’r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r Ysgrifennydd Gwladol o ran y Rheoliadau hyn sy’n dod i rym cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.
Oherwydd brys, mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn angenrheidiol gwneud y Rheoliadau hyn heb fod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad(2).
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Marchnata Hadau a Deunyddiau Lluosogi Planhigion (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym fel a ganlyn—
(a)daw rheoliadau 1, 3 a 5 i rym ar 30 Rhagfyr 2020;
(b)daw rheoliadau 2 a 4 i rym yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.
2.—(1) Mae Rheoliadau Tatws Hadyd (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019(3) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 1—
(a)ym mharagraff (2), hepgorer “, ac eithrio rheoliadau 3 a 4,”;
(b)hepgorer paragraff (3).
(3) Yn rheoliad 2—
(a)ym mharagraff (2)—
(i)yn is-baragraffau (a), (c), (d), (i), (j), (k) ac (o)—
(aa)yn yr is-baragraff (ii) newydd sydd i’w fewnosod gan bob un o’r is-baragraffau hynny, ar ôl “Tiriogaeth Ddibynnol y Goron” mewnosoder “neu wlad y caniatawyd cywerthedd iddi”;
(bb)hepgorer yr is-baragraff (iii) newydd sydd i’w fewnosod gan bob un o’r is-baragraffau hynny;
(ii)yn is-baragraff (b), yn lle “yn unol â chytundeb masnach y Swistir” rhodder “o “(neu, mewn perthynas â” hyd at y diwedd”;
(iii)yn is-baragraff (d), yn lle’r is-baragraff (i) newydd sydd i’w fewnosod gan yr is-baragraff hwnnw rhodder—
“(i)yn achos tatws hadyd a gynhyrchir yn Lloegr, Ran 1 o Atodlen 2 i Reoliadau Tatws Hadyd (Lloegr) 2015(4);”;
(iv)yn is-baragraffau (e), (f) ac (n), yn lle’r geiriau cyn y diffiniadau newydd sydd i’w mewnosod gan yr is-baragraffau hynny rhodder “ym mharagraff (1), yn y lle priodol mewnosoder—”;
(v)yn is-baragraff (g), yn lle’r diffiniad newydd o “gradd” sydd i’w fewnosod gan yr is-baragraff hwnnw rhodder—
“mae “gradd” (“grade”) yn cynnwys gradd Prydain Fawr;”;
(vi)yn lle is-baragraff (h) rhodder—
“(h)hepgorer y diffiniad o “Rhestr Genedlaethol”;”;
(vii)yn is-baragraff (l), yn y diffiniad newydd o “tatws hadyd o amrywogaeth gadwraeth” sydd i’w fewnosod gan yr is-baragraff hwnnw, yn lle “y Rhestr Genedlaethol” rhodder “Rhestr Amrywogaethau Prydain Fawr”;
(viii)yn is-baragraff (m), yn lle “ym mharagraff (b) hepgorer “ac eithrio’r Deyrnas Unedig”” rhodder
“hepgorer paragraffau (b) ac (c) ac, ar y diwedd mewnosoder—
“neu
(b)tatws hadyd a gynhyrchir mewn gwlad y caniatawyd cywerthedd iddi;””;
(ix)yn is-baragraff (p), yn y diffiniad newydd o “gradd yr Undeb” sydd i’w fewnosod gan yr is-baragraff hwnnw, yn lle “mewn Aelod-wladwriaeth neu yn y Swistir” rhodder “yng Ngogledd Iwerddon”;
(x)yn lle is-baragraff (q) rhodder—
