RHAN 2LL+CLefelau o gyfyngiadau ar ymgynnull, ar deithio ac ar ddefnyddio mangreoedd busnesau a gwasanaethau
Lefelau o gyfyngiadauLL+C
4.—(1) Mae Atodlenni 1 i 4 yn nodi cyfyngiadau a gofynion a all fod yn gymwys mewn ardal mewn perthynas ag—
(a)cynulliadau;
(b)trefnu digwyddiadau;
(c)teithio i ardaloedd eraill ac o ardaloedd eraill;
(d)defnyddio mangreoedd busnesau neu wasanaethau penodedig sydd fel arfer yn agored i’r cyhoedd.
(2) Mae’r cyfyngiadau a’r gofynion a nodir yn Atodlen 1 yn gymwys mewn perthynas ag ardal Lefel Rhybudd 1.
(3) Mae’r cyfyngiadau a’r gofynion a nodir yn Atodlen 2 yn gymwys mewn perthynas ag ardal Lefel Rhybudd 2.
(4) Mae’r cyfyngiadau a’r gofynion a nodir yn Atodlen 3 yn gymwys mewn perthynas ag ardal Lefel Rhybudd 3.
(5) Mae’r cyfyngiadau a’r gofynion a nodir yn Atodlen 4 yn gymwys mewn perthynas ag ardal Lefel Rhybudd 4.
(6) Mae Atodlen 5 yn nodi pa un o Atodlenni 1 i 4 sy’n gymwys i ardal drwy bennu lefel ar gyfer yr ardal honno.
F1(7) . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(8) Yn y Rheoliadau hyn—
(a)“ardal Lefel Rhybudd 1” yw ardal a bennir yn y tabl yn Atodlen 5, pan fo’r tabl yn nodi ei bod yn ardal Lefel Rhybudd 1;
(b)“ardal Lefel Rhybudd 2” yw ardal a bennir yn y tabl yn Atodlen 5, pan fo’r tabl yn nodi ei bod yn ardal Lefel Rhybudd 2;
(c)“ardal Lefel Rhybudd 3” yw ardal a bennir yn y tabl yn Atodlen 5, pan fo’r tabl yn nodi ei bod yn ardal Lefel Rhybudd 3;
(d)“ardal Lefel Rhybudd 4” yw ardal a bennir yn y tabl yn Atodlen 5, pan fo’r tabl yn nodi ei bod yn ardal Lefel Rhybudd 4.
Diwygiadau Testunol
F1Rhl. 4(7) wedi ei hepgor (9.1.2021 am 4.00 a.m.) yn rhinwedd Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/20), rhlau. 1(2), 8(2)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 4 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)