xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Rheoliad 4(7)
1. [F1Ar 25 Rhagfyr 2020] mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys yn ddarostyngedig i’r addasiadau yn yr Atodlen hon.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn Atod. 6 para. 1 wedi eu hamnewid (19.12.2020 am 11.59 p.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/1610), rhlau. 1(2), 2(5)(a)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 6 para. 1 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)
F22. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Diwygiadau Testunol
F2Atod. 6 para. 2 wedi ei hepgor (19.12.2020 am 11.59 p.m.) yn rhinwedd Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/1610), rhlau. 1(2), 2(5)(b)
F33. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Diwygiadau Testunol
F3Atod. 6 para. 3 wedi ei hepgor (19.12.2020 am 11.59 p.m.) yn rhinwedd Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/1610), rhlau. 1(2), 2(5)(c)
4.—(1) Mae Atodlen 4 wedi ei diwygio fel a ganlyn.LL+C
(2) Yn lle paragraff 3 (aelwydydd estynedig) rhodder—
3.—(1) Caiff aelwyd gytuno i gael ei thrin fel aelwyd estynedig gydag aelwyd arall [F4ar 25 Rhagfyr 2020] .
(2) Yn ychwanegol at y 2 aelwyd sydd wedi cytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig o dan is-baragraff (1), caiff 1 aelwyd un oedolyn hefyd gytuno i gael ei thrin fel rhan o’r aelwyd estynedig honno.
(3) Er mwyn cytuno i gael ei thrin fel aelwyd estynedig rhaid i holl aelodau’r aelwydydd sy’n oedolion gytuno (ond gweler is-baragraff (4)).
(4) Caiff aelod o aelwyd (“aelwyd wreiddiol”) sy’n oedolyn gytuno i gael ei drin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig nad yw aelod arall o’r aelwyd wreiddiol sy’n oedolyn wedi cytuno i fod yn rhan ohoni.
(5) Pan fo is-baragraff (4) yn gymwys—
(a)mae’r aelwyd wreiddiol i’w thrin at ddibenion y paragraff hwn a pharagraffau 1, 2 a 3A fel 2 aelwyd (neu ragor) ar wahân,
(b)rhaid i’r aelodau sy’n oedolion o’r aelwyd wreiddiol benderfynu pa un neu ragor o’r aelwydydd ar wahân hynny sy’n cynnwys unrhyw aelod o’r aelwyd wreiddiol sy’n—
(i)plentyn, neu
(ii)oedolyn y mae gan oedolyn arall ar yr aelwyd gyfrifoldebau gofalu drosto, ac
(c)mae’r aelodau o’r aelwyd wreiddiol sy’n oedolion i ddychwelyd i gael eu trin fel un aelwyd pan nad ydynt yn rhan o aelwyd estynedig mwyach.
(6) Ni chaiff aelwyd ond cytuno i gael ei thrin fel pe bai mewn 1 aelwyd estynedig.
(7) Mae aelwyd estynedig yn peidio â chael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig os yw unrhyw aelod o’r aelwyd sy’n oedolyn yn peidio â chytuno i gael ei drin fel pe bai’n rhan o’r aelwyd estynedig.
(8) Os yw aelwyd yn peidio â chytuno i gael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig, ni chaiff yr aelwyd gytuno i gael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig arall gydag unrhyw aelwyd arall.
(9) Yn yr Atodlen hon, mae cyfeiriadau at aelwyd estynedig yn gyfeiriadau at aelwyd estynedig a ffurfir o dan neu yn rhinwedd y paragraff hwn.
F53A. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .”
F6(3) . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
F7(4) . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Diwygiadau Testunol
F4Gair yn Atod. 6 para. 4(2) wedi ei amnewid (19.12.2020 am 11.59 p.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/1610), rhlau. 1(2), 2(5)(d)(i)
F5 Atod. 6 para. 4(2) wedi ei hebgor (19.12.2020 am 11.59 p.m.) yn rhinwedd gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/1610), rhlau. 1(2), 2(5)(d)(ii)
F6 Atod. 6 para. 4(3) wedi ei hebgor (19.12.2020 am 11.59 p.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/1610), rhlau. 1(2), 2(5)(e)
F7 Atod. 6 para. 4(4) wedi ei hebgor (19.12.2020 am 11.59 p.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/1610), rhlau. 1(2), 2(5)(f)
Gwybodaeth Cychwyn
I2Atod. 6 para. 4 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)
5.—(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys—
(a)pan fo aelwyd yn rhan o aelwyd estynedig [F8ar 25 Rhagfyr 2020 yn rhinwedd yr addasiadau a wneir ym mharagraff 4] o’r Atodlen hon (“aelwyd estynedig y Nadolig”), a
[F9(b)pan oedd yr aelwyd, yn union 25 Rhagfyr 2020, yn rhan o aelwyd estynedig a ffurfiwyd o dan neu yn rhinwedd paragraff 3 o Atodlen 4 (“aelwyd estynedig cyn y Nadolig”) fel y mae’n gymwys heb yr addasiadau a wneir ym mharagraff 4.]
(2) At ddibenion y Rheoliadau hyn fel y’u haddesir gan yr Atodlen hon—
(a)mae’r aelwyd estynedig cyn y Nadolig i’w thrin fel pe na bai’n bodoli mwyach, a
(b)mae’r aelwyd i’w thrin fel pe na bai wedi cytuno i gael ei thrin fel aelwyd estynedig cyn cytuno i ffurfio rhan o aelwyd estynedig y Nadolig.
(3) Yn union ar ddiwedd [F10y dydd ar 25 Rhagfyr 2020], mae’r aelwyd i’w thrin, at ddibenion y Rheoliadau hyn, fel pe na bai wedi gwneud unrhyw gytundeb blaenorol i gael ei thrin fel rhan o aelwyd estynedig.
F11(4) . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Diwygiadau Testunol
F8Geiriau yn Atod. 6 para. 5(1)(a) wedi eu hamnewid (19.12.2020 am 11.59 p.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/1610), rhlau. 1(2), 2(5)(g)(i)
F9Atod. 6 para. 5(1)(b) wedi ei amnewid (19.12.2020 am 11.59 p.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/1610), rhlau. 1(2), 2(5)(g)(ii)
F10Geiriau yn Atod. 6 para. 5(3) wedi eu hamnewid (19.12.2020 am 11.59 p.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/1610), rhlau. 1(2), 2(5)(g)(iii)
F11Atod. 6 para. 5(4) wedi ei hepgor (19.12.2020 am 11.59 p.m.) yn rhinwedd Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/1610), rhlau. 1(2), 2(5)(g)(iv)
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. 6 para. 5 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)