Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.

View outstanding changes

Changes and effects yet to be applied to Part 7:

Changes and effects yet to be applied to the whole Instrument associated Parts and Chapters:

Whole provisions yet to be inserted into this Instrument (including any effects on those provisions):

RHAN 7LL+CGorfodi

Swyddogion gorfodaethLL+C

25.—(1At ddibenion rheoliad 26 ac Atodlen 8, ystyr “swyddog gorfodaeth” yw person sydd wedi ei ddynodi gan awdurdod lleol—

(a)at ddibenion y Rheoliadau hyn,

(b)o dan reoliad 17(A1) o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020(1),

(c)o dan reoliad 21(1) o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 3) (Cymru) 2020, neu

(d)o dan reoliad 25(1) o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020.

(2At ddibenion rheoliadau [F114B, 18A,] 19, 20, 27 i 34, 36 a 47, ystyr “swyddog gorfodaeth” yw—

(a)cwnstabl,

(b)swyddog cymorth cymunedol yr heddlu,

(c)person sydd wedi ei ddynodi gan—

(i)Gweinidogion Cymru, neu

(ii)awdurdod lleol,

at ddibenion y Rheoliadau hyn (ond gweler paragraff (3)), neu

(d)person sydd wedi ei ddynodi gan Weinidogion Cymru neu awdurdod lleol o dan—

(i)rheoliad 10(11)(c) o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020(2) yn berson perthnasol (o fewn yr ystyr a roddir gan y rheoliad hwnnw),

(ii)rheoliad 17(1) o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020 at ddibenion y Rheoliadau hynny,

(iii)rheoliad 21(2) o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 3) (Cymru) 2020 at ddibenion y Rheoliadau hynny, neu

(iv)o dan reoliad 25(2) o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020,

(ond gweler paragraff (3)).

(3Ni chaiff person sydd wedi ei ddynodi gan awdurdod lleol arfer swyddogaethau swyddog gorfodaeth ond—

(a)mewn perthynas â thorri gofyniad (neu achos honedig o’i dorri) yn—

(i)rheoliad 16(1) [F2, 17(1) neu 17A]

(ii)paragraff 7(1) F3... o Atodlen 1,

(iii)paragraff 7(1) F4... o Atodlen 2,

(iv)paragraff 7(1), 8(1) neu [F59(1)] o Atodlen 3, neu

(v)paragraff 7(1), 8(1), 9(1) [F6, 10(1) neu 11(3)] o Atodlen 4, neu

(b)o dan ac yn rhinwedd Atodlen 8.

Diwygiadau Testunol

F6Geiriau yn rhl. 25(3)(a)(v) wedi eu hamnewid (22.12.2020 dod i rym am 12.01 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020 (O.S. 2020/1623), rhlau. 1(2), 2(2)

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 25 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

Gorfodi’r gofyniad i gymryd mesurau ataliolLL+C

26.  Mae Atodlenni 8 a 9 yn gwneud darpariaeth ar gyfer rhoi swyddogaethau i swyddogion gorfodaeth at ddiben gorfodi rheoliadau 16(1) [F7, 17(1) a 17A] ac mewn cysylltiad â rhoi’r swyddogaethau hynny.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 26 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

Hysbysiadau cydymffurfioLL+C

27.—(1Caiff swyddog gorfodaeth roi hysbysiad cydymffurfio i berson os oes gan y swyddog sail resymol dros amau bod y person yn torri gofyniad yn—

[F8(za)rheoliad 18A(1),]

(a)rheoliad 19(5),

(b)paragraff 7(1)F9... o Atodlen 1,

(c)paragraff 7(1) F10... o Atodlen 2,

(d)paragraff 7(1), 8(1) neu [F119(1)] o Atodlen 3, neu

(e)paragraff 7(1), 8(1), 9(1) [F12, 10(1) neu 11(3)] o Atodlen 4.

(2Caiff hysbysiad cydymffurfio bennu mesurau y mae rhaid i’r person y’i rhoddir iddo eu cymryd cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol er mwyn atal y person hwnnw rhag parhau i dorri’r gofyniad.

