xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
29.—(1) Mae paragraff (2) yn gymwys pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person ar fin mynd i ardal yn groes i—
(a)paragraff 6(1) o Atodlen 1,
(b)paragraff 6(1) o Atodlen 2,
(c)paragraff 6(1) o Atodlen 3, neu
(d)paragraff 6(1) o Atodlen 4.
(2) Caiff y swyddog gorfodaeth gyfarwyddo’r person i beidio â mynd i’r ardal.
(3) Mae paragraff (4) yn gymwys pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person mewn ardal yn groes i—
(a)paragraff 6(1) o Atodlen 1,
(b)paragraff 6(1) o Atodlen 2,
(c)paragraff 6(1) o Atodlen 3, neu
(d)paragraff 6(1) o Atodlen 4.
(4) Caiff y swyddog gorfodaeth—
(a)cyfarwyddo’r person i ymadael â’r ardal;
(b)symud y person o’r ardal.
(5) Mae paragraff (6) yn gymwys pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person ar fin ymadael ag ardal yn groes i—
(a)paragraff 6(2) o Atodlen 1,
(b)paragraff 6(2) o Atodlen 2, neu
(c)paragraff 6(2) o Atodlen 3.
(6) Caiff y swyddog gorfodaeth gyfarwyddo’r person i beidio ag ymadael â’r ardal.
(7) Mae paragraff (8) yn gymwys pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person wedi ymadael ag ardal yn groes i—
(a)paragraff 6(2) o Atodlen 1,
(b)paragraff 6(2) o Atodlen 2, neu
(c)paragraff 6(2) o Atodlen 3.
(8) Caiff y swyddog gorfodaeth—
(a)cyfarwyddo’r person i ddychwelyd i’r ardal;
(b)dychwelyd y person i’r ardal.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 29 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)