Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about advanced features

Nodweddion Uwch

 Help about opening options

Dewisiadau AgorExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Adran 11A

 Help about opening options

Fersiwn wedi'i ddisodliFersiwn wedi ei ddisodli: 22/01/2021

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 15/01/2021. Mae'r fersiwn hon o'r hwn (hon) disodlwyd y ddarpariaeth. Help about Status

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau. Help about Changes to Legislation

[F1Gofyniad i ynysu: darpariaeth benodol ar gyfer pobl sydd yng Nghymru ar 9 Ionawr 2021 ac sydd wedi bod mewn gwledydd penodol yn y 10 niwrnod blaenorol]LL+C

11A.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo person (“P”)—

(a)yng Nghymru am [F24.00 a.m. ar 9 Ionawr 2021] ,

(b)wedi cyrraedd Cymru o fewn y cyfnod o 10 o ddiwrnodau sy’n dod i ben yn union cyn [F34.00 a.m. ar 9 Ionawr 2021] , ac

(c)wedi bod [F4mewn gwlad restredig] o fewn y cyfnod hwnnw.

(2Oni bai fod rheoliad 11B yn gymwys ni chaiff P, nac unrhyw berson sy’n byw ar yr un aelwyd â P, adael y man lle maent yn byw, neu fod y tu allan iddo, tan ddiwedd y cyfnod o 10 diwrnod sy’n dechrau ar y diwrnod [F5yr oedd P mewn gwlad restredig ddiwethaf] .

(3Os yw swyddog olrhain cysylltiadau yn gofyn am hynny, rhaid i P hysbysu’r swyddog—

(a)am enw pob person sy’n byw yn y man lle y mae P yn byw, a

(b)am gyfeiriad y man hwnnw.”

[F6(4) At ddibenion y rheoliad hwn, mae’r gwledydd a ganlyn yn wledydd rhestredig —

(a)Teyrnas Eswatini;

(b)Teyrnas Lesotho;

(c)Gweriniaeth Angola;

(d)Gweriniaeth Botswana;

(e)Gweriniaeth Malaŵi;

(f)Gweriniaeth Mauritius;

(g)Gweriniaeth Mozambique;

(h)Gweriniaeth Namibia;

(i)Gweriniaeth Seychelles;

(j)Gweriniaeth Zambia;

(k)Gweriniaeth Zimbabwe.]

Yn ôl i’r brig

Options/Cymorth