Diwygiadau Testunol

F12Geiriau yn rhl. 27(1)(e) wedi eu hamnewid (22.12.2020 dod i rym am 12.01 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020 (O.S. 2020/1623), rhlau. 1(2), 2(3)

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 27 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

Pwerau symud a gwasgaru: cynulliadau a bod oddi cartrefLL+C

28.—(1Mae paragraff (2) yn gymwys pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person yn cymryd rhan mewn cynulliad mewn annedd breifat yn groes i—

(a)paragraff 1(1) o Atodlen 1,

(b)paragraff 1(1) o Atodlen 2,

(c)paragraff 1(1) o Atodlen 3, neu

(d)paragraff 2(1) o Atodlen 4.

(2Caiff y swyddog gorfodaeth—

(a)cyfarwyddo’r cynulliad i wasgaru;

(b)os oes gan y swyddog sail resymol dros amau nad yw’r person yn byw yn yr annedd—

(i)cyfarwyddo’r person i ymadael â’r annedd;

(ii)symud y person o’r annedd.

(3Mae paragraff (4) yn gymwys pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person yn cymryd rhan mewn cynulliad mewn man ac eithrio annedd breifat yn groes i—

(a)paragraff 2(1) o Atodlen 1,

(b)paragraff 2(1) neu (3) o Atodlen 2,

(c)paragraff 2(1) neu [F133(1)] o Atodlen 3, neu

(d)paragraff 2(1) o Atodlen 4.

(4Caiff y swyddog gorfodaeth—

(a)cyfarwyddo’r cynulliad i wasgaru;

(b)cyfarwyddo’r person i ymadael â’r man lle y mae’r cynulliad yn digwydd;

(c)symud y person o’r man hwnnw.

(5Pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person i ffwrdd o’r man lle y mae’r person yn byw yn groes i baragraff 1(1) o Atodlen 4, caiff y swyddog—

(a)cyfarwyddo’r person i ddychwelyd i’r man lle y mae’r person yn byw;

(b)symud y person i’r man hwnnw.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 28 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

[F14Pwerau sy’n ymwneud â chyfyngiadau teithioLL+C

29.(1) Mae paragraff (2) yn gymwys pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person ar fin ymadael â Chymru i deithio i gyrchfan y tu allan i’r ardal deithio gyffredin, ac eithrio o fan cychwyn, yn groes i reoliad 14A(1)(a).

(2) Caiff y swyddog gorfodaeth gyfarwyddo’r person i beidio ag ymadael â Chymru.

(3) Mae paragraff (4) yn gymwys pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person wedi ymadael â Chymru i deithio i gyrchfan y tu allan i’r ardal deithio gyffredin, ac eithrio o fan cychwyn, yn groes i reoliad 14A(1)(a).

(4) Caiff y swyddog gorfodaeth—

(a)cyfarwyddo’r person i ddychwelyd i Gymru;

(b)dychwelyd y person i Gymru.

(5) Mae paragraff (6) yn gymwys pan fo swyddog gorfodaeth yn ystyried—

(a)bod person (“P”) yn bresennol mewn man cychwyn at ddibenion teithio oddi yno i gyrchfan y tu allan i’r ardal deithio gyffredin, a

(b)bod y gofyniad yn rheoliad 14B(1) yn gymwys i P a bod P wedi methu â chydymffurfio â’r gofyniad.

(6) Caiff y swyddog gorfodaeth gyfarwyddo P i gwblhau ffurflen datganiad teithio rhyngwladol a chaiff bennu amser erbyn pryd y mae’r ffurflen i’w chwblhau.

(7) Mae paragraff (8) yn gymwys—

(a)pan fo swyddog gorfodaeth yn ystyried bod y cyfyngiad yn rheoliad 14A(1) yn gymwys yn achos person (“P”) sy’n bresennol mewn man cychwyn, a

(b)pan fo P naill ai—

(i)yn methu â chydymffurfio â’r gofyniad yn rheoliad 14B(1), ac na fo’n cwblhau’r ffurflen datganiad teithio rhyngwladol pan y’i cyfarwyddir i wneud hynny o dan baragraff (5), neu

(ii)yn darparu ffurflen datganiad teithio rhyngwladol wedi ei chwblhau i’r swyddog gorfodaeth y mae’r swyddog yn ystyried nad yw’n datgelu esgus rhesymol.

