Rheoliadau Tatws Hadyd (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019
2.—(1) Mae Rheoliadau Tatws Hadyd (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019(1) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 1—
(a)ym mharagraff (2), hepgorer “, ac eithrio rheoliadau 3 a 4,”;
(b)hepgorer paragraff (3).
(3) Yn rheoliad 2—
(a)ym mharagraff (2)—
(i)yn is-baragraffau (a), (c), (d), (i), (j), (k) ac (o)—
(aa)yn yr is-baragraff (ii) newydd sydd i’w fewnosod gan bob un o’r is-baragraffau hynny, ar ôl “Tiriogaeth Ddibynnol y Goron” mewnosoder “neu wlad y caniatawyd cywerthedd iddi”;
(bb)hepgorer yr is-baragraff (iii) newydd sydd i’w fewnosod gan bob un o’r is-baragraffau hynny;
(ii)yn is-baragraff (b), yn lle “yn unol â chytundeb masnach y Swistir” rhodder “o “(neu, mewn perthynas â” hyd at y diwedd”;
(iii)yn is-baragraff (d), yn lle’r is-baragraff (i) newydd sydd i’w fewnosod gan yr is-baragraff hwnnw rhodder—
“(i)yn achos tatws hadyd a gynhyrchir yn Lloegr, Ran 1 o Atodlen 2 i Reoliadau Tatws Hadyd (Lloegr) 2015(2);”;
(iv)yn is-baragraffau (e), (f) ac (n), yn lle’r geiriau cyn y diffiniadau newydd sydd i’w mewnosod gan yr is-baragraffau hynny rhodder “ym mharagraff (1), yn y lle priodol mewnosoder—”;
(v)yn is-baragraff (g), yn lle’r diffiniad newydd o “gradd” sydd i’w fewnosod gan yr is-baragraff hwnnw rhodder—
“mae “gradd” (“grade”) yn cynnwys gradd Prydain Fawr;”;
(vi)yn lle is-baragraff (h) rhodder—
“(h)hepgorer y diffiniad o “Rhestr Genedlaethol”;”;
(vii)yn is-baragraff (l), yn y diffiniad newydd o “tatws hadyd o amrywogaeth gadwraeth” sydd i’w fewnosod gan yr is-baragraff hwnnw, yn lle “y Rhestr Genedlaethol” rhodder “Rhestr Amrywogaethau Prydain Fawr”;
(viii)yn is-baragraff (m), yn lle “ym mharagraff (b) hepgorer “ac eithrio’r Deyrnas Unedig”” rhodder
“hepgorer paragraffau (b) ac (c) ac, ar y diwedd mewnosoder—
“neu
(b)tatws hadyd a gynhyrchir mewn gwlad y caniatawyd cywerthedd iddi;””;
(ix)yn is-baragraff (p), yn y diffiniad newydd o “gradd yr Undeb” sydd i’w fewnosod gan yr is-baragraff hwnnw, yn lle “mewn Aelod-wladwriaeth neu yn y Swistir” rhodder “yng Ngogledd Iwerddon”;
(x)yn lle is-baragraff (q) rhodder—
“(q)ym mharagraff (1), yn y lleoedd priodol mewnosoder—
“ystyr “gradd gyfatebol” (“equivalent grade”) yw—
o ran Gogledd Iwerddon, radd Undeb gyfatebol;
o ran un o Diriogaethau Dibynnol y Goron neu wlad y caniatawyd cywerthedd iddi, radd a gydnabyddir gan Weinidogion Cymru fel un sy’n cyfateb i un o raddau Prydain Fawr;”;
“ystyr “gradd Prydain Fawr” (“GB grade”) yw—
o ran tatws hadyd a gynhyrchir yng Nghymru, gradd Prydain Fawr a bennir yn unol ag Atodlen 4 wrth ardystio, sef—
yn achos tatws hadyd cyn-sylfaenol, gradd PBTC Prydain Fawr neu radd PB Prydain Fawr;
yn achos tatws hadyd sylfaenol, gradd S Prydain Fawr, gradd SE Prydain Fawr neu radd E Prydain Fawr;
yn achos tatws hadyd ardystiedig, gradd A Prydain Fawr neu radd B Prydain Fawr;
o ran tatws hadyd a gynhyrchir yn Lloegr neu’r Alban, gradd Prydain Fawr a bennir yn unol â’r rheoliadau tatws hadyd perthnasol;”;
“ystyr “gradd Undeb gyfatebol” (“equivalent Union grade”) yw—
o ran “Gradd PBTC Prydain Fawr”, “gradd PBTC yr Undeb”;
o ran “Gradd PB Prydain Fawr”, “gradd PB yr Undeb”;
