xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
22.—(1) Mae paragraff (3) yn gymwys mewn perthynas â disgybl perthnasol—
(a)os yw mangre’r ysgol y mae’r disgybl wedi ei gofrestru ynddi ar gau i’r disgybl hwnnw am gyfnod o 3 diwrnod ysgol yn olynol o leiaf, a
(b)os yw’r cau mewn ymateb i fygythiad i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad y coronafeirws.
(2) At ddibenion paragraff (1), ystyr “disgybl perthnasol” yw disgybl cofrestredig—
(a)y mae’r awdurdod lleol priodol sy’n cynnal yr ysgol y mae’r disgybl wedi ei gofrestru ynddi yn ystyried ei fod yn blentyn i weithiwr hanfodol, neu
(b)y mae perchennog yr ysgol y mae’r disgybl wedi ei gofrestru ynddi yn ystyried y dylai’r disgybl fynd i’r ysgol oherwydd ei hyglwyfedd.
(3) Rhaid i berchennog yr ysgol y mae’r disgybl wedi ei gofrestru ynddi wneud trefniadau i’r disgybl fynd i fangre ysgol at ddiben darparu addysg ar y trydydd diwrnod ysgol a phob diwrnod ysgol dilynol yn y cyfnod pan fydd mangre’r ysgol y mae’r disgybl wedi ei gofrestru ynddi ar gau.
(4) Ond nid yw paragraff (3) yn gymwys os, ar y diwrnod ysgol o dan sylw—
(a)yw’n ofynnol i’r disgybl beidio ag ymadael â’r man lle y mae’r disgybl yn byw neu beidio â bod y tu allan i’r man hwnnw yn rhinwedd rheoliad 6(2), 7(2), 8(2) [F1neu 9(2)] , neu
(b)os yw’r disgybl yn ynysu fel arall ar ôl—
(i)cael ei hysbysu drwy ap ffôn clyfar Covid 19 y GIG a ddatblygir ac a weithredir gan yr Ysgrifennydd Gwladol, neu
(ii)cael ei gynghori i wneud hynny gan berchennog yr ysgol lle y mae’r disgybl wedi ei gofrestru neu gan ddarparwr gofal plant.
(5) Wrth benderfynu, at ddibenion paragraff (1)(a), a yw mangre ysgol ar gau i ddisgybl, mae’r ffaith y gall y fangre honno fod ar agor yn rhinwedd paragraff (3) i’w diystyru.
(6) Wrth benderfynu a yw disgybl yn blentyn i weithiwr hanfodol, rhaid i’r awdurdod lleol roi sylw i unrhyw ganllawiau a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru ynghylch nodi plant gweithwyr hanfodol.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn rhl. 22(4)(a) wedi eu hamnewid (27.2.2021) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2021 (O.S. 2021/210), rhlau. 1(2), 2(5)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 22 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)
23. Mae unrhyw fethiant gan berchennog i gydymffurfio â rheoliad 22 yn orfodadwy drwy gais am waharddeb gan Weinidogion Cymru neu gan yr awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol i’r Uchel Lys neu’r Llys Sirol, heb rybudd.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 23 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)
24. Yn y Rhan hon—
(a)mae i “ysgol feithrin a gynhelir” yr ystyr a roddir i “maintained nursery school” gan adran 22(9) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(1);
(b)mae i “ysgol a gynhelir” yr ystyr a roddir i “maintained school” gan adran 20(7) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998;
(c)mae i “perchennog” yr ystyr a roddir i “proprietor” gan adran 579(1) o Ddeddf Addysg 1996(2);
(d)mae i “disgybl” yr un ystyr â “pupil” yn adran 3 o Ddeddf Addysg 1996;
(e)mae i “uned cyfeirio disgyblion” yr ystyr a roddir i “pupil referral unit” gan adran 19(2) o Ddeddf Addysg 1996;
(f)mae i “disgybl cofrestredig” yr ystyr a roddir i “registered pupil” gan adran 434(5) o Ddeddf Addysg 1996;
(g)ystyr “ysgol” yw ysgol a gynhelir, ysgol feithrin a gynhelir neu uned cyfeirio disgyblion;
(h)mae i “diwrnod ysgol” yr ystyr a roddir i “school day” gan adran 579(1) o Ddeddf Addysg 1996.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Rhl. 24 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)