(8) Caiff y swyddog gorfodaeth—

(a)cyfarwyddo P i ymadael â’r man cychwyn heb ymadael â’r Deyrnas Unedig;

(b)symud y person o’r man cychwyn.]

Pwerau sy’n ymwneud â thorri gofyniad ynysuLL+C

30.  Pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person i ffwrdd o’r man lle y mae’n byw yn groes i reoliad 6(2), 7(2), 8(2) [F15neu 9(2)] , caiff y swyddog—

(a)cyfarwyddo’r person i ddychwelyd i’r man lle y mae’r person yn byw;

(b)symud y person i’r man hwnnw.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I5Rhl. 30 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

Pwerau sy’n ymwneud â digwyddiadauLL+C

31.—(1Mae paragraff (2) yn gymwys pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person (“P”)—

(a)yn cyflawni trosedd o dan reoliad 39(2);

(b)yn ymwneud â threfnu digwyddiad yn groes i (neu y mae’r swyddog gorfodaeth yn ystyried ei fod yn debygol o fod yn groes i) baragraff 4 o Atodlen 1, paragraff 4 o Atodlen 2, [F16paragraff 5 o Atodlen 3] neu baragraff 4 o Atodlen 4.

(2Caiff y swyddog gorfodaeth—

(a)cyfarwyddo P i ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau y mae’r swyddog yn ystyried eu bod yn angenrheidiol er mwyn stopio’r digwyddiad;

(b)symud P o leoliad y digwyddiad;

(c)cyfarwyddo unrhyw berson i ymadael â’r digwyddiad;

(d)symud unrhyw berson o’r digwyddiad;

(e)pan na fo’r digwyddiad wedi dechrau—

(i)cyfarwyddo P i ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau y mae’r swyddog yn ystyried eu bod yn angenrheidiol er mwyn atal y digwyddiad rhag digwydd;

(ii)symud P o leoliad arfaethedig y digwyddiad.

(3Pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person (“P”) yn ymwneud â threfnu digwyddiad sydd wedi ei awdurdodi o dan baragraff 5 o Atodlen 1, paragraff 5 o Atodlen 2F17... [F18, paragraff 6 o Atodlen 3] neu baragraff 5 o Atodlen 4 y mae’r swyddog yn ystyried ei fod yn cael ei gynnal yn groes i ofyniad, cyfyngiad neu amod arall a bennir mewn perthynas â’r awdurdodiad, caiff y swyddog—

(a)cyfarwyddo P i ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau y mae’r swyddog yn ystyried eu bod yn angenrheidiol er mwyn sicrhau cydymffurfedd â’r gofyniad, y cyfyngiad neu’r amod arall;

(b)cyfarwyddo P i ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau y mae’r swyddog yn ystyried eu bod yn angenrheidiol er mwyn stopio’r digwyddiad;

(c)symud P o leoliad y digwyddiad;

(d)cyfarwyddo unrhyw berson i ymadael â’r digwyddiad;

(e)symud unrhyw berson o’r digwyddiad.

Diwygiadau Testunol

F17Geiriau yn rhl. 31(3) wedi eu hepgor (13.3.2021 yn union cyn dechrau'r diwrnod) yn rhinwedd Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2021 (O.S. 2021/307), rhlau. 1(2), 2(3)

Gwybodaeth Cychwyn

I6Rhl. 31 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

Gorfodi gofynion gorchuddion wynebLL+C

32.—(1Pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person yn torri (neu ar fin torri) rheoliad 19(1), caiff y swyddog—

(a)cyfarwyddo’r person i beidio â mynd i’r cerbyd sy’n darparu’r gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus o dan sylw;

(b)symud y person o’r cerbyd.

(2Pan fo gan—

(a)gweithredwr gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus,

(b)cyflogai i’r gweithredwr, neu

(c)person sydd wedi ei awdurdodi gan y gweithredwr,

sail resymol dros amau bod person ar fin torri rheoliad 19(1), caiff y gweithredwr, y cyflogai neu’r person awdurdodedig gyfarwyddo’r person i beidio â mynd i’r cerbyd sy’n darparu’r gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus o dan sylw.

