xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Please note that the date you requested in the address for this web page is not an actual date upon which a change occurred to this item of legislation. You are being shown the legislation from , which is the first date before then upon which a change was made.
Diwygiadau Testunol
F1Atod. 3A wedi ei fewnosod (27.3.2021 yn union cyn dechrau'r diwrnod) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 6) 2021 (O.S. 2021/413), rhlau. 1(2), 2(4)
Diwygiadau Testunol
F2Atod. 3A para. 5A wedi ei fewnosod (26.4.2021 yn union cyn dechrau'r diwrnod) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 8) 2021 (O.S. 2021/502), rhlau. 1(2), 2(15)(e)
7.—(1) O ran person sy’n gyfrifol am gynnal busnes a restrir ym mharagraffau 12 i 14 (busnesau bwyd a diod)—
(a)rhaid iddo gau i aelodau’r cyhoedd unrhyw [F4ran o’i fangre sydd o dan do ac a ddefnyddir i fwyta bwyd neu i yfed diod], a
F5(b). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(2) Nid yw is-baragraff (1) yn atal—
(a)defnyddio mangre ar gyfer—
(i)gwerthu bwyd a diod i’w fwyta neu i’w hyfed oddi ar y fangre, neu
(ii)gwasanaethau sy’n darparu bwyd neu ddiod i bobl ddigartref;
(b)darparu gwasanaeth ystafell mewn gwesty neu lety arall (pan fo’r gwesty neu’r llety arall yn parhau i weithredu yn unol â’r eithriadau a ganiateir gan baragraff 8);
(c)ffreutur yn y gweithle rhag bod ar agor pan na fo dewis ymarferol arall i staff yn y gweithle hwnnw gael bwyd neu ddiod;
[F6(ca)defnyddio mangre at unrhyw ddiben y gofynnir amdano neu a awdurdodir gan Weinidogion Cymru neu awdurdod lleol;]
(d)gwneud gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio neu waith arall i sicrhau bod mangre yn addas i’w defnyddio pan nad yw is-baragraff (1) yn gymwys i’r fangre mwyach.
(3) At ddibenion is-baragraff (1), mae ardal o dan do sy’n gyfagos i fangre’r busnes lle y mae seddau yn cael eu rhoi ar gael i gwsmeriaid y busnes (pa un ai gan y busnes ai peidio) i’w thrin fel pe bai’n rhan o fangre’r busnes hwnnw.
(4) Pan—
(a)bo’n ofynnol i berson sy’n gyfrifol am gynnal busnes (“busnes A”) yn rhinwedd y paragraff hwn beidio â chynnal busnes A mewn mangre, a
(b)bo busnes A yn ffurfio rhan o fusnes mwy (“busnes B”),
cydymffurfir â’r gofyniad yn y paragraff hwn os yw’r person sy’n gyfrifol am gynnal busnes B yn peidio â chynnal busnes A yn y fangre.]]
Diwygiadau Testunol
F3Geiriau yn Atod. 3A para. 7 pennawd wedi eu mewnosod (26.4.2021 am 6.00 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 8) 2021 (O.S. 2021/502), rhlau. 1(4), 2(15)(f)(i)
F4Geiriau yn Atod. 3A para. 7(1)(a) wedi eu hamnewid (26.4.2021 am 6.00 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 8) 2021 (O.S. 2021/502), rhlau. 1(4), 2(15)(f)(ii)(aa)
F5Atod. 3A para. 7(1)(b) wedi ei hepgor (26.4.2021 am 6.00 a.m.) yn rhinwedd Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 8) 2021 (O.S. 2021/502), rhlau. 1(4), 2(15)(f)(ii)(bb)