[RHAN 3LL+CCyfyngiadau ar deithio
Cyfyngiad ar deithio i ardal Lefel Rhybudd 3 ac o ardal Lefel Rhybudd 3LL+C
6.—(1) Ni chaiff unrhyw berson sy’n byw y tu allan i ardal Lefel Rhybudd 3 fynd i ardal Lefel Rhybudd 3 neu aros mewn ardal Lefel Rhybudd 3 heb esgus rhesymol.
(2) Ni chaiff unrhyw berson sy’n byw mewn ardal Lefel Rhybudd 3 ymadael â’r ardal, heb esgus rhesymol, at ddibenion mynd i fan nad yw mewn ardal Lefel Rhybudd 3 neu aros ynddo.
(3) At ddibenion is-baragraffau (1) a (2), mae gan berson esgus rhesymol—
(a)os yw’r person yn mynd i’r ardal neu’n ymadael â’r ardal at ddiben sy’n rhesymol angenrheidiol ac nad oes dewis arall sy’n rhesymol ymarferol;
(b)os yw un o’r amgylchiadau yn is-baragraff (5) yn gymwys.
(4) Mae enghreifftiau o’r dibenion y gall fod yn rhesymol ymarferol i berson fynd i’r ardal neu ymadael â’r ardal atynt yn cynnwys—
(a)cael neu ddarparu cynhorthwy meddygol, neu gael gafael ar wasanaethau milfeddygol;
(b)osgoi salwch, anaf neu risg arall o niwed;
(c)gweithio neu ddarparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol;
(d)cyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol, gan gynnwys mynd i’r llys neu fodloni amodau mechnïaeth, neu gymryd rhan mewn achos cyfreithiol;
(e)darparu, cael neu gael gafael ar ofal neu gynhorthwy, gan gynnwys gofal plant neu ofal personol perthnasol o fewn ystyr “relevant personal care” ym mharagraff 7(3B) o Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006, pan fo’r person sy’n cael y gofal yn berson hyglwyf;
(f)mewn perthynas â phlant nad ydynt yn byw ar yr un aelwyd â’u rhieni, neu un o’u rhieni, parhau â threfniadau presennol ar gyfer gweld rhieni a phlant, a chyswllt rhyngddynt, ac at ddibenion y paragraff hwn, mae “rhiant” yn cynnwys person nad yw’n rhiant i’r plentyn, ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn neu sydd â gofal drosto;
(g)symud cartref;
(h)ymgymryd â gweithgareddau mewn cysylltiad â phrynu, gwerthu, gosod neu rentu eiddo preswyl;
(i)cael gafael ar wasanaethau cyhoeddus neu gael y gwasanaethau hynny;
(j)cael gafael ar wasanaethau addysgol neu gael y gwasanaethau hynny;
(k)cael—
(i)bwyd a chyflenwadau meddygol ar gyfer y rheini ar yr un aelwyd (gan gynnwys anifeiliaid ar yr aelwyd) neu ar gyfer personau hyglwyf;
(ii)cyflenwadau ar gyfer cynnal, cynnal a chadw a gweithrediad hanfodol yr aelwyd, neu aelwyd person hyglwyf;
(l)cael arian oddi wrth unrhyw fusnes neu wasanaeth a restrir ym mharagraff 39(g) o Atodlen 7 neu adneuo arian gydag unrhyw fusnes neu wasanaeth o’r fath;
(m)cymryd rhan mewn gweithgaredd wedi ei drefnu yn yr awyr agored, neu hwyluso’r gweithgaredd hwnnw, er datblygiad neu lesiant personau a oedd o dan 18 oed ar 31 Awst 2020 (gan gynnwys chwaraeon, cerddoriaeth a gweithgareddau hamdden eraill megis y rheini a ddarperir ar gyfer plant y tu allan i oriau’r ysgol ac yn ystod gwyliau’r ysgol).
(5) Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (3)(b) yw bod y person yn—
(a)darparu neu’n cael cynhorthwy brys;
(b)mynd i weinyddiad priodas, ffurfiad partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall—
(i)fel parti i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas arall,
(ii)os caiff ei wahodd i fynd i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas arall, neu
(iii)fel gofalwr person sy’n mynd i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas arall;
(c)mynd i angladd—
(i)fel person sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd,
(ii)os caiff ei wahodd gan berson sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd, neu
(iii)fel gofalwr person sy’n mynd i’r angladd;
(d)athletwr elît ac sy’n teithio at ddibenion hyfforddi neu gystadlu;
(e)darparu hyfforddiant neu gymorth arall i athletwr elît, neu’n darparu cymorth mewn—
(i)digwyddiad chwaraeon elît, neu
(ii)digwyddiad chwaraeon sy’n digwydd y tu allan i Gymru;
(f)teithio er mwyn pleidleisio mewn etholiad;
(g)teithio ar daith sydd—
(i)mewn perthynas â’r cyfyngiad yn is-baragraff (1), yn dechrau ac yn gorffen y tu allan i’r ardal, neu
(ii)mewn perthynas â’r cyfyngiad yn is-baragraff (2), yn gorffen mewn ardal nad yw’r person wedi ei wahardd rhag mynd iddi neu aros ynddi o dan yr is-baragraff hwnnw,
ar yr amod bod y person yn cymryd pob mesur sy’n rhesymol ymarferol i stopio cyn lleied ag y bo modd yn ystod y daith;
(h)teithio i gymryd rhan mewn cynulliad gydag aelwyd estynedig y person yn unol ag unrhyw gyfyngiadau ar gynulliadau sy’n gymwys lle y mae’r cynulliad yn digwydd.]