[RHAN 4LL+CCyfyngiadau ar fusnesau a gwasanaethau penodol
PENNOD 1LL+CBusnesau a gwasanaethau y mae’n ofynnol cau eu mangreoedd ond y caniateir mynediad cyfyngedig iddynt
Cau busnesau bwyd a diodLL+C
7.—(1) O ran person sy’n gyfrifol am gynnal busnes a restrir ym mharagraffau 12 i 14 (busnesau bwyd a diod)—
(a)rhaid iddo gau i aelodau’r cyhoedd unrhyw fangre a weithredir fel rhan o’r busnes, a
(b)ni chaiff gynnal busnes yn y fangre honno ac eithrio yn unol â’r paragraff hwn.
(2) Nid yw is-baragraff (1) yn atal—
(a)defnyddio mangre ar gyfer—
(i)gwerthu bwyd a diod i’w fwyta neu i’w hyfed oddi ar y fangre, neu
(ii)gwasanaethau sy’n darparu bwyd neu ddiod i bobl ddigartref;
(b)darparu gwasanaeth ystafell mewn gwesty neu lety arall (pan fo’r gwesty neu’r llety arall yn parhau i weithredu yn unol â’r eithriadau a ganiateir gan baragraff 8);
(c)ffreutur yn y gweithle rhag bod ar agor pan na fo dewis ymarferol arall i staff yn y gweithle hwnnw gael bwyd neu ddiod;
(d)gwneud gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio neu waith arall i sicrhau bod mangre yn addas i’w defnyddio pan nad yw is-baragraff (1) yn gymwys i’r fangre mwyach.
(3) At ddibenion is-baragraff (1), mae ardal o dan do sy’n gyfagos i fangre’r busnes lle y mae seddau yn cael eu rhoi ar gael i gwsmeriaid y busnes (pa un ai gan y busnes ai peidio) i’w thrin fel pe bai’n rhan o fangre’r busnes hwnnw.
(4) Pan—
(a)bo’n ofynnol i berson sy’n gyfrifol am gynnal busnes (“busnes A”) yn rhinwedd y paragraff hwn beidio â chynnal busnes A mewn mangre, a
(b)bo busnes A yn ffurfio rhan o fusnes mwy (“busnes B”),
cydymffurfir â’r gofyniad yn y paragraff hwn os yw’r person sy’n gyfrifol am gynnal busnes B yn peidio â chynnal busnes A yn y fangre.
Cau llety gwyliau neu lety teithio nad yw’n hunangynhwysolLL+C
8.—(1) O ran person sy’n gyfrifol am gynnal busnes a restrir ym mharagraffau 15 i 18 (llety gwyliau neu lety teithio)—
(a)rhaid iddo gau i aelodau’r cyhoedd unrhyw fangre a weithredir fel rhan o’r busnes, a
(b)ni chaiff gynnal busnes yn y fangre honno ac eithrio yn unol â’r paragraff hwn.
(2) Ond nid yw is-baragraff (1) yn atal defnyddio mangre ar gyfer darparu llety—
(a)mewn safle gwersylla neu safle gwyliau, ar yr amod mai pwyntiau dŵr a phwyntiau gwaredu gwastraff yw’r unig gyfleusterau a rennir a ddefnyddir gan westeion yn y safle gwersylla neu’r safle gwyliau, neu
(b)mewn mangre ar wahân a hunangynhwysol.
(3) Ac nid yw is-baragraff (1) yn atal—
(a)gwneud gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio neu waith arall i sicrhau bod mangre yn addas i’w defnyddio pan nad yw is-baragraff (1) yn gymwys i’r fangre mwyach;
(b)defnyddio mangre at unrhyw ddiben y mae Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol yn gofyn amdano neu’n ei awdurdodi;
(c)darparu llety ar gyfer unrhyw bersonau sy’n aros yn y llety hwnnw pan ddechreuodd y paragraff hwn fod yn gymwys yn fwyaf diweddar i’r ardal y mae’r llety wedi ei leoli ynddi ac—
(i)nad ydynt yn gallu dychwelyd i’w prif breswylfa, neu
(ii)sy’n defnyddio’r llety fel eu prif breswylfa;
(d)defnyddio mangre i gynnal y busnes drwy ddarparu gwybodaeth neu wasanaethau eraill—
(i)drwy wefan, neu fel arall drwy gyfathrebiad ar lein,
(ii)dros y ffôn, gan gynnwys ymholiadau drwy neges destun, neu
(iii)drwy’r post.
