xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

EXPLANATORY NOTE

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Rhan 2A o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint neu halogiad yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru. Mae’r Rheoliadau yn gosod gofynion a chyfyngiadau ar unigolion, busnesau ac eraill.

Mae 9 Rhan i’r Rheoliadau.

Mae Rhan 1 yn darparu bod y Rheoliadau hyn yn dod i rym ar 21 Rhagfyr 2020 (ac eithrio Rhan 6 sy’n dod i rym ar 23 Rhagfyr 2020) ac yn dod i ben ar ddiwedd y dydd ar 31 Mawrth 2021. Mae hefyd yn darparu bod rhaid adolygu’r Rheoliadau yn rheolaidd er mwyn sicrhau bod y cyfyngiadau a’r gofynion a osodir yn parhau i fod yn gymesur.

Mae Rhan 2 yn gosod cyfyngiadau ar bobl yn ymgynnull, ar bobl yn teithio ac ar ddefnyddio mangreoedd busnesau neu wasanaethau penodedig sydd fel arfer ar agor i’r cyhoedd. Mae Rhan 2 yn rhoi 4 lefel wahanol o gyfyngiadau yn eu lle a all fod yn gymwys gan ddibynnu ar yr amgylchiadau. Mae’r lefel sy’n gymwys yn seiliedig ar yr hyn y mae Gweinidogion Cymru yn ei ystyried yw’r ymateb priodol a chymesur i fynychder a lledaeniad y coronafeirws.

Mae Atodlen 1 yn nodi’r lefel isaf – sef cyfyngiadau Lefel Rhybudd 1; mae Atodlen 2 yn nodi cyfyngiadau Lefel Rhybudd 2; mae Atodlen 3 yn nodi cyfyngiadau Lefel Rhybudd 3 ac mae Atodlen 4 yn nodi’r lefel uchaf – sef cyfyngiadau Lefel Rhybudd 4 (lle y mae cyfyngiadau caeth ar bobl yn ymgynnull ac yn teithio, a lle y mae’n ofynnol i’r rhan fwyaf o fangreoedd gau). Mae Atodlen 5 yn nodi pa lefel rhybudd sy’n gymwys i ardal. Ar adeg gwneud y Rheoliadau mae’r un lefel rhybudd yn gymwys ledled Cymru, ond gellid diwygio’r Rheoliadau i gymhwyso lefelau rhybudd gwahanol ar sail ranbarthol neu leol (yn ogystal â diwygio lefel y rhybudd ar gyfer Cymru gyfan).

Mae nifer o’r cyfyngiadau yn cyfeirio at y cysyniad o “aelwyd estynedig”. Mae hyn yn galluogi mwy nag un aelwyd i gytuno i ddod at ei gilydd at ddibenion y rheolau drwy ffurfio aelwyd estynedig fwy. Yn ogystal, mae darpariaethau ar wahân sy’n caniatáu i aelwyd un oedolyn (person sy’n byw ar ei ben ei hun neu gyda phlentyn neu oedolyn y mae’n gofalu amdano yn unig) gytuno i ddod at ei gilydd gydag aelwyd arall at y dibenion hyn. Mae’r trefniadau hyn yn gyfyngedig i’r aelwydydd hynny yn unig a rhaid i’r holl oedolion ar bob aelwyd sy’n ffurfio aelwyd estynedig gytuno iddynt.

Ceir crynodeb o’r cyfyngiadau sy’n gymwys ar bob lefel rhybudd isod. Mae’r holl gyfyngiadau yn ddarostyngedig i eithriadau a restrir yn y Rheoliadau.

Pan fydd cyfyngiadau Lefel Rhybudd 1 yn gymwys i ardal:

Pan fydd cyfyngiadau Lefel Rhybudd 2 yn gymwys i ardal:

Pan fydd cyfyngiadau Lefel Rhybudd 3 yn gymwys i ardal:

Pan fydd cyfyngiadau Lefel Rhybudd 4 yn gymwys i ardal:

Mae’r gallu i bobl ddod at ei gilydd ar gyfer digwyddiadau a gweithgareddau a drefnir yn ffurfiol, ac i fangreoedd fod ar agor i’r cyhoedd, yn ddarostyngedig i’r angen i gymryd “pob mesur rhesymol” i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws a’i ledaenu (gweler Rhan 5).

Mae cysylltiad agos rhwng y cyfyngiadau ar ddigwyddiadau a’r cyfyngiadau ar gynulliadau gan y gallai pobl sy’n mynychu digwyddiad hefyd fod yn ymgynnull gydag eraill. Caiff digwyddiad ei ddiffinio yn eang (yn rheoliad 57(4)) fel unrhyw achlysur sydd wedi ei gynllunio neu ei amserlennu at ddiben penodol lle y mae pobl yn yr un man at y diben hwnnw (pa un a ydynt hefyd yn ymgynnull ai peidio).

Fel eithriad i’r system hon, mae Atodlen 6 yn gwneud darpariaeth benodol sy’n addasu’r cyfyngiadau sy’n ymwneud ag aelwydydd estynedig (a theithio i gwrdd ag aelodau o aelwyd estynedig) am y cyfnod rhwng 23 a 27 Rhagfyr 2020 (gyda diwrnod ychwanegol yn cael ei ganiatáu cyn ac ar ôl y cyfnod hwn yn achos personau sy’n teithio o Ogledd Iwerddon ac i Ogledd Iwerddon).

Mae Rhannau 3 i 6 yn gosod cyfyngiadau a gofynion pellach sy’n gymwys yn gyffredinol o dan bob amgylchiad.