“(q)ym mharagraff (1), yn y lleoedd priodol mewnosoder—
“ystyr “gradd gyfatebol” (“equivalent grade”) yw—
o ran Gogledd Iwerddon, radd Undeb gyfatebol;
o ran un o Diriogaethau Dibynnol y Goron neu wlad y caniatawyd cywerthedd iddi, radd a gydnabyddir gan Weinidogion Cymru fel un sy’n cyfateb i un o raddau Prydain Fawr;”;
“ystyr “gradd Prydain Fawr” (“GB grade”) yw—
o ran tatws hadyd a gynhyrchir yng Nghymru, gradd Prydain Fawr a bennir yn unol ag Atodlen 4 wrth ardystio, sef—
yn achos tatws hadyd cyn-sylfaenol, gradd PBTC Prydain Fawr neu radd PB Prydain Fawr;
yn achos tatws hadyd sylfaenol, gradd S Prydain Fawr, gradd SE Prydain Fawr neu radd E Prydain Fawr;
yn achos tatws hadyd ardystiedig, gradd A Prydain Fawr neu radd B Prydain Fawr;
o ran tatws hadyd a gynhyrchir yn Lloegr neu’r Alban, gradd Prydain Fawr a bennir yn unol â’r rheoliadau tatws hadyd perthnasol;”;
“ystyr “gradd Undeb gyfatebol” (“equivalent Union grade”) yw—
o ran “Gradd PBTC Prydain Fawr”, “gradd PBTC yr Undeb”;
o ran “Gradd PB Prydain Fawr”, “gradd PB yr Undeb”;
o ran “Gradd S Prydain Fawr”, “gradd S yr Undeb”;
o ran “Gradd SE Prydain Fawr”, “gradd SE yr Undeb”;
o ran “Gradd E Prydain Fawr”, “gradd E yr Undeb”;
o ran “Gradd A Prydain Fawr”, “gradd A yr Undeb”;
o ran “Gradd B Prydain Fawr”, “gradd B yr Undeb”;”;
“ystyr “gwlad y caniatawyd cywerthedd iddi” (“country granted equivalence”) yw gwlad y mae Gweinidogion Cymru wedi asesu bod tatws hadyd o’r wlad honno yn cael eu cynhyrchu o dan amodau sy’n cyfateb i ofynion y Rheoliadau hyn;”;
“ystyr “Rhestr Amrywogaethau Prydain Fawr” (“GB Variety List”) yw rhestr o amrywogaethau tatws a baratowyd ac a gyhoeddwyd yn unol â rheoliad 3 o’r Rheoliadau Rhestrau Cenedlaethol;”;”;
(xi)yn lle is-baragraff (r) rhodder—
“(r)hepgorer paragraff (2);”;
(b)yn lle paragraff (3) rhodder—
“(3) Yn rheoliad 4, yn lle “i’r Undeb Ewropeaidd” rhodder “i Brydain Fawr”.”;
(c)ym mharagraff (4)—
(i)yn y testun Saesneg, ar ôl “accordance with”, yn y lle cyntaf y mae’n digwydd, mewnosoder “to the end substitute”;
(ii)yn y paragraff (ii) newydd, ar ôl “Tiriogaeth Ddibynnol y Goron” mewnosoder “neu wlad y caniatawyd cywerthedd iddi”;
(iii)hepgorer y paragraff (iii) newydd sydd i’w fewnosod gan y paragraff hwnnw;
(d)ym mharagraff (5)—
(i)o flaen is-baragraff (a) mewnosoder—
“(za)ym mharagraff (1)(a), yn lle “y Rhestr Genedlaethol” rhodder “Rhestr Amrywogaethau Prydain Fawr”;”;
(ii)yn is-baragraff (b), yn y paragraff (3A) newydd, yn lle “the United Kingdom”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “Great Britain”;
(e)ym mharagraff (6), yn yr is-baragraff (c) newydd sydd i’w fewnosod gan y paragraff hwnnw, yn lle “y diwrnod ymadael” rhodder “diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu”;
