xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 4LL+CCymryd mesurau ataliol mewn mangreoedd rheoleiddiedig

[F1Mesurau penodol sy’n gymwys i fangreoedd manwerthuLL+C

17A.  Pan fo rheoliad 16(1) yn gymwys i berson sy’n gyfrifol am fangre fanwerthu busnes sy’n cynnig nwyddau neu wasanaethau ar gyfer eu gwerthu neu eu llogi yn y fangre honno (gan gynnwys busnesau sy’n gwerthu bwyd neu ddiod i’w fwyta neu i’w hyfed oddi ar y fangre), mae’r mesurau sydd i’w cymryd gan y person cyfrifol yn cynnwys y canlynol (ond nid ydynt yn gyfyngedig iddynt)—

(a)mesurau ar gyfer rheoli mynediad i’r fangre a chyfyngu ar nifer y cwsmeriaid sydd yn y fangre ar unrhyw adeg;

(b)darparu cynhyrchion diheintio dwylo neu gyfleusterau golchi dwylo i’w defnyddio gan gwsmeriaid pan fyddant yn mynd i’r fangre ac yn ymadael â hi;

(c)mesurau i ddiheintio unrhyw fasgedi, trolïau neu gynwysyddion tebyg a ddarperir i gwsmeriaid eu defnyddio yn y fangre;

(d)er mwyn atgoffa cwsmeriaid i gynnal pellter o 2 fetr rhyngddynt ac i wisgo gorchudd wyneb—

(i)arddangos arwyddion a chymhorthion gweledol eraill;

(ii)gwneud cyhoeddiadau yn rheolaidd.]