xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Please note that the date you requested in the address for this web page is not an actual date upon which a change occurred to this item of legislation. You are being shown the legislation from , which is the first date before then upon which a change was made.

[F1ATODLEN 3ALL+CCyfyngiadau Lefel Rhybudd 3 Dros Dro

Diwygiadau Testunol

RHAN 1LL+CCyfyngiad ar ymgynnull

Cyfyngiad ar gynulliadau mewn llety gwyliau neu lety teithioLL+C

2.(1) Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, gymryd rhan mewn cynulliad sy’n digwydd mewn llety gwyliau neu lety teithio oni bai bod yr holl bersonau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad yn aelodau o’r un aelwyd neu’r un aelwyd estynedig.

[F2(1A) Ond caiff person gymryd rhan mewn cynulliad o’r fath yn yr awyr agored os nad oes mwy na 6 pherson yn y cynulliad.

(1B) Wrth bennu, at ddibenion is-baragraff (1A), nifer y personau sy’n cymryd rhan mewn cynulliad, nid yw’r canlynol i’w hystyried—

(a)unrhyw blant o dan 11 oed, cyhyd â bod y personau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad (gan gynnwys unrhyw blant o dan 11 oed) yn dod o ddim mwy na 6 aelwyd;

(b)gofalwr person sy’n cymryd rhan yn y cynulliad.]

(2) At ddibenion is-baragraff (1), mae gan berson esgus rhesymol—

(a)os yw’r person yn cymryd rhan yn y cynulliad at ddiben sy’n rhesymol angenrheidiol ac nad oes dewis arall sy’n rhesymol ymarferol, neu

(b)os yw un o’r amgylchiadau yn is-baragraff (4) yn gymwys.

(3) Mae enghreifftiau o’r dibenion y gall fod yn rhesymol angenrheidiol i berson gymryd rhan mewn cynulliad atynt yn cynnwys—

(a)cael neu ddarparu cynhorthwy meddygol, neu gael gafael ar wasanaethau milfeddygol;

F3(b). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(c)cyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol;

(d)darparu, cael neu gael gafael ar ofal neu gynhorthwy, gan gynnwys gofal plant neu ofal personol perthnasol o fewn ystyr “relevant personal care” ym mharagraff 7(3B) o Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006, pan fo’r person sy’n cael y gofal yn berson hyglwyf;

(e)mewn perthynas â phlant nad ydynt yn byw ar yr un aelwyd â’u rhieni, neu un o’u rhieni, parhau â threfniadau presennol ar gyfer gweld rhieni a phlant, a chyswllt rhyngddynt, ac at ddibenion y paragraff hwn, mae “rhiant” yn cynnwys person nad yw’n rhiant i’r plentyn, ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn neu sydd â gofal drosto.

(4) Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (2)(b) yw bod y person yn—

(a)darparu neu’n cael cynhorthwy brys;

(b)osgoi salwch, anaf neu risg arall o niwed.

[F4(c)gweithio neu’n darparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol;

(d)mynd i weinyddiad priodas, ffurfiad partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall—

(i)fel parti i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas arall,

(ii)os caiff ei wahodd i fynd i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas arall, neu

(iii)fel gofalwr person sy’n mynd i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas arall;

(e)cymryd rhan mewn cynulliad yn yr awyr agored o ddim mwy na 30 o bobl mewn llety gwyliau neu lety teithio, heb gyfrif personau o dan 11 oed na phersonau sy’n gweithio yn y fangre, i—

(i)dathlu gweinyddiad priodas, ffurfiad partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall a ddigwyddodd ar neu ar ôl 26 Mawrth 2020;

(ii)dathlu bywyd person ymadawedig y cynhelir ei angladd ar neu ar ôl 26 Mawrth 2020;

(f)cymryd rhan mewn gweithgaredd wedi ei drefnu yn yr awyr agored neu’n hwyluso’r gweithgaredd hwnnw—

(i)lle nad yw mwy na 30 o bobl yn bresennol, heb gyfrif personau o dan 11 oed na phersonau sy’n gweithio fel rhan o’r gweithgaredd neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol fel rhan ohono, a

(ii)lle nad oes unrhyw alcohol yn cael ei yfed;

(g)mynd i ddigwyddiad neu’n hwyluso digwyddiad sydd wedi ei awdurdodi gan Weinidogion Cymru yn unol â pharagraff 5A.]

(5) Nid yw’r paragraff hwn yn gymwys i berson sy’n ddigartref.]