(f)ym mharagraff (7)—
(i)yn is-baragraff (a)—
(aa)ym mharagraff (i), yn lle “yn y Deyrnas Unedig” rhodder “ym Mhrydain Fawr”;
(bb)ym mharagraff (ii), yn yr is-baragraff (iii) newydd sydd i’w fewnosod gan y paragraff hwnnw, yn lle “y diwrnod ymadael” rhodder “diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu”;
(ii)yn lle is-baragraff (b) rhodder—
“(b)ym mharagraff (6)(b), yn lle “mewn Rhestr Genedlaethol neu yn y Catalog Cyffredin” rhodder “yn Rhestr Amrywogaethau Prydain Fawr”;”;
(g)ym mharagraffau (8) a (9)—
(i)yn y paragraff (ii) newydd sydd i’w fewnosod gan y paragraffau hynny, ar ôl “Tiriogaeth Ddibynnol y Goron” mewnosoder “neu wlad y caniatawyd cywerthedd iddi”;
(ii)hepgorer y paragraff (iii) newydd sydd i’w fewnosod gan y paragraffau hynny;
(h)yn lle paragraff (10) rhodder—
“(10) Yn rheoliad 16 ac yn y pennawd, yn lle “i’r Undeb Ewropeaidd” rhodder “i Ynysoedd Prydain”.”;
(i)ym mharagraff (11), yn y rheoliad 23A newydd a’i bennawd, sydd i’w mewnosod gan y paragraff hwnnw—
(i)yn lle “ar y diwrnod ymadael” rhodder “ar ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu”, yn lle “cyn y diwrnod ymadael” rhodder “cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu” ac yn lle “y mae’r diwrnod ymadael” rhodder “y mae diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu”;
(ii)ar ôl “label swyddogol”, yn yr ail le y mae’n digwydd, mewnosoder “ar gyfer tatws hadyd sylfaenol neu datws hadyd ardystiedig”;
(j)yn lle paragraff (12) rhodder—
“(12) Yn Atodlen 1—
(a)ym mharagraff 3(a), yn lle “mewn Rhestr Genedlaethol neu yn y Catalog Cyffredin” rhodder “yn Rhestr Amrywogaethau Prydain Fawr”;
(b)ym mharagraffau 5, 6 a 10, yn lle “yr Undeb”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “Prydain Fawr”;
(c)ym mharagraff 8(b)—
(i)yn y testun Saesneg, yn lle “Union”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “GB”;
(ii)yn y testun Cymraeg—
(aa)ym mharagraff (i), ar ôl “gradd S” mewnosoder “Prydain Fawr”;
(bb)ym mharagraff (ii), ar ôl “gradd SE” mewnosoder “Prydain Fawr”; ac
(cc)ym mharagraff (iii), ar ôl “gradd E” mewnosoder “Prydain Fawr”.”;
(k)ym mharagraff (13)—
(i)yn is-baragraff (b)(i), yn lle “UK” rhodder “GB”;
(ii)yn lle is-baragraff (c) rhodder—
“(c)ym mharagraff 8(b)—
(i)ym mharagraff (i), yn lle “Aelod-wladwriaeth” rhodder “wlad”;
(ii)ym mharagraff (vi), yn lle “Restr Genedlaethol” rhodder “Restr Amrywogaethau Prydain Fawr”;”;
(iii)yn is-baragraffau (d)(ii) ac (e), yn lle “UK” rhodder “GB”, ac yn lle “y DU” rhodder “Prydain Fawr”;
(l)ym mharagraff (14)(a) a (b), yn lle “y DU” rhodder “Prydain Fawr”;
(m)ym mharagraff (16)—
(i)yn is-baragraff (a), yn lle “yn lle “Undeb” rhodder “Deyrnas Unedig”” rhodder “yn lle “un o raddau’r Undeb” rhodder “un o raddau Prydain Fawr””;
