Mesurau penodol sy’n gymwys i fangreoedd trwyddedigLL+C
17.—[(1) Pan fo rheoliad 16(1) yn gymwys i berson sy’n gyfrifol am fangre sydd wedi ei hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol i’w yfed yn y fangre, mae’r mesurau sydd i’w cymryd gan y person cyfrifol yn cynnwys y canlynol (ond nid ydynt yn gyfyngedig iddynt)—
(a)cael person sy’n rheoli mynediad i’r fangre ...;
(b)ei gwneud yn ofynnol i gwsmeriaid fod yn eistedd yn y fangre yn unrhyw le ac eithrio wrth far—
(i)pan fyddant yn archebu bwyd neu ddiod,
(ii)pan weinir bwyd neu ddiod iddynt, a
(iii)pan fyddant yn bwyta neu’n yfed.]
(3) Ond pan fo bwyd yn cael ei ddarparu yn y fangre ar sail bwffe, caiff cwsmeriaid ddewis bwyd o’r bwffe a dychwelyd i’r man lle y maent yn eistedd.
(4) Nid yw paragraff (1) [ yn gymwys i—
(a)ffreuturau yn y gweithle, neu
(b)mangreoedd mewn sefydliad addysgol.
(5) At ddibenion paragraff (1)—
(a)nid yw bwyd neu ddiod a werthir mewn llety gwyliau neu lety teithio fel rhan o wasanaeth ystafell i’w drin neu i’w thrin fel pe bai’n cael ei werthu i’w fwyta yn y fangre neu ei gwerthu i’w hyfed yn y fangre;
(b)mae bwyd neu ddiod a werthir i’w fwyta neu i’w hyfed mewn ardal sy’n gyfagos i’r fangre lle y mae seddi yn cael eu rhoi ar gael i gwsmeriaid i’w drin neu i’w thrin fel pe bai’n cael ei werthu i’w fwyta yn y fangre neu ei gwerthu i’w hyfed yn y fangre.
(6) Pan fo mangre reoleiddiedig nad yw wedi ei hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol i’w yfed yn y fangre yn caniatáu i gwsmeriaid yfed eu halcohol eu hunain yn y fangre, mae paragraffau (1) i (4) yn gymwys i’r fangre honno fel y maent yn gymwys i fangreoedd sydd wedi eu hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol i’w yfed yn y fangre.]
Diwygiadau Testunol
Gwybodaeth Cychwyn