o ran “Gradd S Prydain Fawr”, “gradd S yr Undeb”;
o ran “Gradd SE Prydain Fawr”, “gradd SE yr Undeb”;
o ran “Gradd E Prydain Fawr”, “gradd E yr Undeb”;
o ran “Gradd A Prydain Fawr”, “gradd A yr Undeb”;
o ran “Gradd B Prydain Fawr”, “gradd B yr Undeb”;”;
“ystyr “gwlad y caniatawyd cywerthedd iddi” (“country granted equivalence”) yw gwlad y mae Gweinidogion Cymru wedi asesu bod tatws hadyd o’r wlad honno yn cael eu cynhyrchu o dan amodau sy’n cyfateb i ofynion y Rheoliadau hyn;”;
“ystyr “Rhestr Amrywogaethau Prydain Fawr” (“GB Variety List”) yw rhestr o amrywogaethau tatws a baratowyd ac a gyhoeddwyd yn unol â rheoliad 3 o’r Rheoliadau Rhestrau Cenedlaethol;”;”;
(xi)yn lle is-baragraff (r) rhodder—
“(r)hepgorer paragraff (2);”;
(b)yn lle paragraff (3) rhodder—
“(3) Yn rheoliad 4, yn lle “i’r Undeb Ewropeaidd” rhodder “i Brydain Fawr”.”;
(c)ym mharagraff (4)—
(i)yn y testun Saesneg, ar ôl “accordance with”, yn y lle cyntaf y mae’n digwydd, mewnosoder “to the end substitute”;
(ii)yn y paragraff (ii) newydd, ar ôl “Tiriogaeth Ddibynnol y Goron” mewnosoder “neu wlad y caniatawyd cywerthedd iddi”;
(iii)hepgorer y paragraff (iii) newydd sydd i’w fewnosod gan y paragraff hwnnw;
(d)ym mharagraff (5)—
(i)o flaen is-baragraff (a) mewnosoder—
“(za)ym mharagraff (1)(a), yn lle “y Rhestr Genedlaethol” rhodder “Rhestr Amrywogaethau Prydain Fawr”;”;
(ii)yn is-baragraff (b), yn y paragraff (3A) newydd, yn lle “the United Kingdom”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “Great Britain”;
(e)ym mharagraff (6), yn yr is-baragraff (c) newydd sydd i’w fewnosod gan y paragraff hwnnw, yn lle “y diwrnod ymadael” rhodder “diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu”;
(f)ym mharagraff (7)—
(i)yn is-baragraff (a)—
(aa)ym mharagraff (i), yn lle “yn y Deyrnas Unedig” rhodder “ym Mhrydain Fawr”;
(bb)ym mharagraff (ii), yn yr is-baragraff (iii) newydd sydd i’w fewnosod gan y paragraff hwnnw, yn lle “y diwrnod ymadael” rhodder “diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu”;
(ii)yn lle is-baragraff (b) rhodder—
“(b)ym mharagraff (6)(b), yn lle “mewn Rhestr Genedlaethol neu yn y Catalog Cyffredin” rhodder “yn Rhestr Amrywogaethau Prydain Fawr”;”;
(g)ym mharagraffau (8) a (9)—
(i)yn y paragraff (ii) newydd sydd i’w fewnosod gan y paragraffau hynny, ar ôl “Tiriogaeth Ddibynnol y Goron” mewnosoder “neu wlad y caniatawyd cywerthedd iddi”;
(ii)hepgorer y paragraff (iii) newydd sydd i’w fewnosod gan y paragraffau hynny;
(h)yn lle paragraff (10) rhodder—
“(10) Yn rheoliad 16 ac yn y pennawd, yn lle “i’r Undeb Ewropeaidd” rhodder “i Ynysoedd Prydain”.”;
(i)ym mharagraff (11), yn y rheoliad 23A newydd a’i bennawd, sydd i’w mewnosod gan y paragraff hwnnw—
(i)yn lle “ar y diwrnod ymadael” rhodder “ar ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu”, yn lle “cyn y diwrnod ymadael” rhodder “cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu” ac yn lle “y mae’r diwrnod ymadael” rhodder “y mae diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu”;
(ii)ar ôl “label swyddogol”, yn yr ail le y mae’n digwydd, mewnosoder “ar gyfer tatws hadyd sylfaenol neu datws hadyd ardystiedig”;
(j)yn lle paragraff (12) rhodder—
“(12) Yn Atodlen 1—