(ii)yn is-baragraff (b)(i), yn lle “y DU” rhodder “Prydain Fawr”;
(iii)yn lle is-baragraff (b)(ii) rhodder—
“(ii)yn y rhes sy’n ymwneud â gradd “PB” yng ngholofn 2, ym mharagraff (1)(b), yn lle “gradd PB yr Undeb” rhodder “gradd PB Prydain Fawr neu radd gyfatebol”;”;
(n)ym mharagraff (17)—
(i)yn is-baragraff (a), yn lle “yn lle “Undeb” rhodder “Deyrnas Unedig”” rhodder “yn lle “un o raddau’r Undeb” rhodder “un o raddau Prydain Fawr””;
(ii)yn is-baragraff (b)(i), yn lle “y DU” rhodder “Prydain Fawr”;
(iii)yn lle is-baragraff (b)(ii) i (iv) rhodder—
“(ii)yn y rhes sy’n ymwneud â gradd “S”, yng ngholofn 2, ym mharagraff (1)(a), yn lle “radd S yr Undeb” rhodder “radd S Prydain Fawr neu radd gyfatebol”;
(iii)yn y rhes sy’n ymwneud â gradd “SE”, yng ngholofn 2, ym mharagraff (1)(a), yn lle “radd S yr Undeb neu’n radd SE yr Undeb” rhodder “radd S Prydain Fawr, gradd SE Prydain Fawr neu radd gyfatebol”;
(iv)yn y rhes sy’n ymwneud â gradd “E”, yng ngholofn 2—
(aa)ym mharagraff (1)(a), yn lle “radd S yr Undeb neu radd SE yr Undeb” rhodder “radd S Prydain Fawr, gradd SE Prydain Fawr neu radd gyfatebol”;
(bb)ym mharagraff (1)(b), yn lle “radd S yr Undeb, gradd SE yr Undeb neu radd E yr Undeb” rhodder “radd S Prydain Fawr, gradd SE Prydain Fawr, gradd E Prydain Fawr neu radd gyfatebol.”;
(o)yn lle paragraff (18) rhodder—
“(18) Yn Rhan 3, yn Nhabl 3—
(a)ym mhennawd colofn 1, yn lle “yr Undeb” rhodder “Prydain Fawr”;
(b)yng ngholofn 2, yn lle “radd A yr Undeb”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “radd A Prydain Fawr neu radd gyfatebol”;
(c)yng ngholofn 2, yn lle “radd B yr Undeb” rhodder “radd B Prydain Fawr neu radd gyfatebol.”
(4) Hepgorer rheoliadau 3 a 4.
3.—(1) Mae Rheoliadau Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019(5) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 1(3), hepgorer “, 5”.
(3) Hepgorer rheoliad 5.
4.—(1) Mae Rheoliadau Marchnata Hadau a Deunyddiau Lluosogi Planhigion (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019(6) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn y testun Cymraeg, ailrifer rheoliadau 2 i 6 yn rheoliadau 1 i 5, ac mae’r paragraffau a ganlyn yn cyfeirio at y rheoliadau hynny fel y’u hailrifwyd.
(3) Yn rheoliad 4—
(a)yn lle paragraff (2) rhodder—
“(2) Yn rheoliad 3, yn lle paragraff (1) rhodder—
“(1) At ddibenion y Rheoliadau hyn—
(a)“Rhestr Amrywogaethau Prydain Fawr” yw’r rhestr o amrywogaethau planhigion a baratowyd ac a gyhoeddwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn unol â darpariaethau Rheoliadau Hadau (Rhestrau Cenedlaethol o Amrywogaethau) 2001(7);
(b)ystyr “gwlad y caniatawyd cywerthedd iddi” yw—
