xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Please note that the date you requested in the address for this web page is not an actual date upon which a change occurred to this item of legislation. You are being shown the legislation from , which is the first date before then upon which a change was made.

ATODLEN 4LL+CCyfyngiadau Lefel Rhybudd 4

RHAN 4LL+CCyfyngiadau ar fusnesau a gwasanaethau penodol

PENNOD 1LL+CBusnesau a gwasanaethau y mae rhaid cau eu mangreoedd ond y caniateir mynediad cyfyngedig iddynt

Cau busnesau bwyd a diodLL+C

7.—(1O ran person sy’n gyfrifol am gynnal busnes a restrir ym mharagraffau 12 i 14 (busnesau bwyd a diod)—

(a)rhaid iddo gau i aelodau’r cyhoedd unrhyw fangre a weithredir fel rhan o’r busnes, a

(b)ni chaiff gynnal busnes yn y fangre honno ac eithrio yn unol â’r paragraff hwn.

(2Nid yw is-baragraff (1) yn atal—

(a)defnyddio mangre ar gyfer—

(i)gwerthu bwyd a diod i’w fwyta neu i’w hyfed oddi ar y fangre, neu

(ii)gwasanaethau sy’n darparu bwyd neu ddiod i bobl ddigartref;

(b)darparu gwasanaeth ystafell mewn gwesty neu lety arall (pan fo’r gwesty neu’r llety arall yn parhau i weithredu yn unol â’r eithriadau a ganiateir gan baragraff 8);

(c)ffreutur yn y gweithle rhag bod ar agor pan na fo dewis ymarferol arall i staff yn y gweithle hwnnw gael bwyd neu ddiod;

(d)gwneud gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio neu waith arall i sicrhau bod mangre yn addas i’w defnyddio pan nad yw is-baragraff (1) yn gymwys i’r fangre mwyach.

(3At ddibenion is-baragraff (1), mae ardal o dan do sy’n gyfagos i fangre’r busnes lle y mae seddau yn cael eu rhoi ar gael i gwsmeriaid y busnes (pa un ai gan y busnes ai peidio) i’w thrin fel rhan o fangre’r busnes hwnnw.

(4Pan—

(a)bo’n ofynnol i berson sy’n gyfrifol am gynnal busnes (“busnes A”) yn rhinwedd y paragraff hwn beidio â chynnal busnes A mewn mangre, a

(b)bo busnes A yn ffurfio rhan o fusnes mwy (“busnes B”),

cydymffurfir â’r gofyniad yn y paragraff hwn os yw’r person sy’n gyfrifol am gynnal busnes B yn peidio â chynnal busnes A yn y fangre.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 4 para. 7 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

Cau llety gwyliau neu lety teithioLL+C

8.—(1O ran person sy’n gyfrifol am gynnal busnes a restrir ym mharagraffau 15 i 18 (llety gwyliau neu lety teithio)—

(a)rhaid iddo gau i aelodau’r cyhoedd unrhyw fangre a weithredir fel rhan o’r busnes, a

(b)ni chaiff gynnal busnes yn y fangre honno ac eithrio yn unol â’r rheoliad hwn.

(2Nid yw is-baragraff (1) yn atal—

(a)gwneud gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio neu waith arall i sicrhau bod mangre yn addas i’w defnyddio pan nad yw is-baragraff (1) yn gymwys i’r fangre mwyach;

(b)defnyddio mangre at unrhyw ddiben y mae Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol yn gofyn amdano neu’n ei awdurdodi;

(c)darparu llety ar gyfer unrhyw bersonau sy’n aros yn y llety hwnnw pan ddechreuodd y paragraff hwn fod yn gymwys yn fwyaf diweddar i’r ardal y mae’r llety wedi ei leoli ynddi ac—

(i)nad ydynt yn gallu dychwelyd i’w prif breswylfa, neu

(ii)sy’n defnyddio’r llety fel eu prif breswylfa;

(d)defnyddio mangre i gynnal y busnes drwy ddarparu gwybodaeth neu wasanaethau eraill—

(i)drwy wefan, neu fel arall drwy gyfathrebiad ar lein,

(ii)dros y ffôn, gan gynnwys ymholiadau drwy neges destun, neu

(iii)drwy’r post.

(3Pan—

(a)bo’n ofynnol i berson sy’n gyfrifol am gynnal busnes (“busnes A”) yn rhinwedd y paragraff hwn beidio â chynnal busnes A mewn mangre, a

(b)bo busnes A yn ffurfio rhan o fusnes mwy (“busnes B”),

cydymffurfir â’r gofyniad yn y paragraff hwn os yw’r person sy’n gyfrifol am gynnal busnes B yn peidio â chynnal busnes A yn y fangre.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 4 para. 8 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

Cau canolfannau cymunedol F1...LL+C

9.—(1Rhaid i berson sy’n gyfrifol am fangre sydd o fath a restrir ym [F2mharagraff 19] sicrhau bod y fangre ar gau i aelodau’r cyhoedd, ac eithrio ar gyfer y defnydd a ganiateir gan [F3is-baragraff (2)] .

(2Caiff canolfan gymunedol fod ar agor—

(a)i darparu gwasanaethau gwirfoddol hanfodol, neu

(b)i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus ar gais Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol.

F4(3. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F4(4. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(5Yn y paragraff hwn, mae “gwasanaethau cyhoeddus” yn cynnwys darparu banciau bwyd neu gymorth arall ar gyfer pobl ddigartref neu bobl hyglwyf, gofal plant, sesiynau rhoi gwaed neu gymorth mewn argyfwng.