(4) Nid yw mangre ar wahân ac yn hunangynhwysol at ddibenion y paragraff hwn ond—
(a)os y’i darperir i bersonau sy’n aelodau o’r un aelwyd neu’r un aelwyd estynedig, a
(b)os na rennir unrhyw un neu ragor o’r canlynol ag aelodau o unrhyw aelwyd arall—
(i)ceginau,
(ii)mannau cysgu,
(iii)ystafelloedd ymolchi, neu
(iv)mannau cymunedol o dan do.
(5) Yn y paragraff hwn—
(a)nid yw derbynfa i’w thrin fel pe bai’n gyfleuster a rennir at ddibenion is-baragraff (2)(a);
(b)mae “mannau cymunedol” yn cynnwys unrhyw ardal o’r fangre sydd ar agor i’r cyhoedd, ond nid yw’n cynnwys derbynfa na choridorau, lifftiau na grisiau a ddefnyddir i fynd i rannau eraill o’r fangre.
(6) Pan—
(a)bo’n ofynnol i berson sy’n gyfrifol am gynnal busnes (“busnes A”) yn rhinwedd y paragraff hwn beidio â chynnal busnes A mewn mangre, a
(b)bo busnes A yn ffurfio rhan o fusnes mwy (“busnes B”),
cydymffurfir â’r gofyniad yn y paragraff hwn os yw’r person sy’n gyfrifol am gynnal busnes B yn peidio â chynnal busnes A yn y fangre.
Cau canolfannau cymunedol ac amlosgfeyddLL+C
9.—(1) Rhaid i berson sy’n gyfrifol am fangre sydd o fath a restrir ym mharagraffau 19 ac 20 sicrhau bod y fangre ar gau i aelodau’r cyhoedd, ac eithrio ar gyfer y defnydd a ganiateir gan is-baragraffau (2) a (3).
(2) Caiff canolfan gymunedol fod ar agor—
(a)i ddarparu gwasanaethau gwirfoddol hanfodol, neu
(b)i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus ar gais Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol.
(3) Caiff amlosgfa agor i aelodau’r cyhoedd ar gyfer angladdau neu gladdu (ac i ddarlledu angladd neu gladdu pa un ai dros y rhyngrwyd neu fel arall).
(4) Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys i’r tir o amgylch—
(a)canolfan gymunedol;
(b)amlosgfa, gan gynnwys unrhyw gladdfa neu ardd goffa.
(5) Yn y paragraff hwn, mae “gwasanaethau cyhoeddus” yn cynnwys darparu banciau bwyd neu gymorth arall ar gyfer pobl ddigartref neu bobl hyglwyf, gofal plant, sesiynau rhoi gwaed neu gymorth mewn argyfwng.
PENNOD 2LL+CBusnesau neu wasanaethau y mae’n ofynnol cau eu mangreoedd
Cau busnesau a gwasanaethauLL+C
10.—(1) O ran person sy’n gyfrifol am gynnal busnes neu ddarparu gwasanaeth a restrir ym mharagraffau 21 i 47—
(a)rhaid iddo gau i aelodau’r cyhoedd unrhyw fangre a weithredir fel rhan o’r busnes neu’r gwasanaeth, a
(b)ni chaiff gynnal y busnes neu’r gwasanaeth yn y fangre honno ac eithrio yn unol â’r paragraff hwn.
(2) Nid yw is-baragraff (1) yn atal—
(a)gwneud gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio neu waith arall i sicrhau bod mangre yn addas i’w defnyddio pan nad yw is-baragraff (1) yn gymwys i’r fangre mwyach;
(b)defnyddio mangre at unrhyw ddiben y mae Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol yn gofyn amdano neu’n ei awdurdodi;
(c)defnyddio mangre i ddarlledu heb gynulleidfa yn bresennol yn y fangre (pa un ai dros y rhyngrwyd neu fel rhan o ddarllediad radio neu deledu) neu i ymarfer;
(d)defnyddio mangre ar gyfer darparu nwyddau neu wasanaethau (gan gynnwys eu gwerthu, eu llogi, eu casglu neu eu danfon) mewn ymateb i archeb neu ymholiad a wneir—
(i)drwy wefan, neu fel arall drwy gyfathrebiad ar lein,
(ii)dros y ffôn, gan gynnwys drwy neges destun, neu
(iii)drwy’r post;
(e)defnyddio mangre ar gyfer darparu gwybodaeth—
(i)drwy wefan, neu fel arall drwy gyfathrebiad ar lein,
(ii)dros y ffôn, gan gynnwys drwy neges destun, neu
(iii)drwy’r post.
