Fersiwn wedi'i ddisodliFersiwn wedi ei ddisodli: 22/03/2021
Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 15/03/2021.
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.
Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.
Rheoliad 4(8)
Diwygiadau Testunol
F1Atod. 5 pennawd wedi ei amnewid (27.2.2021) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2021 (O.S. 2021/210), rhlau. 1(2), 2(10)
1. Dyma’r tabl y cyfeirir ato yn rheoliad 4(8)—LL+C
Colofn 1 | Colofn 2 | Colofn 3 |
---|---|---|
Ardal | Lefel Rhybudd yr Ardal | |
1 | Cymru gyfan | [F24] |
Diwygiadau Testunol
F2Gair yn Atod. 6 para. 4(2) wedi ei amnewid (19.12.2020 am 11.59 p.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/1610), rhlau. 1(2), 2(5)(d)(i)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 5 para. 1 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)
Diwygiadau Testunol
F3Atod. 5 para. 2 ac cross-heading wedi ei fewnosod (20.2.2021) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2021 (O.S. 2021/172), rhlau. 1(2), 2(9)
2. Mewn perthynas ag ardal Lefel Rhybudd 4, am y cyfnod [F4sy’n dod i ben ar ddiwedd y diwrnod ar 26 Mawrth 2021] —LL+C
[F5(za)mae rheoliad 28 i’w ddarllen fel pe bai—
(i)“2A(1)” wedi ei roi yn lle “2(1)” ym mharagraff (3)(d)”;
(ii)“ardal sy’n lleol i’r” wedi ei fewnosod ar ôl “i ffwrdd o’r” ym mharagraff (5);
(iii)“ardal sy’n lleol i’r” wedi ei fewnosod ar ôl “ddychwelyd i’r” ym mharagraff (5)(a);
(iv)“ardal honno” wedi ei roi yn lle “man hwnnw” ym mharagraff (5)(b);
(zb)mae rheoliad 31(3) i’w ddarllen fel pe bai “neu baragraff 5 o Atodlen 2” wedi ei roi yn lle “, paragraff 5 o Atodlen 2 neu baragraff 5 o Atodlen 4”;
(zc)mae rheoliad 37(1)(d) i’w ddarllen fel pe bai “, 2(1) neu 2A(1)” wedi ei roi yn lle “neu 2(1)”;]
F6(a). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
F6(b)]. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
[F7(ba)mae paragraff 1 o Atodlen 4 i’w ddarllen fel pe bai—
(i)“Gofyniad i aros yn lleol” wedi ei roi yn lle’r pennawd;
(ii)“ardal sy’n lleol i’r man lle y mae’n byw neu aros i ffwrdd o’r ardal honno” wedi ei roi yn lle “man lle y mae’n byw neu aros i ffwrdd o’r man hwnnw” yn is-baragraff (1);
(ii)“ardal sy’n lleol i’r man lle y mae’n byw neu’n aros i ffwrdd o’r ardal honno” wedi ei roi yn lle “man lle y mae’n byw, neu’n aros i ffwrdd o’r man hwnnw,” yn is-baragraff (2)(a);
(iii)yn is-baragraff (3)—
(aa)“ardal sy’n lleol i’r man lle y mae’n byw neu aros i ffwrdd o’r ardal honno” wedi ei roi yn lle “man lle y mae’n byw neu aros i ffwrdd o’r man hwnnw” yn y geiriau o flaen paragraff (a);
(bb)wedi ei fewnosod ar ôl is-baragraff (1)—
“(m)ymweld â pherson sy’n preswylio mewn cartref gofal, â chaniatâd darparwr y gwasanaeth.”;
(iv)is-baragraff (4)(b) wedi ei hepgor;
(v)wedi ei roi yn lle is-baragraff (4)(f)—
“(f)gwneud ymarfer corff, pan fo’r ymarfer corff yn dechrau ac yn gorffen yn y man lle y mae’r person yn byw neu lle y mae aelod o aelwyd estynedig y person yn byw;”;
(vi)is-baragraff (5) wedi ei hepgor;
(vii)wedi ei fewnosod ar y diwedd—
“(6) Yn y paragraff hwn ac ym mharagraff 2A—
(a)ystyr “cartref gofal” yw mangre lle y darperir “gwasanaeth cartref gofal” o fewn yr ystyr a roddir gan baragraff 1 o Atodlen 1 i Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016;
(b)mae i “darparwr gwasanaeth” yr ystyr a roddir gan adran 3(1)(c) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016.”;
(bb)mae paragraff 2 o Atodlen 4 i’w drin fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn ei le—
2.—(1) Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, gymryd rhan mewn cynulliad mewn annedd breifat oni bai bod yr holl bersonau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad yn aelodau o’r un aelwyd neu’r un aelwyd estynedig.
