...LL+C
[Cyfyngiadau ar fynd i fangreoedd ysgolionLL+C
6A.—(1) Ni chaiff perchennog ysgol yng Nghymru ganiatáu i ddisgybl [dynodedig] fynd i fangre’r ysgol.
[(1A) Yn y paragraff hwn, ystyr “disgybl dynodedig” yw disgybl ym mlwyddyn 3 neu’n uwch.]
(2) Ond nid yw is-baragraff (1) yn atal perchennog rhag caniatáu—
(a)i ddisgybl [dynodedig] fynd i fangre ysgol—
(i)i sefyll arholiad neu wneud asesiad arall;
(ii)pa fo perchennog yr ysgol y mae’r disgybl wedi ei gofrestru ynddi yn hysbysu rhiant y disgybl ei fod yn ystyried ei bod yn briodol i’r disgybl fynd yno oherwydd hyglwyfedd y disgybl;
(iii)pan—
(aa)bo’r awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol y mae’r disgybl wedi ei gofrestru ynddi, neu
(bb)perchennog yr ysgol annibynnol y mae’r disgybl wedi ei gofrestru ynddi,
yn penderfynu bod y disgybl yn blentyn i weithiwr hanfodol;
(b)[i ddisgybl dynodedig fynd] i fangre ysgol arbennig;
(c)[i ddisgybl dynodedig fynd] i fangre uned cyfeirio disgyblion;
(d)[i ddisgybl dynodedig fynd] i fangre uned mewn ysgol, pan—
(i)bo awdurdod lleol yn cydnabod bod yr uned wedi ei neilltuo ar gyfer disgyblion ag anghenion addysgol arbennig, a
(ii)bo’r disgybl yn cael ei addysgu’n gyfan gwbl neu’n bennaf yn yr uned;
(e)[i ddisgybl dynodedig sy’n ddisgybl preswyl breswylio] mewn llety ym mangre’r ysgol.
(3) Wrth benderfynu a yw disgybl yn blentyn i weithiwr hanfodol, rhaid i’r awdurdod lleol neu berchennog ysgol annibynnol roi sylw i unrhyw ganllawiau a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru ynghylch adnabod plant gweithwyr hanfodol.
Cyfyngiad ar fynd i fangre addysg bellachLL+C
6B.—(1) Ni chaiff perchennog sefydliad addysg bellach yng Nghymru ganiatáu i fyfyriwr fynd i fangre’r sefydliad addysg bellach.
(2) Ond nid yw is-baragraff (1) yn atal perchennog rhag caniatáu i fyfyriwr fynd i fangre—
[(a)sefydliad addysg bellach—
(i)i sefyll arholiad neu wneud asesiad arall, neu
(ii)i wneud cwrs mewn peirianneg, adeiladu, lletygarwch, arlwyo neu amaethyddiaeth, pan fo presenoldeb yn y sefydliad yn angenrheidiol er mwyn galluogi’r myfyriwr i gwblhau elfen ofynnol o’r cwrs;]
(b)sefydliad yn y sector addysg bellach pan fo’r sefydliad yn hysbysu’r myfyriwr ei fod yn ystyried ei bod yn briodol i’r myfyriwr fynd yno oherwydd hyglwyfedd y myfyriwr.
GorfodiLL+C
6C. Mae unrhyw fethiant gan berchennog i gydymffurfio â pharagraff 6A neu 6B yn orfodadwy drwy gais am waharddeb gan Weinidogion Cymru neu gan yr awdurdod lleol y digwyddodd y methiant honedig yn ei ardal i’r Uchel Lys neu’r Llys Sirol, heb rybudd.]
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .