Print Options
PrintThe Whole
Instrument
PrintThe Whole
Part
PrintThis
Section
only
Newidiadau dros amser i: Adran 36
Llinell Amser Newidiadau
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Statws
Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 28/01/2022.
Newidiadau i ddeddfwriaeth:
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.
Changes to Legislation
Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.
Gorfodi: darpariaeth atodolLL+C
36.—(1) Caiff swyddog gorfodaeth gymryd camau gweithredu eraill i hwyluso arfer pŵer a roddir i’r swyddog gan y Rhan hon.
(2) Caiff y camau gweithredu a gymerir o dan baragraff (1) gynnwys—
(a)ei gwneud yn ofynnol i berson roi unrhyw wybodaeth neu ateb unrhyw gwestiwn y mae’r swyddog yn ystyried—
(i)ei bod neu ei fod yn angenrheidiol er mwyn galluogi’r swyddog i benderfynu pa un ai i arfer pŵer a roddir i’r swyddog gan y Rhan hon, neu
(ii)ei bod neu ei fod yn berthnasol fel arall i arfer pŵer o’r fath;
(b)cyfarwyddo person i ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau y mae’r swyddog yn ystyried eu bod yn angenrheidiol.
(3) Caiff cwnstabl ddefnyddio grym rhesymol wrth arfer pŵer o dan—
(a)rheoliad 28(2)(b)(ii), (4)(c) neu (5)(b);
(b)rheoliad 29(4)(b) neu (8)(b);
(c)rheoliad 30(b);
(d)rheoliad 31(2)(b), (d) neu (e)(ii), neu (3)(c) neu (e);
(e)rheoliad 32(1)(b) neu (3)(b);
(f)rheoliad 34(1).
(4) Ni chaiff swyddog gorfodaeth ond arfer pŵer o dan y Rhan hon os yw’r swyddog yn ystyried ei bod yn angenrheidiol ac yn gymesur gwneud hynny.
(5) Yn y Rhan hon a Rhan 8, mae cyfeiriadau at ofyniad yn cynnwys cyfeiriadau at gyfyngiad.
Yn ôl i’r brig