(2) Ond caiff person gymryd rhan mewn cynulliad o’r fath yn yr awyr agored os nad oes mwy na 4 person o ddim mwy na 2 aelwyd yn y cynulliad.
(3) Wrth bennu, at ddibenion is-baragraff (2), nifer y personau sy’n cymryd rhan mewn cynulliad, nid yw’r canlynol i’w hystyried—
(a)unrhyw blant o dan 11 oed, neu
(b)gofalwr person sy’n cymryd rhan yn y cynulliad.
(4) At ddibenion is-baragraff (1), mae gan berson esgus rhesymol—
(a)os yw’r person yn cymryd rhan yn y cynulliad at ddiben sy’n rhesymol angenrheidiol ac nad oes dewis arall sy’n rhesymol ymarferol, neu
(b)os yw un o’r amgylchiadau yn is-baragraff (6) yn gymwys.
(5) Mae enghreifftiau o’r dibenion y gall fod yn rhesymol angenrheidiol i berson gymryd rhan mewn cynulliad atynt yn cynnwys—
(a)cael neu ddarparu cynhorthwy meddygol, neu gael gafael ar wasanaethau milfeddygol;
(b)gweithio neu ddarparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol;
(c)cyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol;
(d)darparu, cael neu gael gafael ar ofal neu gynhorthwy, gan gynnwys gofal plant neu ofal personol perthnasol o fewn ystyr “relevant personal care” ym mharagraff 7(3B) o Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006, pan fo’r person sy’n cael y gofal yn berson hyglwyf;
(e)mewn perthynas â phlant nad ydynt yn byw ar yr un aelwyd â’u rhieni, neu un o’u rhieni, parhau â threfniadau presennol ar gyfer gweld rhieni a phlant, a chyswllt rhyngddynt, ac at ddibenion y paragraff hwn, mae “rhiant” yn cynnwys person nad yw’n rhiant i’r plentyn, ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn neu sydd â gofal drosto;
(f)symud cartref;
(g)ymgymryd â gweithgareddau mewn cysylltiad â phrynu, gwerthu, gosod neu rentu eiddo preswyl;
(h)cael gafael ar wasanaethau addysgol neu gael y gwasanaethau hynny.
(6) Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (4)(b) yw bod y person yn—
(a)darparu neu’n cael cynhorthwy brys;
(b)osgoi salwch, anaf neu risg arall o niwed;
(c)cymryd rhan mewn cynulliad o ddim mwy na 4 o bobl pan fo’r holl bersonau yn y cynulliad—
(i)yn byw yn yr un fangre, a
(ii)yn rhannu cyfleusterau toiled, ymolchi, bwyta neu goginio gyda’i gilydd.
(7) Er gwaethaf is-baragraffau (2) a (5)(b), ni chaiff unrhyw berson gymryd rhan mewn cynulliad mewn annedd breifat at ddibenion darbwyllo person i bleidleisio neu i beidio â phleidleisio mewn modd penodol mewn etholiad.
(8) Nid yw’r paragraff hwn yn gymwys i berson sy’n ddigartref.
2A.—(1) Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, gymryd rhan mewn cynulliad sy’n digwydd yn unman ac eithrio mewn annedd breifat oni bai bod yr holl bersonau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad yn aelodau o’r un aelwyd.
(2) Ond caiff person gymryd rhan mewn cynulliad o’r fath yn yr awyr agored—
(a)os yw’r holl bersonau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad yn aelodau o’r un aelwyd estynedig, neu
(b)os nad oes mwy na 4 person o ddim mwy na 2 aelwyd yn y cynulliad.
(3) Wrth bennu, at ddibenion is-baragraff (2)(b), nifer y personau sy’n cymryd rhan mewn cynulliad, nid yw’r canlynol i’w hystyried—
(a)unrhyw blant o dan 11 oed, neu
(b)gofalwr person sy’n cymryd rhan yn y cynulliad.
