Newidiadau dros amser i: Paragraff 5
Statws
Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 03/12/2021.
Newidiadau i ddeddfwriaeth:
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.
Changes to Legislation
Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.
[5.—(1) Teithiwr tramwy.LL+C
(2) At ddibenion is-baragraff (1), ystyr “teithiwr tramwy” yw person sydd, ar ôl cyrraedd y Deyrnas Unedig—
(a)yn pasio drwodd i wlad neu diriogaeth arall y tu allan i’r ardal deithio gyffredin heb ddod i’r Deyrnas Unedig, neu
(b)yn dod i’r Deyrnas Unedig at ddiben parhau â thaith i wlad neu diriogaeth y tu allan i’r ardal deithio gyffredin, ac at y diben hwnnw yn unig, ac—
(i)yn aros o fewn y porthladd lle y mae’n dod i’r Deyrnas Unedig hyd nes y bo’n ymadael â Chymru, neu
(ii)yn teithio’n uniongyrchol o’r porthladd lle y mae’n dod i’r Deyrnas Unedig i borthladd ymadael arall yng Nghymru.]
Yn ôl i’r brig