(3) Er gwaethaf is-baragraff (1), caiff person sy’n gyfrifol am gynnal busnes neu ddarparu gwasanaeth—
(a)a restrir ym mharagraff 21 (salonau gwallt a barbwyr) agor ei fangre i’r cyhoedd, ond dim ond at ddibenion torri, steilio neu liwio gwallt, drwy apwyntiad;
(b)a restrir ym mharagraff 34 (busnesau gwyliau, gweithgareddau hamdden neu ddigwyddiadau) agor ei fangre i’r cyhoedd, ond dim ond at ddibenion hwyluso gweithgaredd wedi ei drefnu yn yr awyr agored er datblygiad neu lesiant personau a oedd o dan 18 oed ar 31 Awst 2020 (gan gynnwys chwaraeon, cerddoriaeth a gweithgareddau hamdden eraill megis y rheini a ddarperir ar gyfer plant y tu allan i oriau’r ysgol ac yn ystod gwyliau’r ysgol).
(4) Pan—
(a)bo’n ofynnol i berson sy’n gyfrifol am gynnal busnes (“busnes A”) yn rhinwedd y paragraff hwn beidio â chynnal busnes A mewn mangre, a
(b)bo busnes A yn ffurfio rhan o fusnes mwy (“busnes B”),
cydymffurfir â’r gofyniad yn y paragraff hwn os yw’r person sy’n gyfrifol am gynnal busnes B yn peidio â chynnal busnes A yn y fangre.
PENNOD 3LL+CBusnesau a gwasanaethau y mae eu mangreoedd wedi eu hesemptio rhag y gofyniad i gau
Esemptiad rhag y gofyniad i gauLL+C
11.—(1) Er gwaethaf darpariaethau blaenorol y Rhan hon—
(a)caiff mangreoedd a weithredir gan fusnesau neu wasanaethau a restrir ym mharagraffau 48 i 66 barhau i fod ar agor;
(b)caiff mangre a gymeradwywyd agor i’r cyhoedd i’r graddau y mae hyn yn ofynnol at ddibenion gweinyddu priodas, ffurfio partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall yn y fangre;
(c)caiff canolfannau siopa, arcedau siopa a marchnadoedd fod ar agor i’r cyhoedd i’r graddau y mae hyn yn ofynnol i fynd i fusnes neu ddefnyddio gwasanaeth a restrir ym mharagraffau 48 i 66.
(2) Ni chaiff person sy’n gyfrifol am fangre sydd wedi ei hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol i’w yfed oddi ar y fangre werthu neu gyflenwi alcohol rhwng 10.00 p.m. a 6.00 a.m.
(3) Nid yw is-baragraff (2) yn caniatáu i’r person sy’n gyfrifol am y fangre werthu neu gyflenwi alcohol yn groes i awdurdodiad sydd wedi ei ganiatáu neu ei roi mewn cysylltiad â’r fangre.
(4) Yn y paragraff hwn, ystyr “mangre a gymeradwywyd” yw mangre sydd wedi ei chymeradwyo yn unol â Rheoliadau Priodasau a Phartneriaethau Sifil (Mangreoedd a Gymeradwywyd) 2005—
(a)fel mangre y caniateir i briodasau gael eu gweinyddu ynddi yn unol ag adran 26(1)(bb) o Ddeddf Priodas 1949, neu
(b)at ddibenion adran 6(3A)(a) o Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004.