(4) At ddibenion is-baragraff (1), mae gan berson esgus rhesymol—
(a)os yw’r person yn cymryd rhan yn y cynulliad at ddiben sy’n rhesymol angenrheidiol ac nad oes dewis arall sy’n rhesymol ymarferol, neu
(b)os yw un o’r amgylchiadau yn is-baragraff (6) yn gymwys.
(5) Mae enghreifftiau o’r dibenion y gall fod yn rhesymol angenrheidiol i berson gymryd rhan mewn cynulliad atynt yn cynnwys—
(a)cael neu ddarparu cynhorthwy meddygol, neu gael gafael ar wasanaethau milfeddygol;
(b)gweithio neu ddarparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol;
(c)cyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol, gan gynnwys mynd i’r llys neu fodloni amodau mechnïaeth, neu gymryd rhan mewn achos cyfreithiol;
(d)darparu, cael neu gael gafael ar ofal neu gynhorthwy, gan gynnwys gofal plant neu ofal personol perthnasol o fewn ystyr “relevant personal care” ym mharagraff 7(3B) o Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006, pan fo’r person sy’n cael y gofal yn berson hyglwyf;
(e)mewn perthynas â phlant nad ydynt yn byw ar yr un aelwyd â’u rhieni, neu un o’u rhieni, parhau â threfniadau presennol ar gyfer gweld rhieni a phlant, a chyswllt rhyngddynt, ac at ddibenion y paragraff hwn, mae “rhiant” yn cynnwys person nad yw’n rhiant i’r plentyn, ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn neu sydd â gofal drosto;
(f)symud cartref;
(g)ymgymryd â gweithgareddau mewn cysylltiad â phrynu, gwerthu, gosod neu rentu eiddo preswyl;
(h)cael gafael ar wasanaethau cyhoeddus neu gael y gwasanaethau hynny;
(i)cael gafael ar wasanaethau addysgol neu gael y gwasanaethau hynny;
(j)ymweld â pherson sy’n preswylio mewn cartref gofal, â chaniatâd darparwr y gwasanaeth.
(6) Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (4)(b) yw bod y person yn—
(a)darparu neu’n cael cynhorthwy brys;
(b)osgoi salwch, anaf neu risg arall o niwed;
(c)mynd i weinyddiad priodas, ffurfiad partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall—
(i)fel parti i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas arall,
(ii)os caiff ei wahodd i fynd i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas arall, neu
(iii)fel gofalwr person sy’n mynd i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas arall;
(d)mynd i angladd—
(i)fel person sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd,
(ii)os caiff ei wahodd gan berson sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd, neu
(iii)fel gofalwr person sy’n mynd i’r angladd;
(e)mynd i addoldy;
(f)athletwr elît ac yn hyfforddi neu’n cystadlu;
(g)darparu hyfforddiant neu gymorth arall i athletwr elît, neu’n darparu cymorth mewn digwyddiad chwaraeon elît.
(7) Er gwaethaf is-baragraffau (2)(b) a (5)(b), ni chaiff unrhyw berson gymryd rhan mewn cynulliad at ddibenion darbwyllo person i bleidleisio neu i beidio â phleidleisio mewn modd penodol mewn etholiad oni bai bod y person yn cymryd rhan mewn darllediad heb gynulleidfa (pa un ai dros y rhyngrwyd neu fel rhan o ddarllediad radio neu deledu).
(8) Nid yw’r paragraff hwn yn gymwys i berson sy’n ddigartref.”;]
[F8(c)mae paragraff 3(8) o Atodlen 4 i’w ddarllen fel pe bai wedi ei fewnosod ar ôl paragraff (b)—
“(c)aelwyd ag—
(i)2 neu ragor o oedolion,
(ii)1 neu ragor o blant o dan 1 oed, a
(iii)unrhyw nifer o blant eraill.”]
[F9(ca)mae paragraff 4 o Atodlen 4 i’w ddarllen fel pe bai wedi ei fewnosod ar ôl is-baragraff (3)(c)(ii)—
“(iii)digwyddiad chwaraeon elît os athletwyr elît a phersonau sy’n gweithio yn y digwyddiad neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol ynddo yw’r unig bobl sy’n bresennol.”;
(cb)mae paragraff 5 o Atodlen 4 i’w drin fel pe bai wedi ei hepgor;
[F10(cc)mae paragraff 10 o Atodlen 4 i’w ddarllen fel pe bai—
(i)y geiriau “ar gyfer darllediad o’r fath” wedi eu hepgor yn is-baragraff (2)(c);
(ii)wedi ei fewnosod ar ôl is-baragraff (2)—
“(2A) Er gwaethaf is-baragraff (1), caiff person sy’n gyfrifol am gynnal busnes neu ddarparu gwasanaeth a restrir ym mharagraff 22 (salonau gwallt a barbwyr) agor ei fangre i’r cyhoedd, ond dim ond at ddibenion torri, steilio neu liwio gwallt, drwy apwyntiad.”]
[F11(d)mae paragraff 11 o Atodlen 4 i’w ddarllen fel pe bai—
(i)wedi ei fewnosod ar ôl is-baragraff (1)—
“(1A) A chaiff mangre a gymeradwywyd agor i’r cyhoedd i’r graddau y mae hyn yn ofynnol at ddibenion gweinyddu priodas, ffurfio partneriaeth sifil neu seremoni priodas arall yn y fangre.”
(ii)wedi ei fewnosod ar ôl is-baragraff (4)—
“(5) Yn y paragraff hwn, ystyr “mangre a gymeradwywyd” yw mangre sydd wedi ei chymeradwyo yn unol â Rheoliadau Priodasau a Phartneriaethau Sifil (Mangreoedd a Gymeradwywyd) 2005—
(a)fel mangre y caniateir i briodasau gael eu gweinyddu ynddi yn unol ag adran 26(1)(bb) o Ddeddf Priodas 1949, neu
(b)at ddibenion adran 6(3A)(a) o Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004.”]
[F12(e)mae paragraff 39 o Atodlen 4 i’w ddarllen fel pe bai “amgaeedig neu” wedi ei hepgor;
(f)mae paragraff 43 o Atodlen 4 i’w ddarllen fel pe bai “o dan do” wedi ei fewnosod ar ôl “corff”;
(g)mae paragraff 45 o Atodlen 4 i’w drin fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn ei le—
“45. Cyrtiau chwaraeon o dan do, lawntiau bowlio o dan do a meysydd neu leiniau chwaraeon eraill o dan do.”]]
Diwygiadau Testunol
F4Geiriau yn Atod. 5 para. 2 wedi eu hamnewid (13.3.2021 yn union cyn dechrau'r diwrnod) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2021 (O.S. 2021/307), rhlau. 1(2), 2(8)(a)
F5Atod. 5 parau. 2(za)-(zc) wedi ei fewnosod (13.3.2021 yn union cyn dechrau'r diwrnod) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2021 (O.S. 2021/307), rhlau. 1(2), 2(8)(b)
F6Atod. 5 para. 2(a)(b) wedi ei hepgor (13.3.2021 yn union cyn dechrau'r diwrnod) yn rhinwedd Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2021 (O.S. 2021/307), rhlau. 1(2), 2(8)(c)
F7Atod. 5 para. 2(ba)(bb) wedi ei fewnosod (13.3.2021 yn union cyn dechrau'r diwrnod) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2021 (O.S. 2021/307), rhlau. 1(2), 2(8)(d)
F8Atod. 5 para. 2(c) wedi ei fewnosod (27.2.2021) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2021 (O.S. 2021/210), rhlau. 1(2), 2(11)(a)
F9Atod. 5 parau. 2(ca)-(cc) wedi ei fewnosod (13.3.2021 yn union cyn dechrau'r diwrnod) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2021 (O.S. 2021/307), rhlau. 1(2), 2(8)(e)
F10Atod. 5 para. 2(cc) wedi ei amnewid (15.3.2021) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2021 (O.S. 2021/307), rhlau. 1(3), 2(8)(f)
F11Atod. 5 para. 2(d) wedi ei fewnosod (1.3.2021) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2021 (O.S. 2021/210), rhlau. 1(3), 2(11)(b)
F12Atod. 5 parau. 2(e)-(g) wedi ei fewnosod (13.3.2021 yn union cyn dechrau'r diwrnod) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2021 (O.S. 2021/307), rhlau. 1(2), 2(8)(g)
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.
Would you like to continue?
Yr Offeryn Cyfan you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Pwynt Penodol mewn Amser: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys