[Cyfyngiad ar gynulliadau mewn anheddau preifatLL+C
1.—(1) Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, gymryd rhan mewn cynulliad mewn annedd breifat oni bai bod yr holl bersonau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad yn aelodau o’r un aelwyd neu’r un aelwyd estynedig.
(2) Ond caiff person gymryd rhan mewn cynulliad o’r fath yn yr awyr agored os nad oes mwy na 6 person o ddim mwy na 2 aelwyd yn y cynulliad.
(3) Wrth bennu, at ddibenion is-baragraff (2), nifer y personau sy’n cymryd rhan mewn cynulliad, nid yw’r canlynol i’w hystyried—
(a)unrhyw blant o dan 11 oed, neu
(b)gofalwr person sy’n cymryd rhan yn y cynulliad.
(4) At ddibenion is-baragraff (1), mae gan berson esgus rhesymol—
(a)os yw’r person yn cymryd rhan yn y cynulliad at ddiben sy’n rhesymol angenrheidiol ac nad oes dewis arall sy’n rhesymol ymarferol, neu
(b)os yw un o’r amgylchiadau yn is-baragraff (6) yn gymwys.
(5) Mae enghreifftiau o’r dibenion y gall fod yn rhesymol angenrheidiol i berson gymryd rhan mewn cynulliad atynt yn cynnwys—
(a)cael neu ddarparu cynhorthwy meddygol, neu gael gafael ar wasanaethau milfeddygol;
(b)gweithio neu ddarparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol;
(c)cyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol;
(d)darparu, cael neu gael gafael ar ofal neu gynhorthwy, gan gynnwys gofal plant neu ofal personol perthnasol o fewn ystyr “relevant personal care” ym mharagraff 7(3B) o Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006, pan fo’r person sy’n cael y gofal yn berson hyglwyf;
(e)mewn perthynas â phlant nad ydynt yn byw ar yr un aelwyd â’u rhieni, neu un o’u rhieni, parhau â threfniadau presennol ar gyfer gweld rhieni a phlant, a chyswllt rhyngddynt, ac at ddibenion y paragraff hwn, mae “rhiant” yn cynnwys person nad yw’n rhiant i’r plentyn, ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn neu sydd â gofal drosto;
(f)symud cartref;
(g)ymgymryd â gweithgareddau mewn cysylltiad â phrynu, gwerthu, gosod neu rentu eiddo preswyl;
(h)cael gafael ar wasanaethau addysgol neu gael y gwasanaethau hynny.
(6) Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (4)(b) yw bod y person yn—
(a)darparu neu’n cael cynhorthwy brys;
(b)osgoi salwch, anaf neu risg arall o niwed;
[(ba)cymryd rhan mewn cynulliad at ddibenion cael neu ddarparu—
(i)gwasanaethau meddygol neu iechyd, gan gynnwys gwasanaethau sy’n ymwneud ag iechyd meddwl, a gwasanaethau a ddarperir gan ddeintyddion, optegwyr, optometryddion, awdiolegwyr, ciropodyddion, ceiropractyddion, osteopathiaid, ffisiotherapyddion ac aciwbigwyr;
(ii)gwasanaeth cysylltiad agos;]
(c)cymryd rhan mewn cynulliad o ddim mwy na 4 o bobl pan fo’r holl bersonau yn y cynulliad—
(i)yn byw yn yr un fangre, a
(ii)yn rhannu cyfleusterau toiled, ymolchi, bwyta neu goginio gyda’i gilydd.
(7) . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(8) Nid yw’r paragraff hwn yn gymwys i berson sy’n ddigartref.]