Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020

[F1[F2PENNOD 3LL+CBusnesau a gwasanaethau y mae eu mangreoedd wedi eu hesemptio rhag y gofyniad i gau

Esemptiad rhag y gofyniad i gauLL+C

11.(1) Er gwaethaf darpariaethau blaenorol y Rhan hon—

(a)caiff mangreoedd a weithredir gan fusnesau neu wasanaethau a restrir ym mharagraffau [F351 a 52] barhau i fod ar agor;

(b)caiff mangre a gymeradwywyd agor i’r cyhoedd i’r graddau y mae hyn yn ofynnol at ddibenion gweinyddu priodas, ffurfio partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall yn y fangre;

[F4(c)caiff mangre a ddefnyddir fel lleoliad ar gyfer gweinyddu priodas, ffurfio partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall, neu ar gyfer dathlu digwyddiad o’r fath, agor i’r cyhoedd at ddibenion galluogi person i ymweld â’r fangre, drwy apwyntiad, gyda golwg ar archebu’r fangre ar gyfer gweinyddu priodas, ffurfio partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall, neu ar gyfer dathlu digwyddiad o’r fath;]

F5(2) . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F6(3) . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(4) Yn y paragraff hwn, ystyr “mangre a gymeradwywyd” yw mangre sydd wedi ei chymeradwyo yn unol â Rheoliadau Priodasau a Phartneriaethau Sifil (Mangreoedd a Gymeradwywyd) 2005—

(a)fel mangre y caniateir i briodasau gael eu gweinyddu ynddi yn unol ag adran 26(1)(bb) o Ddeddf Priodas 1949, neu

(b)at ddibenion adran 6(3A)(a) o Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004.]]