Print Options
PrintThe Whole
Instrument
PrintThe Whole
Schedule
PrintThe Whole
Part
PrintThis
Section
only
Statws
Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 20/12/2020. Mae'r fersiwn hon o'r hwn (hon) disodlwyd y ddarpariaeth.
Statws
Rydych yn edrych ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth fel yr oedd ar bwynt penodol mewn amser. Mae fersiwn ddiweddarach o hyn neu ddarpariaeth, gan gynnwys newidiadau ac effeithiau dilynol, yn disodli'r fersiwn hon.
Sylwer bod y term darpariaeth yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio elfen ddiffiniadwy mewn darn o ddeddfwriaeth sy'n cael effaith ddeddfwriaethol – fel Rhan, Pennod neu adran.
Newidiadau i ddeddfwriaeth:
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.
Changes to Legislation
Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.
Aelwydydd estynedigLL+C
3.—(1) Caiff 2 aelwyd gytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig.
(2) Yn ychwanegol at y 2 aelwyd a gaiff gytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig o dan is-baragraff (1), caiff 1 aelwyd un oedolyn hefyd gytuno i gael ei thrin fel rhan o’r aelwyd estynedig honno.
(3) Er mwyn cytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig, rhaid i’r holl aelodau o’r 2 aelwyd sy’n oedolion gytuno.
(4) Ni chaiff aelwyd ond cytuno i gael ei thrin fel pe bai’n rhan o 1 aelwyd estynedig.
(5) Pan fo aelwydydd wedi cytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig o dan baragraff 3 o Atodlen 1 dim ond rhwng yr aelwydydd hynny y caniateir gwneud cytundeb o dan y paragraff hwn.
(6) Pan fo aelwydydd wedi cytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig o dan—
(a)paragraff 3 o Atodlen 3, neu
(b)paragraff 3 o Atodlen 4,
mae’r aelwydydd hynny i’w trin fel pe baent wedi cytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig o dan y paragraff hwn.
(7) Mae aelwyd yn peidio â chael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig os yw unrhyw aelod o’r aelwyd sy’n oedolyn yn peidio â chytuno i gael ei drin fel pe bai’n rhan o’r aelwyd estynedig.
(8) Os yw aelwyd yn peidio â chael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig, ni chaiff yr aelwyd gytuno i gael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig gydag unrhyw aelwyd arall.
(9) Yn yr Atodlen hon, mae cyfeiriadau at aelwyd estynedig yn gyfeiriadau at aelwyd estynedig a ffurfir o dan neu yn rhinwedd y paragraff hwn.
Yn ôl i’r brig