Canllawiau ynghylch cymryd mesurau rhesymolLL+C
18.—(1) Rhaid i berson y mae’n ofynnol iddo gymryd mesurau rhesymol o dan reoliad 16(1) [F1, 17(1) neu 17A] roi sylw i ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru ynghylch y mesurau hynny.
(2) O ran Gweinidogion Cymru—
(a)cânt ddiwygio canllawiau a ddyroddir o dan baragraff (1), a
(b)rhaid iddynt gyhoeddi’r canllawiau (ac unrhyw ddiwygiadau).
(3) Caiff canllawiau o dan y rheoliad hwn gynnwys (drwy gyfeirio neu drosi) ganllawiau, codau ymarfer neu ddogfennau eraill a gyhoeddir gan berson arall (er enghraifft, cymdeithas fasnach, corff sy’n cynrychioli aelodau o ddiwydiant neu undeb llafur).
(4) Mae canllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru o dan—
(a)paragraff (1) o reoliad 20 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 3) (Cymru) 2020(1), neu
(b)paragraff (1) o reoliad 24 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020(2),
i’w trin fel pe baent yn ganllawiau a ddyroddir o dan baragraff (1) o’r rheoliad hwn.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn rhl. 18(1) wedi eu hamnewid (20.1.2021) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) 2021 (O.S. 2021/57), rhlau. 1(2), 2(5)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 18 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)
O.S. 2020/1219 (Cy. 276), fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2020/1237 (Cy. 279), O.S. 2020/1288 (Cy. 286), O.S. 2020/1409 (Cy. 311), O.S. 2020/1477 (Cy. 316) ac O.S. 2020/1522 (Cy. 326).