(a)ym mharagraff 3(a), yn lle “mewn Rhestr Genedlaethol neu yn y Catalog Cyffredin” rhodder “yn Rhestr Amrywogaethau Prydain Fawr”;
(b)ym mharagraffau 5, 6 a 10, yn lle “yr Undeb”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “Prydain Fawr”;
(c)ym mharagraff 8(b)—
(i)yn y testun Saesneg, yn lle “Union”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “GB”;
(ii)yn y testun Cymraeg—
(aa)ym mharagraff (i), ar ôl “gradd S” mewnosoder “Prydain Fawr”;
(bb)ym mharagraff (ii), ar ôl “gradd SE” mewnosoder “Prydain Fawr”; ac
(cc)ym mharagraff (iii), ar ôl “gradd E” mewnosoder “Prydain Fawr”.”;
(k)ym mharagraff (13)—
(i)yn is-baragraff (b)(i), yn lle “UK” rhodder “GB”;
(ii)yn lle is-baragraff (c) rhodder—
“(c)ym mharagraff 8(b)—
(i)ym mharagraff (i), yn lle “Aelod-wladwriaeth” rhodder “wlad”;
(ii)ym mharagraff (vi), yn lle “Restr Genedlaethol” rhodder “Restr Amrywogaethau Prydain Fawr”;”;
(iii)yn is-baragraffau (d)(ii) ac (e), yn lle “UK” rhodder “GB”, ac yn lle “y DU” rhodder “Prydain Fawr”;
(l)ym mharagraff (14)(a) a (b), yn lle “y DU” rhodder “Prydain Fawr”;
(m)ym mharagraff (16)—
(i)yn is-baragraff (a), yn lle “yn lle “Undeb” rhodder “Deyrnas Unedig”” rhodder “yn lle “un o raddau’r Undeb” rhodder “un o raddau Prydain Fawr””;
(ii)yn is-baragraff (b)(i), yn lle “y DU” rhodder “Prydain Fawr”;
(iii)yn lle is-baragraff (b)(ii) rhodder—
“(ii)yn y rhes sy’n ymwneud â gradd “PB” yng ngholofn 2, ym mharagraff (1)(b), yn lle “gradd PB yr Undeb” rhodder “gradd PB Prydain Fawr neu radd gyfatebol”;”;
(n)ym mharagraff (17)—
(i)yn is-baragraff (a), yn lle “yn lle “Undeb” rhodder “Deyrnas Unedig”” rhodder “yn lle “un o raddau’r Undeb” rhodder “un o raddau Prydain Fawr””;
(ii)yn is-baragraff (b)(i), yn lle “y DU” rhodder “Prydain Fawr”;
(iii)yn lle is-baragraff (b)(ii) i (iv) rhodder—
“(ii)yn y rhes sy’n ymwneud â gradd “S”, yng ngholofn 2, ym mharagraff (1)(a), yn lle “radd S yr Undeb” rhodder “radd S Prydain Fawr neu radd gyfatebol”;
(iii)yn y rhes sy’n ymwneud â gradd “SE”, yng ngholofn 2, ym mharagraff (1)(a), yn lle “radd S yr Undeb neu’n radd SE yr Undeb” rhodder “radd S Prydain Fawr, gradd SE Prydain Fawr neu radd gyfatebol”;
(iv)yn y rhes sy’n ymwneud â gradd “E”, yng ngholofn 2—
(aa)ym mharagraff (1)(a), yn lle “radd S yr Undeb neu radd SE yr Undeb” rhodder “radd S Prydain Fawr, gradd SE Prydain Fawr neu radd gyfatebol”;
(bb)ym mharagraff (1)(b), yn lle “radd S yr Undeb, gradd SE yr Undeb neu radd E yr Undeb” rhodder “radd S Prydain Fawr, gradd SE Prydain Fawr, gradd E Prydain Fawr neu radd gyfatebol.”;
(o)yn lle paragraff (18) rhodder—
“(18) Yn Rhan 3, yn Nhabl 3—
(a)ym mhennawd colofn 1, yn lle “yr Undeb” rhodder “Prydain Fawr”;
(b)yng ngholofn 2, yn lle “radd A yr Undeb”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “radd A Prydain Fawr neu radd gyfatebol”;
(c)yng ngholofn 2, yn lle “radd B yr Undeb” rhodder “radd B Prydain Fawr neu radd gyfatebol.”
(4) Hepgorer rheoliadau 3 a 4.
O.S. 2019/738 (Cy. 141), a ddiwygiwyd yn rhagolygol gan O.S. 2019/1281 (Cy. 225), rheoliad 5: mae’r rheoliad hwnnw’n cael ei hepgor gan y Rheoliadau hyn.
O.S. 2015/1953, a ddiwygiwyd gan O.S. 2017/288, O.S. 2019/472, O.S. 2019/1517 ac a ddiwygiwyd yn rhagolygol gan O.S. 2019/809.