Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020

Troseddau sy’n ymwneud â gofynion ynysu ac olrhain cysylltiadauLL+C

40.—(1Mae person sydd—

(a)yn torri gofyniad yn rheoliad 6(2), 7(2), 8(2), 9(2) F1... neu 12, neu

(b)heb esgus rhesymol, yn torri gofyniad yn rheoliad 6(3), 7(3), 8(3) [F2neu 9(3)] ,

yn cyflawni trosedd.

(2Mae’n drosedd i berson (“P”) roi gwybodaeth anwir neu gamarweiniol i swyddog olrhain cysylltiadau—

(a)o dan reoliad 6(3), 7(3), 8(3) [F3neu 9(3)] , neu

(b)ynghylch—

(i)gwybodaeth gyswllt P, neu

(ii)personau y gall P fod wedi dod i gysylltiad agos â hwy,

pan fo P yn gwybod bod yr wybodaeth yn anwir neu’n gamarweiniol, neu pan fo P yn ddi-hid o ran a yw’r wybodaeth yn anwir neu’n gamarweiniol.

(3Ym mharagraff (2), mae i “cysylltiad agos” yr un ystyr ag yn Rhan 3.