(3Pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person yn torri (neu ar fin torri) rheoliad 20(1), caiff y swyddog—

(a)cyfarwyddo’r person i beidio â mynd i’r fangre;

(b)symud y person o’r fangre.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Rhl. 32 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

Gorfodi: plantLL+C

33.—(1Pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person (“P”) y caiff y swyddog arfer pŵer mewn cysylltiad ag ef o dan y Rhan hon yn blentyn gydag unigolyn (“U”) a chanddo gyfrifoldeb dros P—

(a)caiff y swyddog gyfarwyddo U i gymryd unrhyw gamau gweithredu mewn cysylltiad â P y mae’r swyddog yn ystyried eu bod yn briodol, a

(b)rhaid i U, i’r graddau y mae’n rhesymol ymarferol, sicrhau bod P yn cydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd neu gyfarwyddiad a roddir gan y swyddog i P.

(2At ddibenion paragraff (1), mae gan U gyfrifoldeb dros blentyn os oes gan U—

(a)gwarchodaeth neu ofal am y plentyn am y tro, neu

(b)cyfrifoldeb rhiant dros y plentyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I8Rhl. 33 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

Pŵer mynediadLL+C

34.—(1Caiff swyddog gorfodaeth fynd i fangre—

(a)os oes gan y swyddog sail resymol dros amau bod gofyniad a osodir gan y Rheoliadau hyn yn cael, wedi cael neu ar fin cael ei dorri yn y fangre, a

(b)os yw’n ystyried ei bod yn angenrheidiol mynd i’r fangre at ddiben canfod a yw’r gofyniad yn cael, wedi cael neu ar fin cael ei dorri.

(2Caiff swyddog gorfodaeth sy’n mynd i fangre yn unol â pharagraff (1) fynd ag unrhyw bersonau eraill, cyfarpar a deunyddiau i’r fangre y mae’n ymddangos i’r swyddog eu bod yn briodol.

(3Rhaid i swyddog gorfodaeth sy’n mynd i fangre yn unol â pharagraff (1)

(a)os gofynnir iddo gan berson yn y fangre, ddangos tystiolaeth o bwy yw’r swyddog ac amlinellu’r diben yr arferir y pŵer ato;

(b)os nad yw’r fangre wedi ei meddiannu neu os yw’r meddiannydd yn absennol dros dro, adael y fangre wedi ei diogelu rhag mynediad anawdurdodedig yr un mor effeithiol ag yr oedd pan aeth y swyddog iddi.

(4Ni chaiff swyddog gorfodaeth fynd i fangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf fel annedd breifat onid yw’r swyddog gorfodaeth yn gwnstabl.

Gwybodaeth Cychwyn

I9Rhl. 34 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

Pŵer yr heddlu i gynnal archwiliadau ar y ffyrddLL+C

35.—(1At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr “archwiliad ar y ffordd” yw arfer y pŵer a roddir gan adran 163 o Ddeddf Traffig Ffyrdd 1988(3) mewn ardal yn y fath fodd i stopio, yn ystod y cyfnod pan fydd y pŵer hwnnw yn parhau i gael ei arfer yn yr ardal honno, bob cerbyd neu gerbydau sydd wedi eu dethol yn ôl unrhyw faen prawf.

(2Caiff cwnstabl gynnal archwiliad ar y ffordd at ddiben canfod a yw cerbyd yn cario person y mae’r cwnstabl yn credu’n rhesymol—

(a)ei fod wedi cyflawni, neu

(b)ei fod yn bwriadu cyflawni

trosedd o dan y Rheoliadau hyn.

(3Rhaid i archwiliad ar y ffordd gael ei awdurdodi gan gwnstabl o reng uwch-arolygydd neu’n uwch.

(4Ond caiff cwnstabl o dan y rheng honno awdurdodi archwiliad ar y ffordd os yw’r cwnstabl yn ystyried ei fod yn angenrheidiol fel mater o frys.

(5Caiff cwnstabl awdurdodi archwiliad ar y ffordd os oes gan y cwnstabl sail resymol dros gredu bod person y cyfeirir ato ym mharagraff (2) yn yr ardal y byddai cerbydau’n cael eu stopio ynddi, neu ar fin bod yn yr ardal honno.

