Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020

RHAN 3LL+CCyfyngiadau ar deithio

Cyfyngiad ar deithio o ardal Lefel Rhybudd 3 ac i ardal Lefel Rhybudd 3LL+C

6.—(1Ni chaiff unrhyw berson sy’n byw—

(a)mewn ardal o’r DU sydd o dan gyfyngiadau, neu

(b)mewn ardal arall o Gymru,

fynd i ardal Lefel Rhybudd 3 neu aros mewn ardal Lefel Rhybudd 3 heb esgus rhesymol.

(2Ni chaiff unrhyw berson sy’n byw mewn ardal Lefel Rhybudd 3 ymadael â’r ardal, heb esgus rhesymol, at ddibenion mynd i’r ardaloedd a ganlyn neu aros ynddynt—

(a)ardal o’r DU sydd o dan gyfyngiadau, neu

(b)ardal arall o Gymru.

(3At ddibenion is-baragraffau (1) a (2), mae gan berson esgus rhesymol—

(a)os yw’r person yn mynd i’r ardal neu’n ymadael â’r ardal at ddiben sy’n rhesymol angenrheidiol ac nad oes dewis arall sy’n rhesymol ymarferol;

(b)os yw un o’r amgylchiadau yn is-baragraff (5) yn gymwys.

(4Mae enghreifftiau o’r dibenion y gall fod yn rhesymol ymarferol i berson fynd i’r ardal neu ymadael â’r ardal atynt yn cynnwys—

(a)cael neu ddarparu cynhorthwy meddygol, neu gael gafael ar wasanaethau milfeddygol;

(b)gweithio neu ddarparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol;

(c)cyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol, gan gynnwys mynd i’r llys neu fodloni amodau mechnïaeth, neu gymryd rhan mewn achos llys;

(d)darparu, cael neu gael gafael ar ofal neu gynhorthwy, gan gynnwys gofal plant neu ofal personol perthnasol o fewn ystyr “relevant personal care” ym mharagraff 7(3B) o Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006, pan fo’r person sy’n cael y gofal yn berson hyglwyf;

(e)mewn perthynas â phlant nad ydynt yn byw ar yr un aelwyd â’u rhieni, neu un o’u rhieni, parhau â threfniadau presennol ar gyfer gweld rhieni a phlant, a chyswllt rhyngddynt, ac at ddibenion y paragraff hwn, mae “rhiant” yn cynnwys person nad yw’n rhiant i’r plentyn, ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn neu sydd â gofal drosto;

(f)symud cartref;

(g)ymgymryd â gweithgareddau mewn cysylltiad â phrynu, gwerthu, gosod neu rentu eiddo preswyl;

(h)cael gafael ar wasanaethau cyhoeddus neu gael y gwasanaethau hynny;

(i)cael gafael ar wasanaethau addysgol neu gael gwasanaethau addysgol;

(j)cael—

(i)bwyd a chyflenwadau meddygol ar gyfer y rheini ar yr un aelwyd (gan gynnwys anifeiliaid ar yr aelwyd) neu ar gyfer personau hyglwyf;

(ii)cyflenwadau ar gyfer cynnal, cynnal a chadw a gweithrediad hanfodol yr aelwyd, neu aelwyd person hyglwyf;

(k)cael arian oddi wrth unrhyw fusnes neu wasanaeth a restrir ym mharagraff 39(g) o Atodlen 7 neu adneuo arian gydag unrhyw fusnes neu wasanaeth o’r fath;

(l)cymryd rhan mewn gweithgaredd wedi ei drefnu, neu hwyluso’r gweithgaredd hwnnw, er datblygiad neu lesiant plant (gan gynnwys chwaraeon, cerddoriaeth a gweithgareddau hamdden eraill megis y rheini a ddarperir ar gyfer plant y tu allan i oriau’r ysgol ac yn ystod gwyliau’r ysgol).

(5Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (3)(b) yw bod y person yn—

(a)darparu neu’n cael cynhorthwy brys;

(b)osgoi salwch, anaf neu risg arall o niwed;

(c)mynd i weinyddiad priodas, ffurfiad partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall—

(i)fel parti i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas,

(ii)os caiff ei wahodd i fynd i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas, neu

(iii)fel gofalwr person sy’n mynd i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas;

(d)mynd i angladd—

(i)fel person sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd,

(ii)os caiff ei wahodd gan berson sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd, neu

(iii)fel gofalwr person sy’n mynd i’r angladd;

(e)athletwr elît ac yn teithio at ddibenion hyfforddi neu gystadlu;

(f)darparu hyfforddiant neu gymorth arall i athletwr elît, neu’n darparu cymorth mewn—

(i)digwyddiad chwaraeon elît, neu

(ii)digwyddiad chwaraeon sy’n digwydd y tu allan i Gymru;

(g)teithio er mwyn pleidleisio mewn etholiad;

(h)teithio ar daith sydd—

(i)mewn perthynas â’r cyfyngiad yn is-baragraff (1), yn dechrau ac yn gorffen y tu allan i’r ardal, neu

(ii)mewn perthynas â’r cyfyngiad yn is-baragraff (2), yn gorffen mewn ardal nad yw’r person wedi ei wahardd rhag mynd iddi neu aros ynddi o dan yr is-baragraff hwnnw,

ar yr amod bod y person yn cymryd pob mesur sy’n rhesymol ymarferol i stopio cyn lleied ag y bo modd yn ystod y daith;

(i)teithio i gymryd rhan mewn cynulliad gydag aelwyd estynedig y person yn unol ag unrhyw gyfyngiadau ar gynulliadau sy’n gymwys lle y mae’r cynulliad yn digwydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 3 para. 6 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)