(i)gwlad y caniatawyd cywerthedd iddi o dan Benderfyniad y Cyngor 2003/17/EC ar gywerthedd archwiliadau maes a gynhelir mewn trydydd gwledydd ar gnydau sy’n cynhyrchu hadau ac ar gywerthedd hadau a gynhyrchir mewn trydydd gwledydd; neu
(ii)gwlad y mae Gweinidogion Cymru wedi asesu bod yr hadau o’r wlad honno yn cael eu cynhyrchu o dan amodau sy’n cyfateb i ofynion y Rheoliadau hyn o ran yr hadau y mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt;
(c)ystyr “Tiriogaeth Ddibynnol y Goron” yw unrhyw un o Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw;
(ch)ystyr “Rhestr Amrywogaethau Gogledd Iwerddon” yw’r rhestr o amrywogaethau planhigion a baratowyd ac a gyhoeddwyd gan yr Adran Amaethyddiaeth, Amgylchedd a Materion Gwledig yng Ngogledd Iwerddon yn unol â’r ddeddfwriaeth sy’n cyfateb o ran ei heffaith i Reoliadau Hadau (Rhestrau Cenedlaethol o Amrywogaethau) 2001.”;”
(b)yn lle paragraff (3) rhodder—
“(3) Yn rheoliad 4(2), yn lle “i’r Undeb Ewropeaidd” rhodder “i Brydain Fawr”.”;
(c)yn lle paragraff (4) rhodder—
“(4) Yn rheoliad 7, yn lle’r geiriau o “Rhestr Genedlaethol” hyd at y diwedd rhodder “Rhestr Amrywogaethau Prydain Fawr, Rhestr Amrywogaethau Gogledd Iwerddon neu restr gyfatebol mewn gwlad y caniatawyd cywerthedd iddi”.”;
(d)hepgorer paragraff (5);
(e)yn lle paragraff (6) rhodder —
“(6) Yn rheoliad 10, ym mharagraff (a), yn lle “Rhestr Genedlaethol y Deyrnas Unedig neu’r Catalog Cyffredin” rhodder “Rhestr Amrywogaethau Prydain Fawr”.”;
(f)ym mharagraff (9)—
(i)yn lle is-baragraff (a) rhodder—
“(a)yn y pennawd, yn lle “o’r tu allan i’r Undeb Ewropeaidd” rhodder “o wlad y caniatawyd cywerthedd iddi”;”;
(ii)ar ôl is-baragraff (a) mewnosoder—
“(aa)yn lle paragraff (1) rhodder—
“(1) Rhaid i hadau sy’n cael eu mewnforio o wlad y caniatawyd cywerthedd iddi—
(a)bod yn amrywogaeth a restrwyd yn Rhestr Amrywogaethau Prydain Fawr; a
(b)bod wedi eu labelu—
(i)o ran hadau llysiau safonol, â label cyflenwr yn unol â pharagraff 25(4) neu (5) o Atodlen 3;
(ii)o ran yr holl hadau eraill, â label a gymeradwywyd gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd ar gyfer ardystio amrywogaethau i reoli hadau sy’n symud yn y fasnach ryngwladol.”;”;
(iii)yn is-baragraff (b), yn lle “i’r Deyrnas Unedig” rhodder “o wlad y caniatawyd cywerthedd iddi”;
(iv)hepgorer is-baragraff (c);
(g)ym mharagraff (10)—
(i)yn y rheoliad 32A newydd a’i bennawd sydd i’w mewnosod gan y paragraff hwnnw, ar ôl “Tiriogaeth Ddibynnol y Goron” mewnosoder “neu wlad y caniatawyd cywerthedd iddi”;
(ii)yn y rheoliad 32B newydd a’i bennawd sydd i’w mewnosod gan y paragraff hwnnw—
(aa)yn lle “ar y diwrnod ymadael” rhodder “ar ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu”, yn lle “cyn y diwrnod ymadael” rhodder “cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu” ac yn lle “y mae’r diwrnod ymadael” rhodder “y mae diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu”;
(bb)yn lle “ddwy flynedd” rhodder “un flwyddyn”;
(h)ym mharagraff (11)—
(i)yn is-baragraff (a)(iii), yn yr is-baragraff (6)(b)(i)(bb) newydd sydd i’w fewnosod gan yr is-baragraff hwnnw, yn lle “United Kingdom National” rhodder “GB Variety”;
(ii)yn lle is-baragraff (e) rhodder—
“(e)ym mharagraff 43(2), yn lle “Restr Genedlaethol y Deyrnas Unedig neu’r Catalog Cyffredin” rhodder “Restr Amrywogaethau Prydain Fawr”;”;
(i)ym mharagraff (12)—
(i)yn is-baragraff (c)(i), yn lle “UK” rhodder “GB”;
(ii)yn lle is-baragraff (e) rhodder—
“(e)ym mharagraffau 12(2)(a) a 14(1)(a), yn lle “Restr Genedlaethol y Deyrnas Unedig neu’r Catalog Cyffredin” rhodder “Restr Amrywogaethau Prydain Fawr”;”;
(iii)yn is-baragraffau (g) a (j), yn lle “UK” rhodder “GB”;
(j)ym mharagraff (13)—
(i)yn is-baragraff (d)—
(aa)o flaen paragraff (i), mewnosoder—
“(ai)yn is-baragraffau (2) a (3), yn lle “Rhestr Genedlaethol y Deyrnas Unedig” rhodder “Rhestr Amrywogaethau Prydain Fawr”;”;
(bb)ym mharagraff (i), yn yr is-baragraff (5A) newydd sydd i’w fewnosod gan y paragraff hwnnw, yn lle “the United Kingdom”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “Great Britain”;
(ii)yn is-baragraff (e)(ii), yn lle “UK” rhodder “GB”;
(iii)ar ôl is-baragraff (e) mewnosoder—
“(ea)ym mharagraff 9—
(i)yn is-baragraffau (1), (5) a (6), yn lle “Genedlaethol y Deyrnas Unedig” rhodder “Amrywogaethau Prydain Fawr”;
(ii)yn is-baragraff (8), yn y geiriau o flaen paragraff (a), yn lle “yn y Deyrnas Unedig” rhodder “ym Mhrydain Fawr”;”;
(iv)yn lle is-baragraff (f) rhodder—
“(f)ym mharagraff 10—
(i)yn is-baragraff (1), yn lle’r geiriau o “Rhestr Genedlaethol y Deyrnas Unedig” hyd at y diwedd rhodder “Rhestr Amrywogaethau Prydain Fawr ar yr amod bod cais wedi ei wneud i’w cofnodi yn Rhestr Amrywogaethau Prydain Fawr neu Restr Amrywogaethau Gogledd Iwerddon”;
(ii)yn is-baragraff (4), yn lle “yn y Rhestr Genedlaethol berthnasol” rhodder “yn Rhestr Amrywogaethau Prydain Fawr, Rhestr Amrywogaethau Gogledd Iwerddon neu restr gyfatebol gwlad y caniatawyd cywerthedd iddi”;
(iii)hepgorer is-baragraffau (7) ac (8);”;
(v)yn lle is-baragraff (g) rhodder—
“(g)ym mharagraff 11(2), yn lle “Rhestr Genedlaethol y Deyrnas Unedig neu’r Catalog Cyffredin” rhodder “Rhestr Amrywogaethau Prydain Fawr”;”;
(vi)yn is-baragraff (h)(ii)(bb), yn lle “y mae’r diwrnod ymadael” rhodder “y mae diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu”;
(vii)yn lle is-baragraff (l) rhodder—
“(l)hepgorer paragraff 16;”;
(viii)yn lle is-baragraff (n) rhodder—
“(n)ym mharagraff 18, yn lle “Restr Genedlaethol y Deyrnas Unedig neu’r Catalog Cyffredin” rhodder “Restr Amrywogaethau Prydain Fawr”;”.
