- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
9.—(1) Nid yw paragraff 8(1) yn gymwys i—
(a)mangre mewn—
(i)porthladd môr;
(ii)maes awyr;
(iii)sefydliad addysgol;
(iv)ysbyty neu gartref gofal;
(b)ffreuturau yn y gweithle, pan na fo dewis ymarferol arall i bobl yn y gweithle hwnnw gael bwyd neu ddiod rhwng 6.00 p.m. a 6.00 a.m.;
(c)mangre a ddefnyddir ar gyfer darparu bwyd neu ddiod i bobl ddigartref.
(2) Nid yw paragraff 8(1) yn atal mangre rhag cael ei defnyddio i werthu neu gyflenwi bwyd neu ddiod i’w fwyta neu i’w hyfed oddi ar y fangre.
(3) Os—
(a)yw dathliad priodas, ffurfiad partneriaeth sifil neu briodas arall yn cael ei gynnal neu ei chynnal mewn mangre y mae paragraff 8 yn gymwys iddi, a
(b)archebwyd y dathliad fwy nag wythnos cyn y dechreuodd y paragraff hwn fod yn gymwys ddiweddaraf i’r ardal y mae’r fangre wedi ei lleoli ynddi,
caiff y fangre, er gwaethaf paragraff 8(1)(b), aros ar agor tan 10.00 p.m. at ddibenion cynnal y dathliad.
(4) Mae is-baragraffau (5) a (6) yn gymwys pan fo mangre busnes bwyd a diod (“y fangre o dan gyfyngiadau”) yn ffurfio rhan o fangre llety gwyliau neu lety teithio.
(5) Nid yw paragraff 8(1)—
(a)yn ei gwneud yn ofynnol i’r fangre o dan gyfyngiadau fod ar gau i breswylwyr y llety gwyliau neu’r llety teithio;
(b)yn atal gwerthu bwyd neu ddiod i breswylwyr—
(i)fel rhan o wasanaeth ystafell, neu
(ii)rhwng 6.00 a.m. a 10.00 p.m. mewn unrhyw ran o fangre’r llety gwyliau neu’r llety teithio.
(6) Nid yw paragraff 8(1) na (2)—
(a)yn atal preswylwyr rhag bwyta bwyd neu yfed diod (gan gynnwys alcohol) ar unrhyw adeg yn eu hystafell breifat;
(b)yn atal gwerthu alcohol i breswylwyr fel rhan o wasanaeth ystafell (ond gweler paragraff 10).
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.
Would you like to continue?
Yr Offeryn Cyfan you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys