Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020

PENNOD 2LL+CGwybodaeth

Pŵer i ddefnyddio a datgelu gwybodaethLL+C

14.—(1Ni chaiff swyddog olrhain cysylltiadau ond datgelu gwybodaeth berthnasol i berson (“deiliad yr wybodaeth”) y mae’n angenrheidiol i ddeiliad yr wybodaeth ei chael—

(a)at ddibenion—

(i)cyflawni swyddogaeth o dan y Rheoliadau hyn,

(ii)atal perygl i iechyd y cyhoedd o ganlyniad i ledaeniad haint neu halogiad â’r coronafeirws, neu

(iii)monitro lledaeniad haint neu halogiad â’r coronafeirws, neu

(b)at ddiben sy’n gysylltiedig â diben a ddisgrifir yn is-baragraff (a) neu sydd fel arall â chysylltiad â’r diben hwnnw.

(2Gwybodaeth berthnasol yw—

(a)pan fo’n ofynnol i berson ynysu yn unol â rheoliad 6(2), 7(2), 8(2) neu 9(2)

(i)gwybodaeth gyswllt a dyddiad geni’r person, neu, pan fo’r person yn blentyn, manylion cyswllt yr oedolyn a hysbysir ei bod yn ofynnol i’r plentyn ynysu a dyddiad geni’r plentyn;

(ii)y dyddiad y rhoddwyd yr hysbysiad o dan reoliad 6(1), 7(1), 8(1) neu 9(1);

(iii)y cyfnod penodol y mae’n ofynnol i’r person beidio ag ymadael â’r man lle y mae’r person yn byw neu fod y tu allan iddo mewn cysylltiad ag ef, wedi ei gyfrifo yn unol â rheoliad 6, 7, 8 neu 9;

[F1(aa)pan fo’n ofynnol i berson ynysu yn unol â rheoliad 11A(2), gwybodaeth gyswllt a dyddiad geni’r person, neu, pan fo’r person yn blentyn, manylion cyswllt yr oedolyn a hysbysir ei bod yn ofynnol i’r plentyn ynysu a dyddiad geni’r plenty.]

(b)cadarnhad na chafodd person ganlyniad positif am y coronafeirws ac enw, gwybodaeth gyswllt a dyddiad geni’r person, neu, pan fo’r person yn blentyn, enw a manylion cyswllt oedolyn a chanddo gyfrifoldeb dros y plentyn yn ogystal ag enw a dyddiad geni’r plentyn.

(3Ni chaiff deiliad yr wybodaeth ddefnyddio gwybodaeth berthnasol a ddatgelir o dan baragraff (1) ond i’r graddau y bo hynny’n angenrheidiol—

(a)at ddibenion—

(i)cyflawni swyddogaeth o dan y Rheoliadau hyn,

(ii)atal perygl i iechyd y cyhoedd o ganlyniad i ledaeniad haint neu halogiad â’r coronafeirws, neu

(iii)monitro lledaeniad haint neu halogiad â’r coronafeirws, neu

(b)at ddiben sy’n gysylltiedig â diben a ddisgrifir ym is-baragraff (a) neu sydd fel arall â chysylltiad â’r diben hwnnw.

(4Yn ddarostyngedig i baragraff (6), ni chaiff deiliad yr wybodaeth ond datgelu hynny o wybodaeth berthnasol i berson arall (y “derbynnydd”) y mae’n angenrheidiol i’r derbynnydd ei chael—

(a)at ddibenion—

(i)cyflawni un o swyddogaethau’r derbynnydd o dan y Rheoliadau hyn,

(ii)atal perygl i iechyd y cyhoedd o ganlyniad i ledaeniad haint neu halogiad â’r coronafeirws, neu

(iii)monitro lledaeniad haint neu halogiad â’r coronafeirws, neu

(b)at ddiben sy’n gysylltiedig â diben a ddisgrifir yn is-baragraff (a) neu sydd fel arall â chysylltiad â’r diben hwnnw.

(5Yn ddarostyngedig i baragraff (7), nid yw datgeliad sydd wedi ei awdurdodi gan y rheoliad hwn yn torri—

(a)rhwymedigaeth o safbwynt cyfrinachedd sy’n ddyledus gan y person sy’n gwneud y datgeliad, na

(b)unrhyw gyfyngiad arall ar ddatgelu gwybodaeth (sut bynnag y’i gorfodir).

(6Nid yw’r rheoliad hwn yn cyfyngu ar yr amgylchiadau pan ganiateir i wybodaeth gael ei datgelu fel arall o dan unrhyw ddeddfiad arall neu reol gyfreithiol.

(7Nid oes unrhyw beth yn y rheoliad hwn yn awdurdodi defnyddio neu ddatgelu data personol pan fo gwneud hynny yn torri’r ddeddfwriaeth diogelu data.

(8Yn y rheoliad hwn, mae i “deddfwriaeth diogelu data” a “data personol” yr un ystyron â “data protection legislation” a “personal data” yn adran 3 o Ddeddf Diogelu Data 2018(1).

Diwygiadau Testunol

F1Rhl. 14(2)(aa) wedi ei fewnosod (24.12.2020 dod i rym am 9.00 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, De Affrica) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1645), rhlau. 1(2), 4(4)

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 14 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)