(4) Yn rheoliad 5—
(a)ym mharagraff (2)—
(i)yn is-baragraffau (a), (b), (c), (f), ac (i)—
(aa)yn yr is-baragraff (ii) newydd sydd i’w fewnosod gan bob un o’r is-baragraffau hynny, ar ôl “Tiriogaeth Ddibynnol y Goron” mewnosoder “neu wlad y caniatawyd cywerthedd iddi”;
(bb)hepgorer yr is-baragraff (iii) newydd sydd i’w fewnosod gan bob un o’r is-baragraffau hynny;
(ii)ar ôl is-baragraff (c) mewnosoder—
“(ca)yn y lle priodol mewnosoder—
“ystyr “gwlad y caniatawyd cywerthedd iddi” (“country granted equivalence”) yw gwlad sydd wedi ei hasesu o dan reoliad 5(3) ac y mae Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod y deunyddiau planhigion o’r wlad yn cael eu cynhyrchu o dan amodau sy’n cyfateb i ofynion y Rheoliadau hyn o ran deunyddiau planhigion;”;”;
(iii)yn is-baragraff (g), yn lle “, unrhyw Aelod-wladwriaeth neu unrhyw Diriogaeth Ddibynnol y Goron” rhodder “, unrhyw Diriogaeth Ddibynnol y Goron neu unrhyw wlad y caniatawyd cywerthedd iddi”;
(b)yn lle paragraff (3) rhodder—
“(3) Yn rheoliad 4(3), yn lle “i’r Undeb Ewropeaidd” rhodder “i Brydain Fawr”.”;
(c)yn lle paragraff (4) rhodder—
“(4) Yn rheoliad 5, ym mharagraff (3), yn lle “Undeb Ewropeaidd” rhodder “Deyrnas Unedig”.”;
(d)hepgorer paragraffau (6), (7) ac (8);
(e)ym mharagraff (9)—
(i)yn is-baragraffau (a) ac (c)(i), yn lle “UK” rhodder “GB”;
(ii)yn is-baragraff (c)(ii), yn lle “is-baragraffau (b)(i) ac (x)” rhodder “is-baragraff (b)(i)”;
(f)ym mharagraffau (13)(a), (15)(a) ac (16), yn yr is-baragraff (ii) newydd sydd i’w fewnosod gan y paragraffau hynny, yn lle “y mae’r diwrnod ymadael” rhodder “y mae diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu”.
5.—(1) Mae Rheoliadau Hadau (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019(8) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Hepgorer rheoliad 1(2)(b) a Rhan 3.
Lesley Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
15 Rhagfyr 2020
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud drwy arfer y pwerau a roddir gan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) er mwyn ymdrin ag unrhyw fethiant yng nghyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu’n effeithiol a diffygion eraill sy’n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio is-ddeddfwriaeth ddomestig ymadael â’r UE sy’n ymwneud â hadau, planhigion i’w plannu a deunyddiau atgenhedlu o ganlyniad i ymadael â’r UE. Mae rheoliad 2 hefyd yn mynd i’r afael â gwallau a nodwyd mewn is-ddeddfwriaeth ddomestig ymadael â’r UE.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
2018 p. 16; gweler adran 20(1) am y diffiniad o “devolved authority”. Diwygiwyd paragraff 21 o Atodlen 7 gan adran 41(4) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Cytundeb Ymadael) 2020 (p. 1), a pharagraff 53(2) o Atodlen 5 iddi.
Mae’r cyfeiriadau yn Neddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 at Gynulliad Cenedlaethol Cymru bellach yn cael effaith fel cyfeiriadau at Senedd Cymru, yn rhinwedd adran 150A(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).
O.S. 2019/738 (Cy. 141), a ddiwygiwyd yn rhagolygol gan O.S. 2019/1281 (Cy. 225), rheoliad 5: mae’r rheoliad hwnnw’n cael ei hepgor gan y Rheoliadau hyn.
O.S. 2015/1953, a ddiwygiwyd gan O.S. 2017/288, O.S. 2019/472, O.S. 2019/1517 ac a ddiwygiwyd yn rhagolygol gan O.S. 2019/809.
O.S. 2019/368 (Cy. 90); a ddiwygiwyd yn rhagolygol gan O.S. 2019/1382 (Cy. 245), rheoliad 3: mae’r rheoliad hwnnw’n cael ei hepgor gan y Rheoliadau hyn.
O.S. 2001/3510, a ddiwygiwyd gan O.S.A. 2004/317, O.S. 2004/2949, O.S.A. 2005/328, 329, O.S. 2007/1871, 2009/1273, 2010/1195, 2011/464, 2012/2897, 2013/2042, 2014/487, O.S.A. 2015/395, O.S. 2016/106 (Cy. 52), 2018/942, 2020/579. Fe’i diwygir yn rhagolygol gan O.S. 2019/162.