Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020

[F1RHAN 4ALL+CCymryd mesurau ataliol wrth ymgyrchu mewn etholiad

Gofyniad i gymryd pob mesur rhesymol i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws wrth ymgyrchu mewn etholiadLL+C

18A.(1) Rhaid i berson sy’n gyfrifol am gyflawni neu hwyluso gweithgaredd sy’n cynnwys cymryd rhan mewn cynulliad at ddibenion darbwyllo unrhyw berson i bleidleisio neu i beidio â phleidleisio mewn modd penodol mewn etholiad—

(a)cymryd pob mesur rhesymol i leihau’r risg—

(i)y bydd unrhyw berson sy’n ymwneud â’r gweithgaredd yn dod i gysylltiad â’r coronafeirws, a

(ii)y bydd unrhyw berson o’r fath yn lledaenu’r coronafeirws, a

(b)wrth gymryd y mesurau hynny, roi sylw i unrhyw ganllawiau amdanynt a ddyroddir gan Weinidogion Cymru.

(2) O ran y mesurau sydd i’w cymryd o dan baragraff (1)(a)—

(a)rhaid iddynt gynnwys cymryd pob mesur rhesymol i sicrhau y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng unrhyw bersonau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad (ac eithrio rhwng aelodau o’r un aelwyd neu ofalwr a’r person a gynorthwyir gan y gofalwr), a

(b)gallant gynnwys cymryd mesurau eraill sy’n cyfyngu ar ryngweithio wyneb yn wyneb agos ac yn cynnal hylendid megis—

(i)cyfyngu ar nifer y personau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad;

(ii)gwisgo gorchuddion wyneb;

(iii)cyfyngu ar nifer y personau sy’n trin taflenni neu ddeunyddiau eraill.

(3) O ran Gweinidogion Cymru—

(a)cânt ddiwygio canllawiau a ddyroddir o dan baragraff (1)(b), a

(b)rhaid iddynt gyhoeddi’r canllawiau (ac unrhyw ddiwygiadau). ]