(6Rhaid i awdurdodiad fod yn ysgrifenedig a rhaid iddo bennu—

(a)yr ardal y mae cerbydau i’w stopio ynddi;

(b)y cyfnod, nad yw’n hwy na 7 niwrnod, pan ganiateir cynnal yr archwiliad ar y ffordd;

(c)a yw’r archwiliad ar y ffordd i’w gynnal—

(i)yn barhaus drwy gydol y cyfnod, neu

(ii)ar adegau penodol yn ystod y cyfnod (ac yn yr achos hwnnw rhaid i’r awdurdodiad bennu’r adegau hynny);

(d)enw’r cwnstabl sy’n rhoi’r awdurdodiad.

(7Pan fo archwiliad ar y ffordd wedi ei awdurdodi o dan baragraff (4)

(a)ni chaiff y cyfnod a bennir ym mharagraff (6)(b) fod yn hwy na 2 ddiwrnod;

(b)rhaid i’r cwnstabl sy’n rhoi’r awdurdodiad, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl rhoi’r awdurdodiad, roi gwybod i gwnstabl o reng uwch-arolygydd neu’n uwch ei fod wedi ei roi.

(8Caiff cwnstabl o reng uwch-arolygydd neu’n uwch roi awdurdodiad yn ysgrifenedig i archwiliad ar y ffordd barhau am gyfnod pellach, nad yw’n hwy na 7 niwrnod, y tu hwnt i’r cyfnod yr awdurdodwyd yr archwiliad ar y ffordd amdano yn wreiddiol.

(9Pan fo cerbyd yn cael ei stopio yn ystod archwiliad ar y ffordd, mae gan y person sy’n gyfrifol am y cerbyd ar yr adeg pan yw’n cael ei stopio hawlogaeth i gael datganiad ysgrifenedig am ddiben yr archwiliad ar y ffordd drwy gyflwyno cais yn ysgrifenedig—

(a)i’r heddlu sy’n gyfrifol am yr ardal lle y cynhelir yr archwiliad ar y ffordd, a

(b)heb fod yn hwyrach na diwedd y cyfnod o 12 mis o’r diwrnod pan stopiwyd y cerbyd.

Gwybodaeth Cychwyn

I10Rhl. 35 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

Gorfodi: darpariaeth atodolLL+C

36.—(1Caiff swyddog gorfodaeth gymryd camau gweithredu eraill i hwyluso arfer pŵer a roddir i’r swyddog gan y Rhan hon.

(2Caiff y camau gweithredu a gymerir o dan baragraff (1) gynnwys—

(a)ei gwneud yn ofynnol i berson roi unrhyw wybodaeth neu ateb unrhyw gwestiwn y mae’r swyddog yn ystyried—

(i)ei bod neu ei fod yn angenrheidiol er mwyn galluogi’r swyddog i benderfynu pa un ai i arfer pŵer a roddir i’r swyddog gan y Rhan hon, neu

(ii)ei bod neu ei fod yn berthnasol fel arall i arfer pŵer o’r fath;

(b)cyfarwyddo person i ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau y mae’r swyddog yn ystyried eu bod yn angenrheidiol.

(3Caiff cwnstabl ddefnyddio grym rhesymol wrth arfer pŵer o dan—

(a)rheoliad 28(2)(b)(ii), (4)(c) neu (5)(b);

(b)rheoliad 29(4)(b) neu (8)(b);

(c)rheoliad 30(b);

(d)rheoliad 31(2)(b), (d) neu (e)(ii), neu (3)(c) neu (e);

(e)rheoliad 32(1)(b) neu (3)(b);

(f)rheoliad 34(1).

(4Ni chaiff swyddog gorfodaeth ond arfer pŵer o dan y Rhan hon os yw’r swyddog yn ystyried ei bod yn angenrheidiol ac yn gymesur gwneud hynny.

(5Yn y Rhan hon a Rhan 8, mae cyfeiriadau at ofyniad yn cynnwys cyfeiriadau at gyfyngiad.

Gwybodaeth Cychwyn

I11Rhl. 36 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

(3)

1988 p. 52, fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Traffig Ffyrdd 1991 (p. 40) a Deddf Rheoli Traffig 2004 (p. 18).

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

You have chosen to open The Whole Instrument

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Instrument as a PDF

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open yr Offeryn Cyfan

Yr Offeryn Cyfan you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open Schedules only

Y Rhestrau you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Gweler y wybodaeth ychwanegol ochr yn ochr â’r cynnwys

Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Llinell Amser Newidiadau

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill