[Cyfyngiad ar deithio rhyngwladolLL+C
14A.—(1) Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol—
(a)ymadael â Chymru i deithio i gyrchfan y tu allan i’r ardal deithio gyffredin, neu
(b)teithio i fan cychwyn, neu fod yn bresennol ynddo, at ddiben teithio oddi yno i gyrchfan y tu allan i’r ardal deithio gyffredin.
(2) At ddibenion paragraff (1), mae gan berson esgus rhesymol—
(a)os yw’r diben y mae’r person yn teithio i gyrchfan y tu allan i’r ardal deithio gyffredin ato yn rhesymol angenrheidiol ac nad oes dewis arall sy’n rhesymol ymarferol;
(b)os yw un o’r amgylchiadau ym mharagraff (4) yn gymwys.
(3) Mae enghreifftiau o’r dibenion y gall fod yn rhesymol angenrheidiol i berson deithio i gyrchfan y tu allan i’r ardal deithio gyffredin atynt yn cynnwys—
(a)cael neu ddarparu cynhorthwy meddygol;
(b)osgoi salwch, anaf neu risg arall o niwed;
(c)gweithio neu ddarparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol;
(d)cyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol, gan gynnwys mynd i’r llys neu fodloni amodau mechnïaeth, neu gymryd rhan mewn achos cyfreithiol;
(e)darparu, cael neu gael gafael ar ofal neu gynhorthwy, gan gynnwys gofal plant neu ofal personol perthnasol o fewn ystyr “relevant personal care” ym mharagraff 7(3B) o Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006(), pan fo’r person sy’n cael y gofal yn berson hyglwyf;
(f)mewn perthynas â phlant nad ydynt yn byw ar yr un aelwyd â’u rhieni, neu un o’u rhieni, parhau â threfniadau presennol ar gyfer gweld rhieni a phlant, a chyswllt rhyngddynt, ac at ddibenion y paragraff hwn, mae “rhiant” yn cynnwys person nad yw’n rhiant i’r plentyn, ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn neu sydd â gofal drosto;
(g)symud cartref;
(h)ymgymryd â gweithgareddau mewn cysylltiad â phrynu, gwerthu, gosod neu rentu eiddo preswyl;
(i)cael gafael ar wasanaethau addysgol neu gael y gwasanaethau hynny.
(4) Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2)(b) yw bod y person yn—
(a)darparu neu’n cael cynhorthwy brys;
(b)mynd i weinyddiad priodas, ffurfiad partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall—
(i)fel parti i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas arall, neu
(ii)fel gofalwr parti i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas arall;
(c)mynd i angladd—
(i)fel person sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd,
(ii)os caiff ei wahodd gan berson sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd, neu
(iii)fel gofalwr person sy’n mynd i’r angladd;
(d)athletwr elît ac yn teithio at ddibenion hyfforddi neu gystadlu;
(e)darparu hyfforddiant neu gymorth arall i athletwr elît, neu’n darparu cymorth mewn—
(i)digwyddiad chwaraeon elît, neu
(ii)digwyddiad chwaraeon sy’n digwydd y tu allan i’r ardal deithio gyffredin;
(f)teithio er mwyn pleidleisio mewn etholiad.
(5) Nid yw paragraffau (1) a (2) yn gymwys i berson y cyfeirir ato yn Atodlen 5A.
(6) Yn y rheoliad hwn, ac yn rheoliadau 14B a 29—
(a)mae i “yr ardal deithio gyffredin” yr un ystyr â “the common travel area” yn Neddf Mewnfudo 1971();
(b)ystyr “man cychwyn” yw terfynfa ryngwladol neu unrhyw fan arall yng Nghymru y caiff person deithio ohono i gyrchfan y tu allan i’r Deyrnas Unedig.]