Mae Rhan 3 yn gosod gofynion ar bobl sydd wedi cael canlyniad positif am y coronafeirws a’u cysylltiadau agos. Mae rheoliadau 6 a 7 yn darparu na chaiff oedolion na phlant sydd wedi cael canlyniad positif am y coronafeirws ymadael â’r man lle y maent yn byw am 10 niwrnod (ac eithrio o dan yr amgylchiadau y darperir ar eu cyfer gan reoliad 10). Mae rheoliadau 8 a 9 yn darparu na chaiff pobl sydd wedi cael “cysylltiad agos” â rhywun sydd wedi cael canlyniad positif am y coronafeirws ymadael â’r man lle y maent yn byw am 10 niwrnod (ac eithrio o dan yr amgylchiadau y darperir ar eu cyfer gan reoliad 10). Mae’r cyfnod ynysu o 10 niwrnod yn dechrau naill ai’r diwrnod ar ôl i berson gael canlyniad positif, y diwrnod ar ôl y diwrnod y mae person yn rhoi gwybod mai dyna’r diwrnod y profodd y symptomau gyntaf neu’r diwrnod ar ôl i berson gael cysylltiad agos. Mae rheoliad 11 yn darparu eithriad i’r gofyniad i ynysu os yw pobl yn profi’n negyddol yn rheolaidd yn unol â chynllun profi ffurfiol. Mae rheoliad 12 yn ymwneud â rhwymedigaethau oedolion mewn cysylltiad â phlant y mae’n ofynnol iddynt ynysu, mae rheoliad 13 yn galluogi i hysbysiadau a roddir o dan y Rhan hon gan swyddogion olrhain cysylltiadau gael eu tynnu’n ôl ac mae rheoliad 14 yn gwneud darpariaeth ynghylch defnyddio’r wybodaeth a ddelir gan swyddogion olrhain cysylltiadau.

Mae Rhan 4 yn gwneud darpariaeth at ddiben lleihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws mewn mangreoedd sydd ar agor i’r cyhoedd ac mewn gweithleoedd. Mae rheoliad 16 yn gymwys i “mangreoedd rheoleiddiedig” ac mae’n ei gwneud yn ofynnol: (1) i bob mesur rhesymol gael ei gymryd i sicrhau y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng personau yn y fangre; (2) i bob mesur rhesymol arall gael ei gymryd, er enghraifft i gyfyngu ar ryngweithio wyneb yn wyneb agos a chynnal hylendid; a (3) i wybodaeth gael ei darparu i’r rheini sy’n mynd i fangre neu sy’n gweithio mewn mangre ynghylch sut i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws. Mae hefyd yn pennu y gall peidio â chynnal gweithgaredd, cau rhan o fangre, caniatáu i staff ynysu a chasglu gwybodaeth gyswllt oddi wrth y rheini sydd yn y fangre fod yn fesurau rhesymol.

Mae Rhan 5 yn darparu bod rhaid gwisgo gorchuddion wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus, gan gynnwys mewn tacsis, ac mewn mannau penodol o dan do, yn ddarostyngedig i esemptiadau ac eithriadau a restrir.

Mae Rhan 6 yn darparu ar gyfer amgylchiadau pan fo rhaid i ysgolion fod ar agor pan fyddant ar gau fel arall i ganiatáu i blant gweithwyr hanfodol neu blant sy’n agored i niwed fynychu.

Mae Rhan 7 yn ymwneud â gorfodi’r cyfyngiadau a’r gofynion. Mae rheoliad 25 yn gwneud darpariaeth ynghylch y rheini a gaiff gymryd camau gorfodi, mae rheoliad 26 yn gwneud darpariaeth bellach (yn Atodlenni 8 a 9) ynghylch gorfodi’r angen i gymryd camau ataliol o dan reoliad 16, mae rheoliad 27 yn ymwneud â hysbysiadau cydymffurfio, ac mae rheoliad 28 yn ymwneud â phwerau symud a gwasgaru. Mae rheoliadau 29 i 32 yn ymwneud yn benodol â gorfodi’r gofynion mewn perthynas â theithio, ynysu, digwyddiadau a gwisgo gorchudd wyneb ac mae rheoliad 33 yn ymwneud â chymhwyso’r gofynion i blant. Mae rheoliad 34 yn cynnwys pŵer i fynd i fangre, mae rheoliad 35 yn ymwneud â phwerau’r heddlu i gynnal archwiliadau ffyrdd ac mae rheoliad 36 yn gwneud darpariaeth atodol ynghylch arfer pwerau drwy bwerau gorfodi.

Mae Rhan 8 yn gwneud darpariaeth ynghylch troseddau a chosbau. Mae rheoliadau 37 i 43 ym Mhennod 1 yn darparu bod person sydd, heb esgus rhesymol, yn torri’r cyfyngiadau neu’r gofynion y cyfeirir atynt yn cyflawni trosedd. Mae trosedd i’w chosbi drwy ddirwy ddiderfyn (rheoliad 44). Mae Pennod 2 yn caniatáu i droseddau gael eu cosbi drwy hysbysiadau cosb benodedig ac yn gwneud darpariaeth ynghylch sut y cânt eu cymhwyso ac mae Pennod 3 yn ymwneud ag achosion am droseddau o dan y Rheoliadau.

Mae Rhan 9 yn cynnwys termau wedi eu diffinio (rheoliad 57), yn dirymu Rheoliadau blaenorol ac yn gwneud diwygiad canlyniadol.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.