xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Please note that the date you requested in the address for this web page is not an actual date upon which a change occurred to this item of legislation. You are being shown the legislation from , which is the first date before then upon which a change was made.
28.—(1) Mae paragraff (2) yn gymwys pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person yn cymryd rhan mewn cynulliad mewn annedd breifat yn groes i—
(a)paragraff 1(1) o Atodlen 1,
(b)paragraff 1(1) o Atodlen 2,
(c)paragraff 1(1) o Atodlen 3, neu
(d)paragraff 2(1) o Atodlen 4.
(2) Caiff y swyddog gorfodaeth—
(a)cyfarwyddo’r cynulliad i wasgaru;
(b)os oes gan y swyddog sail resymol dros amau nad yw’r person yn byw yn yr annedd—
(i)cyfarwyddo’r person i ymadael â’r annedd;
(ii)symud y person o’r annedd.
(3) Mae paragraff (4) yn gymwys pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person yn cymryd rhan mewn cynulliad mewn man ac eithrio annedd breifat yn groes i—
(a)paragraff 2(1) o Atodlen 1,
(b)paragraff 2(1) neu (3) o Atodlen 2,
(c)paragraff 2(1) neu [F13(1)] o Atodlen 3, neu
(d)paragraff 2(1) o Atodlen 4.
(4) Caiff y swyddog gorfodaeth—
(a)cyfarwyddo’r cynulliad i wasgaru;
(b)cyfarwyddo’r person i ymadael â’r man lle y mae’r cynulliad yn digwydd;
(c)symud y person o’r man hwnnw.
(5) Pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person i ffwrdd o’r man lle y mae’r person yn byw yn groes i baragraff 1(1) o Atodlen 4, caiff y swyddog—
(a)cyfarwyddo’r person i ddychwelyd i’r man lle y mae’r person yn byw;
(b)symud y person i’r man hwnnw.
Diwygiadau Testunol
F1Gair yn rhl. 28(3)(c) wedi ei amnewid (26.4.2021 yn union cyn dechrau'r diwrnod) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 8) 2021 (O.S. 2021/502), rhlau. 1(2), 2(6)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 28 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)