PENNOD 4LL+CRhestr o fangreoedd sydd ar gau
Mangreoedd sydd ar gauLL+C
Busnesau bwyd a diodLL+C
12. Bariau (gan gynnwys bariau mewn clybiau aelodau).
13. Tafarndai.
14. Caffis, ffreuturau a bwytai (gan gynnwys ffreuturau yn y gweithle ac ystafelloedd bwyta mewn clybiau aelodau).
Llety gwyliau neu lety teithioLL+C
15. Safleoedd gwersylla.
16. Safleoedd gwyliau.
17. Gwestai a llety gwely a brecwast;
18. Llety gwyliau arall (gan gynnwys fflatiau gwyliau, hostelau a thai byrddio).
Gwasanaethau cyhoeddus etc.LL+C
19. Canolfannau cymunedol.
20. Amlosgfeydd.
Gwasanaethau personol etc.LL+C
21. Salonau gwallt a barbwyr.
22. Salonau ewinedd a harddwch gan gynnwys gwasanaethau lliw haul ac electrolysis.
23. Gwasanaethau tyllu’r corff a thatŵio.
Hamdden a chymdeithasol etc.LL+C
24. Clybiau nos, disgos, neuaddau dawnsio neu leoliadau eraill sydd wedi eu hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol lle y darperir cerddoriaeth fyw neu wedi ei recordio i aelodau’r cyhoedd neu aelodau’r lleoliad ddawnsio.
25. Lleoliadau adloniant rhywiol (o fewn yr ystyr a roddir i “sexual entertainment venue” gan baragraff 2A o Atodlen 3 i Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982).
26. Sinemâu.
27. Neuaddau cyngerdd a theatrau.
28. Casinos.
29. Neuaddau bingo.
30. Arcedau diddanu.
31. Alïau bowlio.
32. Canolfannau neu fannau chwarae o dan do.
33. Ffeiriau pleser, parciau diddanu a pharciau thema.
34. Busnesau gwyliau, gweithgareddau hamdden neu ddigwyddiadau.
35. Amgueddfeydd ac orielau.
36. Rinciau sglefrio.
37. Parciau a chanolfannau trampolîn.
38. Parciau a chanolfannau sglefrio o dan do.
39. Sbaon.
40. Lleoliadau ar gyfer digwyddiadau neu gynadleddau (gan gynnwys lleoliadau ar gyfer priodasau).
41. Atyniadau i ymwelwyr ac eithrio—
(a)ardaloedd cyhoeddus yn yr awyr agored mewn mangre lle y mae heneb gofrestredig (o fewn yr ystyr a roddir i “scheduled monument” gan adran 1(11) o Ddeddf Henebion Hynafol ac Ardaloedd Archaeolegol 1979);
(b)ardaloedd cyhoeddus yn yr awyr agored mewn parc neu ardd sydd wedi ei gofrestru neu ei chofrestru yn y gofrestr o barciau a gerddi o ddiddordeb hanesyddol arbennig yng Nghymru a gynhelir gan Weinidogion Cymru ac a gyhoeddir ganddynt o bryd i’w gilydd;
(c)ardaloedd cyhoeddus o dan do mewn man y cyfeirir ato ym mharagraff (a) neu (b) pan fo’n angenrheidiol i’r ardal o dan do fod ar agor—
(i)i ganiatáu mynediad i’r ardaloedd cyhoeddus yn yr awyr agored,
(ii)am resymau iechyd a diogelwch, neu
(iii)i sicrhau y cydymffurfir â’r gofynion yn Rhan 4 o’r Rheoliadau hyn mewn perthynas â’r fangre.
Chwaraeon ac ymarfer corffLL+C
42. Cyfleusterau chwaraeon neu ymarfer corff o dan do, gan gynnwys stiwdios ffitrwydd a champfeydd o dan do.
43. Pyllau nofio.
44. Cyrtiau chwaraeon o dan do, lawntiau bowlio o dan do a meysydd neu leiniau chwaraeon eraill o dan do.
Manwerthu etc.LL+C
45. Unrhyw fusnes sy’n cynnig nwyddau neu wasanaethau ar gyfer eu gwerthu neu eu llogi mewn mangre fanwerthu.
46. Canolfannau siopa ac arcedau siopa.
47. Asiantau eiddo neu asiantau gosod eiddo a swyddfeydd gwerthiant datblygwyr.
Mangreoedd esemptLL+C
Gwasanaethau cyhoeddus etc.LL+C
48. Gwasanaethau deintyddol, optegwyr, gwasanaethau awdioleg, gwasanaethau trin traed, ceiropractyddion, osteopathiaid, gwasanaethau ffisiotherapi, gwasanaethau aciwbigo a gwasanaethau meddygol neu iechyd eraill, gan gynnwys gwasanaethau sy’n ymwneud ag iechyd meddwl.
49. Trefnwyr angladdau.
50. Milfeddygon.
Busnesau bwyd a diodLL+C
51. Caffis a ffreuturau mewn ysbyty, cartref gofal, ysgol neu mewn llety a ddarperir ar gyfer myfyrwyr.
52. Ffreuturau mewn carchar neu sefydliad y bwriedir ei ddefnyddio at ddibenion y llynges, y fyddin neu’r awyrlu neu at ddibenion Adran yr Ysgrifennydd Gwladol sy’n gyfrifol am amddiffyn.
Manwerthu etc.LL+C
53. Busnesau sy’n cynnig y nwyddau a ganlyn ar gyfer eu gwerthu neu eu llogi mewn siop—
(a)bwyd neu ddiod i’w fwyta neu i’w hyfed oddi ar y fangre (gan gynnwys bwyd ar gyfer anifeiliaid anwes ac anifeiliaid domestig eraill);
(b)cynhyrchion sy’n hanfodol ar gyfer storio a pharatoi bwyd neu ddiod neu ar gyfer bwyta bwyd neu yfed diod;
(c)cynhyrchion ar gyfer cynnal, cynnal a chadw neu weithrediad hanfodol y cartref neu weithle;
(d)cynhyrchion fferyllol, cynhyrchion iechyd a gofal personol, cynhyrchion babanod (gan gynnwys dillad), cynhyrchion ymolchi a chynhyrchion cosmetig;
(e)papurau newydd a chylchgronau;
(f)beiciau a chynhyrchion sy’n hanfodol ar gyfer defnyddio a chynnal a chadw beiciau,
ond dim ond at ddibenion gwerthu neu logi’r nwyddau hynny.
54. Marchnadoedd bwyd, siopau cyfleustra, siopau cornel, siopau anifeiliaid anwes, siopau sydd â thrwydded i werthu alcohol i’w yfed oddi ar eu mangreoedd, gorsafoedd petrol, canolfannau garddio a meithrinfeydd planhigion.
55. Archfarchnadoedd a siopau eraill sy’n gwerthu sawl math o nwyddau—
(a)a oedd ar agor i’r cyhoedd ar 11 Mawrth 2021, a
(b)sy’n defnyddio eu mangre, yng nghwrs arferol eu busnes, yn bennaf i werthu—
(i)nwyddau a restrir ym mharagraff 53, neu
(ii)nwyddau o fath a werthir fel arfer gan unrhyw un neu ragor o’r busnesau a restrir ym mharagraff 54.
56. Siopau sy’n gwerthu sawl math o nwyddau nad ydynt yn dod o fewn paragraff 55, ond dim ond at ddibenion—
(a)gwerthu’r nwyddau a restrir ym mharagraff 53;
(b)gwerthu nwyddau o fath a werthir fel arfer gan unrhyw un neu ragor o’r busnesau a restrir ym mharagraff 54;
(c)gwerthu nwyddau eraill—
(i)pan na fo’n rhesymol ymarferol gwahanu neu ddarnodi’r ardaloedd hynny o siop sy’n arddangos nwyddau o’r fath fel arfer oddi wrth yr ardaloedd hynny sy’n arddangos y nwyddau a grybwyllir ym mharagraffau (a) neu (b);
(ii)ar sail eithriadol pan fo angen y nwyddau mewn argyfwng neu ar sail dosturiol.
57. Siopau sy’n cynnig gwasanaethau cynnal a chadw neu atgyweirio ar gyfer dyfeisiau telathrebu neu dechnoleg gwybodaeth.
58. Siopau cyflenwadau adeiladu ac offer.
59. Banciau, cymdeithasau adeiladu a darparwyr gwasanaethau ariannol eraill.
60. Swyddfeydd post.
61. Gwasanaethau trwsio ceir ac MOT.
62. Golchfeydd ceir awtomatig.
63. Marchnadoedd neu arwerthiannau da byw.
64. Golchdai a siopau sychlanhau.
65. Busnesau tacsi neu logi cerbydau.
66. Siopau cyflenwadau amaethyddol neu ddyframaethu.]