xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 8LL+CTroseddau a chosbau

PENNOD 1LL+CTroseddau

Rhwystro a thorri cyfarwyddydau a hysbysiadau cydymffurfioLL+C

43.—(1Mae person sy’n rhwystro, heb esgus rhesymol, unrhyw berson rhag cyflawni swyddogaeth o dan y Rheoliadau hyn yn cyflawni trosedd.

(2Mae person sydd, heb esgus rhesymol—

(a)yn torri cyfarwyddyd a roddir—

(i)gan swyddog gorfodaeth o dan Ran 7, neu

(ii)gan weithredwr gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus, cyflogai i’r gweithredwr, neu berson sydd wedi ei awdurdodi gan y gweithredwr, o dan reoliad 32(2), neu

(b)yn methu â chydymffurfio â hysbysiad cydymffurfio a roddir gan swyddog gorfodaeth o dan reoliad 27(1),

yn cyflawni trosedd.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 43 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)